Chronological
19 Yn y trydydd mis, wedi dyfod meibion Israel allan o wlad yr Aifft, y dydd hwnnw y daethant i anialwch Sinai. 2 Canys hwy a aethant o Reffidim, ac a ddaethant i anialwch Sinai; gwersyllasant hefyd yn yr anialwch: ac yno y gwersyllodd Israel ar gyfer y mynydd. 3 A Moses a aeth i fyny at Dduw: a’r Arglwydd a alwodd arno ef o’r mynydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedi wrth dŷ Jacob, ac y mynegi wrth feibion Israel; 4 Chwi a welsoch yr hyn a wneuthum i’r Eifftiaid; y modd y codais chwi ar adenydd eryrod, ac y’ch dygais ataf fi fy hun. 5 Yn awr, gan hynny, os gan wrando y gwrandewch ar fy llais, a chadw fy nghyfamod, chwi a fyddwch yn drysor priodol i mi o flaen yr holl bobloedd: canys eiddof fi yr holl ddaear. 6 A chwi a fyddwch i mi yn frenhiniaeth o offeiriaid, ac yn genhedlaeth sanctaidd. Dyma’r geiriau a leferi di wrth feibion Israel.
7 A daeth Moses, ac a alwodd am henuriaid y bobl; ac a osododd ger eu bron hwynt yr holl eiriau hyn a orchmynasai yr Arglwydd iddo. 8 A’r holl bobl a gydatebasant, ac a ddywedasant, Nyni a wnawn yr hyn oll a lefarodd yr Arglwydd. A Moses a ddug drachefn eiriau y bobl at yr Arglwydd. 9 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Wele, mi a ddeuaf atat mewn cwmwl tew, fel y clywo’r bobl pan ymddiddanwyf â thi, ac fel y credont i ti byth. A Moses a fynegodd eiriau y bobl i’r Arglwydd.
10 Yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrth Moses, Dos at y bobl, a sancteiddia hwynt heddiw ac yfory; a golchant eu dillad, 11 A byddant barod erbyn y trydydd dydd: oherwydd y trydydd dydd y disgyn yr Arglwydd yng ngolwg yr holl bobl ar fynydd Sinai. 12 A gosod derfyn i’r bobl o amgylch, gan ddywedyd, Gwyliwch arnoch, rhag myned i fyny i’r mynydd, neu gyffwrdd â’i gwr ef: pwy bynnag a gyffyrddo â’r mynydd a leddir yn farw. 13 Na chyffyrdded llaw ag ef, ond gan labyddio llabyddier ef, neu gan saethu saether ef; pa un bynnag ai dyn ai anifail fyddo, ni chaiff fyw: pan gano’r utgorn yn hirllaes, deuant i’r mynydd.
14 A Moses a ddisgynnodd o’r mynydd at y bobl, ac a sancteiddiodd y bobl; a hwy a olchasant eu dillad. 15 Ac efe a ddywedodd wrth y bobl, Byddwch barod erbyn y trydydd dydd; nac ewch yn agos at eich gwragedd. 16 A’r trydydd dydd, ar y boreddydd, yr oedd taranau, a mellt, a chwmwl tew ar y mynydd, a llais yr utgorn ydoedd gryf iawn; fel y dychrynodd yr holl bobl oedd yn y gwersyll. 17 A Moses a ddug y bobl allan o’r gwersyll i gyfarfod â Duw; a hwy a safasant yng ngodre’r mynydd. 18 A mynydd Sinai oedd i gyd yn mygu, oherwydd disgyn o’r Arglwydd arno mewn tân: a’i fwg a ddyrchafodd fel mwg ffwrn, a’r holl fynydd a grynodd yn ddirfawr. 19 Pan ydoedd llais yr utgorn yn hir, ac yn cryfhau fwyfwy, Moses a lefarodd; a Duw a atebodd mewn llais. 20 A’r Arglwydd a ddisgynnodd ar fynydd Sinai, ar ben y mynydd: a galwodd yr Arglwydd Moses i ben y mynydd; a Moses a aeth i fyny. 21 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Dos i waered, gorchymyn i’r bobl; rhag iddynt ruthro at yr Arglwydd i hylltremu, a chwympo llawer ohonynt. 22 Ac ymsancteiddied yr offeiriaid hefyd, y rhai a nesânt at yr Arglwydd; rhag i’r Arglwydd ruthro arnynt. 23 A dywedodd Moses wrth yr Arglwydd, Ni ddichon y bobl ddyfod i fyny i fynydd Sinai: oblegid ti a dystiolaethaist wrthym, gan ddywedyd, Gosod derfyn ynghylch y mynydd, a sancteiddia ef. 24 A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dos, cerdda i waered; a thyred i fyny, ac Aaron gyda thi: ond na ruthred yr offeiriaid a’r bobl, i ddyfod i fyny at yr Arglwydd; rhag iddo yntau ruthro arnynt hwy. 25 Yna yr aeth Moses i waered at y bobl, ac a ddywedodd wrthynt.
