Chronological
22 Os lladrata un ych neu ddafad, a’i ladd, neu ei werthu; taled bum ych am ych, a phedair dafad am ddafad.
2 Os ceir lleidr yn torri tŷ, a’i daro fel y byddo farw; na choller gwaed amdano. 3 Os bydd yr haul wedi codi arno, coller gwaed amdano; efe a ddyly gwbl dalu: oni bydd dim ganddo, gwerther ef am ei ladrad. 4 Os gan gael y ceir yn ei law ef y lladrad yn fyw, o eidion, neu asyn, neu ddafad; taled yn ddwbl.
5 Os pawr un faes, neu winllan, a gyrru ei anifail i bori maes un arall; taled o’r hyn gorau yn ei faes ei hun, ac o’r hyn gorau yn ei winllan ei hun.
6 Os tân a dyr allan, ac a gaiff afael mewn drain, fel y difaer das o ŷd, neu ŷd ar ei droed, neu faes; cwbl daled yr hwn a gyneuodd y tân.
7 Os rhydd un i’w gymydog arian, neu ddodrefn i gadw, a’i ladrata o dŷ y gŵr; os y lleidr a geir, taled yn ddwbl: 8 Os y lleidr ni cheir, dyger perchennog y tŷ at y swyddogion i dyngu, a estynnodd efe ei law ar dda ei gymydog. 9 Am bob math ar gamwedd, am eidion, am asyn, am ddafad, am ddilledyn, ac am bob peth a gollo yr hwn a ddywedo arall ei fod yn eiddo: deued achos y ddau gerbron y barnwyr; a’r hwn y barno’r swyddogion yn ei erbyn, taled i’w gymydog yn ddwbl. 10 Os rhydd un asyn, neu eidion, neu ddafad, neu un anifail, at ei gymydog i gadw, a marw ohono, neu ei friwo, neu ei yrru ymaith heb neb yn gweled: 11 Bydded llw yr Arglwydd rhyngddynt ill dau, na roddes efe ei law at dda ei gymydog; a chymered ei berchennog hynny, ac na wnaed y llall iawn. 12 Ac os gan ladrata y lladrateir ef oddi wrtho; gwnaed iawn i’w berchennog. 13 Os gan ysglyfaethu yr ysglyfaethir ef; dyged ef yn dystiolaeth, ac na thaled am yr hwn a ysglyfaethwyd.
14 Ond os benthycia un gan ei gymydog ddim, a’i friwo, neu ei farw, heb fod ei berchennog gydag ef; gan dalu taled. 15 Os ei berchennog fydd gydag ef, na thaled: os llog yw efe, am ei log y daeth.
16 Ac os huda un forwyn yr hon ni ddyweddïwyd, a gorwedd gyda hi; gan gynysgaeddu cynysgaedded hi yn wraig iddo ei hun. 17 Os ei thad a lwyr wrthyd ei rhoddi hi iddo taled arian yn ôl gwaddol morynion.
18 Na chaffed hudoles fyw.
19 Llwyr rodder i farwolaeth bob un a orweddo gydag anifail.
20 Lladder yn farw a abertho i dduwiau, onid i’r Arglwydd yn unig.
21 Na orthryma, ac na flina y dieithr: canys dieithriaid fuoch chwithau yn nhir yr Aifft.
22 Na chystuddiwch un weddw, nac amddifad. 23 Os cystuddiwch hwynt mewn un modd, a gweiddi ohonynt ddim arnaf; mi a lwyr wrandawaf eu gwaedd hwynt; 24 A’m digofaint a ennyn, a mi a’ch lladdaf â’r cleddyf; a bydd eich gwragedd yn weddwon, a’ch plant yn amddifaid.
25 Os echwynni arian i’m pobl sydd dlawd yn dy ymyl, na fydd fel ocrwr iddynt: na ddod usuriaeth arnynt. 26 Os cymeri ddilledyn dy gymydog ar wystl, dyro ef adref iddo erbyn machludo haul: 27 Oherwydd hynny yn unig sydd i’w roddi arno ef; hwnnw yw ei ddilledyn am ei groen ef: mewn pa beth y gorwedd? A bydd, os gwaedda efe arnaf, i mi wrando; canys trugarog ydwyf fi.
28 Na chabla’r swyddogion; ac na felltithia bennaeth dy bobl.
29 Nac oeda dalu y cyntaf o’th ffrwythau aeddfed, ac o’th bethau gwlybion: dod i mi y cyntaf‐anedig o’th feibion. 30 Felly y gwnei am dy eidion, ac am dy ddafad; saith niwrnod y bydd gyda’i fam, a’r wythfed dydd y rhoddi ef i mi.
