Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 25-27

25 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, Dywed wrth feibion Israel, am ddwyn ohonynt i mi offrwm: gan bob gŵr ewyllysgar ei galon y cymerwch fy offrwm. A dyma yr offrwm a gymerwch ganddynt; aur, ac arian, a phres, A sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, a lliain main, a blew geifr, A chrwyn hyrddod yn gochion, a chrwyn daearfoch, a choed Sittim, Olew i’r goleuni, llysieuau i olew yr ennaint, ac i’r perarogl‐darth, Meini onics, a meini i’w gosod yn yr effod, ac yn y ddwyfronneg. A gwnânt i mi gysegr; fel y gallwyf drigo yn eu mysg hwynt. Yn ôl holl waith y tabernacl, a gwaith ei holl ddodrefn y rhai yr ydwyf yn eu dangos i ti, felly y gwnewch.

10 A gwnânt arch o goed Sittim, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled, a chufydd a hanner ei huchder. 11 A gwisg hi ag aur coeth; o fewn ac oddi allan y gwisgi hi: a gwna arni goron o aur o amgylch. 12 Bwrw iddi hefyd bedair modrwy aur, a dod ar ei phedair congl; dwy fodrwy ar un ystlys iddi, a dwy fodrwy ar yr ystlys arall iddi. 13 A gwna drosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur. 14 A gosod y trosolion trwy’r modrwyau gan ystlys yr arch, i ddwyn yr arch arnynt. 15 Ym modrwyau yr arch y bydd y trosolion; na symuder hwynt oddi wrthi. 16 A dod yn yr arch y dystiolaeth a roddaf i ti. 17 A gwna drugareddfa o aur coeth, o ddau gufydd a hanner ei hyd, a chufydd a hanner ei lled. 18 A gwna ddau geriwb o aur; o gyfanwaith morthwyl y gwnei hwynt, yn nau gwr y drugareddfa. 19 Un ceriwb a wnei yn y naill ben, a’r ceriwb arall yn y pen arall: o’r drugareddfa ar ei dau ben hi y gwnewch y ceriwbiaid. 20 A bydded y ceriwbiaid yn lledu eu hesgyll i fyny, gan orchuddio’r drugareddfa â’u hesgyll, a’u hwynebau bob un at ei gilydd: tua’r drugareddfa y bydd wynebau y ceriwbiaid. 21 A dod y drugareddfa i fyny ar yr arch, ac yn yr arch dod y dystiolaeth a roddaf i ti. 22 A mi a gyfarfyddaf â thi yno, ac a lefaraf wrthyt oddi ar y drugareddfa, oddi rhwng y ddau geriwb y rhai a fyddant ar arch y dystiolaeth, yr holl bethau a orchmynnwyf wrthyt i feibion Israel.

23 A gwna di fwrdd o goed Sittim, o ddau gufydd ei hyd, a chufydd ei led, a chufydd a hanner ei uchder. 24 A gosod aur coeth drosto, a gwna iddo goron o aur o amgylch. 25 A gwna iddo wregys o led llaw o amgylch, a gwna goron aur ar ei wregys o amgylch. 26 A gwna iddo bedair modrwy o aur, a dod y modrwyau wrth y pedair congl y rhai a fyddant ar ei bedwar troed. 27 Ar gyfer cylch y bydd y modrwyau, yn lleoedd i’r trosolion i ddwyn y bwrdd. 28 A gwna y trosolion o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur, fel y dyger y bwrdd arnynt. 29 A gwna ei ddysglau ef, a’i lwyau, a’i gaeadau, a’i ffiolau, y rhai y tywelltir â hwynt: o aur coeth y gwnei hwynt. 30 A dod ar y bwrdd y bara dangos gerbron fy wyneb yn wastadol.

31 Gwna hefyd ganhwyllbren: o aur pur yn gyfanwaith y gwneir y canhwyllbren; ei baladr, ei geinciau, ei bedyll, ei gnapiau, a’i flodau, a fyddant o’r un. 32 A bydd chwe chainc yn dyfod allan o’i ystlysau; tair cainc o’r canhwyllbren o un tu, a thair cainc o’r canhwyllbren o’r tu arall. 33 Tair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar un gainc; a thair padell o waith almonau, cnap a blodeuyn ar gainc arall: felly ar y chwe chainc a fyddo yn dyfod allan o’r canhwyllbren. 34 Ac yn y canhwyllbren y bydd pedair padell ar waith almonau, a’u cnapiau a’u blodau. 35 A bydd cnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, a chnap dan ddwy gainc ohono, yn ôl y chwe chainc a ddeuant o’r canhwyllbren. 36 Eu cnapiau a’u ceinciau a fyddant o’r un: y cwbl fydd aur coeth o un cyfanwaith morthwyl. 37 A thi a wnei ei saith lusern ef, ac a oleui ei lusernau ef, fel y goleuo efe ar gyfer ei wyneb. 38 A bydded ei efeiliau a’i gafnau o aur coeth. 39 O dalent o aur coeth y gwnei ef, a’r holl lestri hyn. 40 Ond gwêl wneuthur yn ôl eu portreiad hwynt, a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

