Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 32-34

32 A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu ag ef. A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim. A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom: Ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyda Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn. Ac y mae i mi eidionau, ac asynnod, defaid, a gweision, a morynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gydag ef. Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a rannodd y bobl oedd gydag ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai; Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddihangol.

A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti! 10 Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai. 11 Achub fi, atolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod ohono a’m taro, a’r fam gyda’r plant. 12 A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddiau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13 Ac yno y lletyodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymerth efe anrheg i’w frawd Esau; 14 Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod, 15 Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asennod, a deg o ebolion. 16 Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyr o’r neilltu; ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyr a’i gilydd. 17 Ac efe a orchmynnodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr ei? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di? 18 Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hôl ni. 19 Felly y gorchmynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno. 20 A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hôl ni. Oblegid (eb efe) bodlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau. 21 Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a letyodd y noson honno yn y gwersyll. 22 Ac efe a gyfododd y noson honno, ac a gymerth ei ddwy wraig, a’i ddwy lawforwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros ryd Jabboc. 23 Ac a’u cymerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy’r afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

24 A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gŵr ag ef nes codi’r wawr. 25 A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chyswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cyswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech ohono ag ef. 26 A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a atebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi. 27 Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a atebodd, Jacob. 28 Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac a orchfygaist. 29 A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, atolwg, dy enw. Ac yntau a atebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef. 30 A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dihangodd fy einioes. 31 A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun. 32 Am hynny plant Israel ni fwytânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cyswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chyswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.

33 A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gydag ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy lawforwyn. Ac ymlaen y gosododd efe y ddwy lawforwyn, a’u plant hwy, a Lea a’i phlant hithau yn ôl y rhai hynny, a Rahel a Joseff yn olaf. Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd. Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant. Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu’r gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di. Yna y llawforynion a nesasant, hwynt‐hwy a’u plant, ac a ymgrymasant. A Lea a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymasant: ac wedi hynny y nesaodd Joseff a Rahel, ac a ymgrymasant. Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai acw a gyfarfûm i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd. Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt. 10 A Jacob a ddywedodd, Nage; atolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn fodlon i mi. 11 Cymer, atolwg, fy mendith, yr hon a dducpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslon i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymerodd; 12 Ac a ddywedodd, Cychwynnwn, ac awn: a mi a af o’th flaen di. 13 Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyda myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna’r holl braidd. 14 Aed, atolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo’r anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo’r plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir. 15 Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyda thi rai o’r bobl sydd gyda mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Caffwyf ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

16 Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir. 17 A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18 Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd yng ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas. 19 Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gan darn o arian: 20 Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El‐Elohe‐Israel.

34 A Dina merch Lea, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad. A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymerth hi, ac a orweddodd gyda hi, ac a’i treisiodd. A’i enaid ef a lynodd wrth Dina merch Jacob; ie, efe a hoffodd y llances, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llances. Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymer y llances hon yn wraig i mi. A Jacob a glybu i Sichem halogi Dina ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyda’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.

A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan ag ef. A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed ohonynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyda merch Jacob; canys ni ddylesid gwneuthur felly. A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, atolwg, yn wraig iddo ef. Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymerwch ein merched ni i chwithau. 10 A chwi a gewch breswylio gyda ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi. 11 Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Caffwyf ffafr yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf. 12 Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynhysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llances i mi yn wraig. 13 A meibion Jacob a atebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, oherwydd iddo ef halogi Dina eu chwaer hwynt; 14 Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i ŵr dienwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni. 15 Ond yn hyn y cytunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwryw i chwi; 16 Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd‐drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl. 17 Ond oni wrandewch arnom ni i’ch enwaedu; yna y cymerwn ein merch, ac a awn ymaith. 18 A’u geiriau hwynt oedd dda yng ngolwg Hemor, ac yng ngolwg Sichem mab Hemor. 19 Ac nid oedodd y llanc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.

20 A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd, 21 Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyda ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnânt eu negesau ynddi; a’r wlad, wele, sydd ddigon eang iddynt hwy: cymerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy. 22 Ond yn hyn y cytuna y dynion â ni, i drigo gyda ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig. 23 Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddom ni fyddant hwy? yn unig cytunwn â hwynt, a hwy a drigant gyda ni. 24 Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwryw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.

25 A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dina, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwryw. 26 Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymerasant Dina o dŷ Sichem, ac a aethant allan. 27 Meibion Jacob a ddaethant ar y lladdedigion, ac a ysbeiliasant y ddinas, am halogi ohonynt eu chwaer hwynt. 28 Cymerasant eu defaid hwynt, a’u gwartheg, a’u hasynnod hwynt, a’r hyn oedd yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes, 29 A’u holl gyfoeth hwynt; a’u holl rai bychain, a’u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac ysbeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai. 30 A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid a’r Pheresiaid: a minnau yn ychydig o nifer, hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ. 31 Hwythau a atebasant, Ai megis putain y gwnâi efe ein chwaer ni?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.