Chronological
28 A chymer Aaron dy frawd atat, a’i feibion gydag ef, o blith meibion Israel, i offeiriadu i mi; sef Aaron, Nadab ac Abihu, Eleasar ac Ithamar, meibion Aaron. 2 Gwna hefyd wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, er gogoniant a harddwch. 3 A dywed wrth yr holl rai doeth o galon, y rhai a lenwais i ag ysbryd doethineb, am wneuthur ohonynt ddillad Aaron i’w sancteiddio ef, i offeiriadu i mi. 4 A dyma y gwisgoedd a wnânt. Dwyfronneg, ac effod, mantell hefyd, a phais o waith edau a nodwydd, meitr, a gwregys: felly y gwnânt wisgoedd sanctaidd i Aaron dy frawd, ac i’w feibion, i offeiriadu i mi. 5 Cymerant gan hynny aur, a sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main.
6 A gwnânt yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, o waith cywraint. 7 Dwy ysgwydd fydd iddi wedi eu cydio wrth ei dau gwr; ac felly y cydir hi ynghyd. 8 A gwregys cywraint ei effod ef yr hwn fydd arni, fydd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ysgarlad hefyd, a lliain main cyfrodedd. 9 Cymer hefyd ddau faen onics, a nadd ynddynt enwau meibion Israel: 10 Chwech o’u henwau ar un maen, a’r chwech enw arall ar yr ail faen, yn ôl eu genedigaeth. 11 A gwaith naddwr mewn maen, fel naddiadau sêl, y neddi di y ddau faen, ag enwau meibion Israel: gwna hwynt â boglynnau o aur o’u hamgylch. 12 A gosod y ddau faen ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel. Ac Aaron a ddwg eu henwau hwynt gerbron yr Arglwydd ar ei ddwy ysgwydd, yn goffadwriaeth.
13 Gwna hefyd foglynnau aur; 14 A dwy gadwyn o aur coeth yn eu pennau: o blethwaith y gwnei hwynt; a dod y cadwynau plethedig ynglŷn wrth y boglynnau.
15 Gwna hefyd ddwyfronneg barnedigaeth, o waith cywraint; ar waith yr effod y gwnei hi: o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd, y gwnei hi. 16 Pedeirongl fydd hi yn ddau ddyblyg; yn rhychwant ei hyd, ac yn rhychwant ei lled. 17 Llanw hi yn llawn o feini, sef pedair rhes o feini: un rhes fydd sardius, a thopas, a smaragdus: hyn fydd y rhes gyntaf. 18 A’r ail res fydd carbuncl, saffir, ac adamant. 19 A’r drydedd res fydd lygur, ac acat, ac amethyst. 20 Y bedwaredd res fydd beryl, ac onics, a iasbis: byddant wedi eu gosod mewn aur yn eu lleoedd. 21 A’r meini fyddant ag enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; o naddiad sêl, bob un wrth ei enw y byddant, yn ôl y deuddeg llwyth.
22 A gwna ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith, o aur coeth. 23 Gwna hefyd ar y ddwyfronneg ddwy fodrwy o aur, a dod y ddwy fodrwy wrth ddau gwr y ddwyfronneg. 24 A dod y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau y ddwyfronneg. 25 A’r ddau ben arall i’r ddwy gadwyn blethedig dod ynglŷn wrth y ddau foglyn, a dod ar ysgwyddau yr effod o’r tu blaen.
26 Gwna hefyd ddwy fodrwy o aur, a gosod hwynt ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod o’r tu mewn. 27 A gwna ddwy fodrwy o aur, a dod hwynt ar ddau ystlys yr effod oddi tanodd, tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 28 A’r ddwyfronneg a rwymant â’u modrwyau wrth fodrwyau yr effod â llinyn o sidan glas, fel y byddo oddi ar wregys yr effod, fel na ddatoder y ddwyfronneg oddi wrth yr effod. 29 A dyged Aaron, yn nwyfronneg y farnedigaeth, enwau meibion Israel ar ei galon, pan ddelo i’r cysegr, yn goffadwriaeth gerbron yr Arglwydd yn wastadol.
30 A dod ar ddwyfronneg y farnedigaeth, yr Urim a’r Thummim; a byddant ar galon Aaron pan elo i mewn gerbron yr Arglwydd: ac Aaron a ddwg farnedigaeth meibion Israel ar ei galon, gerbron yr Arglwydd, yn wastadol.
31 Gwna hefyd fantell yr effod oll o sidan glas. 32 A bydd twll yn ei phen uchaf hi, ar ei chanol: gwrym o waith gwehydd o amgylch y twll, megis twll llurig, fydd iddi, rhag rhwygo.
