Chronological
26 Na wnewch eilunod i chwi, ac na chodwch i chwi ddelw gerfiedig, na cholofn, ac na roddwch ddelw faen yn eich tir i ymgrymu iddi: canys myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 2 Fy Sabothau i a gedwch, a’m cysegr i a berchwch: myfi ydwyf yr Arglwydd.
3 Os yn fy neddfau i y rhodiwch, a’m gorchmynion a gedwch, a’u gwneuthur hwynt; 4 Yna mi a roddaf eich glaw yn ei amser, a rhydd y ddaear ei chynnyrch, a choed y maes a rydd eu ffrwyth. 5 A’ch dyrnu a gyrraedd hyd gynhaeaf y grawnwin, a chynhaeaf y grawnwin a gyrraedd hyd amser hau; a’ch bara a fwytewch yn ddigonol, ac yn eich tir y trigwch yn ddiogel. 6 Rhoddaf heddwch hefyd yn y tir, a gorweddwch hefyd heb ddychrynydd: a gwnaf i’r bwystfil niweidiol ddarfod o’r tir; ac nid â cleddyf trwy eich tir. 7 Eich gelynion hefyd a erlidiwch, a syrthiant o’ch blaen ar y cleddyf. 8 A phump ohonoch a erlidia gant, a chant ohonoch a erlidia ddengmil; a’ch gelynion a syrth o’ch blaen ar y cleddyf. 9 A mi a edrychaf amdanoch, ac a’ch gwnaf yn ffrwythlon, ac a’ch amlhaf, ac a gadarnhaf fy nghyfamod â chwi. 10 A’r hen ystôr a fwytewch, ie, yr hen a fwriwch chwi allan o achos y newydd. 11 Rhoddaf hefyd fy nhabernacl yn eich mysg; ac ni ffieiddia fy enaid chwi. 12 A mi a rodiaf yn eich plith; a byddaf yn Dduw i chwi, a chwithau a fyddwch yn bobl i mi. 13 Myfi yw yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dygais chwi allan o dir yr Aifft, rhag eich bod yn gaethweision iddynt; a thorrais rwymau eich iau, a gwneuthum i chwi rodio yn sythion.
14 Ond os chwi ni wrandewch arnaf, ac ni wnewch yr holl orchmynion hyn; 15 Os fy neddfau hefyd a ddirmygwch, ac os eich enaid a ffieiddia fy marnedigaethau, heb wneuthur fy holl orchmynion, ond torri fy nghyfamod; 16 Minnau hefyd a wnaf hyn i chwi: gosodaf yn oruchaf arnoch ddychryn, darfodedigaeth, a’r cryd poeth, y rhai a wna i’r llygaid ballu, ac a ofidiant eich eneidiau: a heuwch eich had yn ofer; canys eich gelynion a’i bwyty: 17 Ac a osodaf fy wyneb i’ch erbyn, a chwi a syrthiwch o flaen eich gelynion; a’ch caseion a feistrola arnoch; ffowch hefyd pan na byddo neb yn eich erlid. 18 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, yna y chwanegaf eich cosbi chwi saith mwy am eich pechodau. 19 A mi a dorraf falchder eich nerth chwi; a gwnaf eich nefoedd chwi fel haearn, a’ch tir chwi fel pres: 20 A’ch cryfder a dreulir yn ofer: canys eich tir ni rydd ei gynnyrch, a choed y tir ni roddant eu ffrwyth.
