Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 11-13

11 A’r bobl, fel tuchanwyr, oeddynt flin yng nghlustiau yr Arglwydd: a chlywodd yr Arglwydd hyn; a’i ddig a enynnodd; a thân yr Arglwydd a gyneuodd yn eu mysg hwynt, ac a ysodd gwr y gwersyll. A llefodd y bobl ar Moses: a gweddïodd Moses ar yr Arglwydd; a’r tân a ddiffoddodd. Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw, Tabera: am gynnau o dân yr Arglwydd yn eu mysg hwy.

A’r lliaws cymysg yr hwn ydoedd yn eu mysg a flysiasant yn ddirfawr: a meibion Israel hefyd a ddychwelasant, ac a wylasant, ac a ddywedasant, Pwy a rydd i ni gig i’w fwyta? Cof yw gennym y pysgod yr oeddem yn ei fwyta yn yr Aifft yn rhad, y cucumerau, a’r pompionau, a’r cennin, a’r winwyn, a’r garlleg: Ond yr awr hon y mae ein heneidiau ni yn gwywo, heb ddim ond y manna yn ein golwg. A’r manna hwnnw oedd fel had coriander, a’i liw fel lliw bdeliwm. Y bobl a aethant o amgylch, ac a’i casglasant ac a’i malasant mewn melinau, neu a’i curasant mewn morter, ac a’i berwasant mewn peiriau, ac a’i gwnaethant yn deisennau: a’i flas ydoedd fel blas olew ir. A phan ddisgynnai’r gwlith y nos ar y gwersyll, disgynnai’r manna arno ef.

10 A chlybu Moses y bobl yn wylo trwy eu tylwythau, bob un yn nrws ei babell: ac enynnodd dig yr Arglwydd yn fawr; a drwg oedd gan Moses. 11 Dywedodd Moses hefyd wrth yr Arglwydd, Paham y drygaist dy was? a phaham na chawn ffafr yn dy olwg, gan i ti roddi baich yr holl bobl hyn arnaf? 12 Ai myfi a feichiogais ar yr holl bobl hyn? ai myfi a’u cenhedlais, fel y dywedech wrthyf, Dwg hwynt yn dy fynwes, (megis y dwg tadmaeth y plentyn sugno,) i’r tir a addewaist trwy lw i’w tadau? 13 O ba le y byddai gennyf fi gig i’w roddi i’r holl bobl hyn? canys wylo y maent wrthyf, gan ddywedyd, Dod i ni gig i’w fwyta. 14 Ni allaf fi fy hunan arwain yr holl bobl hyn; canys rhy drwm ydyw i mi. 15 Ac os felly y gwnei i mi, atolwg, gan ladd lladd fi, os cefais ffafr yn dy olwg di; fel na welwyf fy nrygfyd.

16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Casgl i mi ddengwr a thrigain o henuriaid Israel, y rhai a wyddost eu bod yn henuriaid y bobl, ac yn swyddogion arnynt; a dwg hwynt i babell y cyfarfod, a safant yno gyda thi. 17 Canys disgynnaf, a llefaraf wrthyt yno: a mi a gymeraf o’r ysbryd sydd arnat ti, ac a’i gosodaf arnynt hwy; felly y dygant gyda thi faich y bobl, fel na ddygech di ef yn unig. 18 Am hynny dywed wrth y bobl, Ymsancteiddiwch erbyn yfory, a chewch fwyta cig: canys wylasoch yng nghlustiau yr Arglwydd, gan ddywedyd, Pwy a ddyry i ni gig i’w fwyta? canys yr ydoedd yn dda arnom yn yr Aifft: am hynny y rhydd yr Arglwydd i chwi gig, a chwi a fwytewch. 19 Nid un dydd y bwytewch, ac nid dau, ac nid pump o ddyddiau, ac nid deg diwrnod, ac nid ugain diwrnod; 20 Ond hyd fis o ddyddiau, hyd oni ddêl allan o’ch ffroenau, a’i fod yn ffiaidd gennych: am i chwi ddirmygu’r Arglwydd yr hwn sydd yn eich plith, ac wylo ohonoch yn ei ŵydd ef, gan ddywedyd Paham y daethom allan o’r Aifft? 21 A dywedodd Moses, Chwe chan mil o wŷr traed yw y bobl yr ydwyf fi yn eu plith; a thi a ddywedi, Rhoddaf gig iddynt i’w fwyta fis o ddyddiau. 22 Ai y defaid a’r gwartheg a leddir iddynt, fel y byddo digon iddynt? ai holl bysg y môr a gesglir ynghyd iddynt, fel y byddo digon iddynt? 23 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, A gwtogwyd llaw yr Arglwydd? yr awr hon y cei di weled a ddigwydd fy ngair i ti, ai na ddigwydd.

