Chronological
40 Yr Arglwydd hefyd a atebodd Job, ac a ddywedodd, 2 Ai dysgeidiaeth yw ymryson â’r Hollalluog? a argyhoeddo Dduw, atebed i hynny.
3 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 4 Wele, gwael ydwyf; pa beth a atebaf i ti? mi a osodaf fy llaw ar fy ngenau. 5 Dywedais unwaith; ond nid atebaf: ie, ddwywaith; ond ni chwanegaf.
6 A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. 8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? 9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
15 Yn awr wele y behemoth, yr hwn a wneuthum gyda thi; glaswellt a fwyty efe fel ych. 16 Wele yn awr, ei gryfder ef sydd yn ei lwynau, a’i nerth ym mogel ei fol. 17 Efe a gyfyd ei gynffon fel cedrwydden: gewynnau ei arennau ef sydd blethedig. 18 Pibellau pres ydyw ei esgyrn ef: ei esgyrn sydd fel ffyn heyrn. 19 Pennaf o ffyrdd Duw ydyw efe: yr hwn a’i gwnaeth a all beri i’w gleddyf nesáu ato ef. 20 Y mynyddoedd yn ddiau a ddygant laswellt iddo: ac yno y chwery holl anifeiliaid y maes. 21 Efe a orwedd dan goedydd cysgodfawr, mewn lloches o gyrs a siglennydd. 22 Coed cysgodfawr a’i gorchuddiant â’u cysgod: helyg yr afon a’i hamgylchant. 23 Wele, efe a yf yr afon, ac ni phrysura: efe a obeithiai y tynnai efe’r Iorddonen i’w safn. 24 A ddeil neb ef o flaen ei lygaid? a dylla neb ei drwyn ef â bachau?
41 A dynni di y lefiathan allan â bach? neu a rwymi di ei dafod ef â rhaff? 2 A osodi di fach yn ei drwyn ef? neu a dylli di asgwrn ei ên ef â mynawyd? 3 A fawr ymbil efe â thi? a ddywed efe wrthyt ti yn deg? 4 A wna efe amod â thi? a gymeri di ef yn was tragwyddol? 5 A chwaraei di ag ef fel ag aderyn? neu a rwymi di ef i’th lancesau? 6 A swpera cyfeillion arno? a gyfrannant hwy ef rhwng marsiandwyr? 7 A lenwi di ei groen ef â phigau heyrn? neu ei ben â thryferau? 8 Gosod dy law arno ef; cofia y rhyfel; na wna mwy. 9 Wele, ofer ydyw ei obaith ef: oni chwymp un gan ei olwg ef? 10 Nid oes neb mor hyderus â’i godi ef: a phwy a saif ger fy mron i? 11 Pwy a roddodd i mi yn gyntaf, a mi a dalaf? beth bynnag sydd dan yr holl nefoedd, eiddof fi yw. 12 Ni chelaf ei aelodau ef, na’i gryfder, na gweddeidd‐dra ei ystum ef. 13 Pwy a ddatguddia wyneb ei wisg ef? pwy a ddaw ato ef â’i ffrwyn ddauddyblyg? 14 Pwy a egyr ddorau ei wyneb ef? ofnadwy yw amgylchoedd ei ddannedd ef. 15 Ei falchder yw ei emau, wedi eu cau ynghyd megis â sêl gaeth. 16 Y mae y naill mor agos at y llall, fel na ddaw gwynt rhyngddynt. 17 Pob un a lŷn wrth ei gilydd; hwy a gydymgysylltant, fel na wahenir hwy. 18 Wrth ei disian ef y tywynna goleuni, a’i lygaid ef sydd fel amrantau y bore. 19 Ffaglau a ânt allan, a gwreichion tanllyd a neidiant o’i enau ef. 20 Mwg a ddaw allan o’i ffroenau, fel o bair neu grochan berwedig. 21 Ei anadl a wna i’r glo losgi, a fflam a ddaw allan o’i enau. 22 Yn ei wddf y trig cryfder, a thristwch a dry yn llawenydd o’i flaen ef. 23 Llywethau ei gnawd a lynant ynghyd: caledodd ynddo ei hun, fel na syflo. 24 Caled ydyw ei galon fel carreg: a chaled fel darn o’r maen isaf i felin. 