26 Y tabernacl hefyd a wnei di o ddeg llen o liain main cyfrodedd, ac o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad: yn geriwbiaid o gywreinwaith y gwnei hwynt. Hyd un llen fydd wyth gufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd: yr un mesur a fydd i’r holl lenni. Pum llen a fyddant ynglŷn bob un wrth ei gilydd; a phum llen eraill a fyddant ynglŷn wrth ei gilydd. A gwna ddolennau o sidan glas ar ymyl un llen, ar y cwr, yn y cydiad; ac felly y gwnei ar ymyl eithaf llen arall, yn yr ail gydiad. Deg dolen a deugain a wnei di i un llen, a deg dolen a deugain a wnei ar gwr y llen a fyddo yn yr ail gydiad: y dolennau a dderbyniant bob un ei gilydd. Gwna hefyd ddeg bach a deugain o aur, a chydia â’r bachau y llenni bob un wrth ei gilydd; fel y byddo yn un tabernacl.

A gwna lenni o flew geifr, i fod yn babell‐len ar y tabernacl: un llen ar ddeg a wnei. Hyd un llen fydd deg cufydd ar hugain, a lled un llen fydd pedwar cufydd; a’r un mesur fydd i’r un llen ar ddeg. A chydia bum llen wrthynt eu hun, a chwe llen wrthynt eu hun; a dybla’r chweched len ar gyfer wyneb y babell‐len. 10 A gwna ddeg dolen a deugain ar ymyl y naill len, ar y cwr, yn y cydiad cyntaf; a deg dolen a deugain ar ymyl y llen arall, yn yr ail gydiad. 11 A gwna ddeg bach a deugain o bres; a dod y bachau yn y dolennau, a chlyma’r babell‐len, fel y byddo yn un. 12 A’r gweddill a fyddo dros ben o lenni’r babell‐len, sef yr hanner llen weddill, a fydd yng ngweddill ar du cefn y tabernacl; 13 Fel y byddo o’r gweddill gufydd o’r naill du, a chufydd o’r tu arall, o hyd y babell‐len: bydded hynny dros ddau ystlys y tabernacl, o’r tu yma ac o’r tu acw, i’w orchuddio. 14 A gwna do i’r babell‐len o grwyn hyrddod wedi eu lliwio yn gochion, a tho o grwyn daearfoch yn uchaf.

15 A gwna i’r tabernacl ystyllod o goed Sittim, yn eu sefyll. 16 Deg cufydd fydd hyd ystyllen, a chufydd a hanner cufydd fydd lled pob ystyllen. 17 Bydded dau dyno i un bwrdd, wedi eu gosod mewn trefn, bob un ar gyfer ei gilydd: felly y gwnei am holl fyrddau’r tabernacl. 18 A gwna ystyllod i’r tabernacl, ugain ystyllen o’r tu deau tua’r deau. 19 A gwna ddeugain mortais arian dan yr ugain ystyllen; dwy fortais dan un ystyllen i’w dau dyno, a dwy fortais dan ystyllen arall i’w dau dyno. 20 A gwna i ail ystlys y tabernacl, o du’r gogledd, ugain ystyllen, 21 A deugain mortais o arian; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall. 22 Hefyd i ystlys y tabernacl, o du’r gorllewin, y gwnei chwech ystyllen. 23 A dwy ystyllen a wnei i gonglau’r tabernacl, yn y ddau ystlys. 24 A byddant wedi eu cysylltu oddi tanodd; byddant hefyd wedi eu cydgydio oddi arnodd wrth un fodrwy: felly y bydd iddynt ill dau; i’r ddwy gongl y byddant. 25 A byddant yn wyth ystyllen, a’u morteisiau arian yn un fortais ar bymtheg; dwy fortais dan un ystyllen, a dwy fortais dan ystyllen arall.

26 Gwna hefyd farrau o goed Sittim, pump i ystyllod un ystlys i’r tabernacl, 27 A phum bar i ystyllod ail ystlys y tabernacl, a phum bar i ystyllod ystlys y tabernacl i’r ddau ystlys tua’r gorllewin. 28 A’r bar canol yng nghanol yr ystyllod, a gyrraedd o gwr i gwr. 29 Gosod hefyd aur dros yr ystyllod, a gwna eu modrwyau o aur, i osod y barrau trwyddynt: gwisg y barrau hefyd ag aur. 30 A chyfod y tabernacl wrth ei bortreiad, yr hwn a ddangoswyd i ti yn y mynydd.

