Chronological
22 Ac wedi’r pethau hyn y bu i Dduw brofi Abraham, a dywedyd wrtho, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 2 Yna y dywedodd Duw, Cymer yr awr hon dy fab, sef dy unig fab Isaac, yr hwn a hoffaist, a dos rhagot i dir Moreia, ac offryma ef yno yn boethoffrwm ar un o’r mynyddoedd yr hwn a ddywedwyf wrthyt.
3 Ac Abraham a foregododd, ac a gyfrwyodd ei asyn, ac a gymerodd ei ddau lanc gydag ef, ac Isaac ei fab; ac a holltodd goed y poethoffrwm, ac a gyfododd, ac a aeth i’r lle a ddywedasai Duw wrtho. 4 Ac ar y trydydd dydd y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac efe a welai’r lle o hirbell. 5 Ac Abraham a ddywedodd wrth ei lanciau, Arhoswch chwi yma gyda’r asyn; a mi a’r llanc a awn hyd acw, ac a addolwn, ac a ddychwelwn atoch. 6 Yna y cymerth Abraham goed y poethoffrwm, ac a’i gosododd ar Isaac ei fab; ac a gymerodd y tân, a’r gyllell yn ei law ei hun: a hwy a aethant ill dau ynghyd. 7 A llefarodd Isaac wrth Abraham ei dad, ac a ddywedodd, Fy nhad. Yntau a ddywedodd, Wele fi, fy mab. Yna eb efe, Wele dân a choed; ond mae oen y poethoffrwm? 8 Ac Abraham a ddywedodd, Fy mab, Duw a edrych iddo ei hun am oen y poethoffrwm. Felly yr aethant ill dau ynghyd: 9 Ac a ddaethant i’r lle a ddywedasai Duw wrtho ef; ac yno yr adeiladodd Abraham allor, ac a osododd y coed mewn trefn, ac a rwymodd Isaac ei fab, ac a’i gosododd ef ar yr allor, ar uchaf y coed. 10 Ac Abraham a estynnodd ei law, ac a gymerodd y gyllell i ladd ei fab; 11 Ac angel yr Arglwydd a alwodd arno ef o’r nefoedd, ac a ddywedodd, Abraham, Abraham. Yntau a ddywedodd, Wele fi. 12 Ac efe a ddywedodd, Na ddod dy law ar y llanc, ac na wna ddim iddo: oherwydd gwn weithian i ti ofni Duw, gan nad ateliaist dy fab, dy unig fab, oddi wrthyf fi. 13 Yna y dyrchafodd Abraham ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele o’i ôl ef hwrdd, wedi ei ddal erbyn ei gyrn mewn drysni: ac Abraham a aeth ac a gymerth yr hwrdd, ac a’i hoffrymodd yn boethoffrwm yn lle ei fab. 14 Ac Abraham a alwodd enw y lle hwnnw JEHOFAH‐jire; fel y dywedir heddiw, Ym mynydd yr Arglwydd y gwelir.
15 Ac angel yr Arglwydd a alwodd ar Abraham yr ail waith o’r nefoedd; 16 Ac a ddywedodd, I mi fy hun y tyngais, medd yr Arglwydd, oherwydd gwneuthur ohonot y peth hyn, ac nad ateliaist dy fab, dy unig fab: 17 Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau yr amlhaf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar lan y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion; 18 Ac yn dy had di y bendithir holl genhedloedd y ddaear: o achos gwrando ohonot ar fy llais i. 19 Yna Abraham a ddychwelodd at ei lanciau; a hwy a godasant, ac a aethant ynghyd i Beer‐seba: ac Abraham a drigodd yn Beer‐seba.
20 Darfu hefyd, wedi’r pethau hyn, fynegi i Abraham, gan ddywedyd, Wele, dug Milca hithau hefyd blant i Nachor dy frawd; 21 Hus ei gyntaf‐anedig, a Bus ei frawd; Cemuel hefyd tad Aram, 22 A Chesed, a Haso, a Phildas, ac Idlaff, a Bethuel. 23 A Bethuel a genhedlodd Rebeca: yr wyth hyn a blantodd Milca i Nachor brawd Abraham. 24 Ei ordderchwraig hefyd, a’i henw Reuma, a esgorodd hithau hefyd ar Teba, a Gaham, a Thahas, a Maacha.
