Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 19-21

19 A dau angel a ddaeth i Sodom yn yr hwyr, a Lot yn eistedd ym mhorth Sodom: a phan welodd Lot, efe a gyfododd i’w cyfarfod hwynt, ac a ymgrymodd â’i wyneb tua’r ddaear; Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, atolwg, i dŷ eich gwas; lletywch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nage; oherwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol. Ac efe a fu daer iawn arnynt hwy: yna y troesant ato, ac y daethant i’w dŷ ef; ac efe a wnaeth iddynt wledd, ac a bobodd fara croyw, a hwy a fwytasant.

Eithr cyn gorwedd ohonynt, gwŷr y ddinas, sef gwŷr Sodom, a amgylchasant o amgylch y tŷ, hen ac ieuanc, sef yr holl bobl o bob cwr; Ac a alwasant ar Lot, ac a ddywedasant wrtho, Mae y gwŷr a ddaethant atat ti heno? dwg hwynt allan atom ni, fel yr adnabyddom hwynt. Yna y daeth Lot atynt hwy allan i’r drws, ac a gaeodd y ddôr ar ei ôl; Ac a ddywedodd, Atolwg, fy mrodyr, na wnewch ddrwg. Wele yn awr, y mae dwy ferch gennyf fi, y rhai nid adnabuant ŵr; dygaf hwynt allan atoch chwi yn awr, a gwnewch iddynt fel y gweloch yn dda: yn unig na wnewch ddim i’r gwŷr hyn; oherwydd er mwyn hynny y daethant dan gysgod fy nghronglwyd i. A hwy a ddywedasant, Saf hwnt: dywedasant hefyd, Efe a ddaeth i ymdaith yn unig, ac yn awr ai gan farnu y barna efe? yn awr nyni a wnawn fwy o niwed i ti nag iddynt hwy. A hwy a bwysasant yn drwm ar y gŵr, sef ar Lot, a hwy a nesasant i dorri’r ddôr. 10 A’r gwŷr a estynasant eu llaw, ac a ddygasant Lot atynt i’r tŷ, ac a gaeasant y ddôr. 11 Trawsant hefyd y dynion oedd wrth ddrws y tŷ â dallineb, o fychan i fawr, fel y blinasant yn ceisio’r drws.

12 A’r gwŷr a ddywedasant wrth Lot, A oes gennyt ti yma neb eto? mab yng nghyfraith, a’th feibion, a’th ferched, a’r hyn oll sydd i ti yn y ddinas, a ddygi di allan o’r fangre hon. 13 Oblegid ni a ddinistriwn y lle hwn; am fod eu gwaedd hwynt yn fawr gerbron yr Arglwydd: a’r Arglwydd a’n hanfonodd ni i’w ddinistrio ef. 14 Yna yr aeth Lot allan, ac a lefarodd wrth ei ddawon, y rhai oedd yn priodi ei ferched ef, ac a ddywedodd, Cyfodwch, deuwch allan o’r fan yma; oherwydd y mae’r Arglwydd yn difetha’r ddinas hon: ac yng ngolwg ei ddawon yr oedd efe fel un yn cellwair.

15 Ac ar godiad y wawr, yr angylion a fuant daer ar Lot, gan ddywedyd, Cyfod, cymer dy wraig, a’th ddwy ferch, y rhai sydd i’w cael; rhag dy ddifetha di yn anwiredd y ddinas. 16 Yntau a oedd hwyrfrydig, a’r gwŷr a ymaflasant yn ei law ef, ac yn llaw ei wraig, ac yn llaw ei ddwy ferch; am dosturio o’r Arglwydd wrtho ef; ac a’i dygasant ef allan, ac a’i gosodasant o’r tu allan i’r ddinas. 17 Ac wedi iddynt eu dwyn hwynt allan, efe a ddywedodd, Dianc am dy einioes; nac edrych ar dy ôl, ac na saf yn yr holl wastadedd: dianc i’r mynydd, rhag dy ddifetha. 18 A dywedodd Lot wrthynt, O nid felly, fy Arglwydd. 19 Wele yn awr, cafodd dy was ffafr yn dy olwg, a mawrheaist dy drugaredd a wnaethost â mi, gan gadw fy einioes; ac ni allaf fi ddianc i’r mynydd, rhag i ddrwg fy ngoddiweddyd, a marw ohonof. 20 Wele yn awr, y ddinas hon yn agos i ffoi iddi, a bechan yw: O gad i mi ddianc yno, (onid bechan yw hi?) a byw fydd fy enaid. 21 Yntau a ddywedodd wrtho, Wele, mi a ganiateais dy ddymuniad hefyd am y peth hyn, fel na ddinistriwyf y ddinas am yr hon y dywedaist. 22 Brysia, dianc yno; oherwydd ni allaf wneuthur dim nes dy ddyfod yno: am hynny y galwodd efe enw y ddinas Soar.