31 A byddwch yn ddynion sanctaidd i mi: ac na fwytewch gig wedi ei ysglyfaethu yn y maes; teflwch ef i’r ci.
23 Na chyfod enllib; na ddod dy law gyda’r annuwiol i fod yn dyst anwir.
2 Na ddilyn liaws i wneuthur drwg; ac nac ateb mewn ymrafael, gan bwyso yn ôl llaweroedd, i ŵyro barn.
3 Na pharcha’r tlawd chwaith yn ei ymrafael.
4 Os cyfarfyddi ag eidion dy elyn, neu â’i asyn, yn myned ar gyfrgoll; dychwel ef adref iddo. 5 Os gweli asyn yr hwn a’th gasâ yn gorwedd dan ei bwn; a beidi â’i gynorthwyo? gan gynorthwyo cynorthwya gydag ef. 6 Na ŵyra farn dy dlawd yn ei ymrafael. 7 Ymgadw ymhell oddi wrth gam fater: na ladd chwaith na’r gwirion na’r cyfiawn: canys ni chyfiawnhaf fi yr annuwiol.
8 Na dderbyn wobr: canys gwobr a ddalla y rhai sydd yn gweled, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.
9 Na orthryma’r dieithr: chwi a wyddoch galon y dieithr; oherwydd chwi a fuoch ddieithriaid yn nhir yr Aifft. 10 Chwe blynedd yr heui dy dir, ac y cesgli ei ffrwyth: 11 A’r seithfed paid ag ef, a gad ef yn llonydd; fel y caffo tlodion dy bobl fwyta: a bwytaed bwystfil y maes eu gweddill hwynt. Felly y gwnei am dy winllan, ac am dy olewydden. 12 Chwe diwrnod y gwnei dy waith; ac ar y seithfed dydd y gorffwysi: fel y caffo dy ych a’th asyn lonyddwch, ac y cymero mab dy forwyn gaeth, a’r dieithr ddyn, ei anadl ato. 13 Ac ymgedwch ym mhob peth a ddywedais wrthych: na chofiwch enw duwiau eraill; na chlywer hynny o’th enau.
14 Tair gwaith yn y flwyddyn y cedwi ŵyl i mi. 15 Gŵyl y bara croyw a gedwi: saith niwrnod y bwytei fara croyw, fel y gorchmynnais i ti, ar yr amser gosodedig o fis Abib: canys ynddo y daethost allan o’r Aifft: ac nac ymddangosed neb ger fy mron yn waglaw: 16 A gŵyl cynhaeaf blaenffrwyth dy lafur, yr hwn a heuaist yn y maes; a gŵyl y cynnull yn niwedd y flwyddyn, pan gynullech dy lafur o’r maes. 17 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys dy holl wrywiaid gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 18 Nac abertha waed fy aberth gyda bara lefeinllyd; ac nac arhoed braster fy aberth dros nos hyd y bore. 19 Dwg i dŷ’r Arglwydd dy Dduw y cyntaf o flaenffrwyth dy dir. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam.
20 Wele fi yn anfon angel o’th flaen i’th gadw ar y ffordd, ac i’th arwain i’r man a baratoais. 21 Gwylia rhagddo, a gwrando ar ei lais ef; na chyffroa ef: canys ni ddioddef eich anwiredd: oblegid y mae fy enw ynddo ef. 22 Os gan wrando y gwrandewi ar ei lais ef, a gwneuthur y cwbl a lefarwyf; mi a fyddaf elyn i’th elynion, ac a wrthwynebaf dy wrthwynebwyr. 23 Oherwydd fy angel a â o’th flaen di, ac a’th ddwg di i mewn at yr Amoriaid, a’r Hethiaid, a’r Pheresiaid, a’r Canaaneaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; a mi a’u difethaf hwynt. 24 Nac ymgryma i’w duwiau hwynt, ac na wasanaetha hwynt, ac na wna yn ôl eu gweithredoedd hwynt; ond llwyr ddinistria hwynt, dryllia eu delwau hwynt yn gandryll. 25 A chwi a wasanaethwch yr Arglwydd eich Duw, ac efe a fendithia dy fara, a’th ddwfr; a mi a dynnaf ymaith bob clefyd o’th fysg.
