Chronological
24 Paham, gan na chuddiwyd yr amseroedd rhag yr Hollalluog, na welai y rhai sydd yn ei adnabod ef, ei ddyddiau ef? 2 Y mae rhai yn symudo terfynau; yn ysglyfaethu defaid, ac yn ymborthi arnynt. 3 Y maent yn gyrru asynnod yr amddifad ymaith: maent yn cymryd ych y wraig weddw ar wystl. 4 Maent yn troi yr anghenog allan o’r ffordd: tlodion y ddaear a ymgydlechant. 5 Wele, y maent fel asynnod gwylltion yn yr anialwch, yn myned allan i’w gwaith, gan geisio ysglyfaeth yn fore: y diffeithwch sydd yn dwyn iddynt fwyd, ac i’w plant. 6 Medant eu hŷd yn y maes; a gwinllan yr annuwiol a gasglant. 7 Gwnânt i’r tlawd letya yn noeth heb ddillad, ac heb wisg mewn oerni. 8 Gwlychant gan lifeiriant y mynyddoedd; ac o eisiau diddosrwydd y cofleidiant graig. 9 Tynnant yr amddifad oddi wrth y fron: cymerant wystl gan y tlawd. 10 Gwnânt iddo fyned yn noeth heb ddillad; a dygant ddyrneidiau lloffa y rhai newynog. 11 Y rhai sydd yn gwneuthur olew o fewn eu parwydydd hwynt, ac sydd yn sathru eu cafnau gwin, ydynt sychedig. 12 Y mae gwŷr yn griddfan o’r ddinas, ac y mae eneidiau y rhai archolledig yn gweiddi; ac nid yw Duw yn rhoi ffolineb yn eu herbyn. 13 Y rhai hynny sydd ymhlith y rhai sydd yn gwrthwynebu goleuni; nid ydynt yn adnabod ei ffyrdd, nac yn aros yn ei lwybrau. 14 Gyda’r goleuad y cyfyd y lleiddiad, ac y lladd efe y tlawd a’r anghenog; a’r nos y bydd efe fel lleidr. 15 A llygad y godinebwr sydd yn gwylied am y cyfnos, gan ddywedyd, Ni chaiff llygad fy ngweled; ac efe a esyd hug ar ei wyneb. 16 Yn y tywyll y maent yn cloddio trwy dai, y thai a nodasant iddynt eu hunain liw dydd: nid adwaenant hwy oleuni. 17 Canys megis cysgod marwolaeth ydyw y bore iddynt hwy: dychryn cysgod marwolaeth yw, os edwyn neb hwynt. 18 Ysgafn ydyw ar wyneb y dyfroedd; melltigedig ydyw eu rhandir hwy ar y ddaear: ni thry efe ei wyneb at ffordd y gwinllannoedd. 19 Sychder a gwres sydd yn cipio dyfroedd eira: felly y bedd y rhai a bechasant. 20 Y groth a’i gollwng ef dros gof, melys fydd gan y pryf ef; ni chofir ef mwy: ac anwiredd a dorrir fel pren. 21 Y mae efe yn dryllio yr amhlantadwy, yr hon ni phlanta; ac nid ydyw yn gwneuthur daioni i’r weddw. 22 Ac y mae efe yn tynnu y rhai cedyrn wrth ei nerth: y mae efe yn codi, ac nid oes neb diogel o’i einioes. 23 Er rhoddi iddo fod mewn diogelwch, ar yr hyn y mae ei bwys; eto y mae ei lygaid ef ar eu ffyrdd hwy. 24 Hwynt‐hwy a ddyrchafwyd dros ychydig, ond hwy a ddarfuant, ac a ostyngwyd; hwy a dducpwyd ymaith fel pawb eraill, ac a dorrwyd ymaith fel pen tywysen. 25 Ac onid ydyw felly yn awr, pwy a’m gwna i yn gelwyddog, ac a esyd fy ymadrodd yn ddiddim?
