Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 30-31

30 Pan welodd Rahel na phlantasai hithau i Jacob, yna Rahel a genfigennodd wrth ei chwaer, ac a ddywedodd wrth Jacob, Moes feibion i mi; ac onid e mi a fyddaf farw. A chyneuodd llid Jacob wrth Rahel; ac efe a ddywedodd, Ai myfi sydd yn lle Duw, yr hwn a ataliodd ffrwyth y groth oddi wrthyt ti? A dywedodd hithau, Wele fy llawforwyn Bilha, dos i mewn ati hi; a hi a blanta ar fy ngliniau i, fel y caffer plant i minnau hefyd ohoni hi. A hi a roddes ei llawforwyn Bilha iddo ef yn wraig, a Jacob a aeth i mewn ati. A Bilha a feichiogodd, ac a ymddûg fab i Jacob. A Rahel a ddywedodd, Duw a’m barnodd i, ac a wrandawodd hefyd ar fy llais, ac a roddodd i mi fab: am hynny hi a alwodd ei enw ef Dan. Hefyd Bilha, llawforwyn Rahel, a feichiogodd eilwaith, ac a ymddûg yr ail fab i Jacob. A Rahel a ddywedodd, Ymdrechais ymdrechiadau gorchestol â’m chwaer, a gorchfygais: a hi a alwodd ei enw ef Nafftali. Pan welodd Lea beidio ohoni â phlanta, hi a gymerth ei llawforwyn Silpa, ac a’i rhoddes hi yn wraig i Jacob. 10 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg fab i Jacob. 11 A Lea a ddywedodd, Y mae tyrfa yn dyfod: a hi a alwodd ei enw ef Gad. 12 A Silpa, llawforwyn Lea, a ymddûg yr ail fab i Jacob. 13 A Lea a ddywedodd, Yr ydwyf yn ddedwydd; oblegid merched a’m galwant yn ddedwydd: a hi a alwodd ei enw ef Aser.

14 Reuben hefyd a aeth yn nyddiau cynhaeaf gwenith, ac a gafodd fandragorau yn y maes, ac a’u dug hwynt at Lea ei fam: yna Rahel a ddywedodd wrth Lea, Dyro, atolwg, i mi o fandragorau dy fab. 15 Hithau a ddywedodd wrthi, Ai bychan yw dwyn ohonot fy ngŵr? a fynnit ti hefyd ddwyn mandragorau fy mab? A Rahel a ddywedodd, Cysged gan hynny gyda thi heno am fandragorau dy fab. 16 A Jacob a ddaeth o’r maes yn yr hwyr; a Lea a aeth allan i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, Ataf fi y deui: oblegid gan brynu y’th brynais am fandragorau fy mab. Ac efe a gysgodd gyda hi y nos honno. 17 A Duw a wrandawodd ar Lea a hi a feichiogodd, ac a ymddûg y pumed mab i Jacob. 18 A Lea a ddywedodd, Rhoddodd Duw fy ngwobr i mi, oherwydd rhoddi ohonof fi fy llawforwyn i’m gŵr: a hi a alwodd ei enw ef Issachar. 19 Lea hefyd a feichiogodd eto, ac a ymddûg y chweched mab i Jacob. 20 A Lea a ddywedodd, Cynysgaeddodd Duw fyfi â chynhysgaeth dda; fy ngŵr a drig weithian gyda mi, oblegid chwech o feibion a ymddygais iddo ef: a hi a alwodd ei enw ef Sabulon. 21 Ac wedi hynny hi a esgorodd ar ferch, ac a alwodd ei henw hi Dina.

22 A Duw a gofiodd Rahel, a Duw a wrandawodd arni, ac a agorodd ei chroth hi. 23 A hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab, ac a ddywedodd, Duw a dynnodd fy ngwarthrudd ymaith. 24 A hi a alwodd ei enw ef Joseff, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a ddyry yn ychwaneg i mi fab arall.

