Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Job 21-23

21 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur. Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch. A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd? Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau. Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd. Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth? Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg. Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy. 10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla. 11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant. 12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ. 13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd. 14 Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. 15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno? 16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi. 17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig. 18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt. 19 Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd. 20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog. 21 Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef? 22 A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel. 23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl. 24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr. 25 A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch. 26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt. 27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn. 28 Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion? 29 Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy, 30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan. 31 Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth? 32 Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr. 33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef. 34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?

22 Yna Eliffas y Temaniad a atebodd ac a ddywedodd, A wna gŵr lesâd i Dduw, fel y gwna y synhwyrol lesâd iddo ei hun? Ai digrifwch ydyw i’r Hollalluog dy fod di yn gyfiawn? neu ai elw dy fod yn perffeithio dy ffyrdd? Ai rhag dy ofn y cerydda efe dydi? neu yr â efe gyda thi i farn? Onid ydyw dy ddrygioni di yn aml? a’th anwireddau heb derfyn? Canys cymeraist wystl gan dy frawd yn ddiachos; a diosgaist ddillad y rhai noethion. Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog. Ond y gŵr cadarn, efe bioedd y ddaear; a’r anrhydeddus a drigai ynddi. Danfonaist ymaith wragedd gweddwon yn waglaw; a breichiau y rhai amddifaid a dorrwyd. 10 Am hynny y mae maglau o’th amgylch, ac ofn disymwth yn dy ddychrynu di; 11 Neu dywyllwch rhag gweled ohonot: a llawer o ddyfroedd a’th orchuddiant. 12 Onid ydyw Duw yn uchelder y nefoedd? gwêl hefyd uchder y sêr, mor uchel ydynt. 13 A thi a ddywedi, Pa fodd y gŵyr Duw? a farn efe trwy’r cwmwl tywyll? 14 Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd. 15 A ystyriaist di yr hen ffordd a sathrodd y gwŷr anwir? 16 Y rhai a dorrwyd pan nid oedd amser; afon a dywalltwyd ar eu sylfaen hwy. 17 Hwy a ddywedasant wrth Dduw, Cilia oddi wrthym: a pha beth a wna’r Hollalluog iddynt hwy? 18 Eto efe a lanwasai eu tai hwy o ddaioni: ond pell yw cyngor yr annuwiolion oddi wrthyf fi. 19 Y rhai cyfiawn a welant, ac a lawenychant: a’r diniwed a’u gwatwar hwynt. 20 Gan na thorred ymaith ein sylwedd ni, eithr y tân a ysodd eu gweddill hwy. 21 Ymarfer, atolwg, ag ef, a bydd heddychlon: o hyn y daw i ti ddaioni. 22 Cymer y gyfraith, atolwg, o’i enau ef, a gosod ei eiriau ef yn dy galon. 23 Os dychweli at yr Hollalluog, ti a adeiledir, symudi anwiredd ymhell oddi wrth dy luestai. 24 Rhoddi aur i gadw fel pridd, ac aur Offir fel cerrig yr afonydd. 25 A’r Hollalluog fydd yn amddiffyn i ti, a thi a gei amldra o arian. 26 Canys yna yr ymhoffi yn yr Hollalluog, ac a ddyrchefi dy wyneb at Dduw. 27 Ti a weddïi arno ef, ac efe a’th wrendy; a thi a deli dy addunedau. 28 Pan ragluniech di beth, efe a sicrheir i ti; a’r goleuni a lewyrcha ar dy ffyrdd. 29 Pan ostynger hwynt, yna y dywedi di, Y mae goruchafiaeth; ac efe a achub y gostyngedig ei olwg. 30 Efe a wareda ynys y diniwed: a thrwy lendid dy ddwylo y gwaredir hi.

23 A Job a atebodd ac a ddywedodd, Y mae fy ymadrodd heddiw yn chwerw: fy nialedd sydd drymach na’m huchenaid. O na wyddwn pa le y cawn ef! fel y deuwn at ei eisteddfa ef! Trefnwn fy mater ger ei fron ef, a llanwn fy ngenau â rhesymau. Mynnwn wybod â pha eiriau y’m hatebai; a deall pa beth a ddywedai efe wrthyf. A ddadlau efe i’m herbyn â helaethrwydd ei gadernid? Na wna; ond efe a osodai nerth ynof. Yno yr uniawn a ymresymai ag ef: felly mi a ddihangwn byth gan fy marnwr. Wele, ymlaen yr af, ond nid ydyw efe yno; yn ôl hefyd, ond ni fedraf ei ganfod ef: Ar y llaw aswy, lle y mae efe yn gweithio, ond ni fedraf ei weled ef: ar y llaw ddeau y mae yn ymguddio, fel na chaf ei weled: 10 Ond efe a edwyn fy ffordd i: wedi iddo fy mhrofi, myfi a ddeuaf allan fel aur. 11 Fy nhroed a ddilynodd ei gerddediad ef: cedwais ei ffordd ef, ac ni ŵyrais. 12 Nid ydwyf chwaith yn cilio oddi wrth orchymyn ei wefusau ef: hoffais eiriau ei enau ef yn fwy na’m hymborth angenrheidiol. 13 Ond y mae efe yn un, a phwy a’i try ef? a’r hyn y mae ei enaid ef yn ei chwenychu, efe a’i gwna. 14 Canys efe a gyflawna yr hyn a osodwyd i mi: ac y mae ganddo lawer o’r fath bethau. 15 Am hynny y dychrynais rhag ei ofn ef: ystyriais, ac ofnais ef. 16 Canys Duw a feddalhaodd fy nghalon, a’r Hollalluog a’m cythryblodd: 17 Oherwydd na thorrwyd fi ymaith o flaen y tywyllwch, ac na chuddiodd efe y tywyllwch o’m gŵydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.