20 A Duw a lefarodd yr holl eiriau hyn, gan ddywedyd, 2 Myfi yw yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 3 Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. 4 Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear isod, nac a’r sydd yn y dwfr tan y ddaear. 5 Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw, wyf Dduw eiddigus; yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 6 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 7 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 8 Cofia y dydd Saboth, i’w sancteiddio ef. 9 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 10 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th wasanaethwr, na’th wasanaethferch, na’th anifail, na’th ddieithr ddyn a fyddo o fewn dy byrth: 11 Oherwydd mewn chwe diwrnod y gwnaeth yr Arglwydd y nefoedd a’r ddaear, y môr, a’r hyn oll sydd ynddynt; ac a orffwysodd y seithfed dydd: am hynny y bendithiodd yr Arglwydd y dydd Saboth, ac a’i sancteiddiodd ef.
12 Anrhydedda dy dad a’th fam; fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 13 Na ladd. 14 Na wna odineb. 15 Na ladrata. 16 Na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 17 Na chwennych dŷ dy gymydog, na chwennych wraig dy gymydog, na’i wasanaethwr, na’i wasanaethferch, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r sydd eiddo dy gymydog.
18 A’r holl bobl a welsant y taranau, a’r mellt, a sain yr utgorn, a’r mynydd yn mygu: a phan welodd y bobl, ciliasant, a safasant o hirbell. 19 A dywedasant wrth Moses, Llefara di wrthym ni, a nyni a wrandawn: ond na lefared Duw wrthym, rhag i ni farw. 20 A dywedodd Moses wrth y bobl, Nac ofnwch; oherwydd i’ch profi chwi y daeth Duw, ac i fod ei ofn ef ger eich bronnau, fel na phechech. 21 A safodd y bobl o hirbell; a nesaodd Moses i’r tywyllwch, lle yr ydoedd Duw.
22 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Fel hyn y dywedi wrth feibion Israel; Chwi a welsoch mai o’r nefoedd y lleferais wrthych. 23 Na wnewch gyda mi dduwiau arian, ac na wnewch i chwi dduwiau aur.
24 Gwna i mi allor bridd, ac abertha arni dy boethebyrth a’th offrymau hedd, dy ddefaid, a’th eidionau: ym mhob man lle y rhoddwyf goffadwriaeth o’m henw, y deuaf atat, ac y’th fendithiaf. 25 Ond os gwnei i mi allor gerrig, na wna hi o gerrig nadd: pan gotech dy forthwyl arni, ti a’i halogaist hi. 26 Ac na ddos i fyny ar hyd grisiau i’m hallor; fel nad amlyger dy noethni wrthi.
21 Dyma y barnedigaethau a osodi di ger eu bron hwynt. 2 Os pryni was o Hebread, gwasanaethed chwe blynedd; a’r seithfed y caiff yn rhad fyned ymaith yn rhydd. 3 Os ar ei ben ei hun y daeth, ar ei ben ei hun y caiff fyned allan: os perchen gwraig fydd efe, aed ei wraig allan gydag ef. 4 Os ei feistr a rydd wraig iddo, a hi yn planta iddo feibion, neu ferched; y wraig a’i phlant fydd eiddo ei meistr, ac aed efe allan ar ei ben ei hun. 5 Ac os gwas gan ddywedyd a ddywed, Hoff gennyf fi fy meistr, fy ngwraig, a’m plant; nid af fi allan yn rhydd: 6 Yna dyged ei feistr ef at y barnwyr; a dyged ef at y ddôr, neu at yr orsin: a thylled ei feistr ei glust ef â mynawyd; ac efe a’i gwasanaetha ef byth.