25 A bu, wedi esgor o Rahel ar Joseff, ddywedyd o Jacob wrth Laban, Gollwng fi ymaith, fel yr elwyf i’m bro, ac i’m gwlad fy hun. 26 Dyro fy ngwragedd i mi, a’m plant, y rhai y gwasanaethais amdanynt gyda thi, fel yr elwyf ymaith: oblegid ti a wyddost fy ngwasanaeth a wneuthum i ti. 27 A Laban a ddywedodd wrtho, Os cefais ffafr yn dy olwg, na syfl: da y gwn i’r Arglwydd fy mendithio i o’th blegid di. 28 Hefyd efe a ddywedodd, Dogna dy gyflog arnaf, a mi a’i rhoddaf. 29 Yntau a ddywedodd wrtho, Ti a wyddost pa ddelw y gwasanaethais dydi; a pha fodd y bu dy anifeiliaid di gyda myfi. 30 Oblegid ychydig oedd yr hyn ydoedd gennyt ti cyn fy nyfod i, ond yn lluosowgrwydd y cynyddodd; oherwydd yr Arglwydd a’th fendithiodd di er pan ddeuthum i: bellach gan hynny pa bryd y darparaf hefyd i’m tŷ fy hun? 31 Dywedodd yntau, Pa beth a roddaf i ti? A Jacob a atebodd, Ni roddi i mi ddim; os gwnei i mi y peth hyn, bugeiliaf a chadwaf dy braidd di drachefn. 32 Tramwyaf trwy dy holl braidd di heddiw, gan neilltuo oddi yno bob llwdn mân‐frith a mawr‐frith, a phob llwdn cochddu ymhlith y defaid; y mawr‐frith hefyd a’r mân‐frith ymhlith y geifr: ac o’r rhai hynny y bydd fy nghyflog. 33 A’m cyfiawnder a dystiolaetha gyda mi o hyn allan, pan ddêl hynny yn gyflog i mi o flaen dy wyneb di: yr hyn oll ni byddo fân‐frith neu fawr‐frith ymhlith y geifr, neu gochddu ymhlith y defaid, lladrad a fydd hwnnw gyda myfi. 34 A dywedodd Laban, Wele, O na byddai yn ôl dy air di! 35 Ac yn y dydd hwnnw y neilltuodd efe y bychod cylch‐frithion a mawr‐frithion, a’r holl eifr mân‐frithion a mawr‐frithion, yr hyn oll yr oedd peth gwyn arno, a phob cochddu ymhlith y defaid, ac a’u rhoddes dan law ei feibion ei hun. 36 Ac a osododd daith tri diwrnod rhyngddo ei hun a Jacob: a Jacob a borthodd y rhan arall o braidd Laban.

37 A Jacob a gymerth iddo wiail gleision o boplys, a chyll, a ffawydd; ac a ddirisglodd ynddynt ddirisgliadau gwynion, gan ddatguddio’r gwyn yr hwn ydoedd yn y gwiail. 38 Ac efe a osododd y gwiail y rhai a ddirisglasai efe, yn y cwterydd, o fewn y cafnau dyfroedd, lle y deuai’r praidd i yfed, ar gyfer y praidd: fel y cyfebrent pan ddelent hwy i yfed. 39 A’r praidd a gyfebrasant wrth y gwiail; a’r praidd a ddug rai cylch‐frithion, a mân‐frithion, a mawr‐frithion. 40 A Jacob a ddidolodd yr ŵyn, ac a osododd wynebau y praidd tuag at y cylch‐frithion, ac at bob cochddu ymhlith praidd Laban; ac a osododd ddiadellau iddo ei hun o’r neilltu, ac nid gyda phraidd Laban y gosododd hwynt. 41 A phob amser y cyfebrai’r defaid cryfaf, Jacob a osodai’r gwiail o flaen y praidd yn y cwterydd, i gael ohonynt gyfebru wrth y gwiail; 42 Ond pan fyddai’r praidd yn weiniaid, ni osodai efe ddim: felly y gwannaf oedd eiddo Laban, a’r cryfaf eiddo Jacob. 43 A’r gŵr a gynyddodd yn dra rhagorol; ac yr ydoedd iddo ef braidd helaeth, a morynion, a gweision, a chamelod, ac asynnod.

