Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 35-37

35 A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd. Yna Jacob a ddywedodd wrth ei deulu, ac wrth y rhai oll oedd gydag ef, Bwriwch ymaith y duwiau dieithr sydd yn eich plith chwi, ac ymlanhewch, a newidiwch eich dillad; A chyfodwn, ac esgynnwn i Bethel: ac yno y gwnaf allor i Dduw, yr hwn a’m gwrandawodd yn nydd fy nghyfyngder, ac a fu gyda myfi yn y ffordd a gerddais. A hwy a roddasant at Jacob yr holl dduwiau dieithr y rhai oedd yn eu llaw hwynt, a’r clustlysau oedd yn eu clustiau: a Jacob a’u cuddiodd hwynt dan y dderwen oedd yn ymyl Sichem. A hwy a gychwynasant: ac ofn Duw oedd ar y dinasoedd y rhai oedd o’u hamgylch hwynt, ac nid erlidiasant ar ôl meibion Jacob.

A Jacob a ddaeth i Lus, yng ngwlad Canaan, hon yw Bethel, efe a’r holl bobl y rhai oedd gydag ef; Ac a adeiladodd yno allor, ac a enwodd y lle El‐bethel, oblegid yno yr ymddangosasai Duw iddo ef, pan ffoesai efe o ŵydd ei frawd. A marw a wnaeth Debora mamaeth Rebeca; a hi a gladdwyd islaw Bethel, dan dderwen: a galwyd enw honno Alhon‐bacuth.

Hefyd Duw a ymddangosodd eilwaith i Jacob, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a’i bendithiodd ef. 10 A Duw a ddywedodd wrtho, Dy enw di yw Jacob: ni elwir dy enw di Jacob mwy, ond Israel a fydd dy enw di: ac efe a alwodd ei enw ef Israel. 11 Hefyd Duw a ddywedodd wrtho, Myfi yw Duw Hollalluog: cynydda, ac amlha; cenedl a chynulleidfa cenhedloedd a fydd ohonot ti; a brenhinoedd a ddaw allan o’th lwynau di. 12 A’r wlad yr hon a roddais i Abraham, ac i Isaac, a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di y rhoddaf y wlad. 13 A Duw a esgynnodd oddi wrtho ef, yn y fan lle y llefarasai efe wrtho. 14 A Jacob a osododd golofn yn y fan lle yr ymddiddanasai efe ag ef, sef colofn faen: ac efe a dywalltodd arni ddiod‐offrwm, ac a dywalltodd olew arni. 15 A Jacob a alwodd enw y fan lle yr ymddiddanodd Duw ag ef, Bethel.

16 A hwy a aethant ymaith o Bethel; ac yr oedd eto megis milltir o dir i ddyfod i Effrath: yno yr esgorodd Rahel, a bu galed arni wrth esgor. 17 A darfu, pan oedd galed arni wrth esgor, i’r fydwraig ddywedyd wrthi hi, Nac ofna; oblegid dyma hefyd i ti fab. 18 Darfu hefyd, wrth ymadael o’i henaid hi (oblegid marw a wnaeth hi), iddi alw ei enw ef Ben‐oni: ond ei dad a’i henwodd ef Benjamin. 19 A Rahel a fu farw, ac a gladdwyd yn y ffordd i Effrath; hon yw Bethlehem. 20 A Jacob a osododd golofn ar ei bedd hi: honno yw colofn bedd Rahel hyd heddiw. 21 Yna Israel a gerddodd, ac a ledodd ei babell o’r tu hwnt i Migdal‐Edar. 22 A phan ydoedd Israel yn trigo yn y wlad honno, yna Reuben a aeth ac a orweddodd gyda Bilha gordderchwraig ei dad; a chlybu Israel hynny. Yna meibion Jacob oeddynt ddeuddeg: 23 Meibion Lea; Reuben, cyntaf‐anedig Jacob, a Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Sabulon. 24 Meibion Rahel; Joseff a Benjamin. 25 A meibion Bilha, llawforwyn Rahel; Dan a Nafftali. 26 A meibion Silpa, llawforwyn Lea; Gad ac Aser. Dyma feibion Jacob, y rhai a anwyd iddo ym Mesopotamia.

27 A Jacob a ddaeth at Isaac ei dad i Mamre, i Gaer‐Arba, hon yw Hebron, lle yr ymdeithiasai Abraham ac Isaac. 28 A dyddiau Isaac oedd gan mlynedd a phedwar ugain mlynedd. 29 Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.

36 A dyma genedlaethau Esau: efe yw Edom. Esau a gymerth ei wragedd o ferched Canaan; Ada, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibama, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad; Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth. Ac Ada a ymddûg Eliffas i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel. Aholibama hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo yng ngwlad Canaan. Ac Esau a gymerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe yng ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob. Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd‐drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid. Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

A dyma genedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir. 10 Dyma enwau meibion Esau: Eliffas, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau. 11 A meibion Eliffas oedd Teman, Omar, Seffo, a Gatam, a Chenas. 12 A Thimna oedd ordderchwraig i Eliffas, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliffas: dyma feibion Ada gwraig Esau. 13 A dyma feibion Reuel; Nahath a Sera, Samma a Missa: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

14 Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chora.

