Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Josua 16-18

16 A rhandir meibion Joseff oedd yn myned o’r Iorddonen wrth Jericho, i ddyfroedd Jericho o du y dwyrain, i’r anialwch sydd yn myned i fyny o Jericho i fynydd Bethel; Ac yn myned o Bethel i Lus, ac yn myned rhagddo i derfyn Arci i Ataroth; Ac yn disgyn tua’r gorllewin i ardal Jaffleti, hyd derfyn Beth‐horon isaf, ac hyd Geser: a’i gyrrau eithaf sydd hyd y môr. Felly meibion Joseff, Manasse ac Effraim, a gymerasant eu hetifeddiaeth.

A therfyn meibion Effraim oedd yn ôl eu teuluoedd; a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt o du y dwyrain, oedd Ataroth‐adar, hyd Beth‐horon uchaf. A’r terfyn sydd yn myned tua’r môr, i Michmethath o du y gogledd; a’r terfyn sydd yn amgylchu o du y dwyrain i Taanath‐Seilo, ac yn myned heibio iddo o du y dwyrain i Janoha: Ac yn myned i waered o Janoha, i Ataroth, a Naarath; ac yn cyrhaeddyd i Jericho, ac yn myned allan i’r Iorddonen. O Tappua y mae y terfyn yn myned tua’r gorllewin i afon Cana; a’i gyrrau eithaf sydd wrth y môr. Dyma etifeddiaeth llwyth meibion Effraim, yn ôl eu teuluoedd. A dinasoedd neilltuedig meibion Effraim oedd ymysg etifeddiaeth meibion Manasse; yr holl ddinasoedd, a’u pentrefydd. 10 Ond ni oresgynasant hwy y Canaaneaid, y rhai oedd yn trigo yn Geser: am hynny y trigodd y Canaaneaid ymhlith yr Effraimiaid hyd y dydd hwn, ac y maent yn gwasanaethu dan dreth.

17 Ac yr oedd rhandir llwyth Manasse, (canys efe oedd gyntaf‐anedig Joseff,) i Machir, cyntaf‐anedig Manasse, tad Gilead: oherwydd ei fod efe yn rhyfelwr, yr oedd Gilead a Basan yn eiddo ef. Ac yr oedd rhandir i’r rhan arall o feibion Manasse, yn ôl eu teuluoedd; sef i feibion Abieser, ac i feibion Helec, ac i feibion Asriel, ac i feibion Sichem, ac i feibion Heffer, ac i feibion Semida: dyma feibion Manasse mab Joseff, sef y gwrywiaid, yn ôl eu teuluoedd.

Ond Salffaad mab Heffer, mab Gilead, mab Machir, mab Manasse, nid oedd iddo feibion, ond merched: a dyma enwau ei ferched ef; Mala, a Noa, Hogla, Milca, a Thirsa: Y rhai a ddaethant o flaen Eleasar yr offeiriad, ac o flaen Josua mab Nun, ac o flaen y tywysogion, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a orchmynnodd i Moses roddi i ni etifeddiaeth ymysg ein brodyr: am hynny efe a roddodd iddynt etifeddiaeth, yn ôl gair yr Arglwydd, ymysg brodyr eu tad. A deg rhandir a syrthiodd i Manasse, heblaw gwlad Gilead a Basan, y rhai sydd tu hwnt i’r Iorddonen; Canys merched Manasse a etifeddasant etifeddiaeth ymysg ei feibion ef: a gwlad Gilead oedd i’r rhan arall o feibion Manasse.