33 A gwna ar ei godre hi bomgranadau o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ar ei godre o amgylch; a chlych o aur rhyngddynt o amgylch. 34 Cloch aur a phomgranad, a chloch aur a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch. 35 A hi a fydd am Aaron wrth weini: a cheir clywed ei sŵn ef pan ddelo i’r cysegr, gerbron yr Arglwydd, a phan elo allan; fel na byddo farw.
36 Gwna hefyd ddalen o aur coeth; a nadd arni, fel naddiadau sêl, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 37 A gosod hi wrth linyn o sidan glas, a bydded ar y meitr: o’r tu blaen i’r meitr y bydd. 38 A hi a fydd ar dalcen Aaron, fel y dygo Aaron anwiredd y pethau sanctaidd a gysegro meibion Israel yn eu holl roddion sanctaidd: ac yn wastad y bydd ar ei dalcen ef, fel y byddo iddynt ffafr gerbron yr Arglwydd.
39 Gweithia ag edau a nodwydd y bais o liain main; a gwna feitr o liain main; a’r gwregys a wnei o wniadwaith.
40 I feibion Aaron hefyd y gwnei beisiau, a gwna iddynt wregysau; gwna hefyd iddynt gapiau, er gogoniant a harddwch. 41 A gwisg hwynt am Aaron dy frawd, a’i feibion gydag ef: ac eneinia hwynt, cysegra hwynt hefyd, a sancteiddia hwynt, i offeiriadu i mi. 42 Gwna hefyd iddynt lodrau lliain i guddio eu cnawd noeth: o’r lwynau hyd y morddwydydd y byddant. 43 A byddant am Aaron, ac am ei feibion, pan ddelont i mewn i babell y cyfarfod, neu pan ddelont yn agos at yr allor i weini yn y cysegr: fel na ddygont anwiredd, a marw. Hyn fydd deddf dragwyddol iddo ef, ac i’w had ar ei ôl.
29 Dyma hefyd yr hyn a wnei di iddynt i’w cysegru hwynt, i offeiriadu i mi. Cymer un bustach ieuanc, a dau hwrdd perffeithgwbl, 2 A bara croyw, a theisennau croyw wedi eu cymysgu ag olew, ac afrllad croyw wedi eu hiro ag olew: o beilliaid gwenith y gwnei hwynt. 3 A dod hwynt mewn un cawell, a dwg hwynt yn y cawell, gyda’r bustach a’r ddau hwrdd. 4 Dwg hefyd Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 5 A chymer y gwisgoedd, a gwisg am Aaron y bais, a mantell yr effod, a’r effod hefyd, a’r ddwyfronneg; a gwregysa ef â gwregys yr effod. 6 A gosod y meitr ar ei ben ef, a dod y goron gysegredig ar y meitr. 7 Yna y cymeri olew yr eneiniad, ac y tywellti ar ei ben ef, ac yr eneini ef. 8 A dwg ei feibion ef, a gwisg beisiau amdanynt. 9 A gwregysa hwynt â gwregysau, sef Aaron a’i feibion, a gwisg hwynt â chapiau: a bydd yr offeiriadaeth iddynt yn ddeddf dragwyddol: a thi a gysegri Aaron a’i feibion. 10 A phâr ddwyn y bustach gerbron pabell y cyfarfod; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben y bustach. 11 A lladd y bustach gerbron yr Arglwydd, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 12 A chymer o waed y bustach, a dod ar gyrn yr allor â’th fys; a thywallt yr holl waed arall wrth droed yr allor. 13 Cymer hefyd yr holl fraster a fydd yn gorchuddio’r perfedd, a’r rhwyden a fyddo ar yr afu, a’r ddwy aren, a’r braster a fyddo arnynt, a llosg ar yr allor. 14 Ond cig y bustach, a’i groen, a’i fiswail, a losgi mewn tân, o’r tu allan i’r gwersyll: aberth dros bechod yw.
15 Cymer hefyd un hwrdd; a gosoded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd. 16 A lladd yr hwrdd; a chymer ei waed ef, a thaenella ar yr allor o amgylch. 17 A thor yr hwrdd yn ddarnau; a golch ei berfedd, a’i draed, a dod hwynt ynghyd â’i ddarnau, ac â’i ben. 18 A llosg yr hwrdd i gyd ar yr allor: poethoffrwm i’r Arglwydd yw: arogl peraidd, aberth tanllyd i’r Arglwydd yw.