7 Ac os gwerth gŵr ei ferch yn forwyn gaeth, ni chaiff hi fyned allan fel yr êl y gweision caeth allan. 8 Os heb ryglyddu bodd yng ngolwg ei meistr y bydd hi, yr hwn a’i cymerodd hi yn ddyweddi; yna gadawed ei hadbrynu hi: ni bydd rhydd iddo ei gwerthu hi i bobl ddieithr, wedi iddo ef ei thwyllo hi. 9 Ac os i’w fab y dyweddiodd efe hi, gwnaed iddi yn ôl deddf y merched. 10 Ac os arall a brioda efe, na wnaed yn llai ei hymborth, ei dillad, na’i dyled priodas. 11 Ac os y tri hyn nis gwna efe iddi; yna aed hi allan yn rhad heb arian.
12 Rhodder i farwolaeth y neb a drawo ŵr, fel y byddo marw. 13 Ond yr hwn ni chynllwynodd, ond rhoddi o Dduw ef yn ei law ef, mi a osodaf i ti fan lle y caffo ffoi. 14 Ond os daw dyn yn rhyfygus ar ei gymydog, i’w ladd ef trwy dwyll; cymer ef i farwolaeth oddi wrth fy allor.
15 Y neb a drawo ei dad, neu ei fam, rhodder ef i farwolaeth.
16 Yr hwn a ladratao ddyn, ac a’i gwertho, neu os ceir ef yn ei law ef, rhodder ef i farwolaeth.
17 Rhodder i farwolaeth yr hwn a felltithio ei dad, neu ei fam.
18 A phan ymrysono dynion, a tharo o’r naill y llall â charreg, neu â dwrn, ac efe heb farw, ond gorfod iddo orwedd; 19 Os cyfyd efe, a rhodio allan wrth ei ffon; yna y trawydd a fydd dihangol: yn unig rhodded ei golled am ei waith, a chan feddyginiaethu meddyginiaethed ef.
20 Ac os tery un ei wasanaethwr, neu ei wasanaethferch, â gwialen, fel y byddo farw dan ei law ef; gan ddial dialer arno. 21 Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddialer arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.
22 Ac os ymrafaelia dynion, a tharo ohonynt wraig feichiog, fel yr êl ei beichiogi oddi wrthi, ac heb fod marwolaeth: gan gosbi cosber ef, fel y gosodo gŵr y wraig arno; a rhodded hynny trwy farnwyr. 23 Ac os marwolaeth fydd; rhodder einioes am einioes, 24 Llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed, 25 Llosg am losg, archoll am archoll, a chlais am glais.
26 Os tery un lygad ei wasanaethwr, neu lygad ei wasanaethferch, fel y llygro ef; gollynged ef yn rhydd am ei lygad: 27 Ac os tyr efe ymaith ddant ei wasanaethwr, neu ddant ei wasanaethferch; gollynged ef yn rhydd am ei ddant.
28 Ac os ych a gornia ŵr neu wraig, fel y byddo farw: gan labyddio llabyddier yr ych, ac na fwytaer ei gig ef; ac aed perchen yr ych yn rhydd. 29 Ond os yr ych oedd yn cornio o’r blaen, a hynny trwy dystion wedi ei hysbysu i’w berchennog; ac efe heb ei gadw ef, ond lladd ohono ŵr neu wraig: yr ych a labyddir, a’i berchennog a roddir i farwolaeth hefyd. 30 Os iawn a roddir arno, rhodded werth am ei einioes, yn ôl yr hyn oll a osoder arno. 31 Os mab a gornia efe, neu ferch a gornia efe; gwneler iddo yn ôl y farnedigaeth hon. 32 Ond os gwasanaethwr neu wasanaethferch a gornia yr ych; rhodded i’w perchennog ddeg sicl ar hugain o arian, a llabyddier yr ych.
33 Ac os egyr gŵr bydew, neu os cloddia un bydew, ac heb gau arno; a syrthio yno ych, neu asyn; 34 Perchen y pydew a dâl amdanynt: arian a dâl efe i’w perchennog; a’r anifail marw a fydd iddo yntau.
35 Ac os ych gŵr a dery ych ei gymydog, fel y byddo efe farw; yna gwerthant yr ych byw, a rhannant ei werth ef, a’r ych marw a rannant hefyd. 36 Neu os gwybuwyd ei fod ef yn ych hwyliog o’r blaen, a’i berchennog heb ei gadw ef; gan dalu taled ych am ych, a bydded y marw yn eiddo ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.