Chronological
3 Adyma genedlaethau Aaron a Moses, ar y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ym mynydd Sinai. 2 Dyma enwau meibion Aaron: Nadab y cyntaf‐anedig, ac Abihu, Eleasar, ac Ithamar. 3 Dyma enwau meibion Aaron, yr offeiriaid eneiniog, y rhai a gysegrodd efe i offeiriadu. 4 A marw a wnaeth Nadab ac Abihu gerbron yr Arglwydd, pan offrymasant dân dieithr gerbron yr Arglwydd, yn anialwch Sinai; a meibion nid oedd iddynt: ac offeiriadodd Eleasar ac Ithamar yng ngŵydd Aaron eu tad.
5 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 6 Nesâ lwyth Lefi, a gwna iddo sefyll gerbron Aaron yr offeiriad, fel y gwasanaethont ef. 7 A hwy a gadwant ei gadwraeth ef, a chadwraeth yr holl gynulleidfa, o flaen pabell y cyfarfod, i wneuthur gwasanaeth y tabernacl. 8 A chadwant holl ddodrefn pabell y cyfarfod, a chadwraeth meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth y tabernacl. 9 A thi a roddi’r Lefiaid i Aaron, ac i’w feibion: y rhai hyn sydd wedi eu rhoddi yn rhodd iddo ef o feibion Israel. 10 Ac urdda di Aaron a’i feibion i gadw eu hoffeiriadaeth: a’r dieithrddyn a ddelo yn agos, a roddir i farw.
11 Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Ac wele, mi a gymerais y Lefiaid o blith meibion Israel, yn lle pob cyntaf‐anedig sef pob cyntaf a agoro’r groth o feibion Israel; am hynny y Lefiaid a fyddant eiddof fi: 13 Canys eiddof fi yw pob cyntaf‐anedig Ar y dydd y trewais y cyntaf‐anedig yn nhir yr Aifft, cysegrais i mi fy hun bob cyntaf‐anedig yn Israel o ddyn ac anifail: eiddof fi ydynt: myfi yw yr Arglwydd.
14 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, gan ddywedyd 15 Cyfrif feibion Lefi yn ôl tŷ eu tadau, trwy eu teuluoedd: cyfrif hwynt, bob gwryw, o fab misyriad ac uchod. 16 A Moses a’u cyfrifodd hwynt wrth air yr Arglwydd, fel y gorchmynasid iddo. 17 A’r rhai hyn oedd feibion Lefi wrth eu henwau; Gerson, a Cohath, a Merari. 18 A dyma enwau meibion Gerson, yn ôl eu teuluoedd; Libni a Simei. 19 A meibion Cohath, yn ôl eu teuluoedd Amram, Ishar, Hebron, ac Ussiel. 20 A meibion Merari, yn ôl eu teuluoedd Mahli a Musi. Dyma deuluoedd Lefi, wrth dŷ eu tadau. 21 O Gerson y daeth tylwyth y Libniaid, a thylwyth y Simiaid: dyma deuluoedd y Gersoniaid. 22 Eu rhifedigion hwynt, dan rif pob gwryw o fab misyriad ac uchod, eu rhifedigion, meddaf, oedd saith mil a phum cant. 23 Teuluoedd y Gersoniaid awersyllantar y tu ôl i’r tabernacl tua’r gorllewin. 24 A phennaeth tŷ tad y Gersoniaid fydd Eliasaff mab Lael. 25 A chadwraeth meibion Gerson, ym mhabell y cyfarfod, fydd y tabernacl, a’r babell, ei tho hefyd, a chaeadlen drws pabell y cyfarfod, 26 A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau i’w holl wasanaeth.
27 Ac o Cohath y daeth tylwyth yr Amramiaid, a thylwyth yr Ishariaid, a thylwyth yr Hebroniaid, a thylwyth yr Ussieliaid: dyma dylwyth y Cohathiaid. 28 Rhifedi yr holl wrywiaid, o fab misyriad ac uchod, oedd wyth mil a chwe chant, yn cadw cadwraeth y cysegr. 29 Teuluoedd meibion Cohath awersyllantar ystlys y tabernacl tua’r deau. 30 A phennaeth tŷ tad tylwyth y Cohathiaid fydd Elisaffan mab Ussiel. 31 A’u cadwraeth hwynt fydd yr arch, a’r bwrdd, a’r canhwyllbren, a’r allorau, a llestri’r cysegr, y rhai y gwasanaethant â hwynt, a’r gaeadlen, a’i holl wasanaeth. 32 A phennaf ar benaethiaid y Lefiaid fydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad; a llywodraeth ar geidwaid cadwraeth y cysegr fydd iddo ef.
33 O Merari y daeth tylwyth y Mahliaid, a thylwyth y Musiaid: dyma dylwyth Merari. 34 A’u rhifedigion hwynt, wrth gyfrif pob gwryw, o fab misyriad ac uchod, oedd chwe mil a deucant. 35 A phennaeth tŷ tad tylwyth Merari fydd Suriel mab Abihael. Ar ystlys y tabernacl y gwersyllant tua’r gogledd. 36 Ac yng nghadwraeth meibion Merari y bydd ystyllod y tabernacl, a’i drosolion, a’i golofnau, a’i forteisiau, a’i holl offer, a’i holl wasanaeth, 37 A cholofnau’r cynteddfa o amgylch, a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau.
