Chronological
25 Ac Abraham a gymerodd eilwaith wraig, a’i henw Cetura. 2 A hi a esgorodd iddo ef Simran, a Jocsan, a Medan, a Midian, ac Isbac, a Sua. 3 A Jocsan a genhedlodd Seba, a Dedan: a meibion Dedan oedd Assurim, a Letusim, a Lewmmim. 4 A meibion Midian oedd Effa, ac Effer, a Hanoch, ac Abida, ac Eldaa: yr holl rai hyn oedd feibion Cetura.
5 Ac Abraham a roddodd yr hyn oll oedd ganddo i Isaac. 6 Ac i feibion gordderchwragedd Abraham y rhoddodd Abraham roddion; ac efe a’u hanfonodd hwynt oddi wrth Isaac ei fab, tua’r dwyrain, i dir y dwyrain, ac efe eto yn fyw. 7 A dyma ddyddiau blynyddoedd einioes Abraham, y rhai y bu efe fyw; can mlynedd a phymtheng mlynedd a thrigain. 8 Ac Abraham a drengodd, ac a fu farw mewn oed teg, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau; ac efe a gasglwyd at ei bobl. 9 Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpela, ym maes Effron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre; 10 Y maes a brynasai Abraham gan feibion Heth; yno y claddwyd Abraham, a Sara ei wraig.
11 Ac wedi marw Abraham, bu hefyd i Dduw fendithio Isaac ei fab ef: ac Isaac a drigodd wrth ffynnon Lahai‐roi.
12 A dyma genedlaethau Ismael, fab Abraham, yr hwn a ymddûg Agar yr Eifftes, morwyn Sara, i Abraham. 13 A dyma enwau meibion Ismael, erbyn eu henwau, trwy eu cenedlaethau: Nebaioth cyntaf‐anedig Ismael, a Chedar, ac Adbeel, a Mibsam, 14 Misma hefyd, a Duma, a Massa, 15 Hadar, a Thema, Jetur, Naffis, a Chedema. 16 Dyma hwy meibion Ismael, a dyma eu henwau hwynt wrth eu trefydd, ac wrth eu cestyll; yn ddeuddeg o dywysogion yn ôl eu cenhedloedd. 17 A dyma flynyddoedd einioes Ismael; can mlynedd a dwy ar bymtheg ar hugain o flynyddoedd: yna y trengodd, ac y bu farw, ac y casglwyd ef at ei bobl. 18 Preswyliasant hefyd o Hafila hyd Sur, yr hon sydd o flaen yr Aifft, ffordd yr ei di i Asyria: ac yng ngŵydd ei holl frodyr y bu efe farw.
19 A dyma genedlaethau Isaac fab Abraham: Abraham a genhedlodd Isaac. 20 Ac Isaac oedd fab deugain mlwydd pan gymerodd efe Rebeca ferch Bethuel y Syriad, o Mesopotamia, chwaer Laban y Syriad, yn wraig iddo. 21 Ac Isaac a weddïodd ar yr Arglwydd dros ei wraig, am ei bod hi yn amhlantadwy; a’r Arglwydd a wrandawodd arno ef, a Rebeca ei wraig ef a feichiogodd. 22 A’r plant a ymwthiasant â’i gilydd yn ei chroth hi: yna y dywedodd hi, Os felly, beth a wnaf fi fel hyn? A hi a aeth i ymofyn â’r Arglwydd. 23 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
24 A phan gyflawnwyd ei dyddiau hi i esgor, wele, gefeilliaid oedd yn ei chroth hi. 25 A’r cyntaf a ddaeth allan yn goch drosto i gyd fel cochl flewog: a galwasant ei enw ef Esau. 26 Ac wedi hynny y daeth ei frawd ef allan, a’i law yn ymaflyd yn sawdl Esau: a galwyd ei enw ef Jacob. Ac Isaac oedd fab trigain mlwydd pan anwyd hwynt. 27 A’r llanciau a gynyddasant: ac Esau oedd ŵr yn medru hela, a gŵr o’r maes; a Jacob oedd ŵr disyml, yn cyfanheddu mewn pebyll. 28 Isaac hefyd oedd hoff ganddo Esau, am ei fod yn bwyta o’i helwriaeth ef: a Rebeca a hoffai Jacob.
29 A Jacob a ferwodd gawl: yna Esau a ddaeth o’r maes, ac efe yn ddiffygiol. 30 A dywedodd Esau wrth Jacob, Gad i mi yfed, atolwg, o’r cawl coch yma; oherwydd diffygiol wyf fi: am hynny y galwyd ei enw ef Edom. 31 A dywedodd Jacob, Gwerth di heddiw i mi dy enedigaeth‐fraint. 32 A dywedodd Esau, Wele fi yn myned i farw, a pha les a wna’r enedigaeth‐fraint hon i mi? 33 A dywedodd Jacob, Twng i mi heddiw. Ac efe a dyngodd iddo; ac efe a werthodd ei enedigaeth‐fraint i Jacob. 34 A Jacob a roddes i Esau fara a chawl ffacbys; ac efe a fwytaodd, ac a yfodd, ac a gododd, ac a aeth ymaith: felly y diystyrodd Esau ei enedigaeth‐fraint.