23 Ac oes Sara ydoedd gan mlynedd a saith mlynedd ar hugain; dyma flynyddoedd oes Sara. 2 A Sara a fu farw yng Nghaer‐Arba; honno yw Hebron yn nhir Canaan: ac Abraham a aeth i alaru am Sara, ac i wylofain amdani hi.
3 Yna y cyfododd Abraham i fyny oddi gerbron ei gorff marw, ac a lefarodd wrth feibion Heth, gan ddywedyd, 4 Dieithr ac alltud ydwyf fi gyda chwi: rhoddwch i mi feddiant beddrod gyda chwi, fel y claddwyf fy marw allan o’m golwg. 5 A meibion Heth a atebasant Abraham, gan ddywedyd wrtho, 6 Clyw ni, fy arglwydd: tywysog Duw wyt ti yn ein plith: cladd dy farw yn dy ddewis o’n beddau ni: ni rwystr neb ohonom ni ei fedd i ti i gladdu dy farw. 7 Yna y cyfododd Abraham, ac a ymgrymodd i bobl y tir, sef i feibion Heth; 8 Ac a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Os yw eich ewyllys i mi gael claddu fy marw allan o’m golwg, gwrandewch fi, ac eiriolwch trosof fi ar Effron fab Sohar; 9 Ar roddi ohono ef i mi yr ogof Machpela, yr hon sydd eiddo ef, ac sydd yng nghwr ei faes; er ei llawn werth o arian rhodded hi i mi, yn feddiant beddrod yn eich plith chwi. 10 Ac Effron oedd yn aros ymysg meibion Heth: ac Effron yr Hethiad a atebodd Abraham, lle y clywodd meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddeuent i borth ei ddinas ef, gan ddywedyd, 11 Nage, fy arglwydd, clyw fi: rhoddais y maes i ti, a’r ogof sydd ynddo, i ti y rhoddais hi; yng ngŵydd meibion fy mhobl y rhoddais hi i ti: cladd di dy farw. 12 Ac Abraham a ymgrymodd o flaen pobl y tir. 13 Ac efe a lefarodd wrth Effron lle y clybu pobl y tir, gan ddywedyd, Eto, os tydi a’i rhoddi, atolwg, gwrando fi: rhoddaf werth y maes; cymer gennyf, a mi a gladdaf fy marw yno. 14 Ac Effron a atebodd Abraham, gan ddywedyd wrtho, 15 Gwrando fi, fy arglwydd; y tir a dâl bedwar can sicl o arian: beth yw hynny rhyngof fi a thithau? am hynny cladd dy farw. 16 Felly Abraham a wrandawodd ar Effron: a phwysodd Abraham i Effron yr arian, a ddywedasai efe lle y clybu meibion Heth: pedwar can sicl o arian cymeradwy ymhlith marchnadwyr.
17 Felly y sicrhawyd maes Effron, yr hwn oedd ym Machpela, yr hon oedd o flaen Mamre, y maes a’r ogof oedd ynddo, a phob pren a’r a oedd yn y maes, ac yn ei holl derfynau o amgylch, 18 Yn feddiant i Abraham, yng ngolwg meibion Heth, yng ngŵydd pawb a ddelynt i borth ei ddinas ef. 19 Ac wedi hynny Abraham a gladdodd Sara ei wraig yn ogof maes Machpela, o flaen Mamre; honno yw Hebron, yn nhir Canaan. 20 A sicrhawyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.
