Chronological
29 Yna Job a barablodd drachefn, ac a ddywedodd, 2 O na bawn i fel yn y misoedd o’r blaen, fel yn y dyddiau pan gadwai Duw fi; 3 Pan wnâi efe i’w oleuni lewyrchu ar fy mhen, wrth oleuni yr hwn y rhodiwn trwy dywyllwch; 4 Pan oeddwn yn nyddiau fy ieuenctid, a dirgelwch Duw ar fy mhabell; 5 Pan oedd yr Hollalluog eto gyda mi, a’m plant o’m hamgylch; 6 Pan olchwn fy nghamre ag ymenyn, a phan dywalltai y graig i mi afonydd o olew! 7 Pan awn i allan i’r porth trwy y dref; pan baratown fy eisteddfa yn yr heol, 8 Llanciau a’m gwelent, ac a ymguddient; a henuriaid a gyfodent, ac a safent i fyny. 9 Tywysogion a atalient eu hymadroddion, ac a osodent eu llaw ar eu genau. 10 Pendefigion a dawent â sôn, a’u tafod a lynai wrth daflod eu genau. 11 Pan y’m clywai clust, hi a’m bendithiai; a phan y’m gwelai llygad, efe a dystiolaethai gyda mi: 12 Am fy mod yn gwaredu’r tlawd a fyddai yn gweiddi, a’r amddifad, a’r hwn ni byddai gynorthwywr iddo. 13 Bendith yr hwn oedd ar ddarfod amdano a ddeuai arnaf; a gwnawn i galon y wraig weddw lawenychu. 14 Gwisgwn gyfiawnder, a hithau a wisgai amdanaf fi: a’m barn fyddai fel mantell a choron. 15 Llygaid oeddwn i’r dall; a thraed oeddwn i’r cloff. 16 Tad oeddwn i’r anghenog; a’r cwyn ni wyddwn a chwiliwn allan. 17 Drylliwn hefyd gilddannedd yr anghyfiawn, ac a dynnwn yr ysglyfaeth allan o’i ddannedd ef. 18 Yna y dywedwn, Byddaf farw yn fy nyth; a byddaf mor aml fy nyddiau â’r tywod. 19 Fy ngwreiddyn oedd yn ymdaenu wrth y dyfroedd; a’r gwlith a arhosodd ar hyd nos ar fy mrig. 20 Fy ngogoniant oedd ir ynof fi; a’m bwa a adnewyddai yn fy llaw. 21 Hwy a wrandawent arnaf, ac a ddisgwylient; distawent wrth fy nghyngor. 22 Ar ôl fy ymadrodd ni ddywedent hwy eilwaith; a’m hymadrodd a ddiferai arnynt hwy. 23 A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar‐law. 24 Os chwarddwn arnynt hwy, ni chredent; ac ni wnaent hwy i lewyrch fy wyneb syrthio. 25 Dewiswn eu ffordd hwynt, eisteddwn yn bennaf, a thrigwn fel brenin mewn llu, megis yr hwn a gysura rai galarus.
