Chronological
5 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Gorchymyn i feibion Israel, anfon allan o’r gwersyll bob gwahanglwyfus, a phob un y byddo diferlif arno, a phob un a halogir wrth y marw. 3 Yn wryw ac yn fenyw yr anfonwch hwynt, allan o’r gwersyll yr anfonwch hwynt; fel na halogont eu gwersylloedd, y rhai yr ydwyf fi yn preswylio yn eu plith. 4 A meibion Israel a wnaethant felly, ac a’u hanfonasant hwynt i’r tu allan i’r gwersyll: megis y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.
5 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 6 Llefara wrth feibion Israel, Os gŵr neu wraig a wna un o holl bechodau dynol, gan wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd, a bod o’r enaid hwnnw yn euog: 7 Yna cyffesant eu pechod a wnaethant; a rhodded yn ei ôl yr hyn a fyddo efe euog ohono erbyn ei ben, a chwaneged ei bumed ran ato, a rhodded i’r hwn y gwnaeth efe gam ag ef. 8 Ac oni bydd i’r gŵr gyfnesaf i dalu am y camwedd iddo, yr iawn am y camwedd yr hwn a delir i’r Arglwydd, fydd eiddo yr offeiriad; heblaw yr hwrdd cymod yr hwn y gwna efe gymod ag ef trosto. 9 A phob offrwm dyrchafael, o holl sanctaidd bethau meibion Israel, y rhai a offrymant at yr offeiriad, fydd eiddo ef. 10 A sancteiddio gŵr, eiddo ef fyddant: hyn a roddo neb i’r offeiriad, eiddo ef fydd.
11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pob gŵr pan wyro ei wraig ef, a gwneuthur bai yn ei erbyn ef; 13 A bod i ŵr a wnelo â hi, a bod yn guddiedig o olwg ei gŵr hi, ac yn gyfrinachol, a hithau wedi ei halogi, ac heb dyst yn ei herbyn, a hithau heb ei dal ar ei gweithred; 14 A dyfod gwŷn eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau wedi ei halogi; neu ddyfod ysbryd eiddigedd arno, ac eiddigeddu ohono wrth ei wraig, a hithau heb ei halogi: 15 Yna dyged y gŵr ei wraig at yr offeiriad, a dyged ei hoffrwm drosti hi, degfed ran effa o flawd haidd: na thywallted olew arno, ac na rodded thus arno; canys offrwm eiddigedd yw, offrwm cof yn coffáu anwiredd. 16 A nesaed yr offeiriad hi, a phared iddi sefyll gerbron yr Arglwydd. 17 A chymered yr offeiriad ddwfr sanctaidd mewn llestr pridd, a chymered yr offeiriad o’r llwch fyddo ar lawr y tabernacl, a rhodded yn y dwfr. 18 A phared yr offeiriad i’r wraig sefyll gerbron yr Arglwydd, a diosged oddi am ben y wraig, a rhodded yn ei dwylo offrwm y coffa; offrwm eiddigedd yw efe: ac yn llaw yr offeiriad y bydd y dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith. 19 A thynged yr offeiriad hi, a dyweded wrth y wraig, Oni orweddodd gŵr gyda thi, ac oni wyraist i aflendid gydag arall yn lle dy ŵr, bydd di ddiniwed oddi wrth y dwfr chwerw hwn sydd yn peri’r felltith. 20 Ond os gwyraist ti oddi wrth dy ŵr ac os halogwyd di, a chydio o neb â thi heblaw dy ŵr dy hun: 21 Yna tyngheded yr offeiriad y wraig â llw melltith, a dyweded yr offeiriad wrth y wraig, Rhodded yr Arglwydd dydi yn felltith ac yn llw ymysg dy bobl, pan wnelo yr Arglwydd dy forddwyd yn bwdr, a’th groth yn chwyddedig; 22 Ac aed y dwfr melltigedig hwn i’th goluddion, i chwyddo dy groth, ac i bydru dy forddwyd. A dyweded y wraig, Amen, amen. 23 Ac ysgrifenned yr offeiriad y melltithion hyn mewn llyfr, a golched hwynt ymaith â’r dwfr chwerw. 24 A phared i’r wraig yfed o’r dwfr chwerw sydd yn peri’r felltith: ac aed y dwfr sydd yn peri’r felltith i’w mewn hi, yn chwerw. 25 A chymered yr offeiriad o law y wraig offrwm yr eiddigedd; a chyhwfaned yr offrwm gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ef ar yr allor. 26 A chymered yr offeiriad o’r offrwm lonaid ei law, ei goffadwriaeth, a llosged ar yr allor; ac wedi hynny pared i’r wraig yfed y dwfr. 27 Ac wedi iddo beri iddi yfed y dwfr, bydd, os hi a halogwyd, ac a wnaeth fai yn erbyn ei gŵr, yr â’r dwfr sydd yn peri’r felltith yn chwerw ynddi, ac a chwydda ei chroth, ac a bydra ei morddwydd: a’r wraig a fydd yn felltith ymysg ei phobl. 28 Ond os y wraig ni halogwyd, eithr glân yw; yna hi a fydd ddihangol, ac a blanta. 29 Dyma gyfraith eiddigedd, pan wyro gwraig at arall yn lle ei gŵr, ac ymhalogi: 30 Neu os daw ar ŵr wŷn eiddigedd, a dal ohono eiddigedd wrth ei wraig; yna gosoded y wraig i sefyll gerbron yr Arglwydd, a gwnaed yr offeiriad iddi yn ôl y gyfraith hon. 31 A’r gŵr fydd dieuog o’r anwiredd, a’r wraig a ddwg ei hanwiredd ei hun.
