Chronological
16 A hwy a symudasant o Elim; a holl gynulleidfa meibion Israel a ddaethant i anialwch Sin, yr hwn sydd rhwng Elim a Sinai, ar y pymthegfed dydd o’r ail fis, wedi iddynt fyned allan o wlad yr Aifft. 2 A holl gynulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron yn yr anialwch. 3 A meibion Israel a ddywedasant wrthynt, O na buasem feirw trwy law yr Arglwydd yng ngwlad yr Aifft, pan oeddem yn eistedd wrth y crochanau cig, ac yn bwyta bara ein gwala: ond chwi a’n dygasoch ni allan i’r anialwch hwn, i ladd yr holl dyrfa hon â newyn.
4 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, mi a lawiaf arnoch fara o’r nefoedd: a’r bobl a ânt allan, ac a gasglant ddogn dydd yn ei ddydd; fel y gallwyf eu profi, a rodiant yn fy nghyfraith, ai nas gwnânt. 5 Ond ar y chweched dydd y darparant yr hyn a ddygant i mewn; a hynny fydd dau cymaint ag a gasglant beunydd. 6 A dywedodd Moses ac Aaron wrth holl feibion Israel, Yn yr hwyr y cewch wybod mai yr Arglwydd a’ch dug chwi allan o wlad yr Aifft. 7 Y bore hefyd y cewch weled gogoniant yr Arglwydd; am iddo glywed eich tuchan chwi yn erbyn yr Arglwydd: a pha beth ydym ni, i chwi i duchan i’n herbyn? 8 Moses hefyd a ddywedodd, Hyn fydd pan roddo yr Arglwydd i chwi yn yr hwyr gig i’w fwyta, a’r bore fara eich gwala; am glywed o’r Arglwydd eich tuchan chwi, yr hwn a wnaethoch yn ei erbyn ef: oherwydd beth ydym ni? nid yn ein herbyn ni y mae eich tuchan, ond yn erbyn yr Arglwydd.
9 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Dywed wrth holl gynulleidfa meibion Israel, Deuwch yn nes gerbron yr Arglwydd: oherwydd efe a glywodd eich tuchan chwi. 10 Ac fel yr oedd Aaron yn llefaru wrth holl gynulleidfa meibion Israel, yna yr edrychasant tua’r anialwch; ac wele, gogoniant yr Arglwydd a ymddangosodd yn y cwmwl.
11 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses, gan ddywedyd, 12 Clywais duchan meibion Israel: llefara wrthynt, gan ddywedyd, Yn yr hwyr cewch fwyta cig, a’r bore y’ch diwellir o fara: cewch hefyd wybod mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 13 Felly yn yr hwyr y soflieir a ddaethant, ac a orchuddiasant y wersyllfa; a’r bore yr oedd caenen o wlith o amgylch y gwersyll. 14 A phan gododd y gaenen wlith, wele ar hyd wyneb yr anialwch dipynnau crynion cyn faned â’r llwydrew ar y ddaear. 15 Pan welodd meibion Israel hynny, hwy a ddywedasant wrth ei gilydd, Manna yw: canys ni wyddent beth ydoedd. A dywedodd Moses wrthynt, Hwn yw y bara a roddodd yr Arglwydd i chwi i’w fwyta.
16 Hyn yw y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Cesglwch ohono bob un yn ôl ei fwyta: omer i bob un yn ôl rhifedi eich eneidiau; cymerwch bob un i’r rhai fyddant yn ei bebyll. 17 A meibion Israel a wnaethant felly; ac a gasglasant, rhai fwy, a rhai lai. 18 A phan fesurasant wrth yr omer, nid oedd gweddill i’r hwn a gasglasai lawer, ac nid oedd eisiau ar yr hwn a gasglasai ychydig: casglasant bob un yn ôl ei fwyta. 19 A dywedodd Moses wrthynt, Na weddilled neb ddim ohono hyd y bore. 20 Er hynny ni wrandawsant ar Moses, ond gado a wnaeth rhai ohono hyd y bore; ac efe a fagodd bryfed, ac a ddrewodd: am hynny Moses a ddigiodd wrthynt. 21 A hwy a’i casglasant ef bob bore, pob un yn ôl ei fwyta: a phan wresogai yr haul, efe a doddai.
22 Ac ar y chweched dydd y casglent ddau cymaint o fara, dau omer i un: a holl benaethiaid y gynulleidfa a ddaethant ac a fynegasant i Moses. 23 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Hyn yw y peth a lefarodd yr Arglwydd; Yfory y mae gorffwysfa Saboth sanctaidd i’r Arglwydd: pobwch heddiw yr hyn a boboch, a berwch yr hyn a ferwoch; a’r holl weddill, rhoddwch i gadw i chwi hyd y bore. 24 A hwy a’i cadwasant hyd y bore, fel y gorchmynasai Moses: ac ni ddrewodd, ac nid oedd pryf ynddo. 25 A dywedodd Moses, Bwytewch hwn heddiw; oblegid Saboth yw heddiw i’r Arglwydd: ni chewch hwn yn y maes heddiw. 26 Chwe diwrnod y cesglwch chwi ef; ond ar y seithfed dydd, yr hwn yw y Saboth, ni bydd efe.
