Chronological
1 A’r Arglwydd a alwodd ar Moses, ac a lefarodd wrtho o babell y cyfarfod, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ddygo dyn ohonoch offrwm i’r Arglwydd, o anifail, sef o’r eidionau, neu o’r praidd, yr offrymwch eich offrwm. 3 Os poethoffrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd. 4 A gosoded ei law ar ben y poethoffrwm; ac fe a’i cymerir ef yn gymeradwy ganddo, i wneuthur cymod drosto. 5 Lladded hefyd yr eidion gerbron yr Arglwydd; a dyged meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed, a thaenellant y gwaed o amgylch ar yr allor, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 6 A blinged y poethoffrwm, a thorred ef yn ei ddarnau. 7 A rhodded meibion Aaron yr offeiriad dân ar yr allor, a gosodant goed mewn trefn ar y tân. 8 A gosoded meibion Aaron, yr offeiriaid, y darnau, y pen, a’r braster, mewn trefn ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 9 Ond ei berfedd a’i draed a ylch efe mewn dwfr: a’r offeiriad a lysg y cwbl ar yr allor, yn boethoffrwm, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
10 Ac os o’r praidd, sef o’r defaid, neu o’r geifr, yr offryma efe boethoffrwm; offrymed ef yn wryw perffaith‐gwbl. 11 A lladded ef gerbron yr Arglwydd, o du’r gogledd i’r allor; a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, ei waed ef ar yr allor o amgylch. 12 A thorred ef yn ei ddarnau, gyda’i ben a’i fraster; a gosoded yr offeiriad hwynt ar y coed a fyddant ar y tân sydd ar yr allor. 13 Ond golched y perfedd a’r traed mewn dwfr: a dyged yr offeiriad y cwbl, a llosged ar yr allor. Hwn sydd boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
14 Ac os poethoffrwm o aderyn fydd ei offrwm ef i’r Arglwydd; yna dyged ei offrwm o durturau, neu o gywion colomennod. 15 A dyged yr offeiriad ef at yr allor, a thorred ei ben ef, a llosged ef ar yr allor; a gwasger ei waed ef ar ystlys yr allor. 16 A thynned ymaith ei grombil ef ynghyd â’i blu, a bwried hwynt gerllaw yr allor, o du’r dwyrain, i’r lle y byddo y lludw. 17 Hollted ef, a’i esgyll hefyd; eto na wahaned ef: a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, ar y coed a fyddant ar y tân. Dyma boethoffrwm, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
2 Pan offrymo dyn fwyd‐offrwm i’r Arglwydd, bydded ei offrwm ef o beilliaid; a thywallted olew arno, a rhodded thus arno. 2 A dyged ef at feibion Aaron, yr offeiriaid: a chymered efe oddi yno lonaid ei law o’i beilliaid, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus; a llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ar yr allor, yn offrwm tanllyd o arogl peraidd i’r Arglwydd. 3 A bydded gweddill y bwyd‐offrwm i Aaron ac i’w feibion: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw.
4 Hefyd pan offrymech fwyd‐offrwm, wedi ei bobi mewn ffwrn, teisen beilliaid groyw, wedi ei chymysgu trwy olew, neu afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a fydd.
5 Ond os bwyd‐offrwm ar radell fydd dy offrwm di, bydded o beilliaid wedi ei gymysgu yn groyw trwy olew. 6 Tor ef yn ddarnau, a thywallt arno olew; bwyd‐offrwm yw.
7 Ac os bwyd‐offrwm padell fydd dy offrwm, gwneler o beilliaid trwy olew. 8 A dwg i’r Arglwydd y bwyd‐offrwm, yr hwn a wneir o’r rhai hyn: ac wedi y dyger at yr offeiriad, dyged yntau ef at yr allor. 9 A choded yr offeiriad ei goffadwriaeth o’r bwyd‐offrwm, a llosged ef ar yr allor; yn offrwm tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 10 A bydded i Aaron ac i’w feibion weddill y bwyd‐offrwm: sancteiddbeth o danllyd offrymau yr Arglwydd ydyw. 11 Na wneler yn lefeinllyd ddim bwyd‐offrwm a offrymoch i’r Arglwydd; canys dim surdoes, na mêl, ni losgwch yn offrwm tanllyd i’r Arglwydd.