24 A Moses a aeth allan ac a draethodd eiriau yr Arglwydd wrth y bobl, ac a gasglodd y dengwr a thrigain o henuriaid y bobl, ac a’u gosododd hwynt o amgylch y babell. 25 Yna y disgynnodd yr Arglwydd mewn cwmwl, ac a lefarodd wrtho; ac a gymerodd o’r ysbryd oedd arno, ac a’i rhoddes i’r deg hynafgwr a thrigain. A thra y gorffwysai’r ysbryd arnynt, y proffwydent, ac ychwaneg ni wnaent. 26 A dau o’r gwŷr a drigasant yn y gwersyll, (enw un ydoedd Eldad, enw y llall Medad:) a gorffwysodd yr ysbryd arnynt hwy, am eu bod hwy o’r rhai a ysgrifenasid; ond nid aethant i’r babell, eto proffwydasant yn y gwersyll. 27 A rhedodd llanc, a mynegodd i Moses, ac a ddywedodd, Y mae Eldad a Medad yn proffwydo yn y gwersyll. 28 A Josua mab Nun, gweinidog Moses o’i ieuenctid, a atebodd ac a ddywedodd Moses, fy arglwydd, gwahardd iddynt. 29 A dywedodd Moses wrtho, Ai cenfigennu yr ydwyt ti drosof fi? O na byddai holl bobl yr Arglwydd yn broffwydi, a rhoddi o’r Arglwydd ei ysbryd arnynt! 30 A Moses a aeth i’r gwersyll, efe a henuriaid Israel.

31 Ac fe aeth gwynt oddi wrth yr Arglwydd, ac a ddug soflieir oddi wrth y môr, ac a’u taenodd wrth y gwersyll, megis taith diwrnod ar y naill du, a thaith diwrnod ar y tu arall o amgylch y gwersyll, a hynny ynghylch dau gufydd, ar wyneb y ddaear. 32 Yna y cododd y bobl y dydd hwnnw oll, a’r nos oll, a’r holl ddydd drannoeth, ac a gasglasant y soflieir: yr hwn a gasglodd leiaf, a gasglodd ddeg homer: a chan daenu y taenasant hwynt iddynt eu hunain o amgylch y gwersyll. 33 A’r cig oedd eto rhwng eu dannedd hwynt heb ei gnoi, pan enynnodddigofaintyr Arglwydd yn erbyn y bobl; a’r Arglwydd a drawodd y bobl â phla mawr iawn. 34 Ac efe a alwodd enw y lle hwnnw Cibroth‐Hattaafa; am iddynt gladdu yno y bobl a flysiasent. 35 O Feddau y blys yr aeth y bobl i Haseroth; ac arosasant yn Haseroth.

12 Llefarodd Miriam hefyd ac Aaron yn erbyn Moses, o achos y wraig o Ethiopia yr hon a briodasai efe: canys efe a gymerasai Ethiopes yn wraig. A dywedasant, Ai yn unig trwy Moses y llefarodd yr Arglwydd? oni lefarodd efe trwom ninnau hefyd? A’r Arglwydd a glybu hynny. A’r gŵr Moses ydoedd larieiddiaf o’r holl ddynion oedd ar wyneb y ddaear. A dywedodd yr Arglwydd yn ddisymwth wrth Moses, ac wrth Aaron, ac wrth Miriam, Deuwch allan eich trioedd i babell y cyfarfod. A hwy a aethant allan ill trioedd. Yna y disgynnodd yr Arglwydd yng ngholofn y cwmwl, ac a safodd wrth ddrws y babell, ac a alwodd Aaron a Miriam. A hwy a aethant allan ill dau. Ac efe a ddywedodd, Gwrandewch yr awr hon fy ngeiriau. Os bydd proffwyd yr Arglwydd yn eich mysg, mewn gweledigaeth yr ymhysbysaf iddo, neu mewn breuddwyd y llefaraf wrtho. Nid felly y mae fy ngwas Moses, yr hwn sydd ffyddlon yn fy holl dŷ. Wyneb yn wyneb y llefaraf wrtho, mewn gwelediad, nid mewn damhegion; ond caiff edrych ar wedd yr Arglwydd: paham gan hynny nad oeddech yn ofni dywedyd yn erbyn fy ngwas, sef yn erbyn Moses? A digofaint yr Arglwydd a enynnodd yn eu herbyn hwynt; ac efe a aeth ymaith. 10 A’r cwmwl a ymadawodd oddi ar y babell: ac wele, Miriam ydoedd wahanglwyfus, fel yr eira. Ac edrychodd Aaron ar Miriam; ac wele hi yn wahanglwyfus. 11 Yna y dywedodd Aaron wrth Moses, O fy arglwydd, atolwg, na osod yn ein herbyn y pechod yr hwn yn ynfyd a wnaethom, a thrwy yr hwn y pechasom. 12 Na fydded hi, atolwg, fel un marw, yr hwn y bydd hanner ei gnawd wedi ei ddifa pan ddêl allan o groth ei fam. 13 A Moses a waeddodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, O Dduw, atolwg, meddyginiaetha hi yr awr hon.