27 Eto rhai o’r bobl a aethant allan ar y seithfed dydd, i gasglu; ond ni chawsant ddim. 28 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Pa hyd y gwrthodwch gadw fy ngorchmynion a’m cyfreithiau? 29 Gwelwch mai yr Arglwydd a roddodd i chwi y Saboth; am hynny efe a roddodd i chwi y chweched dydd fara dros ddau ddydd: arhoswch bawb gartref; nac aed un o’i le y seithfed dydd. 30 Felly y bobl a orffwysasant y seithfed dydd. 31 A thŷ Israel a alwasant ei enw ef Manna: ac yr oedd efe fel had coriander, yn wyn, a’i flas fel afrllad o fêl.
32 A Moses a ddywedodd, Dyma y peth a orchmynnodd yr Arglwydd; Llanw omer ohono, i’w gadw i’ch cenedlaethau; fel y gwelont y bara y porthais chwi ag ef yn yr anialwch, pan y’ch dygais allan o wlad yr Aifft. 33 A Moses a ddywedodd wrth Aaron, Cymer grochan, a dod ynddo lonaid omer o’r manna; a gosod ef gerbron yr Arglwydd yng nghadw i’ch cenedlaethau. 34 Megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i Moses, felly y gosododd Aaron ef i gadw gerbron y dystiolaeth. 35 A meibion Israel a fwytasant y manna ddeugain mlynedd, nes eu dyfod i dir cyfanheddol: manna a fwytasant nes eu dyfod i gwr gwlad Canaan. 36 A’r omer ydoedd ddegfed ran effa.
17 A holl gynulleidfa meibion Israel a aethant o anialwch Sin, wrth eu teithiau, yn ôl gorchymyn yr Arglwydd; ac a wersyllasant yn Reffidim: ac nid oedd dwfr i’r bobl i yfed. 2 Am hynny y bobl a ymgynenasant â Moses, ac a ddywedasant, Rhoddwch i ni ddwfr i yfed. A dywedodd Moses wrthynt, Paham yr ymgynhennwch â mi? Paham y temtiwch yr Arglwydd? 3 A’r bobl a sychedodd yno am ddwfr; a thuchanodd y bobl yn erbyn Moses, ac a ddywedodd, Paham y peraist i ni ddyfod i fyny o’r Aifft, i’n lladd ni, a’n plant, a’n hanifeiliaid, â syched? 4 A Moses a lefodd ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, Beth a wnaf i’r bobl hyn? ar ben ychydig eto hwy a’m llabyddiant i. 5 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Cerdda o flaen y bobl, a chymer gyda thi o henuriaid Israel: cymer hefyd dy wialen yn dy law, yr hon y trewaist yr afon â hi, a cherdda. 6 Wele, mi a safaf o’th flaen yno ar y graig yn Horeb; taro dithau y graig, a daw dwfr allan ohoni, fel y gallo’r bobl yfed. A Moses a wnaeth felly yng ngolwg henuriaid Israel. 7 Ac efe a alwodd enw y lle Massa, a Meriba; o achos cynnen meibion Israel, ac am iddynt demtio’r Arglwydd, gan ddywedyd, A ydyw yr Arglwydd yn ein plith, ai nid yw?
8 Yna y daeth Amalec, ac a ymladdodd ag Israel yn Reffidim. 9 A dywedodd Moses wrth Josua, Dewis i ni wŷr, a dos allan ac ymladd ag Amalec: yfory mi a safaf ar ben y bryn, â gwialen Duw yn fy llaw. 10 Felly Josua a wnaeth fel y dywedodd Moses wrtho; ac a ymladdodd ag Amalec: a Moses, Aaron, a Hur a aethant i fyny i ben y bryn. 11 A phan godai Moses ei law, y byddai Israel yn drechaf; a phan ollyngai ei law i lawr, Amalec a fyddai drechaf. 12 A dwylo Moses oedd drymion; a hwy a gymerasant faen, ac a’i gosodasant dano ef; ac efe a eisteddodd arno: ac Aaron a Hur a gynaliasant ei ddwylo ef, un ar y naill du, a’r llall ar y tu arall; felly y bu ei ddwylo ef sythion nes machludo yr haul. 13 A Josua a orchfygodd Amalec a’i bobl â min y cleddyf. 14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses, Ysgrifenna hyn mewn llyfr, yn goffadwriaeth; a mynega i Josua: canys gan ddileu y dileaf goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd. 15 A Moses a adeiladodd allor, ac a alwodd ei henw hi JEHOFAH‐Nissi. 16 Canys efe a ddywedodd, Oherwydd tyngu o’r Arglwydd, y bydd i’r Arglwydd ryfel yn erbyn Amalec o genhedlaeth i genhedlaeth.