31 A gwna wahanlen o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd: â cheriwbiaid o waith cywraint y gwnei hi. 32 A dod hi ar bedair colofn o goed Sittim wedi eu gwisgo ag aur; a’u pennau o aur, ar bedair mortais arian.

33 A dod y wahanlen wrth y bachau, fel y gellych ddwyn yno, o fewn y wahanlen, arch y dystiolaeth: a’r wahanlen a wna wahan i chwi rhwng y cysegr a’r cysegr sancteiddiolaf. 34 Dod hefyd y drugareddfa ac arch y dystiolaeth yn y cysegr sancteiddiolaf. 35 A gosod y bwrdd o’r tu allan i’r i’r wahanlen, a’r canhwyllbren gyferbyn â’r bwrdd ar y tu deau i’r tabernacl: a dod y bwrdd ar du’r gogledd. 36 A gwna gaeadlen i ddrws y babell o sidan glas, a phorffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wnïadwaith. 37 A gwna i’r gaeadlen bum colofn o goed Sittim, a gwisg hwynt ag aur; a’u pennau fydd o aur: a bwrw iddynt bum mortais bres.

27 Gwna hefyd allor o goed Sittim, o bum cufydd o hyd, a phum cufydd o led: yn bedeirongl y bydd yr allor, a’i huchder o dri chufydd. A gwna ei chyrn ar ei phedair congl: o’r un y bydd ei chyrn: a gwisg hi â phres. Gwna hefyd iddi bedyll i dderbyn ei lludw, a’i rhawiau, a’i chawgiau, a’i chigweiniau, a’i phedyll tân: ei holl lestri a wnei o bres. A gwna iddi alch o bres, ar waith rhwyd; a gwna ar y rhwyd bedair modrwy o bres ar ei phedair congl. A dod hi dan amgylchiad yr allor oddi tanodd, fel y byddo’r rhwyd hyd hanner yr allor. A gwna drosolion i’r allor, sef trosolion o goed Sittim; a gwisg hwynt â phres. A dod ei throsolion trwy’r modrwyau; a bydded y trosolion ar ddau ystlys yr allor, i’w dwyn hi. Gwna hi ag ystyllod yn gau: fel y dangoswyd i ti yn y mynydd, felly y gwnânt hi.

A gwna gynteddfa’r tabernacl ar y tu deau, tua’r deau: llenni’r cynteddfa a fyddant liain main cyfrodedd, o gan cufydd o hyd, i un ystlys. 10 A’i hugain colofn, a’u hugain mortais, fydd o bres: pennau y colofnau, a’u cylchau, fydd o arian. 11 Felly o du’r gogledd ar hyd, y bydd llenni o gan cufydd o hyd, a’u hugain colofn, a’u hugain mortais, o bres; a phennau’r colofnau, a’u cylchau, o arian.

12 Ac i led y cynteddfa, o du’r gorllewin, y bydd llenni o ddeg cufydd a deugain: eu colofnau fyddant ddeg, a’u morteisiau yn ddeg. 13 A lled y cynteddfa, tua’r dwyrain, o godiad haul, a fydd ddeg cufydd a deugain. 14 Y llenni o’r naill du a fyddant bymtheg cufydd; eu colofnau yn dair, a’u morteisiau yn dair. 15 Ac i’r ail du y bydd pymtheg llen; eu tair colofn, a’u tair mortais.

16 Ac i borth y cynteddfa y gwneir caeadlen o ugain cufydd, o sidan glas, porffor, ac ysgarlad, ac o liain main cyfrodedd o wniadwaith; eu pedair colofn, a’u pedair mortais. 17 Holl golofnau’r cynteddfa o amgylch a gylchir ag arian; a’u pennau yn arian, a’u morteisiau yn bres.

18 Hyd y cynteddfa fydd gan cufydd, a’i led yn ddeg a deugain o bob tu; a phum cufydd o uchder o liain main cyfrodedd, a’u morteisiau o bres. 19 Holl lestri’r tabernacl yn eu holl wasanaeth, a’i holl hoelion hefyd, a holl hoelion y cynteddfa, fyddant o bres.

20 A gorchymyn dithau i feibion Israel ddwyn ohonynt atat bur olew yr olewydden coethedig, yn oleuni, i beri i’r lamp losgi yn wastad. 21 Ym mhabell y cyfarfod, o’r tu allan i’r wahanlen, yr hon fydd o flaen y dystiolaeth, y trefna Aaron a’i feibion hwnnw, o’r hwyr hyd y bore, gerbron yr Arglwydd: deddf dragwyddol fydd, trwy eu hoesoedd, gan feibion Israel.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.