Chronological
35 Ac Elihu a lefarodd ac a ddywedodd, 2 A gyfrifaist di yn uniawn ddywedyd ohonot, Y mae fy nghyfiawnder i yn fwy na’r eiddo Duw? 3 Canys dywedaist, Pa les a wna hynny i ti? pa beth a enillaf, er fy nglanhau oddi wrth fy mhechod? 4 Myfi a atebaf i ti, ac i’th gyfeillion gyda thi. 5 Edrych ar y nefoedd, a gwêl; ac edrych ar y cymylau, y rhai sydd uwch na thi. 6 Os pechi, pa niwed a wnei di iddo ef? os aml fydd dy anwireddau, pa beth yr wyt yn ei wneuthur iddo ef? 7 Os cyfiawn fyddi, pa beth yr wyt yn ei roddi iddo ef? neu pa beth y mae efe yn ei gael ar dy law di? 8 I ŵr fel tydi, dy annuwioldeb, ac i fab dyn, dy gyfiawnder, a all ryw beth. 9 Gan faint y gorthrymder, hwy a wnânt i’r gorthrymedig lefain: hwy a floeddiant rhag braich y cedyrn. 10 Ond ni ddywed neb, Pa le y mae Duw, yr hwn a’m gwnaeth i; yr hwn sydd yn rhoddi achosion i ganu y nos? 11 Yr hwn sydd yn ein dysgu yn fwy nag anifeiliaid y ddaear, ac yn ein gwneuthur yn ddoethach nag ehediaid y nefoedd. 12 Yna hwy a waeddant rhag balchder y rhai drwg, ac ni chlyw efe. 13 Diau na wrendy Duw oferedd, ac nad edrych yr Hollalluog arno. 14 Er dywedyd ohonot na weli ef, eto y mae barn ger ei fron ef: disgwyl dithau wrtho. 15 Ac yn awr, am nad yw felly, efe a ymwelodd yn ei ddigofaint; eto ni ŵyr efe mewn dirfawr galedi: 16 Am hynny y lleda Job ei safn yn ofer; ac yr amlha eiriau heb wybodaeth.
36 Ac Elihu a aeth rhagddo, ac a ddywedodd, 2 Goddef i mi ychydig, a myfi a fynegaf i ti, fod gennyf ymadroddion eto dros Dduw. 3 O bell y cymeraf fy ngwybodaeth, ac i’m Gwneuthurwr y rhoddaf gyfiawnder. 4 Canys yn wir nid celwydd fydd fy ymadroddion: y perffaith o wybodaeth sydd gyda thi. 5 Wele, cadarn ydyw Duw, ac ni ddiystyra efe neb: cadarn o gadernid a doethineb yw efe. 6 Nid achub efe fywyd yr annuwiol; ond efe a rydd uniondeb i’r trueiniaid. 7 Ni thyn efe ei olwg oddi ar y cyfiawn; eithr y maent gyda brenhinoedd, ar yr orseddfainc; ie, efe a’u sicrha yn dragywydd, a hwy a ddyrchefir. 8 Ac os hwy a rwymir â gefynnau, ac a ddelir â rhaffau gorthrymder; 9 Yna efe a ddengys iddynt hwy eu gwaith, a’u hanwireddau, amlhau ohonynt: 10 Ac a egyr eu clustiau hwy i dderbyn cerydd; ac a ddywed am droi ohonynt oddi wrth anwiredd. 11 Os gwrandawant hwy, a’i wasanaethu ef, hwy a dreuliant eu dyddiau mewn daioni, a’u blynyddoedd mewn hyfrydwch. 12 Ac oni wrandawant, difethir hwy gan y cleddyf; a hwy a drengant heb wybodaeth. 13 Ond y rhai rhagrithiol o galon a chwanegant ddig: ni waeddant pan rwymo efe hwynt. 14 Eu henaid hwythau fydd marw mewn ieuenctid, a’u bywyd gyda’r aflan. 15 Efe a wared y truan yn ei gystudd, ac a egyr eu clustiau hwynt mewn gorthrymder. 16 Felly hefyd efe a’th symudasai di o enau cyfyngdra i ehangder, lle nid oes gwasgfa; a saig dy fwrdd di fuasai yn llawn braster. 17 Ond ti a gyflawnaist farn yr annuwiol: barn a chyfiawnder a ymaflant ynot. 18 Oherwydd bod digofaint, gochel rhag iddo dy gymryd di ymaith â’i ddyrnod: yna ni’th wared iawn mawr. 19 A brisia efe ar dy olud di? na phrisia, ar aur, nac ar holl gadernid nerth. 