A therfyn Manasse oedd o Aser i Michmethath, yr hon sydd gyferbyn â Sichem; a’r terfyn oedd yn myned ar y llaw ddeau, hyd breswylwyr Entappua. Gwlad Tappua oedd eiddo Manasse: ond Tappua, yr hon oedd ar derfyn Manasse, oedd eiddo meibion Effraim. A’r terfyn sydd yn myned i waered i afon Cana, o du deau yr afon. Y dinasoedd hyn, eiddo Effraim, oedd ymhlith dinasoedd Manasse: a therfyn Manasse sydd o du y gogledd i’r afon, a’i ddiwedd oedd y môr. 10 Y deau oedd eiddo Effraim, a’r gogledd eiddo Manasse; a’r môr oedd ei derfyn ef: ac yn Aser yr oeddynt yn cyfarfod, o’r gogledd; ac yn Issachar, o’r dwyrain. 11 Yn Issachar hefyd ac yn Aser yr oedd gan Manasse, Beth‐sean a’i threfydd, ac Ibleam a’i threfydd, a thrigolion Dor a’i threfydd, a thrigolion En‐dor a’i threfydd, a phreswylwyr Taanach a’i threfydd, a thrigolion Megido a’i threfydd; tair talaith. 12 Ond ni allodd meibion Manasse yrru ymaith drigolion y dinasoedd hynny; eithr mynnodd y Canaaneaid breswylio yn y wlad honno. 13 Eto pan gryfhaodd meibion Israel, hwy a osodasant y Canaaneaid dan dreth: ni yrasant hwynt ymaith yn llwyr.

14 A meibion Joseff a lefarasant wrth Josua, gan ddywedyd, Paham y rhoddaist i mi, yn etifeddiaeth, un afael ac un rhan, a minnau yn bobl aml, wedi i’r Arglwydd hyd yn hyn fy mendithio? 15 A Josua a ddywedodd wrthynt, Os pobl aml ydwyt, dos i fyny i’r coed, a thor goed i ti yno yng ngwlad y Pheresiaid, a’r cewri, od yw mynydd Effraim yn gyfyng i ti. 16 A meibion Joseff a ddywedasant, Ni bydd y mynydd ddigon i ni: hefyd y mae cerbydau heyrn gan yr holl Ganaaneaid sydd yn trigo yn y dyffryndir, gan y rhai sydd yn Beth‐sean a’i threfi, a chan y rhai sydd yng nglyn Jesreel. 17 A Josua a ddywedodd wrth dŷ Joseff, wrth Effraim ac wrth Manasse, gan ddywedyd, Pobl aml ydwyt, a nerth mawr sydd gennyt: ni fydd i ti un rhan yn unig: 18 Eithr bydd y mynydd eiddot ti: canys coediog yw, arloesa ef; a bydd ei eithafoedd ef eiddot ti: canys ti a yrri ymaith y Canaaneaid, er bod cerbydau heyrn ganddynt, ac er eu bod yn gryfion.

18 A Holl gynulleidfa meibion Israel a ymgynullasant i Seilo, ac a osodasant yno babell y cyfarfod: a’r wlad oedd wedi ei darostwng o’u blaen hwynt. A saith lwyth oedd yn aros ymysg meibion Israel, i’r rhai ni ranasent eu hetifeddiaeth eto. A Josua a ddywedodd wrth feibion Israel, Pa hyd yr ydych yn esgeuluso myned i oresgyn y wlad a roddes Arglwydd Dduw eich tadau i chwi? Moeswch ohonoch driwyr o bob llwyth; fel yr anfonwyf hwynt, ac y cyfodont, ac y rhodiont y wlad, ac y dosbarthont hi yn ôl eu hetifeddiaeth hwynt; ac y delont ataf drachefn. A hwy a’i rhannant hi yn saith ran. Jwda a saif ar ei derfyn o du’r deau, a thŷ Joseff a safant ar eu terfyn o du’r gogledd. A chwi a ddosberthwch y wlad yn saith ran, a dygwch y dosbarthiadau ataf fi yma; fel y bwriwyf goelbren drosoch yma, o flaen yr Arglwydd ein Duw. Ond ni bydd rhan i’r Lefiaid yn eich mysg chwi; oherwydd offeiriadaeth yr Arglwydd fydd eu hetifeddiaeth hwynt. Gad hefyd, a Reuben, a hanner llwyth Manasse, a dderbyniasant eu hetifeddiaeth o’r tu hwnt i’r Iorddonen, o du’r dwyrain, yr hon a roddodd Moses gwas yr Arglwydd iddynt.

