Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 8-10

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Llefara wrth Aaron, a dywed wrtho, Pan oleuech y lampau, llewyrched y saith lamp ar gyfer y canhwyllbren. Ac felly y gwnaeth Aaron; ar gyfer y canhwyllbren y goleuodd efe ei lampau ef, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. Dyma waith y canhwyllbren: cyfanwaith o aur fydd hyd ei baladr, ie, hyd ei flodau cyfanwaith fydd; yn ôl y dull a ddangosodd yr Arglwydd i Moses, felly y gwnaeth efe y canhwyllbren.

Llefarodd yr Arglwydd hefyd wrth Moses, gan ddywedyd, Cymer y Lefiaid o fysg meibion Israel, a glanha hwynt. Ac fel hyn y gwnei iddynt i’w glanhau: taenella arnynt ddwfr puredigaeth, a gwnânt i’r ellyn fyned dros eu holl gnawd, a golchant eu gwisgoedd, ac felly ymlanhânt. Yna cymerant fustach ieuanc a’i fwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; a bustach ieuanc arall a gymeri di yn aberth dros bechod. A phâr i’r Lefiaid ddyfod o flaen pabell y cyfarfod; a chynnull holl gynulleidfa meibion Israel ynghyd. 10 A dwg y Lefiaid gerbron yr Arglwydd; a gosoded meibion Israel eu dwylo ar y Lefiaid. 11 Ac offrymed Aaron y Lefiaid gerbron yr Arglwydd, yn offrwm gan feibion Israel, fel y byddont hwy i wasanaethu gwasanaeth yr Arglwydd. 12 A gosoded y Lefiaid eu dwylo ar ben y bustych: ac offrwm dithau un yn bech‐aberth a’r llall yn offrwm poeth i’r Arglwydd, i wneuthur cymod dros y Lefiaid. 13 A gosod y Lefiaid gerbron Aaron, a cherbron ei feibion, ac offrwm hwynt yn offrwm i’r Arglwydd. 14 A neilltua’r Lefiaid o blith meibion Israel, a bydded y Lefiaid yn eiddof fi. 15 Wedi hynny aed y Lefiaid i mewn i wasanaethu pabell y cyfarfod; a glanha di hwynt, ac offryma hwynt yn offrwm. 16 Canys hwynt a roddwyd yn rhodd i mi o blith meibion Israel: yn lle agorydd pob croth, sef pob cyntaf‐anedig o feibion Israel, y cymerais hwynt i mi. 17 Canys i mi y perthyn pob cyntaf‐anedig ymhlith meibion Israel, o ddyn ac o anifail: er y dydd y trewais bobcyntaf‐anedig yng ngwlad yr Aifft, y sancteiddiais hwynt i mi fy hun. 18 A chymerais y Lefiaid yn lle pob cyntaf‐anedig o feibion Israel. 19 A rhoddais y Lefiaid yn rhodd i Aaron, ac i’w feibion, o blith meibion Israel, i wasanaethu gwasanaeth meibion Israel ym mhabell y cyfarfod, ac i wneuthur cymod dros feibion Israel; fel na byddo pla ar feibion Israel, pan ddelo meibion Israel yn agos at y cysegr. 20 A gwnaeth Moses ac Aaron, a holl gynulleidfa meibion Israel, i’r Lefiaid, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid: felly y gwnaeth meibion Israel iddynt. 21 A’r Lefiaid a lanhawyd, ac a olchasant eu dillad: ac Aaron a’u hoffrymodd hwynt yn offrwm gerbron yr Arglwydd: a gwnaeth Aaron gymod drostynt i’w glanhau hwynt. 22 Ac wedi hynny y Lefiaid a ddaethant i wasanaethu gwasanaeth ym mhabell y cyfarfod, gerbron Aaron a’i feibion; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses am y Lefiaid, felly y gwnaethant iddynt.

23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 24 Dyma’r hyn a berthyn i’r Lefiaid: o fab pum mlwydd ar hugain ac uchod, y deuant i filwrio milwriaeth yng ngwasanaeth pabell y cyfarfod. 25 Ac o fab dengmlwydd a deugain y caiff un ddychwelyd yn ei ôl o filwriaeth y gwasanaeth, fel na wasanaetho mwy. 26 Ond gwasanaethed gyda’i frodyr ym mhabell y cyfarfod, i oruchwylio; ac na wasanaethed wasanaeth: fel hyn y gwnei i’r Lefiaid yn eu goruchwyliaeth.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yn anialwch Sinai, yn yr ail flwyddyn wedi eu dyfod hwynt allan o dir yr Aifft, ar y mis cyntaf, gan ddywedyd, Cadwed meibion Israel y Pasg hefyd yn ei dymor. Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn, yn y cyfnos, y cedwch ef yn ei dymor: yn ôl ei holl ddeddfau, ac yn ôl ei holl ddefodau, y cedwch ef. A llefarodd Moses wrth feibion Israel am gadw y Pasg. A chadwasant y Pasg ar y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, yn y cyfnos, yn anialwch Sinai: yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses, felly y gwnaeth meibion Israel.