26 Ni bydd yn dy dir di ddim yn erthylu, na heb hilio: mi a gyflawnaf rifedi dy ddyddiau. 27 Mi a anfonaf fy arswyd o’th flaen, ac a ddifethaf yr holl bobl y deui atynt, ac a wnaf i’th holl elynion droi eu gwarrau atat. 28 A mi a anfonaf gacwn o’th flaen, a hwy a yrrant yr Hefiaid, a’r Canaaneaid, a’r Hethiaid, allan o’th flaen di. 29 Ni yrraf hwynt allan o’th flaen di mewn un flwyddyn; rhag bod y wlad yn anghyfannedd, ac i fwystfilod y maes amlhau yn dy erbyn di. 30 O fesur ychydig ac ychydig y gyrraf hwynt allan o’th flaen di, nes i ti gynyddu ac etifeddu’r tir. 31 A gosodaf dy derfyn o’r môr coch hyd fôr y Philistiaid, ac o’r diffeithwch hyd yr afon: canys mi a roddaf yn eich meddiant breswylwyr y tir; a thi a’u gyrri hwynt allan o’th flaen. 32 Na wna amod â hwynt, nac â’u duwiau. 33 Na ad iddynt drigo yn dy wlad; rhag iddynt beri i ti bechu i’m herbyn: canys os gwasanaethi di eu duwiau hwynt, diau y bydd hynny yn dramgwydd i ti.
24 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Tyred i fyny at yr Arglwydd, ti ac Aaron, Nadab ac Abihu, a’r deg a thrigain o henuriaid Israel; ac addolwch o hirbell. 2 Ac aed Moses ei hun at yr Arglwydd; ac na ddelont hwy, ac nac aed y bobl i fyny gydag ef.
3 A Moses a ddaeth, ac a fynegodd i’r bobl holl eiriau yr Arglwydd, a’r holl farnedigaethau. Ac atebodd yr holl bobl yn unair, ac a ddywedasant, Ni a wnawn yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd. 4 A Moses a ysgrifennodd holl eiriau yr Arglwydd; ac a gododd yn fore, ac a adeiladodd allor islaw y mynydd, a deuddeg colofn, yn ôl deuddeg llwyth Israel. 5 Ac efe a anfonodd lanciau meibion Israel; a hwy a offrymasant boethoffrymau, ac a aberthasant fustych yn ebyrth hedd i’r Arglwydd. 6 A chymerodd Moses hanner y gwaed, ac a’i gosododd mewn cawgiau, a hanner y gwaed a daenellodd efe ar yr allor. 7 Ac efe a gymerth lyfr y cyfamod, ac a’i darllenodd lle y clywai’r bobl. A dywedasant, Ni a wnawn, ac a wrandawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. 8 A chymerodd Moses y gwaed, ac a’i taenellodd ar y bobl; ac a ddywedodd, Wele waed y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi, yn ôl yr holl eiriau hyn.
9 Yna yr aeth Moses i fyny, ac Aaron, Nadab ac Abihu, a deg a thrigain o henuriaid Israel. 10 A gwelsant Dduw Israel; a than ei draed megis gwaith o faen saffir, ac fel corff y nefoedd o ddisgleirder. 11 Ac ni roddes ei law ar bendefigion meibion Israel; ond gwelsant Dduw, a bwytasant ac yfasant.
12 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Tyred i fyny ataf i’r mynydd, a bydd yno: a mi a roddaf i ti lechau cerrig, a chyfraith, a gorchmynion, y rhai a ysgrifennais, i’w dysgu hwynt. 13 A chododd Moses, a Josua ei weinidog; ac aeth Moses i fyny i fynydd Duw. 14 Ac wrth yr henuriaid y dywedodd, Arhoswch ni yma, hyd oni ddelom ni atoch drachefn: ac wele, Aaron a Hur gyda chwi; pwy bynnag a fyddo ag achos iddo, deued atynt hwy. 15 A Moses a aeth i fyny i’r mynydd; a chwmwl a orchuddiodd y mynydd. 16 A gogoniant yr Arglwydd a arhodd ar fynydd Sinai, a’r cwmwl a’i gorchuddiodd chwe diwrnod: ac efe a alwodd am Moses y seithfed dydd o ganol y cwmwl. 17 A’r golwg ar ogoniant yr Arglwydd oedd fel tân yn difa ar ben y mynydd, yng ngolwg meibion Israel. 18 A Moses a aeth i ganol y cwmwl, ac a aeth i fyny i’r mynydd: a bu Moses yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.