Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 1-2

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, yn anialwch Sinai, ym mhabell y cyfarfod, ar y dydd cyntaf o’r ail fis, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwy allan o dir yr Aifft, gan ddywedyd, Cymerwch nifer holl gynulleidfa meibion Israel, yn ôl eu teuluoedd, wrth dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, pob gwryw wrth eu pennau; O fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allo fyned i ryfel yn Israel: ti ac Aaron a’u cyfrifwch hwynt yn ôl eu lluoedd. A bydded gyda chwi ŵr o bob llwyth; sef y gŵr pennaf o dŷ ei dadau.

A dyma enwau’r gwŷr a safant gyda chwi. O lwyth Reuben; Elisur mab Sedeur. O lwyth Simeon; Selumiel mab Surisadai. O lwyth Jwda; Nahson mab Aminadab. O lwyth Issachar; Nethaneel mab Suar. O lwyth Sabulon; Elïab mab Helon. 10 O feibion Joseff: dros Effraim, Elisama mab Ammihud; dros Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 11 O lwyth Benjamin; Abidan mab Gideoni. 12 O lwyth Dan; Ahieser mab Ammisadai. 13 O lwyth Aser; Pagiel mab Ocran. 14 O lwyth Gad; Elisaff mab Deuel. 15 O lwyth Nafftali; Anira mab Enan. 16 Dyma rai enwog y gynulleidfa, tywysogion llwythau eu tadau,penaethiaid miloedd Israel oeddynt hwy.

17 A chymerodd Moses ac Aaron y gwŷr hyn a hysbysasid wrth eu henwau; 18 Ac a gasglasant yr holl gynulleidfa ynghyd ar y dydd cyntaf o’r ail fis; a rhoddasant eu hachau, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, erbyn eu pennau. 19 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y rhifodd efe hwynt yn anialwch Sinai.

20 A meibion Reuben, cyntaf‐anedig Israel, wrth eu cenedl eu hun, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a allai fyned i ryfel; 21 Y rhai a rifwyd ohonynt, sef o lwyth Reuben, oedd chwe mil a deugain a phum cant.

22 O feibion Simeon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, eu rhifedigion oedd, dan rif eu henwau, erbyn eu pennau, pob gwryw o fab ugain mlwydd ac uchod, sef pob un a’r a allai fyned i ryfel; 23 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Simeon, oedd onid un fil trigain mil a thri chant.

24 O feibion Gad, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu lluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a allai fyned i ryfel; 25 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Gad, oeddynt bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain.

26 O feibion Jwda, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pawb a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 27 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Jwda, oedd bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant.

28 O feibion Issachar, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 29 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Issachar, oedd bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant.

30 O feibion Sabulon, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 31 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Sabulon, oedd ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant.

32 O feibion Joseff, sef o feibion Effraim, wrth eu cenedlaethau, yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 33 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Effraim, oedd ddeugain mil a phum cant.

34 O feibion Manasse, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 35 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Manasse, oedd ddeuddeng mil ar hugain a dau gant.

36 O feibion Benjamin, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 37 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Benjamin, oedd bymtheg mil ar hugain a phedwar cant.

38 O feibion Dan, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 39 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Dan, oeddynt ddwy fil a thrigain a saith gant.

40 O feibion Aser, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a oedd yn gallu myned i ryfel; 41 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Aser, oeddynt un fil a deugain a phum cant.

42 O feibion Nafftali, wrth eu cenedlaethau yn ôl eu teuluoedd, o dŷ eu tadau, dan rif eu henwau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel; 43 Eu rhifedigion hwynt, o lwyth Nafftali, oedd dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 44 Dyma’r rhifedigion, y rhai a rifodd Moses, ac Aaron, a thywysogion Israel; sef y deuddengwr, y rhai oedd bob un dros dŷ eu tadau. 45 Felly yr ydoedd holl rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau, o fab ugain mlwydd ac uchod, pob un a’r a ydoedd yn gallu myned i ryfel yn Israel; 46 A’r holl rifedigion oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain.