25 Rhai cryfion a ofnant pan godo efe: rhag ei ddrylliadau ef yr ymlanhânt. 26 Cleddyf yr hwn a’i trawo, ni ddeil; y waywffon, y bicell, na’r llurig. 27 Efe a gyfrif haearn fel gwellt, a phres fel pren pwdr. 28 Ni phair saeth iddo ffoi: cerrig tafl a droed iddo yn sofl. 29 Picellau a gyfrifir fel soflyn; ac efe a chwardd wrth ysgwyd gwaywffon. 30 Dano ef y bydd megis darnau llymion o lestri pridd: efe a daena bethau llymion ar hyd y clai. 31 Efe a wna i’r dyfnder ferwi fel crochan: efe a esyd y môr fel crochan o ennaint. 32 Efe a wna lwybr golau ar ei ôl; fel y tybygid fod y dyfnder yn frigwyn. 33 Nid oes ar y ddaear gyffelyb iddo, yr hwn a wnaethpwyd heb ofn. 34 Efe a edrych ar bob peth uchel: brenin ydyw ar holl feibion balchder.
42 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 2 Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt. 3 Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn. 4 Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau. 5 Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di. 6 Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
7 Ac wedi dywedyd o’r Arglwydd y geiriau hyn wrth Job, yr Arglwydd a ddywedodd wrth Eliffas y Temaniad, Fy nigofaint a gyneuodd yn dy erbyn di, ac yn erbyn dy ddau gyfaill; am na ddywedasoch amdanaf fi yn uniawn fel fy ngwasanaethwr Job. 8 Yn awr gan hynny cymerwch i chwi saith o fustych, a saith o hyrddod, ac ewch at fy ngwasanaethwr Job, ac offrymwch boethaberth drosoch; a gweddïed fy ngwasanaethwr Job drosoch: canys mi a dderbyniaf ei wyneb ef: fel na wnelwyf i chwi yn ôl eich ffolineb, am na ddywedasoch yr uniawn amdanaf fi, fel fy ngwasanaethwr Job. 9 Felly Eliffas y Temaniad, a Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, a aethant ac a wnaethant fel y dywedasai yr Arglwydd wrthynt. A’r Arglwydd a dderbyniodd wyneb Job. 10 Yna yr Arglwydd a ddychwelodd gaethiwed Job, pan weddïodd efe dros ei gyfeillion: a’r Arglwydd a chwanegodd yr hyn oll a fuasai gan Job yn ddauddyblyg. 11 Yna ei holl geraint, a’i holl garesau, a phawb o’i gydnabod ef o’r blaen, a ddaethant ato, ac a fwytasant fwyd gydag ef yn ei dŷ, ac a gwynasant iddo, ac a’i cysurasant ef, am yr holl ddrwg a ddygasai yr Arglwydd arno ef: a hwy a roddasant iddo bob un ddarn o arian, a phob un dlws o aur. 12 Felly yr Arglwydd a fendithiodd ddiwedd Job yn fwy na’i ddechreuad: canys yr oedd ganddo bedair mil ar ddeg o ddefaid, a chwe mil o gamelod, a mil o gyplau ychen, a mil o asynnod. 13 Ac yr oedd iddo saith o feibion, a thair o ferched. 14 Ac efe a alwodd enw y gyntaf, Jemima; ac enw yr ail Ceseia; ac enw y drydedd, Ceren‐happuc. 15 Ac ni cheid gwragedd mor lân â merched Job yn yr holl wlad honno: a’u tad a roddes iddynt hwy etifeddiaeth ymhlith eu brodyr. 16 A Job a fu fyw wedi hyn gant a deugain o flynyddoedd; ac a welodd o’i feibion, a meibion ei feibion, bedair cenhedlaeth. 17 Felly Job a fu farw yn hen, ac yn llawn o ddyddiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.