24 Ac Abraham oedd hen, wedi myned yn oedrannus; a’r Arglwydd a fendithiasai Abraham ym mhob dim. 2 A dywedodd Abraham wrth ei was hynaf yn ei dŷ, yr hwn oedd yn llywodraethu ar yr hyn oll a’r a oedd ganddo, Gosod, atolwg, dy law dan fy morddwyd: 3 A mi a baraf i ti dyngu i Arglwydd Dduw y nefoedd, a Duw y ddaear, na chymerech wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu mysg: 4 Ond i’m gwlad i yr ei, ac at fy nghenedl i yr ei di, ac a gymeri wraig i’m mab Isaac. 5 A’r gwas a ddywedodd wrtho ef, Ond odid ni fyn y wraig ddyfod ar fy ôl i i’r wlad hon: gan ddychwelyd a ddychwelaf dy fab di i’r tir y daethost allan ohono? 6 A dywedodd Abraham wrtho, Gwylia arnat rhag i ti ddychwelyd fy mab i yno.
7 Arglwydd Dduw y nefoedd, yr hwn a’m cymerodd i o dŷ fy nhad, ac o wlad fy nghenedl, yr hwn hefyd a ymddiddanodd â mi, ac a dyngodd wrthyf, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf y tir hwn; efe a enfyn ei angel o’th flaen di, a thi a gymeri wraig i’m mab oddi yno. 8 Ac os y wraig ni fyn ddyfod ar dy ôl di, yna glân fyddi oddi wrth fy llw hwn: yn unig na ddychwel di fy mab i yno. 9 A’r gwas a osododd ei law dan forddwyd Abraham ei feistr, ac a dyngodd iddo am y peth hyn.
10 A chymerodd y gwas ddeg camel, o gamelod ei feistr, ac a aeth ymaith: (canys holl dda ei feistr oedd dan ei law ef;) ac efe a gododd, ac a aeth i Mesopotamia, i ddinas Nachor. 11 Ac efe a wnaeth i’r camelod orwedd o’r tu allan i’r ddinas, wrth bydew dwfr ar brynhawn, ynghylch yr amser y byddai merched yn dyfod allan i dynnu dwfr. 12 Ac efe a ddywedodd, O Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, atolwg, pâr i mi lwyddiant heddiw; a gwna drugaredd â’m meistr Abraham. 13 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr, a merched gwŷr y ddinas yn dyfod allan i dynnu dwfr: 14 A bydded, mai y llances y dywedwyf wrthi, Gogwydda, atolwg, dy ystên, fel yr yfwyf; os dywed hi, Yf, a mi a ddiodaf dy gamelod di hefyd; honno a ddarperaist i’th was Isaac: ac wrth hyn y caf wybod wneuthur ohonot ti drugaredd â’m meistr.
15 A bu, cyn darfod iddo lefaru, wele Rebeca yn dyfod allan, (yr hon a anesid i Bethuel fab Milca, gwraig Nachor, brawd Abraham,) a’i hystên ar ei hysgwydd. 16 A’r llances oedd deg odiaeth yr olwg, yn forwyn, a heb i ŵr ei hadnabod; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a lanwodd ei hystên, ac a ddaeth i fyny. 17 A’r gwas a redodd i’w chyfarfod, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi yfed ychydig ddwfr o’th ystên. 18 A hi a ddywedodd, Yf, fy meistr: a hi a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên ar ei llaw, ac a’i diododd ef. 19 A phan ddarfu iddi ei ddiodi ef, hi a ddywedodd, Tynnaf hefyd i’th gamelod, hyd oni ddarffo iddynt yfed. 20 A hi a frysiodd, ac a dywalltodd ei hystên i’r cafn, ac a redodd eilwaith i’r pydew i dynnu, ac a dynnodd i’w holl gamelod ef. 21 A’r gŵr, yn synnu o’i phlegid hi, a dawodd, i wybod a lwyddasai yr Arglwydd ei daith ef, ai naddo. 22 A bu, pan ddarfu i’r camelod yfed, gymryd o’r gŵr glustlws aur, yn hanner sicl ei bwys; a dwy freichled i’w dwylo hi, yn ddeg sicl o aur eu pwys. 23 Ac efe a ddywedodd, Merch pwy ydwyt ti? mynega i mi, atolwg: a oes lle i ni i letya yn nhŷ dy dad? 24 A hi a ddywedodd wrtho, Myfi ydwyf ferch i Bethuel fab Milca, yr hwn a ymddûg hi i Nachor. 25 A hi a ddywedodd wrtho ef, Y mae gwellt ac ebran ddigon gennym ni, a lle i letya. 26 A’r gŵr a ymgrymodd, ac a addolodd yr Arglwydd. 27 Ac a ddywedodd, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn ni adawodd fy meistr heb ei drugaredd a’i ffyddlondeb: yr ydwyf fi ar y ffordd; dug yr Arglwydd fi i dŷ brodyr fy meistr. 28 A’r llances a redodd, ac a fynegodd yn nhŷ ei mam y pethau hyn.