A’r gwŷr a gyfodasant, ac a aethant: a Josua a orchmynnodd i’r rhai oedd yn myned i rannu’r wlad, gan ddywedyd, Ewch, a rhodiwch trwy’r wlad, a dosberthwch hi, a dychwelwch ataf fi; ac yma y bwriaf drosoch chwi goelbren gerbron yr Arglwydd yn Seilo. A’r gwŷr a aethant ymaith, ac a gerddasant trwy’r wlad, ac a’i dosbarthasant hi bob yn ddinas, yn saith ran, mewn llyfr; a daethant at Josua i’r gwersyll yn Seilo.

10 A Josua a fwriodd goelbren drostynt hwy gerbron yr Arglwydd yn Seilo: a Josua a rannodd yno y wlad i feibion Israel yn ôl eu rhannau.

11 A choelbren llwyth meibion Benjamin a ddaeth i fyny yn ôl eu teuluoedd: a therfyn eu hetifeddiaeth hwynt a aeth allan rhwng meibion Jwda a meibion Joseff. 12 A’r terfyn oedd iddynt hwy tua’r gogledd o’r Iorddonen: y terfyn hefyd oedd yn myned i fyny gan ystlys Jericho, o du’r gogledd, ac yn myned i fyny trwy’r mynydd tua’r gorllewin: a’i gyrrau eithaf oedd yn anialwch Bethafen. 13 Y terfyn hefyd sydd yn myned oddi yno i Lus, gan ystlys Lus, honno yw Bethel, tua’r deau; a’r terfyn sydd yn disgyn i Ataroth‐adar, i’r mynydd sydd o du’r deau i Beth‐horon isaf. 14 A’r terfyn sydd yn tueddu, ac yn amgylchu cilfach y môr tua’r deau, o’r mynydd sydd ar gyfer Beth‐horon tua’r deau; a’i gyrrau eithaf ef sydd wrth Ciriath‐baal, honno yw Ciriath‐jearim, dinas meibion Jwda. Dyma du y gorllewin. 15 A thu y deau sydd o gwr Ciriath‐jearim; a’r terfyn sydd yn myned tua’r gorllewin, ac yn cyrhaeddyd hyd ffynnon dyfroedd Nefftoa. 16 Y terfyn hefyd sydd yn disgyn tua chwr y mynydd sydd ar gyfer glyn mab Hinnom, yr hwn sydd yn nyffryn y cewri tua’r gogledd; ac y mae efe yn disgyn i ddyffryn Hinnom, gan ystlys y Jebusiaid tua’r deau, ac yn dyfod i waered i ffynnon Rogel. 17 Ac y mae yn tueddu o’r gogledd, ac yn myned i En‐semes, ac yn cyrhaeddyd tua Geliloth, yr hon sydd gyferbyn â rhiw Adummim, ac yn disgyn at faen Bohan mab Reuben: 18 Ac y mae efe yn myned ar hyd yr ystlys ar gyfer Araba tua’r gogledd, ac yn disgyn i Araba. 19 Y terfyn hefyd sydd yn myned rhagddo i ystlys Beth‐hogla tua’r gogledd: a chwr eithaf y terfyn oedd wrth lan y môr heli tua’r gogledd, hyd gwr yr Iorddonen tua’r deau. Dyma derfyn y deau. 20 Yr Iorddonen hefyd sydd derfyn iddo o ystlys y dwyrain. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, trwy eu terfynau o amgylch, yn ôl eu teuluoedd. 21 A dinasoedd llwyth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd, oedd, Jericho, a Beth‐hogla, a glyn Cesis, 22 A Beth‐araba, a Semaraim, a Bethel, 23 Ac Afim, a Phara, ac Offra, 24 A Cheffar‐haammonai, ac Offni, a Gaba; deuddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd: 25 Gibeon, a Rama, a Beeroth, 26 A Mispe, a Cheffira, a Mosa, 27 A Recem, ac Irpeel, a Tharala, 28 A Sela, Eleff, a Jebusi, (honno yw Jerwsalem,) Gibeath, a Chiriath; pedair ar ddeg o ddinasoedd, a’u pentrefydd. Dyma etifeddiaeth meibion Benjamin, yn ôl eu teuluoedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.