Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 6-9

A Job a atebodd ac a ddywedodd, O gan bwyso na phwysid fy ngofid, ac na chydgodid fy nhrychineb mewn cloriannau! Canys yn awr trymach fyddai na thywod y môr: am hynny y pallodd geiriau gennyf. Oherwydd y mae saethau yr Hollalluog ynof, y rhai y mae eu gwenwyn yn yfed fy ysbryd: dychrynfâu Duw a ymfyddinasant i’m herbyn. A rua asyn gwyllt uwchben glaswellt? a fref ych uwchben ei borthiant? A fwyteir peth diflas heb halen? a oes blas ar wyn wy? Y pethau a wrthododd fy enaid eu cyffwrdd, sydd megis bwyd gofidus i mi. O na ddeuai fy nymuniad! ac na roddai Duw yr hyn yr ydwyf yn ei ddisgwyl! Sef rhyngu bodd i Dduw fy nryllio, a gollwng ei law yn rhydd, a’m torri ymaith. 10 Yna cysur a fyddai eto i mi, ie, mi a ymgaledwn mewn gofid; nac arbeded, canys ni chelais ymadroddion y Sanctaidd. 11 Pa nerth sydd i mi i obeithio? a pha ddiwedd fydd i mi, fel yr estynnwn fy hoedl? 12 Ai cryfder cerrig yw fy nghryfder? a ydyw fy nghnawd o bres? 13 Onid ydyw fy nghymorth ynof fi? a fwriwyd doethineb yn llwyr oddi wrthyf? 14 I’r cystuddiol y byddai trugaredd oddi wrth ei gyfaill; ond efe a adawodd ofn yr Hollalluog. 15 Fy mrodyr a’m twyllasant megis afon: aethant heibio fel llifeiriant afonydd; 16 Y rhai a dduasant gan rew, ac yr ymguddiodd eira ynddynt: 17 Yr amser y cynhesant, hwy a dorrir ymaith: pan wresogo yr hin, hwy a ddarfyddant allan o’u lle. 18 Llwybrau eu ffordd hwy a giliant: hwy a ânt yn ddiddim, ac a gollir. 19 Byddinoedd Tema a edrychasant, minteioedd Seba a ddisgwyliasant amdanynt. 20 Hwy a gywilyddiwyd, am iddynt obeithio; hwy a ddaethant hyd yno, ac a wladeiddiasant. 21 Canys yn awr nid ydych chwi ddim; chwi a welsoch fy nhaflu i lawr, ac a ofnasoch. 22 A ddywedais i, Dygwch i mi? neu, O’ch golud rhoddwch roddion drosof fi? 23 Neu, Gwaredwch fi o law y gelyn? neu, Rhyddhewch fi o law y cedyrn? 24 Dysgwch fi, a myfi a dawaf: a gwnewch i mi ddeall ym mha beth y camgymerais. 25 Mor gryfion ydyw geiriau uniondeb! ond pa beth a argyhoedda argyhoeddiad un ohonoch chwi? 26 Ai argyhoeddi ymadroddion a amcenwch chwi â geiriau un diobaith, y rhai sydd megis gwynt? 27 Chwi a ruthrwch hefyd am ben yr amddifad, ac a gloddiwch bwll i’ch cyfaill. 28 Yn awr gan hynny byddwch fodlon; edrychwch arnaf fi; canys y mae yn eglur i chwi os dywedaf gelwydd. 29 Dychwelwch, atolwg, na fydded anwiredd; ie, trowch eto, y mae fy nghyfiawnder yn hyn. 30 A oes anwiredd yn fy nhafod? oni ddeall taflod fy ngenau gam flas?