18 Pan glywodd Jethro, offeiriad Midian, chwegrwn Moses, yr hyn oll a wnaethai Duw i Moses, ac i Israel ei bobl, a dwyn o’r Arglwydd Israel allan o’r Aifft; 2 Yna Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd Seffora gwraig Moses, (wedi ei hebrwng hi yn ei hôl,) 3 A’i dau fab hi; o ba rai enw un oedd Gersom: oblegid efe a ddywedasai, Dieithr fûm mewn gwlad estronol. 4 Ac enw y llall oedd Elieser: oherwydd Duw fy nhad oedd gynhorthwy i mi (eb efe), ac a’m hachubodd rhag cleddyf Pharo. 5 A Jethro, chwegrwn Moses, a ddaeth â’i feibion a’i wraig at Moses i’r anialwch, lle yr ydoedd efe yn gwersyllu gerllaw mynydd Duw. 6 Ac efe a ddywedodd wrth Moses, Myfi Jethro, dy chwegrwn di, sydd yn dyfod atat ti, a’th wraig a’i dau fab gyda hi.
7 A Moses a aeth allan i gyfarfod â’i chwegrwn; ac a ymgrymodd, ac a’i cusanodd; a chyfarchasant well bob un i’w gilydd: a daethant i’r babell. 8 A Moses a fynegodd i’w chwegrwn yr hyn oll a wnaethai yr Arglwydd i Pharo ac i’r Eifftiaid, er mwyn Israel; a’r holl flinder a gawsent ar y ffordd, ac achub o’r Arglwydd hwynt. 9 A llawenychodd Jethro oherwydd yr holl ddaioni a wnaethai yr Arglwydd i Israel; yr hwn a waredasai efe o law yr Eifftiaid. 10 A dywedodd Jethro, Bendigedig fyddo yr Arglwydd, yr hwn a’ch gwaredodd o law yr Eifftiaid, ac o law Pharo; yr hwn a waredodd y bobl oddi tan law yr Eifftiaid. 11 Yn awr y gwn mai mwy ydyw yr Arglwydd na’r holl dduwiau: oblegid yn y peth yr oeddynt falch ohono, yr oedd efe yn uwch na hwynt. 12 A Jethro, chwegrwn Moses, a gymerodd boethoffrwm ac ebyrth i Dduw: a daeth Aaron, a holl henuriaid Israel, i fwyta bara gyda chwegrwn Moses, gerbron Duw.
13 A thrannoeth Moses a eisteddodd i farnu’r bobl: a safodd y bobl gerbron Moses, o’r bore hyd yr hwyr. 14 A phan welodd chwegrwn Moses yr hyn oll yr ydoedd efe yn ei wneuthur i’r bobl, efe a ddywedodd, Pa beth yw hyn yr wyt ti yn ei wneuthur i’r bobl? Paham yr eisteddi dy hun, ac y saif yr holl bobl ger dy fron di, o’r bore hyd yr hwyr? 15 A dywedodd Moses wrth ei chwegrwn, Am fod y bobl yn dyfod ataf i ymgynghori â Duw. 16 Pan fyddo iddynt achos, ataf fi y deuant; a myfi sydd yn barnu rhwng pawb a’i gilydd, ac yn hysbysu deddfau Duw a’i gyfreithiau. 17 A dywedodd chwegrwn Moses wrtho, Nid da y peth yr ydwyt ti yn ei wneuthur. 18 Tydi a lwyr ddiffygi, a’r bobl yma hefyd y rhai sydd gyda thi: canys rhy drwm yw’r peth i ti; ni elli ei wneuthur ef dy hun. 19 Gwrando ar fy llais i yn awr; mi a’th gynghoraf di, a bydd Duw gyda thi: Bydd di dros y bobl gerbron Duw, a dwg eu hachosion at Dduw. 20 Dysg hefyd iddynt y deddfau a’r cyfreithiau; a hysbysa iddynt y ffordd a rodiant ynddi, a’r gweithredoedd a wnânt. 21 Ac edrych dithau allan o’r holl bobl am wŷr nerthol, yn ofni Duw, gwŷr geirwir, yn casáu cybydd‐dod; a gosod y rhai hyn arnynt hwy, yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, ac yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 22 A barnant hwy y bobl bob amser: ond dygant bob peth mawr atat ti, a barnant eu hun bob peth bychan: felly yr ysgafnhei arnat dy hun, a hwynt‐hwy a ddygant y baich gyda thi. 23 Os y peth hyn a wnei, a’i orchymyn o Dduw i ti; yna ti a elli barhau, a’r holl bobl hyn a ddeuant i’w lle mewn heddwch. 24 A Moses a wrandawodd ar lais ei chwegrwn; ac a wnaeth yr hyn oll a ddywedodd efe. 25 A Moses a ddewisodd wŷr grymus allan o holl Israel, ac a’u rhoddodd hwynt yn benaethiaid ar y bobl; yn dywysogion ar filoedd, yn dywysogion ar gannoedd, yn dywysogion ar ddegau a deugain, ac yn dywysogion ar ddegau. 26 A hwy a farnasant y bobl bob amser: y pethau caled a ddygent at Moses, a phob peth bychan a farnent hwy eu hunain.
27 A Moses a ollyngodd ymaith ei chwegrwn; ac efe a aeth adref i’w wlad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.