21 Ac os rhodiwch yng ngwrthwyneb i mi, ac ni fynnwch wrando arnaf fi; mi a chwanegaf bla saith mwy arnoch yn ôl eich pechodau. 22 Ac anfonaf fwystfil y maes yn eich erbyn, ac efe a’ch gwna chwi yn ddi‐blant, ac a ddifetha eich anifeiliaid, ac a’ch lleiha chwi; a’ch ffyrdd a wneir yn anialwch. 23 Ac os wrth hyn ni chymerwch ddysg gennyf, ond rhodio yn y gwrthwyneb i mi; 24 Yna y rhodiaf finnau yn y gwrthwyneb i chwithau, a mi a’ch cosbaf chwi hefyd eto yn saith mwy am eich pechodau. 25 A dygaf arnoch gleddyf, yr hwn a ddial fy nghyfamod: a phan ymgasgloch i’ch dinasoedd, yna yr anfonaf haint i’ch mysg; a chwi a roddir yn llaw y gelyn. 26 A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwytewch, ac ni’ch digonir chwi. 27 Ac os er hyn ni wrandewch arnaf, ond rhodio yng ngwrthwyneb i mi; 28 Minnau a rodiaf yng ngwrthwyneb i chwithau mewn llid; a myfi, ie myfi, a’ch cosbaf chwi eto saith mwy am eich pechodau. 29 A chwi a fwytewch gnawd eich meibion, a chnawd eich merched a fwytewch. 30 Eich uchelfeydd hefyd a ddinistriaf, ac a dorraf eich delwau, ac a roddaf eich celaneddau chwi ar gelaneddau eich eilunod, a’m henaid a’ch ffieiddia chwi. 31 A gwnaf eich dinasoedd yn anghyfannedd, ac a ddinistriaf eich cysegroedd, ac ni aroglaf eich aroglau peraidd. 32 A mi a ddinistriaf y tir; fel y byddo aruthr gan eich gelynion, y rhai a drigant ynddo, o’i herwydd. 33 Chwithau a wasgaraf ymysg y cenhedloedd, a gwnaf dynnu cleddyf ar eich ôl; a’ch tir fydd ddiffeithwch, a’ch dinasoedd yn anghyfannedd. 34 Yna y mwynha’r tir ei Sabothau yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch, a chwithau a fyddwch yn nhir eich gelynion; yna y gorffwys y tir, ac y mwynha ei Sabothau. 35 Yr holl ddyddiau y byddo yn ddiffeithwch y gorffwys; oherwydd na orffwysodd ar eich Sabothau chwi, pan oeddech yn trigo ynddo. 36 A’r hyn a weddillir ohonoch, dygaf lesgedd ar eu calonnau yn nhir eu gelynion; a thrwst deilen yn ysgwyd a’u herlid hwynt; a ffoant fel ffoi rhag cleddyf; a syrthiant hefyd heb neb yn eu herlid. 37 A syrthiant bawb ar ei gilydd, megis o flaen cleddyf, heb neb yn eu herlid: ac ni ellwch sefyll o flaen eich gelynion. 38 Difethir chwi hefyd ymysg y cenhedloedd, a thir eich gelynion a’ch bwyty. 39 A’r rhai a weddillir ohonoch, a doddant yn eu hanwireddau yn nhir eich gelynion; ac yn anwireddau eu tadau gyda hwynt y toddant. 40 Os cyffesant eu hanwiredd, ac anwiredd eu tadau, ynghyd â’u camwedd yr hwn a wnaethant i’m herbyn, a hefyd rhodio ohonynt yn y gwrthwyneb i mi; 41 A rhodio ohonof finnau yn eu gwrthwyneb hwythau, a’u dwyn hwynt i dir eu gelynion; os yno yr ymostwng eu calon ddienwaededig, a’u bod yn fodlon am eu cosbedigaeth: 42 Minnau a gofiaf fy nghyfamod â Jacob, a’m cyfamod hefyd ag Isaac, a’m cyfamod hefyd ag Abraham a gofiaf; ac a gofiaf y tir hefyd. 43 A’r tir a adewir ganddynt, ac a fwynha ei Sabothau, tra fyddo yn ddiffeithwch hebddynt: a hwythau a fodlonir am eu cosbedigaeth; o achos ac oherwydd dirmygu ohonynt fy marnedigaethau, a ffieiddio o’u henaid fy neddfau. 44 Ac er hyn hefyd, pan fyddont yn nhir eu gelynion, nis gwrthodaf ac ni ffieiddiaf hwynt i’w difetha, gan dorri fy nghyfamod â hwynt: oherwydd myfi ydyw yr Arglwydd eu Duw hwynt. 45 Ond cofiaf er eu mwyn gyfamod y rhai gynt, y rhai a ddygais allan o dir yr Aifft yng ngolwg y cenhedloedd, i fod iddynt yn Dduw: myfi ydwyf yr Arglwydd. 46 Dyma’r deddfau, a’r barnedigaethau, a’r cyfreithiau, y rhai a roddodd yr Arglwydd rhyngddo ei hun a meibion Israel, ym mynydd Sinai, trwy law Moses.
27 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth feibion Israel, a dywed wrthynt, Pan addunedo neb adduned neilltuol, y dynion fydd eiddo yr Arglwydd, yn dy bris di. 3 A bydd dy bris, am wryw o fab ugain mlwydd hyd fab trigain mlwydd, ie, bydd dy bris ddeg sicl a deugain o arian, yn ôl sicl y cysegr. 4 Ac os benyw fydd, bydded dy bris ddeg sicl ar hugain. 5 Ac o fab pum mlwydd hyd fab ugain mlwydd, bydded dy bris am wryw ugain sicl, ac am fenyw ddeg sicl. 6 A bydded hefyd dy bris am wryw o fab misyriad hyd fab pum mlwydd, bum sicl o arian; ac am fenyw dy bris fydd tri sicl o arian. 7 Ac o fab trigeinmlwydd ac uchod, os gwryw fydd, bydded dy bris bymtheg sicl, ac am fenyw ddeg sicl. 8 Ond os tlotach fydd efe na’th bris di; yna safed gerbron yr offeiriad, a phrisied yr offeiriad ef: yn ôl yr hyn a gyrhaeddo llaw yr addunedydd, felly y prisia’r offeiriad ef.