19 A chymer yr ail hwrdd; a rhodded Aaron a’i feibion eu dwylo ar ben yr hwrdd. 20 Yna lladd yr hwrdd, a chymer o’i waed, a dod ar gwr isaf clust ddeau Aaron, ac ar gwr isaf clust ddeau ei feibion, ac ar fawd eu llaw ddeau hwynt, ac ar fawd eu troed deau hwynt; a thaenella’r gwaed arall ar yr allor o amgylch. 21 A chymer o’r gwaed a fyddo ar yr allor, ac o olew yr eneiniad, a thaenella ar Aaron, ac ar ei wisgoedd, ar ei feibion hefyd, ac ar wisgoedd ei feibion gydag ef: felly sanctaidd fydd efe a’i wisgoedd, ei feibion hefyd, a gwisgoedd ei feibion gydag ef. 22 Cymer hefyd o’r hwrdd, y gwêr a’r gloren, a’r gwêr sydd yn gorchuddio’r perfedd, a rhwyden yr afu, a’r ddwy aren, a’r gwêr sydd arnynt, a’r ysgwyddog ddeau; canys hwrdd cysegriad yw: 23 Ac un dorth o fara, ac un deisen o fara olewedig, ac un afrlladen o gawell y bara croyw, yr hwn sydd gerbron yr Arglwydd. 24 A dod y cwbl yn nwylo Aaron, ac yn nwylo ei feibion: a chyhwfana hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd. 25 A chymer hwynt o’u dwylo, a llosg ar yr allor yn boethoffrwm, yn arogl peraidd gerbron yr Arglwydd: aberth tanllyd i’r Arglwydd yw. 26 Cymer hefyd barwyden hwrdd y cysegriad yr hwn fyddo dros Aaron, a chyhwfana hi yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd; a’th ran di fydd. 27 A sancteiddia barwyden yr offrwm cyhwfan, ac ysgwyddog yr offrwm dyrchafael, yr hon a gyhwfanwyd, a’r hon a ddyrchafwyd, o hwrdd y cysegriad, o’r hwn a fyddo dros Aaron, ac o’r hwn a fyddo dros ei feibion. 28 Ac eiddo Aaron a’i feibion fydd trwy ddeddf dragwyddol oddi wrth feibion Israel: canys offrwm dyrchafael yw; ac offrwm dyrchafael a fydd oddi wrth feibion Israel o’u haberthau hedd, sef eu hoffrwm dyrchafael i’r Arglwydd.
29 A dillad sanctaidd Aaron a fyddant i’w feibion ar ei ôl ef, i’w heneinio ynddynt, ac i’w cysegru ynddynt. 30 Yr hwn o’i feibion ef a fyddo offeiriad yn ei le ef, a’u gwisg hwynt saith niwrnod, pan ddelo i babell y cyfarfod i weini yn y cysegr.
31 A chymer hwrdd y cysegriad, a berwa ei gig yn y lle sanctaidd. 32 A bwytaed Aaron a’i feibion gig yr hwrdd, a’r bara yr hwn fydd yn y cawell, wrth ddrws pabell y cyfarfod. 33 A hwy a fwytânt y pethau hyn y gwnaed y cymod â hwynt, i’w cysegru hwynt ac i’w sancteiddio: ond y dieithr ni chaiff eu bwyta; canys cysegredig ydynt. 34 Ac os gweddillir o gig y cysegriad, neu o’r bara, hyd y bore; yna ti a losgi’r gweddill â thân: ni cheir ei fwyta, oblegid cysegredig yw. 35 A gwna fel hyn i Aaron, ac i’w feibion, yn ôl yr hyn oll a orchmynnais i ti: saith niwrnod y cysegri hwynt. 36 A phob dydd yr aberthi fustach yn aberth dros bechod, er cymod: a glanha yr allor, wedi i ti wneuthur cymod drosti, ac eneinia hi, i’w chysegru. 37 Saith niwrnod y gwnei gymod dros yr allor, ac y sancteiddi hi: felly yr allor fydd sanctaidd: pob peth a gyffyrddo â’r allor, a sancteiddir.
38 A dyma yr hyn a offrymi ar yr allor. Dau oen blwyddiaid, bob dydd yn wastadol. 39 Yr oen cyntaf a offrymi di y bore; a’r ail oen a offrymi di yn y cyfnos. 40 A chyda’r naill oen ddegfed ran o beilliaid wedi ei gymysgu â phedwaredd ran hin o olew coethedig: a phedwaredd ran hin o win, yn ddiod‐offrwm. 41 A’r oen arall a offrymi di yn y cyfnos, ac a wnei iddo yr un modd ag i fwyd‐offrwm y bore, ac i’w ddiod‐offrwm, i fod yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd: 42 Yn boethoffrwm gwastadol trwy eich oesoedd, wrth ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd; lle y cyfarfyddaf â chwi, i lefaru wrthyt yno. 43 Ac yn y lle hwnnw y cyfarfyddaf â meibion Israel; ac efe a sancteiddir trwy fy ngogoniant. 44 A mi a sancteiddiaf babell y cyfarfod a’r allor; ac Aaron a’i feibion a sancteiddiaf, i offeiriadu i mi.
45 A mi a breswyliaf ymysg meibion Israel, ac a fyddaf yn Dduw iddynt. 46 A hwy a gânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd eu Duw, yr hwn a’u dygais hwynt allan o dir yr Aifft, fel y trigwn yn eu plith hwynt: myfi yw yr Arglwydd eu Duw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.