38 A’r rhai a wersyllant o flaen y tabernacl tua’r dwyrain, o flaen pabell y cyfarfod tua chodiad haul, fydd Moses, ac Aaron a’i feibion, y rhai a gadwant gadwraeth y cysegr, a chadwraeth meibion Israel: a’r dieithr a ddelo yn agos, a roddir i farwolaeth. 39 Holl rifedigion y Lefiaid, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, yn ôl gair yr Arglwydd, trwy eu teuluoedd, sef pob gwryw o fab misyriad ac uchod, oedd ddwy fil ar hugain.
40 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cyfrif bob cyntaf‐anedig gwryw o feibion Israel, o fab misyriad ac uchod, a chymer rifedi eu henwau hwynt. 41 A chymer y Lefiaid i mi, (myfi yw yr Arglwydd,) yn lle holl gyntaf‐anedig meibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o anifeiliaid meibion Israel. 42 A Moses a rifodd, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd iddo, bobcyntaf‐anedig o feibion Israel. 43 A’r rhai cyntaf‐anedig oll, o rai gwryw, dan rif eu henwau, o fab misyriad ac uchod, o’u rhifedigion hwynt, oedd ddwy fil ar hugain a dau cant a thri ar ddeg a thrigain.
44 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses gan ddywedyd, 45 Cymer y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, ac anifeiliaid y Lefiaid yn lle eu hanifeiliaid hwynt; a bydded y Lefiaid i mi: myfi yw yr Arglwydd. 46 Ac am y rhai sydd i’w prynu o’r tri ar ddeg a thrigain a deucant, o gyntaf‐anedig meibion Israel, y rhai sydd dros ben y Lefiaid; 47 Cymer bum sicl am bob pen; yn ôl sicl y cysegr y cymeri. Ugain gera fydd y sicl. 48 A dod yr arian, gwerth y rhai sydd yn ychwaneg ohonynt, i Aaron ac i’w feibion. 49 A chymerodd Moses arian y prynedigaeth, y rhai oedd dros ben y rhai a brynwyd am y Lefiaid: 50 Gan gyntaf‐anedig meibion Israel y cymerodd efe yr arian; pump a thrigain a thri chant a mil, o siclau y cysegr. 51 A Moses a roddodd arian y prynedigion i Aaron ac i’w feibion, yn ôl gair yr Arglwydd, megis y gorchmynasai yr Arglwydd i Moses.
4 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, ac wrth Aaron, gan ddywedyd, 2 Cymer nifer meibion Cohath o blith meibion Lefi, wrth eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau; 3 O fab deng mlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab deng mlwydd a deugain, pob un a elo i’r llu, i wneuthur gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 4 Dyma weinidogaeth meibion Cohath, ym mhabell y cyfarfod, ynghylch y pethau sancteiddiolaf.
5 A deued Aaron a’i feibion, pan gychwynno’r gwersyll, a thynnant i lawr y wahanlen orchudd, a gorchuddiant â hi arch y dystiolaeth; 6 A gosodant ar hynny do o grwyn daearfoch, a thaenant arni wisg o sidan glas i gyd, a gosodant ei throsolion wrthi. 7 Ac ar fwrdd y bara dangos y taenant frethyn glas, a gosodant ar hynny y dysglau, a’r cwpanau, a’r ffiolau, a’r caeadau i gau: a bydded y bara bob amser arno. 8 A thaenant arnynt wisg o ysgarlad, a gorchuddiant hwnnw â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei drosolion wrtho. 9 Cymerant hefyd wisg o sidan glas, a gorchuddiant ganhwyllbren y goleuni, a’i lampau, a’i efeiliau, a’i gafnau, a holl lestri yr olew, y rhai y gwasanaethant ef â hwynt. 10 A gosodant ef a’i holl ddodrefn mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ef ar drosol. 11 A thaenant frethyn glas ar yr allor aur, a gorchuddiant hi â gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi. 12 Cymerant hefyd holl ddodrefn y gwasanaeth, y rhai y gwasanaethant â hwynt yn y cysegr, a rhoddant mewn brethyn glas, a gorchuddiant hwynt mewn gorchudd o groen daearfoch, a gosodant ar drosol. 13 A thynnant allan ludw yr allor, a thaenant arni wisg borffor. 14 A rhoddant arni ei holl lestri, â’r rhai y gwasanaethant hi, sef y pedyll tân, y cigweiniau, a’r rhawiau, a’r cawgiau, ie, holl lestri’r allor; a thaenant arni orchudd o groen daearfoch, a gosodant ei throsolion wrthi. 15 Pan ddarffo i Aaron ac i’w feibion orchuddio’r cysegr, a holl ddodrefn y cysegr, pan gychwynno’r gwersyll; wedi hynny deued meibion Cohath i’w dwyn hwynt: ond na chyffyrddant â’r hyn a fyddo cysegredig, rhag iddynt farw. Dyma faich meibion Cohath ym mhabell y cyfarfod.