31 Ac efe a glybu eiriau meibion Laban yn dywedyd, Jacob a ddug yr hyn oll oedd i’n tad ni, ac o’r hyn ydoedd i’n tad ni y cafodd efe yr holl anrhydedd hyn. Hefyd Jacob a welodd wynepryd Laban, ac wele nid ydoedd tuag ato ef megis cynt. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Jacob, Dychwel i wlad dy dadau, ac at dy genedl; a mi a fyddaf gyda thi. A Jacob a anfonodd, ac a alwodd Rahel a Lea i’r maes, at ei braidd, Ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a welaf wynepryd eich tad chwi, nad yw fel cynt tuag ataf fi: a Duw fy nhad a fu gyda myfi. A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad. A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond ni ddioddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg. Os fel hyn y dywedai; Y mân‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient fân‐frithion: ond os fel hyn y dywedai; Y cylch‐frithion a fydd dy gyflog di, yna yr holl braidd a epilient rai cylch‐frithion. Felly Duw a ddug anifeiliaid eich tad chwi, ac a’u rhoddes i mi. 10 Bu hefyd yn amser cyfebru o’r praidd, ddyrchafu ohonof fy llygaid, ac mewn breuddwyd y gwelais, ac wele yr hyrddod, (y rhai oedd yn llamu’r praidd,) yn glych‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion. 11 Ac angel Duw a ddywedodd wrthyf mewn breuddwyd, Jacob. Minnau a atebais, Wele fi. 12 Yntau a ddywedodd, Dyrchafa weithian dy lygaid, a gwêl yr holl hyrddod y rhai ydynt yn llamu’r praidd yn gylch‐frithion, yn fân‐frithion, ac yn fawr‐frithion; oblegid gwelais yr hyn oll y mae Laban yn ei wneuthur i ti. 13 Myfi yw Duw Bethel, lle yr eneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun. 14 A Rahel a Lea a atebasant, ac a ddywedasant wrtho, A oes eto i ni ran, neu etifeddiaeth yn nhŷ ein tad? 15 Onid yn estronesau y cyfrifodd efe nyni? oblegid efe a’n gwerthodd; a chan dreulio a dreuliodd hefyd ein harian ni. 16 Canys yr holl olud yr hwn a ddug Duw oddi ar ein tad ni, nyni a’n plant a’i piau: ac yr awr hon yr hyn oll a ddywedodd Duw wrthyt, gwna.

17 Yna Jacob a gyfododd, ac a osododd ei feibion a’i wragedd ar gamelod; 18 Ac a ddug ymaith ei holl anifeiliaid, a’i holl gyfoeth yr hwn a enillasai, sef ei anifeiliaid meddiannol, y rhai a enillasai efe ym Mesopotamia, i fyned at Isaac ei dad, i wlad Canaan. 19 Laban hefyd a aethai i gneifio ei ddefaid: a Rahel a ladratasai’r delwau oedd gan ei thad hi. 20 A Jacob a aeth ymaith yn lladradaidd, heb wybod i Laban y Syriad: canys ni fynegodd iddo mai ffoi yr oedd. 21 Felly y ffodd efe â’r hyn oll oedd ganddo, ac a gyfododd ac a aeth dros yr afon, ac a gyfeiriodd at fynydd Gilead. 22 A mynegwyd i Laban, ar y trydydd dydd, ffoi o Jacob. 23 Ac efe a gymerth ei frodyr gydag ef, ac a erlidiodd ar ei ôl ef daith saith niwrnod; ac a’i goddiweddodd ef ym mynydd Gilead. 24 A Duw a ddaeth at Laban y Syriad, liw nos, mewn breuddwyd, ac a ddywedodd wrtho, Cadw arnat rhag yngan ohonot wrth Jacob na da na drwg.

25 Yna Laban a oddiweddodd Jacob: a Jacob a osododd ei babell yn y mynydd; Laban hefyd a wersyllodd ynghyd â’i frodyr ym mynydd Gilead. 26 A Laban a ddywedodd wrth Jacob, Pa beth a wnaethost? oblegid ti a aethost yn lladradaidd oddi wrthyf fi, ac a ddygaist fy merched fel caethion cleddyf. 27 Am ba beth y ffoaist yn ddirgel, ac y lladrateaist oddi wrthyf fi, ac ni fynegaist i mi, fel yr hebryngaswn dydi â llawenydd, ac â chaniadau, â thympan, ac â thelyn? 28 Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffôl, gan wneuthur hyn. 29 Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg. 30 Weithian gan hynny, ti a fynnit fyned ymaith, oblegid gan hiraethu yr hiraethaist am dŷ dy dad. Ond paham y lladrateaist fy nuwiau i? 31 A Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Am ofni ohonof; oblegid dywedais, Rhag dwyn ohonot dy ferched oddi arnaf trwy drais. 32 Gyda’r hwn y ceffych dy dduwiau, na chaffed fyw: gerbron ein brodyr myn wybod pa beth o’r eiddot ti sydd gyda myfi, a chymer i ti: ac nis gwyddai Jacob mai Rahel a’u lladratasai hwynt. 33 A Laban a aeth i mewn i babell Jacob, ac i babell Lea, ac i babell y ddwy lawforwyn, ac nis cafodd hwynt: yna yr aeth allan o babell Lea, ac y daeth i babell Rahel. 34 A Rahel a gymerasai’r delwau, ac a’u gosodasai hwynt yn offer y camel, ac a eisteddasai arnynt; a Laban a chwiliodd yr holl babell, ac nis cafodd. 35 A hi a ddywedodd wrth ei thad, Na ddigied fy arglwydd, am nas gallaf gyfodi ger dy fron di; canys arfer gwragedd a ddigwyddodd i mi: ac efe a chwiliodd, ac ni chafodd y delwau.