26 A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar. 2 A’r Arglwydd a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt. 3 Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf: oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di. 4 A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di: 5 Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.
6 Ac Isaac a drigodd yn Gerar. 7 A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg. 8 A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig. 9 Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi. 10 A dywedodd Abimelech, Paham y gwnaethost hyn â ni? hawdd y gallasai un o’r bobl orwedd gyda’th wraig di; felly y dygasit arnom ni bechod. 11 A gorchmynnodd Abimelech i’r holl bobl, gan ddywedyd, Yr hwn a gyffyrddo â’r gŵr hwn, neu â’i wraig, a leddir yn farw. 12 Ac Isaac a heuodd yn y tir hwnnw, ac a gafodd y flwyddyn honno y can cymaint. A’r Arglwydd a’i bendithiodd ef. 13 A’r gŵr a gynyddodd, ac a aeth rhagddo, ac a dyfodd hyd onid aeth yn fawr iawn. 14 Ac yr oedd ganddo ef gyfoeth o ddefaid, a chyfoeth o wartheg, a gweision lawer: a’r Philistiaid a genfigenasant wrtho ef. 15 A’r holl bydewau y rhai a gloddiasai gweision ei dad ef, yn nyddiau Abraham ei dad ef, y Philistiaid a’u caeasant hwy, ac a’u llanwasant â phridd. 16 Ac Abimelech a ddywedodd wrth Isaac, Dos oddi wrthym ni: canys ti a aethost yn gryfach o lawer na nyni.
17 Ac Isaac a aeth oddi yno, ac a wersyllodd yn nyffryn Gerar, ac a breswyliodd yno. 18 Ac Isaac eilwaith a gloddiodd y pydewau dwfr y rhai a gloddiasent yn nyddiau Abraham ei dad ef, ac a gaeasai’r Philistiaid wedi marw Abraham; ac a enwodd enwau arnynt, yn ôl yr enwau a enwasai ei dad ef arnynt hwy. 19 Gweision Isaac a gloddiasant hefyd yn y dyffryn, ac a gawsant yno ffynnon o ddwfr rhedegog. 20 A bugeiliaid Gerar a ymrysonasant â bugeiliaid Isaac, gan ddywedyd, Y dwfr sydd eiddom ni. Yna efe a alwodd enw y ffynnon, Esec; oherwydd ymgynhennu ohonynt ag ef. 21 Cloddiasant hefyd bydew arall: ac ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Sitna. 22 Ac efe a fudodd oddi yno, ac a gloddiodd bydew arall; ac nid ymrysonasant am hwnnw: ac efe a alwodd ei enw ef Rehoboth; ac a ddywedodd, Canys yn awr yr ehangodd yr Arglwydd arnom, a ni a ffrwythwn yn y tir. 23 Ac efe a aeth i fyny oddi yno i Beer‐seba. 24 A’r Arglwydd a ymddangosodd iddo y noson honno, ac a ddywedodd, Myfi yw Duw Abraham dy dad di: nac ofna; canys byddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf, ac a luosogaf dy had er mwyn Abraham fy ngwas. 25 Ac efe a adeiladodd yno allor, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd; ac yno y gosododd efe ei babell: a gweision Isaac a gloddiasant yno bydew.
26 Yna y daeth Abimelech ato ef o Gerar, ac Ahussath ei gyfaill, a Phichol tywysog ei lu. 27 Ac Isaac a ddywedodd wrthynt, Paham y daethoch chwi ataf fi; gan i chwi fy nghasáu, a’m gyrru oddi wrthych? 28 Yna y dywedasant, Gan weled ni a welsom fod yr Arglwydd gyda thi: a dywedasom, Bydded yn awr gynghrair rhyngom ni, sef rhyngom ni a thi; a gwnawn gyfamod â thi; 29 Na wnei i ni ddrwg, megis na chyffyrddasom ninnau â thi, a megis y gwnaethom ddaioni yn unig â thi, ac y’th anfonasom mewn heddwch; ti yn awr wyt fendigedig yr Arglwydd. 30 Ac efe a wnaeth iddynt wledd; a hwy a fwytasant ac a yfasant. 31 Yna y codasant yn fore, a hwy a dyngasant bob un i’w gilydd: ac Isaac a’u gollyngodd hwynt ymaith, a hwy a aethant oddi wrtho ef mewn heddwch. 32 A’r dydd hwnnw y bu i weision Isaac ddyfod, a mynegi iddo ef o achos y pydew a gloddiasent; a dywedasant wrtho, Cawsom ddwfr. 33 Ac efe a’i galwodd ef Seba: am hynny enw y ddinas yw Beer‐seba hyd y dydd hwn.
34 Ac yr oedd Esau yn fab deugain mlwydd, ac efe a gymerodd yn wraig, Judith ferch Beeri yr Hethiad, a Basemath ferch Elon yr Hethiad. 35 A hwy oeddynt chwerwder ysbryd i Isaac ac i Rebeca.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.