29 Ac i Rebeca yr oedd brawd, a’i enw Laban: a Laban a redodd at y gŵr allan i’r ffynnon. 30 A phan welodd efe y clustlws, a’r breichledau am ddwylo ei chwaer, a phan glywodd efe eiriau Rebeca ei chwaer yn dywedyd, Fel hyn y dywedodd y gŵr wrthyf fi; yna efe a aeth at y gŵr; ac wele efe yn sefyll gyda’r camelod wrth y ffynnon. 31 Ac efe a ddywedodd, Tyred i mewn, ti fendigedig yr Arglwydd; paham y sefi di allan? canys mi a baratoais y tŷ, a lle i’r camelod.
32 A’r gŵr a aeth i’r tŷ: ac yntau a ryddhaodd y camelod, ac a roddodd wellt ac ebran i’r camelod; a dwfr i olchi ei draed ef, a thraed y dynion oedd gydag ef. 33 A gosodwyd bwyd o’i flaen ef i fwyta; ac efe a ddywedodd, Ni fwytâf hyd oni thraethwyf fy negesau. A dywedodd yntau, Traetha. 34 Ac efe a ddywedodd, Gwas Abraham ydwyf fi. 35 A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morynion, a chamelod, ac asynnod. 36 Sara hefyd gwraig fy meistr a ymddûg fab i’m meistr, wedi ei heneiddio hi; ac efe a roddodd i hwnnw yr hyn oll oedd ganddo. 37 A’m meistr a’m tyngodd i, gan ddywedyd, Na chymer wraig i’m mab i o ferched y Canaaneaid, y rhai yr ydwyf yn trigo yn eu tir. 38 Ond ti a ei i dŷ fy nhad, ac at fy nhylwyth, ac a gymeri wraig i’m mab. 39 A dywedais wrth fy meistr, Fe allai na ddaw y wraig ar fy ôl i. 40 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Yr Arglwydd yr hwn y rhodiais ger ei fron, a enfyn ei angel gyda thi, ac a lwydda dy daith di; a thi a gymeri wraig i’m mab i o’m tylwyth, ac o dŷ fy nhad. 41 Yna y byddi rydd oddi wrth fy llw, os ti a ddaw at fy nhylwyth; ac oni roddant i ti, yna y byddi rydd oddi wrth fy llw. 42 A heddiw y deuthum at y ffynnon, ac a ddywedais, Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, os ti sydd yr awr hon yn llwyddo fy nhaith, yr hon yr wyf fi yn myned arni: 43 Wele fi yn sefyll wrth y ffynnon ddwfr; a’r forwyn a ddelo allan i dynnu, ac y dywedwyf wrthi, Dod i mi, atolwg, ychydig ddwfr i’w yfed o’th ystên; 44 Ac a ddywedo wrthyf finnau, Yf di, a thynnaf hefyd i’th gamelod: bydded honno y wraig a ddarparodd yr Arglwydd i fab fy meistr. 45 A chyn darfod i mi ddywedyd yn fy nghalon, wele Rebeca yn dyfod allan, a’i hystên ar ei hysgwydd; a hi a aeth i waered i’r ffynnon, ac a dynnodd: yna y dywedais wrthi, Dioda fi, atolwg. 46 Hithau a frysiodd, ac a ddisgynnodd ei hystên oddi arni, ac a ddywedodd, Yf; a mi a ddyfrhaf dy gamelod hefyd. Felly yr yfais; a hi a ddyfrhaodd y camelod hefyd. 