Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 39-40

39 Ac o’r sidan glas, a’r porffor, a’r ysgarlad, y gwnaethant wisgoedd gweinidogaeth, i weini yn y cysegr: gwnaethant y gwisgoedd sanctaidd i Aaron; fel y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses. Ac efe a wnaeth yr effod o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. A gyrasant yr aur yn ddalennau teneuon, ac a’i torasant yn edafedd, i weithio yn y sidan glas, ac yn y porffor, ac yn yr ysgarlad, ac yn y lliain main, yn waith cywraint. Ysgwyddau a wnaethant iddi yn cydio: wrth ei dau gwr y cydiwyd hi. A gwregys cywraint ei effod ef, yr hwn oedd arni, ydoedd o’r un, yn unwaith â hi; o aur, sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd: megis y gorchmynasai’r Arglwydd wrth Moses.

A hwy a weithiasant feini onics wedi eu gosod mewn boglynnau aur, wedi eu naddu â naddiadau sêl, ag enwau meibion Israel ynddynt. A gosododd hwynt ar ysgwyddau yr effod, yn feini coffadwriaeth i feibion Israel; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses.

Efe a wnaeth hefyd y ddwyfronneg o waith cywraint, ar waith yr effod; o aur, sidan glas, porffor hefyd, ac ysgarlad, a lliain main cyfrodedd. Pedeirongl ydoedd; yn ddau ddyblyg y gwnaethant y ddwyfronneg: o rychwant ei hyd, a rhychwant ei lled, yn ddau ddyblyg. 10 A gosodasant ynddi bedair rhes o feini: rhes o sardius, topas, a smaragdus, ydoedd y rhes gyntaf. 11 A’r ail res oedd, carbuncl, saffir, ac adamant. 12 A’r drydedd res ydoedd, lygur, acat, ac amethyst. 13 A’r bedwaredd res ydoedd, beryl, onics, a iasbis; wedi eu hamgylchu mewn boglynnau aur yn eu lleoedd. 14 A’r meini oedd yn ôl enwau meibion Israel, yn ddeuddeg, yn ôl eu henwau hwynt; pob un wrth ei enw oeddynt, o naddiadau sêl, yn ôl y deuddeg llwyth. 15 A hwy a wnaethant ar y ddwyfronneg gadwynau ar y cyrrau, yn blethwaith o aur pur. 16 A gwnaethant ddau foglyn aur, a dwy fodrwy o aur; ac a roddasant y ddwy fodrwy ar ddau gwr y ddwyfronneg. 17 A rhoddasant y ddwy gadwyn blethedig o aur trwy’r ddwy fodrwy ar gyrrau’r ddwyfronneg. 18 A deupen y ddwy gadwyn blethedig a roddasant ynglŷn yn y ddau foglyn; ac a’u gosodasant ar ysgwyddau yr effod, o’r tu blaen. 19 Gwnaethant hefyd ddwy fodrwy o aur, ac a’u gosodasant ar ddau ben y ddwyfronneg, ar yr ymyl sydd ar ystlys yr effod, o’r tu mewn. 20 A hwy a wnaethant ddwy fodrwy aur, ac a’u gosodasant ar ddau ystlys yr effod, oddi tanodd tua’i thu blaen, ar gyfer ei chydiad, oddi ar wregys yr effod. 21 Rhwymasant hefyd y ddwyfronneg, erbyn ei modrwyau, wrth fodrwyau yr effod, â llinyn o sidan glas, i fod oddi ar wregys yr effod, fel na ddatodid y ddwyfronneg oddi wrth yr effod; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a wnaeth fantell yr effod i gyd o sidan glas, yn weadwaith. 23 A thwll y fantell oedd yn ei chanol, fel twll llurig, a gwrym o amgylch y twll, rhag ei rhwygo. 24 A gwnaethant ar odre’r fantell bomgranadau, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, a lliain cyfrodedd. 25 Gwnaethant hefyd glych o aur pur, ac a roddasant y clych rhwng y pomgranadau, ar odre’r fantell, o amgylch, ymysg y pomgranadau, 26 Cloch a phomgranad, a chloch a phomgranad, ar odre’r fantell o amgylch, i weini ynddynt: megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

27 A hwy a wnaethant beisiau o liain main, o weadwaith, i Aaron ac i’w feibion. 28 A meitr o liain main, a chapiau hardd o liain main, a llodrau lliain o liain main cyfrodedd, 29 A gwregys o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, o waith edau a nodwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Gwnaethant hefyd dalaith y goron sanctaidd o aur pur; ac a ysgrifenasant arni ysgrifen, fel naddiad sêl: SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD. 31 A rhoddasant wrthi linyn o sidan glas, i’w dal hi i fyny ar y meitr; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

32 Felly y gorffennwyd holl waith y tabernacl, sef pabell y cyfarfod: a meibion Israel a wnaethant yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses; felly y gwnaethant.