Onid oes amser terfynedig i ddyn ar y ddaear? onid yw ei ddyddiau ef megis dyddiau gwas cyflog? Megis y dyhea gwas am gysgod, ac y disgwyl cyflogddyn wobr ei waith: Felly y gwnaethpwyd i mi feddiannu misoedd o oferedd, a nosweithiau blinion a osodwyd i mi. Pan orweddwyf, y dywedaf, Pa bryd y codaf, ac yr ymedy y nos? canys caf ddigon o ymdroi hyd y cyfddydd. Fy nghnawd a wisgodd bryfed a thom priddlyd: fy nghroen a agennodd, ac a aeth yn ffiaidd. Fy nyddiau sydd gynt na gwennol gwehydd, ac a ddarfuant heb obaith. Cofia mai gwynt yw fy hoedl: ni wêl fy llygad ddaioni mwyach. Y llygad a’m gwelodd, ni’m gwêl mwyach: dy lygaid sydd arnaf, ac nid ydwyf. Fel y derfydd y cwmwl, ac yr â ymaith: felly yr hwn sydd yn disgyn i’r bedd, ni ddaw i fyny mwyach. 10 Ni ddychwel mwy i’w dŷ: a’i le nid edwyn ef mwy. 11 Gan hynny ni warafunaf i’m genau; mi a lefaraf yng nghyfyngdra fy ysbryd; myfi a gwynaf yn chwerwder fy enaid. 12 Ai môr ydwyf, neu forfil, gan dy fod yn gosod cadwraeth arnaf? 13 Pan ddywedwyf, Fy ngwely a’m cysura, fy ngorweddfa a esmwythâ fy nghwynfan; 14 Yna y’m brawychi â breuddwydion, ac y’m dychryni â gweledigaethau: 15 Am hynny y dewisai fy enaid ymdagu, a marwolaeth yn fwy na’m hoedl. 16 Ffieiddiais einioes, ni fynnwn fyw byth: paid â mi, canys oferedd ydyw fy nyddiau. 17 Pa beth ydyw dyn, pan fawrheit ef? a phan osodit dy feddwl arno? 18 Ac ymweled ag ef bob bore, a’i brofi ar bob moment? 19 Pa hyd y byddi heb gilio oddi wrthyf, ac na adewi fi yn llonydd tra llyncwyf fy mhoeryn? 20 Myfi a bechais; beth a wnaf i ti, O geidwad dyn? paham y gosodaist fi yn nod i ti, fel yr ydwyf yn faich i mi fy hun? 21 A phaham na faddeui fy nghamwedd, ac na fwri heibio fy anwiredd? canys yn awr yn y llwch y gorweddaf, a thi a’m ceisi yn fore, ond ni byddaf.

Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, Pa hyd y dywedi di hynny? ac y bydd geiriau dy enau megis gwynt cryf? A ŵyra Duw farn? neu a ŵyra yr Hollalluog gyfiawnder? Os dy feibion a bechasant yn ei erbyn ef; a bwrw ohono ef hwynt ymaith am eu camwedd; Os tydi a foregodi at Dduw, ac a weddïi ar yr Hollalluog; Os pur ac uniawn fyddi, yn wir efe a ddeffry atat ti yr awron, ac a wna drigfa dy gyfiawnder yn llwyddiannus. Er bod dy ddechreuad yn fychan, eto dy ddiwedd a gynydda yn ddirfawr. Oblegid gofyn, atolwg, i’r oes gynt, ac ymbaratoa i chwilio eu hynafiaid hwynt: (Canys er doe yr ydym ni, ac ni wyddom ddim, oherwydd cysgod yw ein dyddiau ni ar y ddaear:) 10 Oni ddysgant hwy di? ac oni ddywedant i ti? ac oni ddygant ymadroddion allan o’u calon? 11 A gyfyd brwynen heb wlybaniaeth? a dyf hesg heb ddwfr? 12 Tra fyddo hi eto yn wyrddlas heb ei thorri, hi a wywa o flaen pob glaswelltyn. 13 Felly y mae llwybrau pawb a’r sydd yn gollwng Duw dros gof, ac y derfydd am obaith y rhagrithiwr: 14 Yr hwn y torrir ymaith ei obaith; ac fel tŷ pryf copyn y bydd ei hyder ef. 15 Efe a bwysa ar ei dŷ, ond ni saif; efe a ymeifl ynddo, ond ni phery. 16 Y mae efe yn ir o flaen yr haul, ac yn ei ardd y daw ei frig allan. 17 Plethir ei wraidd ef ynghylch y pentwr, ac efe a wêl le cerrig. 18 Os diwreiddia efe ef allan o’i le, efe a’i gwad ef, gan ddywedyd, Ni’th welais. 19 Wele, dyma lawenydd ei ffordd ef: ac o’r ddaear y blagura eraill. 20 Wele, ni wrthyd Duw y perffaith, ac nid ymeifl efe yn llaw y rhai drygionus; 21 Oni lanwo efe dy enau di â chwerthin, a’th wefusau â gorfoledd. 22 A gwisgir dy gaseion di â chywilydd, ac ni bydd lluesty yr annuwiol.