14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Os ei thad a boerai yn ei hwyneb, oni chywilyddiai hi saith niwrnod? caeer arni saith niwrnod o’r tu allan i’r gwersyll ac wedi hynny derbynier hi. 15 A chaewyd ar Miriam o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: a’r bobl ni chychwynnodd hyd oni ddaeth Miriam i mewn drachefn. 16 Ac wedi hynny yr aeth y bobl o Haseroth, ac a wersyllasant yn anialwch Paran.

13 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Anfon i ti wŷr i edrych tir Canaan, yr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel: gŵr dros bob un o lwythau eu tadau a anfonwch; pob un yn bennaeth yn eu mysg hwynt. A Moses a’u hanfonodd hwynt o anialwch Paran, wrth orchymyn yr Arglwydd: penaethiaid meibion Israel oedd y gwŷr hynny oll. A dyma eu henwau hwynt. Dros lwyth Reuben, Sammua mab Saccur. Dros lwyth Simeon, Saffat mab Hori. Dros lwyth Jwda, Caleb mab Jeffunne. Dros lwyth Issachar, Igal mab Joseff. Dros lwyth Effraim, Osea mab Nun. Dros lwyth Benjamin, Palti mab Raffu. 10 Dros lwyth Sabulon, Gadiel mab Sodi. 11 O lwyth Joseff, dros lwyth Manasse, Gadi mab Susi. 12 Dros lwyth Dan, Amiel mab Gemali. 13 Dros lwyth Aser, Sethur mab Michael. 14 Dros lwyth Nafftali, Nahbi mab Foffsi. 15 Dros lwyth Gad, Geuel mab Maci. 16 Dyma enwau y gwŷr a anfonodd Moses i edrych ansawdd y wlad. A Moses a enwodd Osea mab Nun, Josua.

17 A Moses a’u hanfonodd hwynt i edrych ansawdd gwlad Canaan; ac a ddywedodd wrthynt, Ewch yma tua’r deau, a dringwch i’r mynydd. 18 Ac edrychwch y wlad beth yw hi, a’r bobl sydd yn trigo ynddi, pa un ai cryf ai gwan, ai ychydig ai llawer ydynt: 19 A pheth yw y tir y maent yn trigo ynddo, ai da ai drwg; ac ym mha ddinasoedd y maent yn preswylio, ai mewn pebyll, ai mewn amddiffynfeydd; 20 A pha dir, ai bras yw efe ai cul; a oes coed ynddo, ai nad oes. Ac ymwrolwch, a dygwch o ffrwyth y tir. A’r dyddiau oeddynt ddyddiau blaenffrwyth grawnwin.

21 A hwy a aethant i fyny, ac a chwiliasant y tir, o anialwch Sin hyd Rehob, ffordd y deuir i Hamath. 22 Ac a aethant i fyny i’r deau, ac a ddaethant hyd Hebron: ac yno yr oedd Ahiman, Sesai, a Thalmai, meibion Anac. (A Hebron a adeiladasid saith mlynedd o flaen Soan yn yr Aifft.) 23 A daethant hyd ddyffryn Escol; a thorasant oddi yno gangen ag un swp o rawnwin, ac a’i dygasant ar drosol rhwng dau: dygasant rai o’r pomgranadau hefyd, ac o’r ffigys. 24 A’r lle hwnnw a alwasant dyffryn Escol; o achos y swp grawnwin a dorrodd meibion Israel oddi yno. 25 A hwy a ddychwelasant o chwilio’r wlad ar ôl deugain niwrnod.

26 A myned a wnaethant, a dyfod at Moses ac at Aaron, ac at holl gynulleidfa meibion Israel, i Cades, yn anialwch Paran; a dygasant yn eu hôl air iddynt, ac i’r holl gynulleidfa, ac a ddangosasant iddynt ffrwyth y tir. 27 A mynegasant iddo, a dywedasant, Daethom i’r tir lle yr anfonaist ni; ac yn ddiau llifeirio y mae o laeth a mêl: a dyma ei ffrwyth ef. 28 Ond y mae y bobl sydd yn trigo yn y tir yn gryfion, a’r dinasoedd yn gaerog ac yn fawrion iawn; a gwelsom yno hefyd feibion Anac. 29 Yr Amaleciaid sydd yn trigo yn nhir y deau; a’r Hethiaid, a’r Jebusiaid, a’r Amoriaid, yn gwladychu yn y mynydd‐dir; a’r Canaaneaid yn preswylio wrth y môr, a cherllaw yr Iorddonen. 30 A gostegodd Caleb y bobl gerbron Moses, ac a ddywedodd, Gan fyned awn i fyny, a pherchenogwn hi: canys gan orchfygu y gorchfygwn hi. 31 Ond y gwŷr y rhai a aethant i fyny gydag ef a ddywedasant, Ni allwn ni fyned i fyny yn erbyn y bobl; canys cryfach ydynt na nyni. 32 A rhoddasant allan anghlod am y tir a chwiliasent, wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Y tir yr aethom drosto i’w chwilio, tir yn difa ei breswylwyr yw efe; a’r holl bobl a welsom ynddo ydynt wŷr corffol: 33 Ac yno y gwelsom y cewri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cewri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.