33 Dygasant hefyd y tabernacl at Moses, y babell a’i holl ddodrefn, ei bachau, ei hystyllod, ei barrau, a’i cholofnau, a’i morteisiau, 34 A’r to o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a’r to o grwyn daearfoch, a’r llen wahan yr hon oedd yn gorchuddio; 35 Arch y dystiolaeth, a’i throsolion, a’r drugareddfa; 36 Y bwrdd hefyd, a’i holl lestri, a’r bara dangos; 37 Y canhwyllbren pur, a’i lampau, a’r lampau i’w gosod mewn trefn, ei holl lestri, ac olew i’r goleuni; 38 A’r allor aur, ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth llysieuog, a chaeadlen drws y babell; 39 Yr allor bres, a’r alch bres yr hon oedd iddi, ei throsolion, a’i holl lestri; y noe a’i throed; 40 Llenni’r cynteddfa, ei golofnau, a’i forteisiau, a chaeadlen porth y cynteddfa, ei rhaffau, a’i hoelion, a holl ddodrefn gwasanaeth y tabernacl, sef pabell y cyfarfod; 41 Gwisgoedd y weinidogaeth i weini yn y cysegr, sanctaidd wisgoedd Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef i offeiriadu. 42 Yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel yr holl waith. 43 A Moses a edrychodd ar yr holl waith; ac wele, hwy a’i gwnaethant megis y gorchmynasai yr Arglwydd, felly y gwnaethent: a Moses a’u bendithiodd hwynt.

40 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Yn y mis cyntaf, ar y dydd cyntaf o’r mis, y cyfodi y tabernacl, pabell y cyfarfod. A gosod yno arch y dystiolaeth; a gorchuddia’r arch â’r wahanlen. Dwg i mewn hefyd y bwrdd, a threfna ef yn drefnus: dwg i mewn hefyd y canhwyllbren, a goleua ei lampau ef. Gosod hefyd allor aur yr arogl‐darth gerbron arch y dystiolaeth; a gosod gaeadlen drws y tabernacl. Dod hefyd allor y poethoffwrm o flaen drws tabernacl pabell y cyfarfod. Dod hefyd y noe rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, a dod ynddi ddwfr. A gosod hefyd y cynteddfa oddi amgylch; a dod gaeadlen ar borth y cynteddfa. A chymer olew yr eneiniad, ac eneinia’r tabernacl, a’r hyn oll sydd ynddo, a chysegra ef a’i holl lestri; a sanctaidd fydd. 10 Eneinia hefyd allor y poethoffrwm, a’i holl lestri; a’r allor a gysegri: a hi a fydd yn allor sancteiddiolaf. 11 Eneinia y noe a’i throed, a sancteiddia hi. 12 A dwg Aaron a’i feibion i ddrws pabell y cyfarfod, a golch hwynt â dwfr. 13 A gwisg am Aaron y gwisgoedd sanctaidd; ac eneinia ef, a sancteiddia ef, i offeiriadu i mi. 14 Dwg hefyd ei feibion ef, a gwisg hwynt â pheisiau. 15 Ac eneinia hwynt, megis yr eneiniaist eu tad hwynt, i offeiriadu i mi: felly bydd eu heneiniad iddynt yn offeiriadaeth dragwyddol, trwy eu cenedlaethau. 16 Felly Moses a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd iddo; felly y gwnaeth efe.

17 Felly yn y mis cyntaf o’r ail flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y codwyd y tabernacl. 18 A Moses a gododd y tabernacl, ac a sicrhaodd ei forteisiau, ac a osododd i fyny ei ystyllod, ac a roddes i mewn ei farrau, ac a gododd ei golofnau; 19 Ac a ledodd y babell‐len ar y tabernacl, ac a osododd do’r babell‐len arni oddi arnodd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

20 Cymerodd hefyd a rhoddodd y dystiolaeth yn yr arch, a gosododd y trosolion wrth yr arch, ac a roddodd y drugareddfa i fyny ar yr arch. 21 Ac efe a ddug yr arch i’r tabernacl, ac a osododd y wahanlen orchudd, i orchuddio arch y dystiolaeth; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

22 Ac efe a roddodd y bwrdd o fewn pabell y cyfarfod, ar ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, o’r tu allan i’r wahanlen. 23 Ac efe a drefnodd yn drefnus arno ef y bara, gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

24 Ac efe a osododd y canhwyllbren o fewn pabell y cyfarfod, ar gyfer y bwrdd, ar ystlys y tabernacl, o du’r deau. 25 Ac efe a oleuodd y lampau gerbron yr Arglwydd; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

26 Efe a osododd hefyd yr allor aur ym mhabell y cyfarfod, o flaen y wahanlen. 27 Ac a arogldarthodd arni arogl‐darth peraidd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

28 Ac efe a osododd y gaeadlen ar ddrws y tabernacl. 29 Ac efe a osododd allor y poethoffrwm wrth ddrws tabernacl pabell y cyfarfod; ac a offrymodd arni boethoffrwm a bwyd‐offrwm; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 Efe a osododd y noe hefyd rhwng pabell y cyfarfod a’r allor, ac a roddodd yno ddwfr i ymolchi. 31 A Moses, ac Aaron, a’i feibion, a olchasant yno eu dwylo a’u traed. 32 Pan elent i babell y cyfarfod, a phan nesaent at yr allor, yr ymolchent; fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 33 Ac efe a gododd y cynteddfa o amgylch y tabernacl a’r allor, ac a roddodd gaeadlen ar borth y cynteddfa. Felly y gorffennodd Moses y gwaith.

34 Yna cwmwl a orchuddiodd babell y cyfarfod: a gogoniant yr Arglwydd a lanwodd y tabernacl. 35 Ac ni allai Moses fyned i babell y cyfarfod; am fod y cwmwl yn aros arni, a gogoniant yr Arglwydd yn llenwi’r tabernacl. 36 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y tabernacl, y cychwynnai meibion Israel i’w holl deithiau. 37 Ac oni chyfodai’r cwmwl, yna ni chychwynnent hwy hyd y dydd y cyfodai. 38 Canys cwmwl yr Arglwydd ydoedd ar y tabernacl y dydd, a thân ydoedd arno y nos, yng ngolwg holl dŷ Israel, yn eu holl deithiau hwynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.