Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 30-32

30 Gwna hefyd allor i arogldarthu arogldarth: o goed Sittim y gwnei di hi. Yn gufydd ei hyd, ac yn gufydd ei lled, (pedeirongl fydd hi,) ac yn ddau gufydd ei huchder: ei chyrn fyddant o’r un. A gwisg hi ag aur coeth, ei chefn a’i hystlysau o amgylch, a’i chyrn: a gwna hefyd iddi goron o aur o amgylch. A gwna iddi ddwy fodrwy aur oddi tan ei choron, wrth ei dwy gongl: ar ei dau ystlys y gwnei hwynt; fel y byddant i wisgo am drosolion, i’w dwyn hi arnynt. A’r trosolion a wnei di o goed Sittim: a gwisg hwynt ag aur. A gosod hi o flaen y wahanlen sydd wrth arch y dystiolaeth; o flaen y drugareddfa sydd ar y dystiolaeth, lle y cyfarfyddaf â thi. Ac arogldarthed Aaron arni arogldarth llysieuog bob bore: pan daclo efe y lampau, yr arogldartha efe. A phan oleuo Aaron y lampau yn y cyfnos, arogldarthed arni arogl‐darth gwastadol gerbron yr Arglwydd, trwy eich cenedlaethau. Nac offrymwch arni arogl‐darth dieithr, na phoethoffrwm, na bwyd‐offrwm; ac na thywelltwch ddiod‐offrwm arni. 10 A gwnaed Aaron gymod ar ei chyrn hi unwaith yn y flwyddyn, â gwaed pech-aberth y cymod: unwaith yn y flwyddyn y gwna efe gymod arni trwy eich cenedlaethau: sancteiddiolaf i’r Arglwydd yw hi.

11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Pan rifech feibion Israel, dan eu rhifedi; yna rhoddant bob un iawn am ei einioes i’r Arglwydd, pan rifer hwynt: fel na byddo pla yn eu plith, pan rifer hwynt. 13 Hyn a ddyry pob un a elo dan rif. Hanner sicl, yn ôl sicl y cysegr: ugain gera yw y sicl: hanner sicl fydd yn offrwm i’r Arglwydd. 14 Pob un a elo dan rif, o fab ugeinmlwydd ac uchod, a rydd offrwm i’r Arglwydd. 15 Ni rydd y cyfoethog fwy, ac ni rydd y tlawd lai, na hanner sicl, wrth roddi offrwm i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau. 16 A chymer yr arian cymod gan feibion Israel, a dod hwynt i wasanaeth pabell y cyfarfod; fel y byddant yn goffadwriaeth i feibion Israel gerbron yr Arglwydd, i wneuthur cymod dros eich eneidiau.

17 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 18 Gwna noe bres, a’i throed o bres, i ymolchi: a dod hi rhwng pabell y cyfarfod a’r allor: a dod ynddi ddwfr. 19 A golched Aaron a’i feibion ohoni eu dwylo a’u traed. 20 Pan ddelont i babell y cyfarfod, ymolchant â dwfr, fel na byddont feirw; neu pan ddelont wrth yr allor i weini, gan arogldarthu aberth tanllyd i’r Arglwydd. 21 Golchant eu dwylo a’u traed, fel na byddont feirw: a bydded hyn iddynt yn ddeddf dragwyddol, iddo ef, ac i’w had, trwy eu cenedlaethau.

22 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 23 Cymer i ti ddewis lysiau, o’r myrr pur, bwys pum can sicl, a hanner hynny o’r sinamon peraidd, sef pwys deucant a deg a deugain o siclau, ac o’r calamus peraidd pwys deucant a deg a deugain o siclau; 24 Ac o’r casia pwys pum cant o siclau, yn ôl sicl y cysegr; a hin o olew olewydden. 25 A gwna ef yn olew eneiniad sanctaidd, yn ennaint cymysgadwy o waith yr apothecari: olew eneiniad sanctaidd fydd efe. 26 Ac eneinia ag ef babell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, 27 Y bwrdd hefyd a’i holl lestri, a’r canhwyllbren a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth. 28 Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed. 29 A chysegra hwynt, fel y byddant yn sancteiddiolaf: pob peth a gyffyrddo â hwynt, a fydd sanctaidd. 30 Eneinia hefyd Aaron a’i feibion, a chysegra hwynt, i offeiriadu i mi. 31 A llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Olew eneiniad sanctaidd a fydd hwn i mi, trwy eich cenedlaethau. 32 Nac eneinier ag ef gnawd dyn, ac ar ei waith ef na wnewch ei fath: sanctaidd yw, bydded sanctaidd gennych. 33 Pwy bynnag a gymysgo ei fath, a’r hwn a roddo ohono ef ar ddyn dieithr, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

34 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Cymer i ti lysiau peraidd, sef stacte, ac onycha, a galbanum; y llysiau hyn, a thus pur; yr un faint o bob un. 35 A gwna ef yn arogl‐darth aroglber o waith yr apothecari, wedi ei gyd‐dymheru, yn bur ac yn sanctaidd. 36 Gan guro cur yn fân beth ohono, a dod ohono ef gerbron y dystiolaeth o fewn pabell y cyfarfod, lle y cyfarfyddaf â thi: sancteiddiolaf fydd efe i chwi. 37 A’r arogl‐darth a wnelech, na wnewch i chwi eich hunain ei fath ef: bydded gennyt yn sanctaidd i’r Arglwydd. 38 Pwy bynnag a wnêl ei fath ef, i arogli ohono, a dorrir ymaith oddi wrth ei bobl.