25 Yna Bildad y Suhiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Arglwyddiaeth ac ofn sydd gydag ef: y mae efe yn gwneuthur heddwch yn ei uchelfannau. 3 A oes gyfrif o’i luoedd ef? ac ar bwy ni chyfyd ei oleuni? 4 Pa fodd y cyfiawnheir dyn gyda Duw? neu pa fodd y bydd yr hwn a aned o wraig yn lân? 5 Wele hyd yn oed y lleuad, ac ni lewyrcha hi; a’r sêr nid ydynt bur yn ei olwg ef: 6 Pa faint llai dyn, yr hwn sydd bryf; a mab dyn, yr hwn sydd abwydyn?
26 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Pwy a gynorthwyaist ti? ai y di‐nerth? a achubaist ti y braich sydd heb gadernid? 3 Pa fodd y cynghoraist ti yr annoeth? ac y mynegaist yn helaeth y peth fel y mae? 4 Wrth bwy y mynegaist ymadroddion? ac ysbryd pwy a ddaeth allan ohonot ti? 5 Pethau meirw a lunnir oddi tan y dyfroedd, a’r rhai sydd yn trigo ynddynt hwy. 6 Y mae uffern yn noeth ger ei fron ef: ac nid oes do ar ddistryw. 7 Y mae efe yn taenu’r gogledd ar y gwagle: y mae efe yn crogi’r ddaear ar ddiddim. 8 Y mae efe yn rhwymo’r dyfroedd yn ei gymylau; ac nid ydyw y cwmwl yn hollti danynt hwy. 9 Y mae efe yn atal wyneb ei orseddfainc: y mae efe yn taenu ei gwmwl arni hi. 10 Efe a amgylchodd wyneb y dyfroedd â therfynau, nes dibennu goleuni a thywyllwch. 11 Y mae colofnau y nefoedd yn crynu, ac yn synnu wrth ei gerydd ef. 12 Efe a ranna y môr â’i nerth; ac a dery falchder â’i ddoethineb. 13 Efe a addurnodd y nefoedd â’i ysbryd: ei law ef a luniodd y sarff dorchog. 14 Wele, dyma rannau ei ffyrdd ef: ond mor fychan ydyw y peth yr ydym ni yn ei glywed amdano ef! ond pwy a ddeall daranau ei gadernid ef?
27 A Job a barablodd eilwaith, ac a ddywedodd, 2 Y mae Duw yn fyw, yr hwn a ddug ymaith fy marn; a’r Hollalluog, yr hwn a ofidiodd fy enaid; 3 Tra fyddo fy anadl ynof, ac ysbryd Duw yn fy ffroenau; 4 Ni ddywed fy ngwefusau anwiredd, ac ni thraetha fy nhafod dwyll. 5 Na ato Duw i mi eich cyfiawnhau chwi: oni threngwyf, ni symudaf fy mherffeithrwydd oddi wrthyf. 6 Yn fy nghyfiawnder y glynais, ac nis gollyngaf hi: ni waradwydda fy nghalon fi tra fyddwyf byw. 7 Bydded fy ngelyn fel yr annuwiol; a’r hwn sydd yn codi yn fy erbyn, fel yr anwir. 8 Canys pa obaith sydd i’r rhagrithiwr, er elwa ohono ef, pan dynno Duw ei enaid ef allan? 9 A wrendy Duw ar ei lef, pan ddelo cyfyngder arno? 10 A ymlawenycha efe yn yr Hollalluog? a eilw efe ar Dduw bob amser? 11 Myfi a’ch dysgaf chwi trwy law Duw: ni chelaf yr hyn sydd gyda’r Hollalluog. 12 Wele, chwychwi oll a’i gwelsoch; a phaham yr ydych chwi felly yn ofera mewn oferedd? 13 Dyma ran dyn annuwiol gyda Duw; ac etifeddiaeth y rhai traws, yr hon a gânt hwy gan yr Hollalluog. 14 Os ei feibion ef a amlheir, hwy a amlheir i’r cleddyf: a’i hiliogaeth ef ni ddigonir â bara. 15 Ei weddillion ef a gleddir ym marwolaeth: a’i wragedd gweddwon nid wylant. 16 Er iddo bentyrru arian fel llwch, a darparu dillad fel clai; 17 Efe a’i darpara, ond y cyfiawn a’i gwisg: a’r diniwed a gyfranna yr arian. 18 Efe a adeiladodd ei dŷ fel gwyfyn, ac fel bwth a wna gwyliwr. 19 Y cyfoethog a huna, ac nis cesglir ef: efe a egyr ei lygaid, ac nid yw. 20 Dychryniadau a’i goddiweddant ef fel dyfroedd: corwynt a’i lladrata ef liw nos. 21 Y dwyreinwynt a’i cymer ef i ffordd, ac efe a â ymaith; ac a’i teifl ef fel corwynt allan o’i le. 22 Canys Duw a deifl arno ef, ac nid arbed: gan ffoi, efe a fynnai ffoi rhag ei law ef. 23 Curant eu dwylo arno, ac a’i hysiant allan o’i le.