12 Offrymwch i’r Arglwydd offrwm y blaenffrwyth; ond na losger hwynt ar yr allor yn arogl peraidd. 13 Dy holl fwyd‐offrwm hefyd a hellti di â halen; ac na phalled halen cyfamod dy Dduw o fod ar dy fwyd‐offrwm: offryma halen ar bob offrwm i ti. 14 Ac os offrymi i’r Arglwydd fwyd‐offrwm y ffrwythau cyntaf; tywysennau irion wedi eu crasu wrth y tân, sef ŷd a gurir allan o’r dywysen lawn, a offrymi di yn fwyd‐offrwm dy ffrwythau cyntaf. 15 A dod olew arno, a gosod thus arno: bwyd‐offrwm yw. 16 A llosged yr offeiriad ei goffadwriaeth ef o’i ŷd wedi ei guro allan, ac o’i olew, ynghyd â’i holl thus: offrwm tanllyd i’r Arglwydd yw.
3 Ac os aberth hedd fydd ei offrwm ef, pan offrymo efe eidion, offrymed ef gerbron yr Arglwydd yn berffaith‐gwbl; pa un bynnag ai yn wryw ai yn fenyw. 2 A rhodded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef wrth ddrws pabell y cyfarfod: a thaenelled meibion Aaron, yr offeiriaid, y gwaed ar yr allor o amgylch. 3 Ac offrymed o’r aberth hedd aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fydd ar y perfedd; 4 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt hyd y tenewyn, a’r rhwyden hefyd a fydd oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau. 5 A llosged meibion Aaron hynny ar yr allor, ynghyd â’r offrwm poeth sydd ar y coed a fyddant ar y tân, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.
6 Ac os o’r praidd y bydd yr hyn a offrymo efe yn hedd‐aberth i’r Arglwydd, offrymed ef yn wryw neu yn fenyw perffaith‐gwbl. 7 Os oen a offryma efe yn ei offrwm; yna dyged gerbron yr Arglwydd. 8 A gosoded ei law ar ben ei offrwm, a lladded ef o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei waed ef ar yr allor oddi amgylch. 9 Ac offrymed o’r aberth hedd yn aberth tanllyd i’r Arglwydd; ei weren, a’r gloren i gyd: torred hi ymaith wrth asgwrn y cefn, ynghyd â’r weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 10 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 11 A llosged yr offeiriad hyn ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd i’r Arglwydd ydyw.
12 Ac os gafr fydd ei offrwm ef; dyged hi gerbron yr Arglwydd. 13 A gosoded ei law ar ei phen, a lladded hi o flaen pabell y cyfarfod; a thaenelled meibion Aaron ei gwaed hi ar yr allor o amgylch. 14 Ac offrymed o hynny ei offrwm o aberth tanllyd i’r Arglwydd; sef y weren fol, a’r holl wêr a fyddo ar y perfedd; 15 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, ynghyd â’r arennau, a dynn efe ymaith. 16 A llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor: bwyd‐aberth tanllyd o arogl peraidd ydyw. Yr holl wêr sydd eiddo yr Arglwydd. 17 Deddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau yn eich holl anheddau, yw: na fwytaoch ddim gwêr, na dim gwaed.
4 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan becho dyn mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, a gwneuthur yn erbyn un ohonynt y pethau ni ddylid eu gwneuthur: 3 Os offeiriad eneiniog a becha yn ôl pechod y bobl; offrymed, dros ei bechod a wnaeth, fustach ieuanc perffaith‐gwbl, yn aberth dros bechod i’r Arglwydd. 4 A dyged y bustach i ddrws pabell y cyfarfod, gerbron yr Arglwydd, a gosoded ei law ar ben y bustach, a lladded y bustach gerbron yr Arglwydd. 5 A chymered yr offeiriad eneiniog o waed y bustach, a dyged ef i babell y cyfarfod. 6 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled o’r gwaed gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen gwahanlen y cysegr. 7 A gosoded yr offeiriad beth o’r gwaed gerbron yr Arglwydd ar gyrn allor yr arogl‐darth peraidd, yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted holl waed arall y bustach wrth droed allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 8 A thynned holl wêr bustach yr aberth dros bechod oddi wrtho; y weren fol, a’r holl wêr fyddo ar y perfedd; 9 A’r ddwy aren, a’r gwêr a fyddo arnynt, hyd y tenewyn, a’r rhwyden oddi ar yr afu, a dynn efe ymaith, ynghyd â’r arennau; 10 Megis y tynnodd o fustach yr aberth hedd: a llosged yr offeiriad hwynt ar allor y poethoffrwm. 11 Ond croen y bustach, a’i holl gig, ynghyd â’i ben, a’i draed, a’i berfedd, a’i fiswail, 12 A’r holl fustach hefyd, a ddwg efe allan i’r tu allan i’r gwersyll, i le glân, wrth dywalltfa’r lludw; ac a’i llysg ar goed yn tân; wrth dywalltfa’r lludw y llosgir ef.