30 Ond yn awr y rhai sydd ieuangach na mi sydd yn fy ngwatwar, y rhai y diystyraswn eu tadau i’w gosod gyda chŵn fy nefaid. 2 I ba beth y gwasanaethai cryfdwr eu dwylo hwynt i mi? darfuasai am henaint ynddynt hwy. 3 Gan angen a newyn, unig oeddynt: yn ffoi i’r anialwch gynt, yn ddiffaith ac yn wyllt: 4 Y rhai a dorrent yr hocys mewn brysglwyni, a gwraidd meryw yn fwyd iddynt. 5 Hwy a yrrid ymaith o fysg dynion, (gwaeddent ar eu hôl hwy, fel ar ôl lleidr;) 6 I drigo mewn holltau afonydd, mewn tyllau y ddaear, ac yn y creigiau. 7 Hwy a ruent ymhlith perthi: hwy a ymgasglent dan ddanadl. 8 Meibion yr ynfyd, a meibion rhai anenwog oeddynt: gwaelach na’r ddaear oeddynt. 9 Ac yn awr eu cân hwy ydwyf fi, a myfi sydd yn destun iddynt. 10 Y maent yn fy ffieiddio, yn cilio ymhell oddi wrthyf: ac nid arbedant boeri yn fy wyneb. 11 Oblegid iddo ddatod fy rhaff, a’m cystuddio; hwythau a ollyngasant y ffrwyn yn fy ngolwg i. 12 Y rhai ieuainc sydd yn codi ar fy llaw ddeau; y maent yn gwthio fy nhraed, ac yn sarnu i’m herbyn ffyrdd eu dinistr. 13 Anrheithiant fy llwybr, ychwanegant fy nhrueni, heb fod help iddynt. 14 Y maent hwy yn dyfod arnaf megis dwfr trwy adwy lydan: y maent yn ymdreiglo arnaf wrth yr anrhaith. 15 Dychryniadau a drowyd arnaf: fel gwynt yr erlidiant fy enaid: a’m hiachawdwriaeth a â heibio fel cwmwl. 16 Am hynny yr ymdywallt fy enaid yn awr arnaf; dyddiau cystudd a ymaflasant ynof. 17 Y nos y tyllir fy esgyrn o’m mewn: a’m gïau nid ydynt yn gorffwys. 18 Trwy fawr nerth fy nghlefyd, fy ngwisg a newidiodd: efe a’m hamgylcha fel coler fy mhais. 19 Efe a’m taflodd yn y clai; ac euthum yn gyffelyb i lwch a lludw. 20 Yr ydwyf yn llefain arnat ti, ac nid ydwyt yn gwrando: yr ydwyf yn sefyll, ac nid ystyri wrthyf. 21 Yr wyt yn troi yn greulon yn fy erbyn; yr wyt yn fy ngwrthwynebu â nerth dy law. 22 Yr wyt yn fy nyrchafu i’r gwynt; yr ydwyt yn gwneuthur i mi farchogaeth arno, ac yr ydwyt yn toddi fy sylwedd. 23 Canys myfi a wn y dygi di fi i farwolaeth; ac i’r tŷ rhagderfynedig i bob dyn byw. 24 Diau nad estyn ef law i’r bedd, er bod gwaedd ganddynt yn ei ddinistr ef. 25 Oni wylais i dros yr hwn oedd galed ei fyd? oni ofidiodd fy enaid dros yr anghenog? 26 Pan edrychais am ddaioni, drygfyd a ddaeth: pan ddisgwyliais am oleuni, tywyllwch a ddaeth. 27 Fy ymysgaroedd a ferwasant, ac ni orffwysasant: dyddiau cystudd a’m rhagflaenasant. 28 Cerddais yn alarus heb yr haul: codais, a gwaeddais yn y gynulleidfa. 29 Yr ydwyf yn frawd i’r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys. 30 Fy nghroen a dduodd amdanaf, a’m hesgyrn a losgasant gan wres. 31 Aeth fy nhelyn hefyd yn alar, a’m horgan fel llais rhai yn wylo.