9 Ond os anifail, yr hwn yr offrymir ohono offrwm i’r Arglwydd, fydd ei adduned; yr hyn oll a roddir o’r cyfryw i’r Arglwydd, sanctaidd fydd. 10 Na rodded un arall amdano, ac na newidied ef, y da am y drwg, neu y drwg am y da: ac os gan newidio y newidia anifail am anifail; bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid hefyd yn sanctaidd. 11 Ac os adduneda efe un anifail aflan, yr hwn ni ddylent offrymu ohono offrwm i’r Arglwydd; yna rhodded yr anifail i sefyll gerbron yr offeiriad 12 A phrisied yr offeiriad ef, os da os drwg fydd: fel y prisiech di yr offeiriad ef, felly y bydd. 13 Ac os efe gan brynu a’i prŷn; yna rhodded at dy bris di ei bumed ran yn ychwaneg.
14 A phan sancteiddio gŵr ei dŷ yn sanctaidd i’r Arglwydd; yna yr offeiriad a’i prisia, os da os drwg fydd: megis y prisio’r offeiriad ef, felly y saif. 15 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd a ollwng ei dŷ yn rhydd; yna rhodded bumed ran arian dy bris yn ychwaneg ato, a bydded eiddo ef.
16 Ac os o faes ei etifeddiaeth y sancteiddia gŵr i’r Arglwydd; yna bydded dy bris yn ôl ei heuad: heuad homer o haidd fydd er deg sicl a deugain o arian. 17 Os o flwyddyn y jiwbili y sancteiddia efe ei faes, yn ôl dy bris di y saif. 18 Ond os wedi’r jiwbili y sancteiddia efe ei faes; yna dogned yr offeiriad yr arian iddo, yn ôl y blynyddoedd fyddant yn ôl, hyd flwyddyn y jiwbili, a lleihaer ar dy bris di. 19 Ac os yr hwn a’i sancteiddiodd gan brynu a brŷn y maes; yna rhodded bumed ran arian dy bris di yn ychwaneg ato, a bydded iddo ef. 20 Ac onis gollwng y maes, neu os gwerthodd y maes i ŵr arall; ni cheir ei ollwng mwy. 21 A’r maes fydd, pan elo efe allan yn y jiwbili, yn gysegredig i’r Arglwydd, fel maes diofryd: a bydded yn feddiant i’r offeiriad. 22 Ac os ei dir prŷn, yr hwn ni bydd o dir ei etifeddiaeth, a sancteiddia efe i’r Arglwydd; 23 Yna cyfrifed yr offeiriad iddo ddogn dy bris di hyd flwyddyn y jiwbili; a rhodded yntau dy bris di yn gysegredig i’r Arglwydd, y dydd hwnnw. 24 Y maes a â yn ei ôl, flwyddyn y jiwbili, i’r hwn y prynasid ef ganddo, sef yr hwn oedd eiddo etifeddiaeth y tir. 25 A phob pris i ti fydd wrth sicl y cysegr: ugain gera fydd y sicl.
26 Ond y cyntaf‐anedig o anifail, yr hwn sydd flaenffrwyth i’r Arglwydd, na chysegred neb ef, pa un bynnag ai eidion ai dafad fyddo: eiddo yr Arglwydd yw efe. 27 Ond os ei adduned ef fydd o anifail aflan; yna rhyddhaed ef yn dy bris di, a rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato: ac onis rhyddha, yna gwerther ef yn dy bris di.
28 Ond pob diofryd‐beth a ddiofrydo un i’r Arglwydd, o’r hyn oll a fyddo eiddo ef, o ddyn neu o anifail, neu o faes ei etifeddiaeth, ni werthir, ac ni ryddheir: pob diofryd‐beth sydd sancteiddiolaf i’r Arglwydd. 29 Ni cheir gollwng yn rhydd un anifail diofrydog, yr hwn a ddiofryder gan ddyn: lladder yn farw.
30 A holl ddegwm y tir, o had y tir, ac o ffrwyth y coed, yr Arglwydd a’u piau: cysegredig i’r Arglwydd yw. 31 Ac os gŵr gan brynu a brŷn ddim o’i ddegwm, rhodded ei bumed ran yn ychwaneg ato. 32 A phob degwm eidion, neu ddafad, yr hyn oll a elo dan y wialen; y degfed fydd cysegredig i’r Arglwydd. 33 Nac edryched pa un ai da ai drwg fydd efe, ac na newidied ef: ond os gan newidio y newidia efe hwnnw, bydded hwnnw a bydded ei gyfnewid ef hefyd yn gysegredig; ni ellir ei ollwng yn rhydd. 34 Dyma’r gorchmynion a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, i feibion Israel, ym mynydd Sinai.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.