13 Ac os holl gynulleidfa Israel a becha mewn anwybod, a’r peth yn guddiedig o olwg y gynulleidfa, a gwneuthur ohonynt yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a myned yn euog: 14 Pan wypir y pechod y pechasant ynddo; yna offrymed y gynulleidfa fustach ieuanc dros y pechod, a dygant ef o flaen pabell y cyfarfod. 15 A gosoded henuriaid y gynulleidfa eu dwylo ar ben y bustach gerbron yr Arglwydd, a lladdant y bustach gerbron yr Arglwydd. 16 A dyged yr offeiriad eneiniog o waed y bustach i babell y cyfarfod. 17 A throched yr offeiriad ei fys yn y gwaed, a thaenelled gerbron yr Arglwydd seithwaith, o flaen y wahanlen. 18 A gosoded o’r gwaed ar gyrn yr allor sydd gerbron yr Arglwydd, sef yr hon sydd ym mhabell y cyfarfod; a thywallted yr holl waed arall wrth waelod allor y poethoffrwm, yr hon sydd wrth ddrws pabell y cyfarfod. 19 A thynned ei holl wêr allan ohono, a llosged ar yr allor. 20 A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech‐aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt. 21 A dyged y bustach allan i’r tu allan i’r gwersyll, a llosged ef fel y llosgodd y bustach cyntaf. Dyma aberth dros bechod y gynulleidfa.
22 Os pecha pennaeth, a gwneuthur mewn anwybod yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd ei Dduw, ddim o’r hyn ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 23 Neu os daw i wybod ei fai yr hwn a wnaeth: dyged ei offrwm o lwdn gafr gwryw perffaith‐gwbl. 24 A gosoded ei law ar ben y llwdn, a lladded ef yn y lle y lleddir y poethoffrwm, gerbron yr Arglwydd. Dyma aberth dros bechod. 25 A chymered yr offeiriad o waed yr aberth dros bechod â’i fys, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei waed ef wrth waelod allor y poethoffrwm. 26 A llosged ei holl wêr ar yr allor, fel gwêr yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
27 Ac os pecha neb o bobl y wlad mewn anwybod, gan wneuthur yn erbyn yr un o orchmynion yr Arglwydd, ddim o’r pethau ni ddylid eu gwneuthur, a bod yn euog; 28 Neu os ei bechod yr hwn a bechodd a ddaw i’w wybodaeth ef: yna dyged ei offrwm o lwdn gafr fenyw berffaith‐gwbl dros ei bechod a bechodd efe. 29 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded yr aberth dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 30 A chymered yr offeiriad o’i gwaed hi â’i fys, a rhodded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 31 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir y gwêr oddi ar yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad ef ar yr allor, yn arogl peraidd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto; a maddeuir iddo. 32 Ac os dwg efe ei offrwm dros bechod o oen, dyged hi yn fenyw berffaith‐gwbl. 33 A gosoded ei law ar ben yr aberth dros bechod, a lladded hi dros bechod yn y lle y lleddir y poethoffrwm. 34 A chymered yr offeiriad â’i fys o waed yr aberth dros bechod, a gosoded ar gyrn allor y poethoffrwm, a thywallted ei holl waed hi wrth waelod yr allor. 35 A thynned ei holl wêr hi, fel y tynnir gwêr oen yr aberth hedd; a llosged yr offeiriad hwynt ar yr allor, fel aberth tanllyd i’r Arglwydd: a gwnaed yr offeiriad gymod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.