47 A mi a ofynnais iddi, ac a ddywedais, Merch pwy ydwyt ti? Hithau a ddywedodd, Merch Bethuel mab Nachor, yr hwn a ymddûg Milca iddo ef. Yna y gosodais y clustlws wrth ei hwyneb, a’r breichledau am ei dwylo hi: 48 Ac a ymgrymais, ac a addolais yr Arglwydd, ac a fendithiais Arglwydd Dduw fy meistr Abraham, yr hwn a’m harweiniodd ar hyd yr iawn ffordd, i gymryd merch brawd fy meistr i’w fab ef. 49 Ac yn awr od ydych chwi yn gwneuthur trugaredd a ffyddlondeb â’m meistr, mynegwch i mi: ac onid e, mynegwch i mi; fel y trowyf ar y llaw ddeau, neu ar y llaw aswy. 50 Yna yr atebodd Laban a Bethuel, ac a ddywedasant, Oddi wrth yr Arglwydd y daeth y peth hyn: ni allwn ddywedyd wrthyt ddrwg, na da. 51 Wele Rebeca o’th flaen; cymer hi, a dos, a bydded wraig i fab dy feistr, fel y llefarodd yr Arglwydd. 52 A phan glybu gwas Abraham eu geiriau hwynt, yna efe a ymgrymodd hyd lawr i’r Arglwydd. 53 A thynnodd y gwas allan dlysau arian, a thlysau aur, a gwisgoedd, ac a’u rhoddodd i Rebeca: rhoddodd hefyd bethau gwerthfawr i’w brawd hi, ac i’w mam. 54 A hwy a fwytasant ac a yfasant, efe a’r dynion oedd gydag ef, ac a letyasant dros nos: a chodasant yn fore; ac efe a ddywedodd, Gollyngwch fi at fy meistr. 55 Yna y dywedodd ei brawd a’i mam, Triged y llances gyda ni ddeng niwrnod o’r lleiaf; wedi hynny hi a gaiff fyned. 56 Yntau a ddywedodd wrthynt, Na rwystrwch fi, gan i’r Arglwydd lwyddo fy nhaith; gollyngwch fi, fel yr elwyf at fy meistr. 57 Yna y dywedasant, Galwn ar y llances, a gofynnwn iddi hi. 58 A hwy a alwasant ar Rebeca, a dywedasant wrthi, A ei di gyda’r gŵr hwn? A hi a ddywedodd, Af. 59 A hwy a ollyngasant Rebeca eu chwaer, a’i mamaeth, a gwas Abraham, a’i ddynion; 60 Ac a fendithiasant Rebeca, ac a ddywedasant wrthi, Ein chwaer wyt, bydd di fil fyrddiwn; ac etifedded dy had borth ei gaseion.
61 Yna y cododd Rebeca, a’i llancesau, ac a farchogasant ar y camelod, ac a aethant ar ôl y gŵr; a’r gwas a gymerodd Rebeca, ac a aeth ymaith. 62 Ac Isaac oedd yn dyfod o ffordd pydew Lahai‐roi; ac efe oedd yn trigo yn nhir y deau. 63 Ac Isaac a aeth allan i fyfyrio yn y maes, ym min yr hwyr; ac a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd, ac wele y camelod yn dyfod. 64 Rebeca hefyd a ddyrchafodd ei llygaid; a phan welodd hi Isaac, hi a ddisgynnodd oddi ar y camel. 65 Canys hi a ddywedasai wrth y gwas, Pwy yw y gŵr hwn sydd yn rhodio yn y maes i’n cyfarfod ni? A’r gwas a ddywedasai, Fy meistr yw efe: a hi a gymerth orchudd, ac a ymwisgodd. 66 A’r gwas a fynegodd i Isaac yr hyn oll a wnaethai efe. 67 Ac Isaac a’i dug hi i mewn i babell Sara ei fam; ac efe a gymerth Rebeca, a hi a aeth yn wraig iddo, ac efe a’i hoffodd hi: ac Isaac a ymgysurodd ar ôl ei fam.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.