47 Ond y Lefiaid, trwy holl lwythau eu tadau, ni rifwyd yn eu mysg hwynt: 48 Canys llefarasai yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 49 Ond na chyfrif lwyth Lefi, ac na chymer eu nifer hwynt, ymysg meibion Israel. 50 Ond dod i’r Lefiaid awdurdod ar babell y dystiolaeth, ac ar ei holl ddodrefn ac ar yr hyn oll a berthyn iddi: hwynt‐hwy a ddygant y babell, a’i holl ddodrefn, ac a’i gwasanaethant, ac a wersyllant o amgylch i’r babell. 51 A phan symudo’r babell, y Lefiaid a’i tyn hi i lawr; a phan arhoso’r babell, y Lefiaid a’i gesyd hi i fyny: lladder y dieithr a ddelo yn agos. 52 A gwersylled meibion Israel bob un yn ei wersyll ei hun, a phob un wrth ei luman ei hun, trwy eu lluoedd. 53 A’r Lefiaid a wersyllant o amgylch pabell y dystiolaeth, fel na byddo llid yn erbyn cynulleidfa meibion Israel: a chadwed y Lefiaid wyliadwriaeth pabell y dystiolaeth. 54 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, Meibion Israel a wersyllant bob un wrth ei luman ei hun, dan arwyddion tŷ eu tadau: o amgylch pabell y cyfarfod y gwersyllant o hirbell.

A’r rhai a wersyllant o du’r dwyrain tua chodiad haul, fydd gwŷr lluman gwersyll Jwda, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Jwda fydd Nahson mab Aminadab. A’i lu ef, a’u rhai rhifedig hwynt, fyddant bedair mil ar ddeg a thrigain a chwe chant. A llwyth Issachar a wersyllant yn nesaf ato: a chapten meibion Issachar fydd Nethaneel mab Suar. A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant bedair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. Yna llwyth Sabulon: ac Elïab mab Helon fydd capten meibion Sabulon. A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant ddwy fil ar bymtheg a deugain a phedwar cant. Holl rifedigion gwersyll Jwda fyddant yn ôl eu lluoedd, yn gan mil aphedwarugain mil a chwe mil a phedwar cant. Yn flaenaf y cychwyn y rhai hyn.

10 Lluman gwersyll Reuben fydd tua’r deau, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Reuben fydd Elisur mab Sedeur. 11 A’i lu ef, a’i rifedigion, fyddant chwe mil a deugain a phum cant. 12 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Simeon: a chapten meibion Simeon fydd Selumiel mab Surisadai. 13 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fydd onid un trigain mil a thri chant. 14 Yna llwyth Gad: a chapten meibion Gad fydd Eliasaff mab Reuel. 15 A’i lu ef, a’u rhifedigion hwynt, fyddant bum mil a deugain a chwe chant a deg a deugain. 16 Holl rifedigion gwersyll Reuben fyddant gan mil ac un ar ddeg a deugain o filoedd, a phedwar cant a deg a deugain, yn ôl eu lluoedd. Ac yn ail y cychwynnant hwy.

17 A phabell y cyfarfod a gychwyn yng nghanol y gwersylloedd, gyda gwersyll y Lefiaid: fel y gwersyllant, felly y symudant, pob un yn ei le, wrth eu llumanau.

18 Lluman gwersyll Effraim fydd tua’r gorllewin, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Effraim fydd Elisama mab Ammihud. 19 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeugain mil a phum cant. 20 Ac yn ei ymyl ef llwyth Manasse; a chapten meibion Manasse fydd Gamaliel mab Pedasur. 21 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddeuddeng mil ar hugain a dau gant. 22 Yna llwyth Benjamin: a chapten meibion Benjamin fydd Abidan mab Gideoni. 23 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant bymtheng mil ar hugain a phedwar cant. 24 Holl rifedigion gwersyll Effraim fyddant, yn ôl eu lluoedd, gan mil ac wyth mil a chant. Ac a gychwynnant yn drydydd.

25 Lluman gwersyll Dan fydd tua’r gogledd, yn ôl eu lluoedd: a chapten meibion Dan fydd Ahieser mab Ammisadai. 26 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant ddwy fil a thrigain a saith gant. 27 A’r rhai a wersyllant yn ei ymyl ef fydd llwyth Aser: a chapten meibion Aser fydd Pagiel mab Ocran. 28 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant un fil a deugain a phum cant. 29 Yna llwyth Nafftali: a chapten meibion Nafftali fydd Ahira mab Enan. 30 A’i lu ef, a’u rhifedigion, fyddant dair mil ar ddeg a deugain a phedwar cant. 31 Holl rifedigion gwersyll Dan fyddant gan mil ac onid tair mil trigain mil a chwe chant. Yn olaf y cychwynnant â’u llumanau.

32 Dyma rifedigion meibion Israel, wrth dŷ eu tadau. Holl rifedigion y gwersylloedd, yn ôl eu lluoedd, oedd chwe chan mil a thair mil a phum cant a deg a deugain. 33 Ond y Lefiaid ni chyfrifwyd ymysg meibion Israel; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 34 A meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses: felly y gwersyllasant wrth eu llumanau, ac felly y cychwynasant, bob un yn ei deuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.