31 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Gwêl, mi a elwais wrth ei enw ar Besaleel fab Uri, fab Hur, o lwyth Jwda; Ac a’i llenwais ef ag ysbryd Duw, mewn doethineb, ac mewn deall, ac mewn gwybodaeth hefyd, ac ym mhob rhyw waith, I ddychmygu cywreinrwydd, i weithio mewn aur, ac mewn arian, ac mewn pres, Ac mewn cyfarwyddyd, i osod meini, ac mewn saernïaeth pren, i weithio ym mhob gwaith. Ac wele, mi a roddais gydag ef Aholïab fab Achisamach, o lwyth Dan: ac yng nghalon pob doeth o galon y rhoddais ddoethineb i wneuthur yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. Pabell y cyfarfod, ac arch y dystiolaeth, a’r drugareddfa yr hon sydd arni, a holl lestri y babell, A’r bwrdd a’i lestri, a’r canhwyllbren pur a’i holl lestri, ac allor yr arogl‐darth, Ac allor y poethoffrwm a’i holl lestri, a’r noe a’i throed, 10 A gwisgoedd y weinidogaeth, a’r gwisgoedd sanctaidd i Aaron yr offeiriad, a gwisgoedd ei feibion ef, i offeiriadu ynddynt, 11 Ac olew yr eneiniad, a’r arogl‐darth peraidd i’r cysegr; a wnânt yn ôl yr hyn oll a orchmynnais wrthyt. 12 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses gan ddywedyd, 13 Llefara hefyd wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Diau y cedwch fy Sabothau: canys arwydd yw rhyngof fi a chwithau, trwy eich cenedlaethau; i wybod mai myfi yw yr Arglwydd, sydd yn eich sancteiddio. 14 Am hynny cedwch y Saboth; oblegid sanctaidd yw i chwi: llwyr rodder i farwolaeth yr hwn a’i halogo ef; oherwydd pwy bynnag a wnelo waith arno, torrir ymaith yr enaid hwnnw o blith ei bobl. 15 Chwe diwrnod y gwneir gwaith, ac ar y seithfed dydd y mae Saboth gorffwystra sanctaidd i’r Arglwydd: pwy bynnag a wnelo waith y seithfed dydd, llwyr rodder ef i farwolaeth. 16 Am hynny cadwed meibion Israel y Saboth, gan gynnal Saboth trwy eu cenedlaethau, yn gyfamod tragwyddol. 17 Rhyngof fi a meibion Israel, y mae yn arwydd tragwyddol, mai mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear; ac mai ar y seithfed dydd y peidiodd, ac y gorffwysodd efe.

18 Ac efe a roddodd i Moses, wedi iddo orffen llefaru wrtho ym mynydd Sinai, ddwy lech y dystiolaeth; sef llechau o gerrig, wedi eu hysgrifennu â bys Duw.

32 Pan welodd y bobl fod Moses yn oedi dyfod i waered o’r mynydd; yna yr ymgasglodd y bobl at Aaron, ac y dywedasant wrtho, Cyfod, gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. A dywedodd Aaron wrthynt, Tynnwch y clustlysau aur sydd wrth glustiau eich gwragedd, a’ch meibion, a’ch merched, a dygwch ataf fi. A’r holl bobl a dynasant y clustlysau aur oedd wrth eu clustiau, ac a’u dygasant at Aaron. Ac efe a’u cymerodd o’u dwylo, ac a’i lluniodd â chŷn, ac a’i gwnaeth yn llo tawdd: a hwy a ddywedasant, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddug di i fyny o wlad yr Aifft. A phan ei gwelodd Aaron, efe a adeiladodd allor ger ei fron ef: ac Aaron a gyhoeddodd, ac a ddywedodd, Y mae gŵyl i’r Arglwydd yfory. A hwy a godasant yn fore drannoeth, ac a offrymasant boethoffrymau, ac a ddygasant aberthau hedd: a’r bobl a eisteddasant i fwyta ac i yfed, ac a godasant i fyny i chwarae.