Ac yr oedd dynion, y rhai oedd wedi eu halogi wrth gelain dyn, fel na allent gadw y Pasg ar y dydd hwnnw: a hwy a ddaethant gerbron Moses, a cherbron Aaron, ar y dydd hwnnw. A’r dynion hynny a ddywedasant wrtho, Yr ydym ni wedi ein halogi wrth gorff dyn marw: paham y’n gwaherddir rhag offrymu offrwm i’r Arglwydd yn ei dymor ymysg meibion Israel? A dywedodd Moses wrthynt, Sefwch, a mi a wrandawaf beth a orchmynno’r Arglwydd o’ch plegid.

A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 10 Llefara wrth feibion Israel, gan ddywedyd, Pan fyddo neb wedi ei halogi gan gorff marw, neu neb ohonoch neu o’ch hiliogaeth mewn ffordd bell, eto cadwed Basg i’r Arglwydd. 11 Ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r ail fis. yn y cyfnos, y cadwant ef: ynghyd â bara croyw a dail chwerwon y bwytânt ef. 12 Na weddillant ddim ohono hyd y bore, ac na thorrant asgwrn ohono: yn ôl holl ddeddf y Pasg y cadwant ef. 13 A’r gŵr a fyddo glân, ac heb fod mewn taith, ac a beidio â chadw y Pasg, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl, am na offrymodd offrwm yr Arglwydd yn ei dymor: ei bechod a ddwg y gŵr hwnnw. 14 A phan ymdeithio dieithr gyda chwi, ac ewyllysio cadw Pasg i’r Arglwydd; fel y byddo deddf y Pasg a’i ddefod, felly y ceidw: yr un ddeddf fydd i chwi, sef i’r dieithr ac i’r un fydd â’i enedigaeth o’r wlad.

15 Ac ar y dydd y codwyd y tabernacl, y cwmwl a gaeodd am y tabernacl dros babell y dystiolaeth; a’r hwyr yr ydoedd ar y tabernacl megis gwelediad tân hyd y bore. 16 Felly yr ydoedd yn wastadol; y cwmwl a gaeai amdano y dydd, a’r gwelediad tân y nos. 17 A phan gyfodai’r cwmwl oddi ar y babell, wedi hynny y cychwynnai meibion Israel: ac yn y lle yr arhosai y cwmwl ynddo, yno y gwersyllai meibion Israel. 18 Wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnai meibion Israel, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent: yr holl ddyddiau yr arhosai y cwmwl ar y tabernacl, yr arhosent yn y gwersyll. 19 A phan drigai y cwmwl yn hir ar y tabernacl lawer o ddyddiau, yna meibion Israel a gadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, ac ni chychwynnent. 20 Ac os byddai’r cwmwl ychydig ddyddiau ar y tabernacl, wrth orchymyn yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth orchymyn yr Arglwydd y cychwynnent. 21 Hefyd os byddai’r cwmwl o hwyr hyd fore, a chyfodi o’r cwmwl y bore, hwythau a symudent: pa un bynnag ai dydd ai nos fyddai pan gyfodai’r cwmwl, yna y cychwynnent. 22 Os deuddydd, os mis, os blwyddyn fyddai, tra y trigai’r cwmwl ar y tabernacl, gan aros arno, meibion Israel a arhosent yn eu pebyll, ac ni chychwynnent: ond pan godai efe, y cychwynnent. 23 Wrth air yr Arglwydd y gwersyllent, ac wrth air yr Arglwydd y cychwynnent: felly y cadwent wyliadwriaeth yr Arglwydd, yn ôl gair yr Arglwydd trwy law Moses.