23 Cyfodasai yr haul ar y ddaear, pan ddaeth Lot i Soar. 24 Yna yr Arglwydd a lawiodd ar Sodom a Gomorra frwmstan a thân oddi wrth yr Arglwydd, allan o’r nefoedd. 25 Felly y dinistriodd efe y dinasoedd hynny, a’r holl wastadedd, a holl drigolion y dinasoedd, a chnwd y ddaear.

26 Eithr ei wraig ef a edrychodd drach ei chefn o’i du ôl ef, a hi a aeth yn golofn halen.

27 Ac Abraham a aeth yn fore i’r lle y safasai efe ynddo gerbron yr Arglwydd. 28 Ac efe a edrychodd tua Sodom a Gomorra, a thua holl dir y gwastadedd; ac a edrychodd, ac wele, cyfododd mwg y tir fel mwg ffwrn.

29 A phan ddifethodd Duw ddinasoedd y gwastadedd, yna y cofiodd Duw am Abraham, ac a yrrodd Lot o ganol y dinistr, pan ddinistriodd efe y dinasoedd yr oedd Lot yn trigo ynddynt.

30 A Lot a esgynnodd o Soar, ac a drigodd yn y mynydd, a’i ddwy ferch gydag ef: oherwydd efe a ofnodd drigo yn Soar; ac a drigodd mewn ogof, efe a’i ddwy ferch.

31 A dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Ein tad ni sydd hen, a gŵr nid oes yn y wlad i ddyfod atom ni, wrth ddefod yr holl ddaear. 32 Tyred, rhoddwn i’n tad win i’w yfed, a gorweddwn gydag ef, fel y cadwom had o’n tad. 33 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno: a’r hynaf a ddaeth ac a orweddodd gyda’i thad; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi. 34 A thrannoeth y dywedodd yr hynaf wrth yr ieuangaf, Wele, myfi a orweddais neithiwr gyda’m tad; rhoddwn win iddo ef i’w yfed heno hefyd, a dos dithau a gorwedd gydag ef, fel y cadwom had o’n tad. 35 A hwy a roddasant win i’w tad i yfed y noson honno hefyd: a’r ieuangaf a gododd, ac a orweddodd gydag ef; ac ni wybu efe pan orweddodd hi, na phan gyfododd hi. 36 Felly dwy ferch Lot a feichiogwyd o’u tad. 37 A’r hynaf a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Moab: efe yw tad y Moabiaid hyd heddiw. 38 A’r ieuangaf, hefyd, a esgorodd hithau ar fab, ac a alwodd ei enw ef Ben‐ammi: efe yw tad meibion Ammon hyd heddiw.