A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda, dos i waered: canys ymlygrodd dy bobl a ddygaist i fyny o dir yr Aifft. Buan y ciliasant o’r ffordd a orchmynnais iddynt: gwnaethant iddynt lo tawdd, ac addolasant ef, ac aberthasant iddo; dywedasant hefyd, Dyma dy dduwiau di, Israel, y rhai a’th ddygasant i fyny o wlad yr Aifft. Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 10 Am hynny yn awr gad i mi lonydd, fel yr enynno fy llid yn eu herbyn, ac y difethwyf hwynt: a mi a’th wnaf di yn genhedlaeth fawr. 11 A Moses a ymbiliodd gerbron yr Arglwydd ei Dduw, ac a ddywedodd, Paham, Arglwydd, yr enynna dy ddigofaint yn erbyn dy bobl, y rhai a ddygaist allan o wlad yr Aifft, trwy nerth mawr, a llaw gadarn? 12 Paham y caiff yr Eifftiaid lefaru, gan ddywedyd, Mewn malais y dygodd efe hwynt allan, i’w lladd yn y mynyddoedd, ac i’w difetha oddi ar wyneb y ddaear? Tro oddi wrth angerdd dy ddigofaint, a bydded edifar gennyt y drwg a amcenaist i’th bobl. 13 Cofia Abraham, Isaac, ac Israel, dy weision, y rhai y tyngaist wrthynt i ti dy hun, ac y dywedaist wrthynt, Mi a amlhaf eich had chwi fel sêr y nefoedd; a’r holl wlad yma yr hon a ddywedais, a roddaf i’ch had chwi, a hwy a’i hetifeddant byth. 14 Ac edifarhaodd ar yr Arglwydd am y drwg a ddywedasai efe y gwnâi i’w bobl.

15 A Moses a drodd, ac a ddaeth i waered o’r mynydd, a dwy lech y dystiolaeth yn ei law: y llechau a ysgrifenasid o’u dau du; hwy a ysgrifenasid o bob tu. 16 A’r llechau hynny oedd o waith Duw: yr ysgrifen hefyd oedd ysgrifen Duw yn ysgrifenedig ar y llechau. 17 A phan glywodd Josua sŵn y bobl yn bloeddio, efe a ddywedodd wrth Moses, Y mae sŵn rhyfel yn y gwersyll. 18 Yntau a ddywedodd, Nid llais bloeddio am oruchafiaeth, ac nid llais gweiddi am golli’r maes; ond sŵn canu a glywaf fi.

19 A bu, wedi dyfod ohono yn agos i’r gwersyll, iddo weled y llo a’r dawnsiau: ac enynnodd digofaint Moses: ac efe a daflodd y llechau o’i ddwylo ac a’u torrodd hwynt islaw y mynydd. 20 Ac efe a gymerodd y llo a wnaethent hwy, ac a’i llosgodd â thân, ac a’i malodd yn llwch, ac a’i taenodd ar wyneb y dwfr, ac a’i rhoddes i’w yfed i feibion Israel. 21 A dywedodd Moses wrth Aaron, Beth a wnaeth y bobl hyn i ti, pan ddygaist arnynt bechod mor fawr? 22 A dywedodd Aaron, Nac enynned digofaint fy arglwydd: ti a adwaenost y bobl, mai ar ddrwg y maent. 23 Canys dywedasant wrthyf, Gwna i ni dduwiau i fyned o’n blaen: canys y Moses hwn, y gŵr a’n dug ni i fyny o wlad yr Aifft, ni wyddom beth a ddaeth ohono. 24 A dywedais wrthynt, I’r neb y mae aur, tynnwch ef: a hwy a’i rhoddasant i mi: a mi a’i bwriais yn tân, a daeth y llo hwn allan.

25 A phan welodd Moses fod y bobl yn noeth, (canys Aaron a’u noethasai hwynt, i’w gwaradwyddo ymysg eu gelynion;) 26 Yna y safodd Moses ym mhorth y gwersyll, ac a ddywedodd, Pwy sydd ar du’r Arglwydd? deued ataf fi. A holl feibion Lefi a ymgasglasant ato ef. 27 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel; Gosodwch bob un ei gleddyf ar ei glun, ac ewch, cyniweiriwch o borth i borth trwy’r gwersyll, a lleddwch bob un ei frawd, a phob un ei gyfaill, a phob un ei gymydog. 28 A meibion Lefi a wnaethant yn ôl gair Moses: a chwympodd o’r bobl y dydd hwnnw ynghylch tair mil o wŷr. 29 Canys dywedasai Moses, Cysegrwch eich llaw heddiw i’r Arglwydd, bob un ar ei fab, ac ar ei frawd; fel y rhodder heddiw i chwi fendith.

30 A thrannoeth y dywedodd Moses wrth y bobl, Chwi a bechasoch bechod mawr: ac yn awr mi a af i fyny at yr Arglwydd; ond odid mi a wnaf gymod dros eich pechod chwi. 31 A Moses a ddychwelodd at yr Arglwydd, ac a ddywedodd, Och! pechodd y bobl hyn bechod mawr, ac a wnaethant iddynt dduwiau o aur. 32 Ac yn awr, os maddeui eu pechod; ac os amgen, dilea fi, atolwg, allan o’th lyfr a ysgrifennaist. 33 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Pwy bynnag a bechodd i’m herbyn, hwnnw a ddileaf allan o’m llyfr. 34 Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod. 35 A’r Arglwydd a drawodd y bobl, am iddynt wneuthur y llo a wnaethai Aaron.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.