28 Diau fod gwythen i’r arian; a lle i’r aur, lle y coethant ef. 2 Haearn a dynnir allan o’r pridd; ac o’r garreg y toddir pres. 3 Efe sydd yn gosod terfyn ar dywyllwch, ac yn chwilio allan bob perffeithrwydd; hyd yn oed meini tywyllwch a chysgod angau. 4 Y mae yr afon yn torri allan oddi wrth y trigolion, y dyfroedd a anghofiwyd gan y troed: hwy a sychasant ac a aethant ymaith oddi wrth ddynion. 5 Y ddaearen, ohoni y daw bara: trowyd megis tân oddi tani. 6 Ei cherrig hi a fyddant le i saffir; a phriddellau aur sydd iddi. 7 Y mae llwybr nid adnabu aderyn, ac ni chanfu llygad barcud: 8 Yr hwn ni sathrodd cenawon llew; nid aeth hen lew trwyddo. 9 Y mae efe yn estyn ei law at y gallestr: y mae efe yn dymchwelyd mynyddoedd o’r gwraidd. 10 Y mae efe yn peri i afonydd dorri trwy y creigiau; ac y mae ei lygad ef yn gweled pob peth gwerthfawr. 11 Y mae efe yn rhwymo yr afonydd rhag llifo, ac yn dwyn peth dirgel allan i oleuni. 12 Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall? 13 Ni ŵyr dyn beth a dâl hi; ac ni cheir hi yn nhir y rhai byw. 14 Y mae y dyfnder yn dywedyd, Nid ydyw hi ynof fi: ac y mae y môr yn dywedyd, Nid ydyw hi gyda myfi. 15 Ni cheir hi er aur pur; ac ni ellir pwyso ei gwerth hi o arian. 16 Ni chyffelybir hi i’r aur o Offir; nac i’r onics gwerthfawr, nac i’r saffir. 17 Nid aur a grisial a’i cystadla hi: na llestr o aur dilin fydd gydwerth iddi. 18 Ni chofir y cwrel, na’r gabis: canys gwell yw caffaeliad doethineb na gemau. 19 Ni ellir cyffelybu y topas o Ethiopia iddi hi: ni chydbrisir hi ag aur pur. 20 Gan hynny o ba le y daw doethineb? a pha le y mae mangre deall? 21 Canys hi a guddied oddi wrth lygaid pob dyn byw; a hi a guddiwyd oddi wrth ehediaid y nefoedd. 22 Colledigaeth a marwolaeth sydd yn dywedyd, Ni a glywsom â’n clustiau sôn amdani hi. 23 Duw sydd yn deall ei ffordd hi; ac efe a edwyn ei lle hi. 24 Canys y mae efe yn edrych ar eithafoedd y ddaear, ac yn gweled dan yr holl nefoedd; 25 I wneuthur pwys i’r gwynt; ac efe a bwysa’r dyfroedd wrth fesur. 26 Pan wnaeth efe ddeddf i’r glaw, a ffordd i fellt y taranau: 27 Yna efe a’i gwelodd hi, ac a’i mynegodd hi; efe a’i paratôdd hi, a hefyd efe a’i chwiliodd hi allan. 28 Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.