Yna Job a atebodd ac a ddywedodd, Yn wir mi a wn mai felly y mae: canys pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? Os myn efe ymryson ag ef, ni all ateb iddo am un peth o fil. Y mae efe yn ddoeth o galon, ac yn alluog o nerth: pwy a ymgaledodd yn ei erbyn ef, ac a lwyddodd? Yr hwn sydd yn symud mynyddoedd, ac heb wybod iddynt: yr hwn sydd yn eu dymchwelyd hwynt yn ei ddigofaint. Yr hwn sydd yn cynhyrfu y ddaear allan o’i lle, fel y cryno ei cholofnau hi. Yr hwn a ddywed wrth yr haul, ac ni chyfyd: ac a selia ar y sêr. Yr hwn yn unig sydd yn taenu y nefoedd, ac yn sathru ar donnau y môr. Yr hwn sydd yn gwneuthur Arcturus, Orion, a Phleiades, ac ystafelloedd y deau. 10 Yr hwn sydd yn gwneuthur pethau mawrion anchwiliadwy, a rhyfeddodau aneirif. 11 Wele, efe a â heibio i mi, ac nis gwelaf ef; ac efe a â rhagddo, ac ni chanfyddaf ef. 12 Wele, efe a ysglyfaetha, pwy a’i lluddia? pwy a ddywed wrtho, Pa beth yr wyt yn ei wneuthur? 13 Oni thry Duw ei ddicllonedd ymaith, dano ef y cryma cynorthwywyr balchder. 14 Pa faint llai yr atebaf iddo ef, ac y gallaf ddewis fy ngeiriau i ymresymu ag ef? 15 I’r hwn, pe bawn gyfiawn, nid atebwn, eithr ymbiliwn â’m barnwr. 16 Pe galwaswn, a phed atebasai efe i mi, ni chredwn y gwrandawai efe fy lleferydd. 17 Canys efe a’m dryllia â chorwynt, ac a amlha fy archollion yn ddiachos. 18 Ni ddioddef efe i mi gymryd fy anadl: ond efe a’m lleinw â chwerwder. 19 Os soniaf am gadernid, wele ef yn gadarn: ac os am farn, pwy a ddadlau drosof fi? 20 Os myfi a ymgyfiawnhaf, fy ngenau a’m barn yn euog: os perffaith y dywedaf fy mod, efe a’m barn yn gildyn. 21 Pe byddwn berffaith, eto nid adwaenwn fy enaid; ffiaidd fyddai gennyf fy einioes. 22 Dyma un peth, am hynny mi a’i dywedais: y mae efe yn difetha y perffaith a’r annuwiol. 23 Os lladd y ffrewyll yn ddisymwth, efe a chwardd am ben profedigaeth y diniwed. 24 Y ddaear a roddwyd yn llaw yr annuwiol: efe a fwrw hug dros wynebau ei barnwyr hi: onid e, pa le y mae, a phwy yw efe? 25 A’m dyddiau i sydd gynt na rhedegwr: ffoant ymaith heb weled daioni. 26 Aethant heibio megis llongau buain; megis yr eheda eryr at ymborth. 27 Os dywedaf, Gollyngaf fy nghwyn dros gof; mi a adawaf fy nhrymder, ac a ymgysuraf: 28 Yr wyf yn ofni fy holl ddoluriau: gwn na’m berni yn wirion. 29 Os euog fyddaf, paham yr ymflinaf yn ofer? 30 Os ymolchaf mewn dwfr eira, ac os glanhaf fy nwylo yn lân; 31 Eto ti a’m trochi yn y pwll; a’m dillad a’m ffieiddiant. 32 Canys nid gŵr fel myfi yw efe, fel yr atebwn iddo, ac y delem ynghyd i farn. 33 Nid oes rhyngom ni ddyddiwr a all osod ei law arnom ein dau. 34 Tynned ymaith ei wialen oddi arnaf; ac na ddychryned ei ofn ef fyfi: 35 Yna y dywedwn, ac nid ofnwn ef: ond nid felly y mae gyda myfi.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.