36 A Jacob a ddigiodd, ac a roes sen i Laban: a Jacob a atebodd ac a ddywedodd wrth Laban, Pa beth yw fy nghamwedd i? pa beth yw fy mhechod, gan erlid ohonot ar fy ôl? 37 Gan i ti chwilio fy holl ddodrefn i, pa beth a gefaist o holl ddodrefn dy dŷ di? gosod ef yma gerbron fy mrodyr i a’th frodyr dithau, fel y barnont rhyngom ni ein dau. 38 Myfi bellach a fûm ugain mlynedd gyda thi; dy ddefaid a’th eifr ni erthylasant, ac ni fwyteais hyrddod dy braidd. 39 Ni ddygais ysglyfaeth atat ti: myfi a’i gwnawn ef yn dda; o’m llaw i y gofynnit hynny, yr hyn a ladrateid y dydd, a’r hyn a ladrateid y nos. 40 Bûm y dydd, y gwres a’m treuliodd, a rhew y nos; a’m cwsg a giliodd oddi wrth fy llygaid. 41 Felly y bûm i ugain mlynedd yn dy dŷ di: pedair blynedd ar ddeg y gwasanaethais di am dy ddwy ferch, a chwe blynedd am dy braidd; a thi a newidiaist fy nghyflog ddeg o weithiau. 42 Oni buasai fod Duw fy nhad, Duw Abraham, ac arswyd Isaac gyda mi, diau yr awr hon y gollyngasit fi ymaith yn waglaw. Duw a welodd fy nghystudd a llafur fy nwylo, ac a’th geryddodd di neithiwr.

43 Laban a atebodd ac a ddywedodd wrth Jacob, Y merched hyn ydynt fy merched i, a’r meibion hyn ŷnt fy meibion i, a’r praidd yw fy mhraidd i; a’r hyn oll a weli, eiddo fi yw: a heddiw pa beth a wnaf i’m merched hyn, ac i’w meibion hwynt y rhai a esgorasant? 44 Tyred gan hynny yn awr, gwnawn gyfamod, mi a thi; a bydded yn dystiolaeth rhyngof fi a thithau. 45 A Jacob a gymerth garreg, ac a’i cododd hi yn golofn. 46 Hefyd Jacob a ddywedodd wrth ei frodyr, Cesglwch gerrig: a hwy a gymerasant gerrig, ac a wnaethant garnedd, ac a fwytasant yno ar y garnedd. 47 A Laban a’i galwodd hi Jeger‐Sahadwtha: a Jacob a’i galwodd hi Galeed. 48 A Laban a ddywedodd, Y garnedd hon sydd dyst rhyngof fi a thithau heddiw: am hynny y galwodd Jacob ei henw hi Galeed, 49 A Mispa; oblegid efe a ddywedodd, Gwylied yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, pan fôm ni bob un o olwg ein gilydd. 50 Os gorthrymi di fy merched, neu os cymeri wragedd heblaw fy merched i; nid oes neb gyda ni; edrych, Duw sydd dyst rhyngof fi a thithau. 51 Dywedodd Laban hefyd wrth Jacob, Wele y garnedd hon, ac wele y golofn hon a osodais rhyngof fi a thi: 52 Tyst a fydd y garnedd hon, a thyst a fydd y golofn, na ddeuaf fi dros y garnedd hon atat ti, ac na ddeui dithau dros y garnedd hon na’r golofn hon ataf fi, er niwed. 53 Duw Abraham, a Duw Nachor, a farno rhyngom ni, Duw eu tadau hwynt. A Jacob a dyngodd i ofn ei dad Isaac. 54 Hefyd Jacob a aberthodd aberth yn y mynydd, ac a alwodd ar ei frodyr i fwyta bara: a hwy a fwytasant fara, ac a drigasant dros nos yn y mynydd. 55 A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.