20 Na chwennych y nos, pan dorrer pobl ymaith yn eu lle. 21 Ymochel, nac edrych ar anwiredd: canys hynny a ddewisaist o flaen cystudd. 22 Wele, Duw trwy ei nerth a ddyrchafa; pwy sydd yn dysgu fel efe? 23 Pwy a orchmynnodd ei ffordd ef iddo? a phwy a ddywed, Gwnaethost anwiredd? 24 Cofia fawrhau ei waith ef, ar yr hwn yr edrych dynion. 25 Pob dyn a’i gwêl; a dyn a’i cenfydd o bell. 26 Wele, mawr yw Duw, ac nid adwaenom ef; ac ni fedrir chwilio allan nifer ei flynyddoedd ef. 27 Canys efe a wna y defnynnau dyfroedd yn fân: hwy a dywalltant law fel y byddo ei darth; 28 Yr hwn a ddifera ac a ddefnynna y cymylau ar ddyn yn helaeth. 29 Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef? 30 Wele, efe a daenodd ei oleuni arno, ac a orchuddiodd waelod y môr. 31 Canys â hwynt y barn efe y bobloedd, ac y rhydd efe fwyd yn helaeth. 32 Efe a guddia y goleuni â chymylau; ac a rydd orchymyn iddo na thywynno trwy y cwmwl sydd rhyngddynt. 33 Ei dwrf a fynega amdano, a’r anifeiliaid am y tarth.
37 Wrth hyn hefyd y crŷn fy nghalon, ac y dychlama hi o’i lle. 2 Gan wrando gwrandewch ar sŵn ei lef, ac ar y sain a ddaw allan o’i enau ef. 3 Efe a’i hyfforddia dan yr holl nefoedd, a’i fellt hyd eithafoedd y ddaear. 4 Sŵn a rua ar ei ôl ef: efe a wna daranau â llais ei odidowgrwydd, ac ni oeda efe hwynt, pan glywir ei dwrf ef. 5 Duw a wna daranau â’i lais yn rhyfedd: y mae yn gwneuthur pethau mwy nag a wyddom ni. 6 Canys efe a ddywed wrth yr eira, Bydd ar y ddaear; ac wrth gawod o law, ac wrth law mawr ei nerth ef. 7 Efe a selia law pob dyn, fel yr adwaeno pawb ei waith ef. 8 Yna yr â y bwystfil i’w loches, ac y trig yn ei le. 9 O’r deau y daw corwynt; ac oerni oddi wrth y gogledd. 10 Â’i wynt y rhydd Duw rew: a lled y dyfroedd a gyfyngir. 11 Hefyd efe a flina gwmwl yn dyfrhau; efe a wasgar ei gwmwl golau. 12 Ac y mae hwnnw yn ymdroi oddi amgylch wrth ei lywodraeth ef: fel y gwnelont hwy beth bynnag a orchmynno efe iddynt, ar hyd wyneb y byd ar y ddaear. 13 Pa un bynnag ai yn gosbedigaeth, ai i’w ddaear, ai er daioni, efe a bair iddo ddyfod. 14 Gwrando hyn, Job; saf, ac ystyria ryfeddodau Duw. 15 A wyddost ti pa bryd y dosbarthodd Duw hwynt, ac y gwnaeth efe i oleuni ei gwmwl lewyrchu? 16 A wyddost ti oddi wrth bwysau y cymylau, rhyfeddodau yr hwn sydd berffaith‐gwbl o wybodaeth? 17 Pa fodd y mae dy ddillad yn gynnes, pan baro efe y ddaear yn dawel â’r deheuwynt? 18 A daenaist ti gydag ef yr wybren, yr hon a sicrhawyd fel drych toddedig? 19 Gwna i ni wybod pa beth a ddywedwn wrtho: ni fedrwn ni gyfleu ein geiriau gan dywyllwch. 20 A fynegir iddo ef os llefaraf? os dywed neb, diau y llyncir ef. 21 Ac yn awr, ni wêl neb y goleuni disglair sydd yn y cymylau: ond myned y mae y gwynt, a’u puro hwynt. 22 O’r gogleddwynt y daw hindda: y mae yn Nuw ogoniant mwy ofnadwy. 23 Am yr Hollalluog, ni allwn ni mo’i gael ef: ardderchog yw o nerth, a barn, a helaethrwydd cyfiawnder: ni chystuddia efe. 24 Am hynny yr ofna dynion ef: nid edrych efe ar neb doeth eu calon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.