31 Myfi a wneuthum amod â’m llygaid; paham gan hynny y meddyliwn am forwyn? 2 Canys pa ran sydd oddi wrth Dduw oddi uchod? a pha etifeddiaeth sydd oddi wrth yr Hollalluog o’r uchelder? 3 Onid oes dinistr i’r anwir? a dialedd dieithr i’r rhai sydd yn gwneuthur anwiredd? 4 Onid ydyw efe yn gweled fy ffyrdd i? ac yn cyfrif fy holl gamre? 5 Os rhodiais mewn oferedd, ac os prysurodd fy nhroed i dwyllo; 6 Pwysed fi mewn cloriannau cyfiawn, a mynned Duw wybod fy mherffeithrwydd. 7 Os gwyrodd fy ngherddediad allan o’r ffordd; a myned o’m calon ar ôl fy llygaid; neu lynu dim aflan wrth fy nwylo: 8 Yna heuwyf fi, a bwytaed arall; ie, dadwreiddier fy hiliogaeth i. 9 Os twylled fy nghalon gan wraig, ac os cynllwynais wrth ddrws fy nghymydog; 10 Maled fy ngwraig innau i ŵr arall; ac ymgrymed eraill arni hi. 11 Canys ysgelerder ydyw hyn, ac anwiredd ydyw i’w gosbi gan farnwyr. 12 Canys tân ydyw a ysa oni anrheithio, ac efe a ddadwreiddia fy holl ffrwyth. 13 Os diystyrais achos fy ngwas a’m gwasanaethferch, pan ymrysonent â mi; 14 Pa beth gan hynny a wnaf pan godo Duw? a phan ymwelo efe, pa beth a atebaf iddo? 15 Onid yr hwn a’m gwnaeth i yn y groth, a’i gwnaeth yntau? ac onid yr un a’n lluniodd yn y bru? 16 Os ateliais ddim o ddeisyfiad y tlawd, ac os gwneuthum i lygaid y weddw ddiffygio; 17 Ac os bwyteais fy mwyd yn unig, ac oni fwytaodd yr amddifad ohono; 18 (Canys efe a gynyddodd gyda mi, fel gyda thad, o’m hieuenctid; ac o groth fy mam mi a’i tywysais hi;) 19 Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog heb wisg: 20 Os ei lwynau ef ni’m bendithiasant, ac oni chynhesodd efe gan gnu fy nefaid i; 21 Os codais fy llaw yn erbyn yr amddifad, pan welwn fy nghymorth yn y porth: 22 Syrthied fy mraich oddi wrth fy ysgwydd, a thorrer fy mraich oddi wrth y cymal. 23 Canys ofn dinistr Duw oedd arnaf; a chan ei uchelder ef ni allwn oddef. 24 Os gosodais fy ngobaith mewn aur; ac os dywedais wrth aur coeth, Fy ymddiried wyt; 25 Os llawenychais am fod fy nghyfoeth yn fawr, ac oblegid i’m llaw gael llawer; 26 Os edrychais ar yr haul pan dywynnai, a’r lleuad yn cerdded yn ddisglair; 27 Ac os hudwyd fy nghalon yn guddiedig, ac os fy ngenau a gusanodd fy llaw: 28 Hyn hefyd fuasai anwiredd i’w gosbi gan y barnwyr: canys gwadaswn Dduw uchod. 29 Os llawenychais i am drychineb yr hwn a’m casâi, ac os ymgodais pan ddigwyddodd drwg iddo: 30 (Ac ni ddioddefais i daflod fy ngenau bechu; gan ofyn ei einioes ef trwy felltithio.) 31 Oni ddywedodd dynion fy mhabell, O na chaem o’i gnawd ef! ni ddigonir ni. 32 Ni letyodd dieithrddyn yn yr heol: agorais fy nrysau i’r fforddolion. 33 Os cuddiais fy nghamweddau fel Adda; gan guddio fy anwiredd yn fy mynwes; 34 A ofnais i dyrfa luosog, neu a’m dychrynai dirmyg teulu; fel y tawn, heb fyned allan o’m drws? 35 O am un a’m gwrandawai! wele, fy nymuniad yw, i’r Hollalluog fy ateb i, ac ysgrifennu o’m gwrthwynebwr lyfr. 36 Diau y dygwn ef ar fy ysgwydd; a rhwymwn ef yn lle coron i mi. 37 Mynegwn iddo rifedi fy nghamre; fel tywysog y nesawn ato. 38 Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cyd-wylo; 39 Os bwyteais i ei gnwd ef heb arian, ac os cystuddiais enaid ei berchenogion ef: 40 Tyfed ysgall yn lle gwenith, a bulwg yn lle haidd. Diweddwyd geiriau Job.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.