16 Ac i swydd Eleasar mab Aaron yr offeiriad y perthyn olew y goleuni, a’r arogl‐darth peraidd, a’r bwyd‐offrwm gwastadol, ac olew yr eneiniad, a goruchwyliaeth yr holl dabernacl, a’r hyn oll fydd ynddo, yn y cysegr, ac yn ei ddodrefn
17 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses ac Aaron, gan ddywedyd, 18 Na thorrwch ymaith lwyth tylwyth y Cohathiaid o blith y Lefiaid: 19 Ond hyn a wnewch iddynt, fel y byddont fyw, ac na fyddont feirw, pan nesânt at y pethau sancteiddiolaf: Aaron a’i feibion a ânt i mewn, ac a’u gosodant hwy bob un ar ei wasanaeth ac ar ei glud. 20 Ond nac ânt i edrych pan fydder yn gorchuddio’r hyn sydd gysegredig, rhag marw ohonynt.
21 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 22 Cymer nifer meibion Gerson hefyd, trwy dŷ eu tadau, wrth eu teuluoedd; 23 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod. 24 Dyma weinidogaeth tylwyth y Gersoniaid, o wasanaeth ac o glud. 25 Sef dwyn ohonynt lenni’r tabernacl, a phabell y cyfarfod, ei len do ef, a’r to o grwyn daearfoch, yr hwn sydd yn uchaf arno, a chuddlen drws pabell y cyfarfod, 26 A llenni’r cynteddfa, a chaeadlen drws porth y cynteddfa, yr hwn sydd ynghylch y tabernacl, a’r allor o amgylch, a’i rhaffau, a holl offer eu gwasanaeth hwynt, a’r hyn oll a wnaed iddynt: felly y gwasanaethant hwy. 27 Wrth orchymyn Aaron a’i feibion y bydd holl wasanaeth meibion y Gersoniaid, yn eu holl glud, ac yn eu holl wasanaeth: a dodwch atynt eu holl glud i’w cadw. 28 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Gerson ym mhabell y cyfarfod; ac ar law Ithamar mab Aaron yr offeiriad y bydd eu llywodraethu hwynt.
29 A meibion Merari, trwy eu teuluoedd wrth dŷ eu tadau, y cyfrifi hwynt; 30 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, y rhifi hwynt; pob un a ddêl i ddwyn swydd, i wasanaethu gwasanaeth pabell y cyfarfod. 31 A dyma oruchwyliaeth eu clud hwynt, yn eu holl wasanaeth ym mhabell y cyfarfod; sef ystyllod y tabernacl, a’i farrau, a’i golofnau, a’i forteisiau, 32 A cholofnau y cynteddfa oddi amgylch a’u morteisiau, a’u hoelion, a’u rhaffau, ynghyd â’u holl offer, ac ynghyd â’u holl wasanaeth: rhifwch hefyd y dodrefn erbyn eu henwau y rhai a gadwant ac a gludant hwy. 33 Dyma wasanaeth tylwyth meibion Merari, yn eu holl weinidogaeth ym mhabell y cyfarfod, dan law Ithamar mab Aaron yr offeiriad.
34 A rhifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid y gynulleidfa, feibion Cohath, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau: 35 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod: 36 A’u rhifedigion trwy eu teuluoedd, oedd ddwy fil saith gant a deg a deugain. 37 Dyma rifedigion tylwyth y Cohathiaid, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses.
38 Rhifedigion meibion Gerson hefyd, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau; 39 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod: 40 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau, oeddynt ddwy fil a chwe chant a deg ar hugain. 41 Dyma rifedigion tylwyth meibion Gerson, sef pob gwasanaethydd ym mhabell y cyfarfod; y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd.
42 A rhifedigion tylwyth meibion Merari, trwy eu teuluoedd, yn ôl tŷ eu tadau; 43 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai mewn swydd i wasanaethu ym mhabell y cyfarfod: 44 A’u rhifedigion hwynt trwy eu teuluoedd, oeddynt dair mil a dau cant. 45 Dyma rifedigion tylwyth meibion Merari, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, wrth orchymyn yr Arglwydd trwy law Moses. 46 Yr holl rifedigion, y rhai a rifodd Moses ac Aaron, a phenaethiaid Israel, o’r Lefiaid, trwy eu teuluoedd, ac yn ôl tŷ eu tadau; 47 O fab dengmlwydd ar hugain ac uchod, hyd fab dengmlwydd a deugain, sef pob un a ddelai i wneuthur gwaith gwasanaeth, neu waith clud ym mhabell y cyfarfod: 48 A’u rhifedigion oeddynt wyth mil pum cant a phedwar ugain. 49 Wrth orchymyn yr Arglwydd, trwy law Moses y rhifodd efe hwy, pob un wrth ei wasanaeth, ac wrth ei glud: fel hyn y rhifwyd hwynt, fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.