6 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan ymneilltuo gŵr neu wraig i addo adduned Nasaread, i ymneilltuo i’r Arglwydd: 3 Ymneilltued oddi wrth win a diod gref; nac yfed finegr gwin, na finegr diod gref; nac yfed chwaith ddim sugn grawnwin, ac na fwytaed rawnwin irion, na sychion. 4 Holl ddyddiau ei Nasareaeth ni chaiff fwyta o ddim oll a wneir o winwydden y gwin, o’r dincod hyd y bilionen. 5 Holl ddyddiau adduned ei Nasareaeth ni chaiff ellyn fyned ar ei ben: nes cyflawni’r dyddiau yr ymneilltuodd efe i’r Arglwydd, sanctaidd fydd; gadawed i gudynnau gwallt ei ben dyfu. 6 Holl ddyddiau ei ymneilltuaeth i’r Arglwydd, na ddeued at gorff marw. 7 Nac ymhaloged wrth ei dad, neu wrth ei fam, wrth ei frawd, neu wrth ei chwaer, pan fyddant feirw; am fod Nasareaeth ei Dduw ar ei ben ef. 8 Holl ddyddiau ei Nasareaeth,sanctaidd fydd efe i’r Arglwydd. 9 Ond os marw fydd un yn ei ymyl ef yn ddisymwth, a halogi pen ei Nasareaeth; yna eillied ei ben ar ddydd ei buredigaeth, ar y seithfed dydd yr eillia efe ef. 10 Ac ar yr wythfed dydd y dwg ddwy durtur neu ddau gyw colomen, at yr offeiriad, i ddrws pabell y cyfarfod. 11 Ac offrymed yr offeiriad un yn bech‐aberth, ac un yn boethoffrwm, a gwnaed gymod drosto, am yr hyn a becho wrth y marw; a sancteiddied ei ben ef y dydd hwnnw. 12 A neilltued i’r Arglwydd ddyddiau ei Nasareaeth, a dyged oen blwydd yn offrwm dros gamwedd; ac aed y dyddiau cyntaf yn ofer, am halogi ei Nasareaeth ef.
13 A dyma gyfraith y Nasaread: pan gyflawner dyddiau ei Nasareaeth, dyger ef i ddrws pabell y cyfarfod. 14 A dyged yn offrwm drosto i’r Arglwydd, un hesbwrn blwydd,perffaith‐gwbl yn boethoffrwm; ac un hesbin flwydd, berffaith‐gwbl, yn bech‐aberth; ac un hwrdd perffaith‐gwbl, yn aberth hedd; 15 Cawellaid o fara croyw hefyd, sef teisennau peilliaid wedi eu tylino trwy olew, ac afrllad croyw wedi eu heneinio ag olew, a’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwy. 16 A dyged yr offeiriad hwynt gerbron yr Arglwydd, ac offrymed ei bech‐aberth a’i boethoffrwm ef. 17 Offrymed hefyd yr hwrdd yn aberth hedd i’r Arglwydd, ynghyd â’r cawellaid bara croyw; ac offrymed yr offeiriad ei fwyd‐offrwm a’i ddiod‐offrwm ef. 18 Ac eillied y Nasaread wrth ddrws pabell y cyfarfod ben ei Nasareaeth; a chymered flew pen ei Nasareaeth, a rhodded ar y tân a fyddo dan yr aberth hedd. 19 Cymered yr offeiriad hefyd balfais o’r hwrdd wedi ei berwi, ac un deisen groyw o’r cawell, ac un afrlladen groyw; a rhodded ar ddwylo’r Nasaread, wedi eillio ohono ei Nasareaeth; 20 A chyhwfaned yr offeiriad hwynt yn offrwm cyhwfan gerbron yr Arglwydd: sanctaidd yw hyn i’r offeiriad, heblaw parwyden y cyhwfan, a phalfais y dyrchafael. Ac wedi hyn y caiff y Nasaread yfed gwin. 21 Dyma gyfraith y Nasaread a addunedodd, a’i offrwm i’r Arglwydd am ei Nasareaeth, heblaw yr hyn a gyrhaeddo ei law ef: fel y byddo ei adduned a addunedo, felly gwnaed, heblaw cyfraith ei Nasareaeth.
22 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Llefara wrth Aaron ac wrth ei feibion, gan ddywedyd, Fel hyn y bendithiwch feibion Israel, gan ddywedyd wrthynt, 24 Bendithied yr Arglwydd di, a chadwed di: 25 A llewyrched yr Arglwydd ei wyneb arnat, a thrugarhaed wrthyt: 26 Dyrchafed yr Arglwydd ei wyneb arnat, a rhodded i ti dangnefedd. 27 Felly y gosodant fy enw ar feibion Israel, a mi a’u bendithiaf hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.