15 Dyma ddugiaid o feibion Esau; meibion Eliffas cyntaf‐anedig Esau, dug Teman, dug Omar, dug Seffo, dug Cenas, 16 Dug Cora, dug Gatam, dug Amalec: dyma y dugiaid o Eliffas, yng ngwlad Edom: dyma feibion Ada.

17 A dyma feibion Reuel mab Esau; dug Nahath, dug Sera, dug Samma, dug Missa: dyma y dugiaid o Reuel, yng ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.

18 Dyma hefyd feibion Aholibama gwraig Esau: dug Jeus, dug Jalam, dug Cora; dyma y dugiaid o Aholibama, merch Ana, gwraig Esau. 19 Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu dugaid hwynt.

20 Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanheddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Ana. 21 A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma ddugiaid yr Horiaid, meibion Seir, yng ngwlad Edom. 22 A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna. 23 A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Seffo, ac Onam. 24 A dyma feibion Sibeon; Aia ac Ana: hwn yw Ana a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynnod Sibeon ei dad. 25 A dyma feibion Ana; Dison ac Aholibama merch Ana. 26 Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran. 27 Dyma feibion Eser; Bilhan, a Saafan, ac Acan. 28 Dyma feibion Disan; Us ac Aran. 29 Dyma ddugiaid yr Horiaid; dug Lotan, dug Sobal, dug Sibeon, dug Ana, 30 Dug Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma ddugiaid yr Horiaid ymhlith eu dugiaid yng ngwlad Seir.

31 Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant yng ngwlad Edom, cyn teyrnasu brenin ar feibion Israel. 32 A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom: ac enw ei ddinas ef oedd Dinhaba. 33 A Bela a fu farw; a Jobab, mab Sera o Bosra, a deyrnasodd yn ei le ef. 34 Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef. 35 A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a drawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith. 36 Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samla, o Masreca, a deyrnasodd yn ei le ef. 37 A bu Samla farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef. 38 A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef. 39 A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mesahab. 40 A dyma enwau y dugiaid o Esau, yn ôl eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau; dug Timna, dug Alfa, dug Jetheth, 41 Dug Aholibama, dug Ela, dug Pinon, 42 Dug Cenas, dug Teman, dug Mibsar, 43 Dug Magdiel, dug Iram. Dyma y dugiaid o Edom, yn ôl eu preswylfeydd, yng ngwlad eu perchenogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.

37 A thrigodd Jacob yng ngwlad ymdaith ei dad, yng ngwlad Canaan. Dyma genedlaethau Jacob. Joseff, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyda’i frodyr ar y praidd: a’r llanc oedd gyda meibion Bilha, a chyda meibion Silpa, gwragedd ei dad; a Joseff a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad. Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseff na’i holl feibion, oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siaced fraith iddo ef. A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan ag ef yn heddychol.

A Joseff a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef eto yn ychwaneg. Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandewch, atolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i. Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddem ni yng nghanol y maes; ac wele, fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymasant i’m hysgub i. A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant eto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.

Hefyd efe a freuddwydiodd eto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd eto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymu i mi. 10 Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymu i lawr i ti? 11 A’i frodyr a genfigenasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

12 A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem. 13 Ac Israel a ddywedodd wrth Joseff, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf atynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi. 14 A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd; a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15 A chyfarfu gŵr ag ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gŵr a ymofynnodd ag ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio? 16 Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, atolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio? 17 A’r gŵr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseff a aeth ar ôl ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan. 18 Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef atynt, hwy a gyd‐fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef. 19 A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod. 20 Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef. 21 A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef. 22 Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynnwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.

23 A bu, pan ddaeth Joseff at ei frodyr, iddynt ddiosg ei siaced oddi am Joseff, sef y siaced fraith ydoedd amdano ef. 24 A chymerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo. 25 A hwy a eisteddasant i fwyta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aifft, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr. 26 A dywedodd Jwda wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef? 27 Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef; oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gytunasant. 28 A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynasant ac y cyfodasant Joseff i fyny o’r pydew, ac a werthasant Joseff i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseff i’r Aifft.

29 A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseff yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad; 30 Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llanc nid yw acw; a minnau, i ba le yr af fi? 31 A hwy a gymerasant siaced Joseff, ac a laddasant fyn gafr, ac a drochasant y siaced yn y gwaed. 32 Ac a anfonasant y siaced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siaced dy fab yw hi, ai nad e. 33 Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siaced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwytaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseff. 34 A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer. 35 A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddiau disgynnaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd amdano ef. 36 A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aifft, i Potiffar tywysog Pharo, a’r distain.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.