20 Ac Abraham a aeth oddi yno i dir y deau, ac a gyfanheddodd rhwng Cades a Sur, ac a ymdeithiodd yn Gerar. A dywedodd Abraham am Sara ei wraig, Fy chwaer yw hi: ac Abimelech brenhin Gerar a anfonodd, ac a gymerth Sara. Yna y daeth Duw at Abimelech, noswaith, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Wele, dyn marw wyt ti am y wraig a gymeraist, a hithau yn berchen gŵr. Ond Abimelech ni nesasai ati hi: ac efe a ddywedodd, Arglwydd, a leddi di genedl gyfiawn hefyd? Oni ddywedodd efe wrthyf fi, Fy chwaer yw hi? a hithau hefyd ei hun a ddywedodd, Fy mrawd yw efe: ym mherffeithrwydd fy nghalon, ac yng nglendid fy nwylo, y gwneuthum hyn. Yna y dywedodd Duw wrtho ef, mewn breuddwyd, Minnau a wn mai ym mherffeithrwydd dy galon y gwnaethost hyn; a mi a’th ateliais rhag pechu i’m herbyn: am hynny ni adewais i ti gyffwrdd â hi. Yn awr gan hynny, dod y wraig drachefn i’r gŵr; oherwydd proffwyd yw efe, ac efe a weddïa trosot, a byddi fyw: ond oni roddi hi drachefn, gwybydd y byddi farw yn ddiau, ti a’r rhai oll ydynt eiddot ti. Yna y cododd Abimelech yn fore, ac a alwodd am ei holl weision, ac a draethodd yr holl bethau hyn wrthynt hwy: a’r gwŷr a ofnasant yn ddirfawr. Galwodd Abimelech hefyd am Abraham, a dywedodd wrtho, Beth a wnaethost i ni? a pheth a bechais i’th erbyn, pan ddygit bechod mor fawr arnaf fi, ac ar fy nheyrnas? gwnaethost â mi weithredoedd ni ddylesid eu gwneuthur. 10 Abimelech hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Beth a welaist, pan wnaethost y peth hyn? 11 A dywedodd Abraham, Am ddywedyd ohonof fi, Yn ddiau nid oes ofn Duw yn y lle hwn: a hwy a’m lladdant i o achos fy ngwraig. 12 A hefyd yn wir fy chwaer yw hi: merch fy nhad yw hi, ond nid merch fy mam; ac y mae hi yn wraig i mi. 13 Ond pan barodd Duw i mi grwydro o dŷ fy nhad, yna y dywedais wrthi hi, Dyma dy garedigrwydd yr hwn a wnei â mi ym mhob lle y delom iddo; dywed amdanaf fi, Fy mrawd yw efe. 14 Yna y cymerodd Abimelech ddefaid, a gwartheg, a gweision, a morynion, ac a’u rhoddes i Abraham: rhoddes hefyd iddo ef Sara ei wraig drachefn. 15 A dywedodd Abimelech, Wele fy ngwlad ger dy fron di, trig lle y byddo da yn dy olwg. 16 Ac wrth Sara y dywedodd, Wele, rhoddais i’th frawd fil o ddarnau arian: wele ef yn orchudd llygaid i ti, i’r rhai oll sydd gyda thi, a chyda phawb eraill: fel hyn y ceryddwyd hi.

17 Yna Abraham a weddïodd ar Dduw: a Duw a iachaodd Abimelech, a’i wraig, a’i forynion; a hwy a blantasant. 18 Oherwydd yr Arglwydd gan gau a gaeasai ar bob croth yn nhŷ Abimelech, o achos Sara gwraig Abraham.

21 A’r Arglwydd a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr Arglwydd i Sara fel y llefarasai. Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai Duw wrtho ef. Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac. Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai Duw iddo ef. Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab.

A Sara a ddywedodd, Gwnaeth Duw i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi. Hi a ddywedodd hefyd, Pwy a ddywedasai i Abraham y rhoesai Sara sugn i blant? canys mi a esgorais ar fab yn ei henaint ef. A’r bachgen a gynyddodd, ac a ddiddyfnwyd: ac Abraham a wnaeth wledd fawr ar y dydd y diddyfnwyd Isaac.

A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar. 10 A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac. 11 A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab.

12 A Duw a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had. 13 Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef. 14 Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer‐seba. 15 A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd. 16 A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd. 17 A Duw a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel Duw a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd Duw a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe. 18 Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. 19 A Duw a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc. 20 Ac yr oedd Duw gyda’r llanc; ac efe a gynyddodd, ac a drigodd yn yr anialwch, ac a aeth yn berchen bwa. 21 Ac yn anialwch Paran y trigodd efe; a’i fam a gymerodd iddo ef wraig o wlad yr Aifft.

22 Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, Duw sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur. 23 Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i Dduw, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi. 24 Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf. 25 Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais. 26 Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw. 27 Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau. 28 Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain. 29 Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain? 30 Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn. 31 Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer‐seba: oblegid yno y tyngasant ill dau. 32 Felly y gwnaethant gynghrair yn Beer‐seba: a chyfododd Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, ac a ddychwelasant i dir y Philistiaid.

33 Ac yntau a blannodd goed yn Beer‐seba, ac a alwodd yno ar enw yr Arglwydd Dduw tragwyddol. 34 Ac Abraham a ymdeithiodd ddyddiau lawer yn nhir y Philistiaid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.