10 Allefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Gwna i ti ddau utgorn arian; yn gyfanwaith y gwnei hwynt: a byddant i ti i alw y gynulleidfa ynghyd, ac i beri i’r gwersylloedd gychwyn. A phan ganant â hwynt, yr ymgasgl yr holl gynulleidfa atat, wrth ddrws pabell y cyfarfod. Ond os ag un y canant; yna y tywysogion sef penaethiaid miloedd Israel, a ymgasglant. Pan ganoch larwm; yna y gwersylloedd y rhai a wersyllant tua’r dwyrain, a gychwynnant. Pan ganoch larwm yr ail waith; yna y gwersylloedd, y rhai a wersyllant tua’r deau, a gychwynnant: larwm a ganant hwy wrth eu cychwyn. Ac wrth alw ynghyd y gynulleidfa, cenwch yr utgyrn; ond na chenwch larwm. A meibion Aaron, yr offeiriaid, a ganant ar yr utgyrn; a byddant i chwi yn ddeddf dragwyddol trwy eich cenedlaethau Hefyd pan eloch i ryfel yn eich gwlad yn erbyn y gorthrymwr a’ch gorthrymo chwi; cenwch larwm mewn utgyrn: yna y coffeir chwi gerbron yr Arglwydd eich Duw, ac yr achubir chwi rhag eich gelynion. 10 Ar ddydd eich llawenydd hefyd, ac ar eich gwyliau gosodedig, ac ar ddechrau eich misoedd, y cenwch ar yr utgyrn uwchben eich offrymau poeth, ac uwchben eich aberthau hedd; a byddant i chwi yn goffadwriaeth gerbron eich Duw: myfi yw yr Arglwydd eich Duw.

11 A bu yn yr ail flwyddyn, ar yr ail fis, ar yr ugeinfed dydd o’r mis, gyfodi o’r cwmwl oddi ar dabernacl y dystiolaeth. 12 A meibion Israel a gychwynasant i’w taith o anialwch Sinai; a’r cwmwl a arhosodd yn anialwch Paran. 13 Felly y cychwynasant y waith gyntaf, wrth air yr Arglwydd trwy law Moses.

14 Ac yn gyntaf y cychwynnodd lluman gwersyll meibion Jwda yn ôl eu lluoedd: ac ar ei lu ef yr ydoedd Nahson mab Aminadab. 15 Ac ar lu llwyth meibion Issachar, Nethaneel mab Suar. 16 Ac ar lu llwyth meibion Sabulon, Elïab mab Helon. 17 Yna y tynnwyd i lawr y tabernacl; a meibion Gerson a meibion Merari a gychwynasant, gan ddwyn y tabernacl.

18 Yna y cychwynnodd lluman gwersyll Reuben yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Elisur mab Sedeur. 19 Ac ar lu llwyth meibion Simeon, Selumiel mab Surisadai. 20 Ac ar lu llwyth meibion Gad, Eliasaff mab Deuel. 21 A’r Cohathiaid a gychwynasant, gan ddwyn y cysegr; a’r lleill a godent y tabernacl, tra fyddent hwy yn dyfod.

22 Yna lluman gwersyll meibion Effraim a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr oedd ar ei lu ef Elisama mab Ammihud. 23 Ac ar lu llwyth meibion Manasse, Gamaliel mab Pedasur. 24 Ac ar lu llwyth meibion Benjamin, Abidan mab Gideoni.

25 Yna lluman gwersyll meibion Dan, yn olaf o’r holl wersylloedd, a gychwynnodd yn ôl eu lluoedd: ac yr ydoedd ar ei lu ef Ahieser mab Ammisadai. 26 Ac ar lu llwyth meibion Aser, Pagiel mab Ocran. 27 Ac ar lu llwyth meibion Nafftali, Ahira mab Enan. 28 Dyma gychwyniadau meibion Israel yn ôl eu lluoedd, pan gychwynasant.

29 A dywedodd Moses wrth Hobab, mab Raguel y Midianiad, chwegrwn Moses, Myned yr ydym i’r lle am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd, Rhoddaf hwnnw i chwi: tyred gyda ni, a gwnawn ddaioni i ti; canys llefarodd yr Arglwydd ddaioni am Israel. 30 Dywedodd yntau wrtho, Nid af ddim; ond i’m gwlad fy hun, ac at fy nghenedl fy hun, yr af. 31 Ac efe a ddywedodd, Na ad ni, atolwg; canys ti a adwaenost ein gwersyllfaoedd yn yr anialwch, ac a fyddi yn lle llygaid i ni, 32 A phan ddelych gyda ni, a dyfod o’r daioni hwnnw, yr hwn a wna’r Arglwydd i ni, ninnau a wnawn ddaioni i tithau.

33 A hwy a aethant oddi wrth fynydd yr Arglwydd daith tri diwrnod: ac arch cyfamod yr Arglwydd oedd yn myned o’u blaen hwynt daith tri diwrnod, i chwilio am orffwysfa iddynt. 34 A chwmwl yr Arglwydd oedd arnynt y dydd, pan elent o’r gwersyll. 35 A hefyd pan gychwynnai yr arch, Moses a ddywedai, Cyfod, Arglwydd, a gwasgarer dy elynion; a ffoed dy gaseion o’th flaen. 36 A phan orffwysai hi, y dywedai efe, Dychwel, Arglwydd, at fyrddiwn miloedd Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.