Chronological
11 Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a’i ddeddfau a’i farnedigaethau, a’i orchmynion, byth. 2 A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â’ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a’i fraich estynedig; 3 Ei arwyddion hefyd, a’i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i’w holl dir; 4 A’r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i’w feirch ef, ac i’w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn: 5 A’r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i’r lle hwn; 6 A’r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a’u llyncodd hwynt, a’u teuluoedd, a’u pebyll, a’r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel. 7 Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe. 8 Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu: 9 Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i’ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i’w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
10 Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â’th droed, fel gardd lysiau: 11 Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i’w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd; 12 Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.
13 A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i’w wasanaethu, â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid; 14 Yna y rhoddaf law i’ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a’r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a’th win, a’th olew; 15 A rhoddaf laswellt yn dy faes, i’th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y’th ddigoner. 16 Gwyliwch arnoch rhag twyllo eich calon, a chilio ohonoch, a gwasanaethu duwiau dieithr, ac ymgrymu iddynt; 17 Ac enynnu dicllonedd yr Arglwydd i’ch erbyn, a chau ohono ef y nefoedd, fel na byddo glaw, ac na roddo y ddaear ei chnwd, a’ch difetha yn fuan o’r tir yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei roddi i chwi.
18 Am hynny gosodwch fy ngeiriau hyn yn eich calon, ac yn eich meddwl, a rhwymwch hwynt yn arwydd ar eich dwylo, a byddant yn rhactalau rhwng eich llygaid: 19 A dysgwch hwynt i’ch plant; gan grybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan rodiech ar y ffordd, pan orweddych hefyd, a phan godych. 20 Ac ysgrifenna hwynt ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth; 21 Fel yr amlhao eich dyddiau chwi, a dyddiau eich plant chwi, ar y ddaear yr hon a dyngodd yr Arglwydd wrth eich tadau am ei rhoddi iddynt, fel dyddiau y nefoedd ar y ddaear.
22 Canys os gan gadw y cedwch yr holl orchmynion hyn, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi i’w gwneuthur, i garu yr Arglwydd eich Duw, i rodio yn ei holl ffyrdd ef, ac i lynu wrtho ef; 23 Yna y gyr yr Arglwydd allan yr holl genhedloedd hyn o’ch blaen chwi, a chwi a feddiennwch genhedloedd mwy a chryfach na chwi. 24 Pob man y sathro gwadn eich troed chwi arno, fydd eiddo chwi: o’r anialwch, a Libanus, ac o’r afon, sef afon Ewffrates, hyd y môr eithaf, y bydd eich terfyn chwi. 25 Ni saif gŵr yn eich wyneb: eich arswyd a’ch ofn a rydd yr Arglwydd eich Duw ar wyneb yr holl dir yr hwn y sathroch arno, megis y llefarodd wrthych
26 Wele, rhoddi yr ydwyf fi o’ch blaen chwi heddiw fendith a melltith: 27 Bendith, os gwrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw; 28 A melltith, oni wrandewch ar orchmynion yr Arglwydd eich Duw, ond cilio ohonoch allan o’r ffordd yr ydwyf fi yn ei gorchymyn i chwi heddiw, i fyned ar ôl duwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch 29 Bydded gan hynny, pan ddygo yr Arglwydd dy Dduw di i’r tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu, roddi ohonot y fendith ar fynydd Garisim, a’r felltith ar fynydd Ebal. 30 Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tua’r lle y machluda’r haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, gerllaw gwastadedd More? 31 Canys myned yr ydych dros yr Iorddonen, i fyned i feddiannu’r tir y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi i chwi; a chwi a’i meddiennwch ac a breswyliwch ynddo. 32 Gwyliwch chwithau am wneuthur yr holl ddeddfau a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu rhoddi o’ch blaen chwi heddiw.
12 Dyma ’r deddfau a’r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i’w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear. 2 Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas. 3 Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o’r lle hwnnw. 4 Na wnewch felly i’r Arglwydd eich Duw. 5 Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o’ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch: 6 A dygwch yno eich poethoffrymau, a’ch aberthau, a’ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a’ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a’ch defaid. 7 A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a’ch teuluoedd, yn yr hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw. 8 Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun. 9 Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i’r orffwysfa, ac i’r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 10 Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel: 11 Yna y bydd lle wedi i’r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i’w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a’ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, a’ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i’r Arglwydd. 12 A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a’ch meibion, a’ch merched, a’ch gweision, a’ch morynion, a’r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi. 13 Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a’r a welych: 14 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o’th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti. 15 Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a’r glân a fwyty ohono, megis o’r iwrch a’r carw. 16 Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.
17 Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na’th win, na’th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na’th ddefaid, na’th holl addunedau y rhai a addunech, na’th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law: 18 Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno. 19 Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.
20 Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytâf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig. 21 Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o’th wartheg, ac o’th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon. 22 Eto fel y bwyteir yr iwrch a’r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a’r glân a’i bwyty yn yr un ffunud. 23 Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â’r cig. 24 Na fwyta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr. 25 Na fwyta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd. 26 Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt, a’th addunedau, a thyred i’r lle a ddewiso yr Arglwydd. 27 Ac offryma dy boethoffrwm, (y cig a’r gwaed,) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a’r cig a fwytei di. 28 Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i’th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
29 Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned atynt i’w meddiannu, o’th flaen di, a dyfod ohonot yn eu lle hwynt, a phreswylio yn eu tir hwynt: 30 Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o’th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd. 31 Na wna di felly i’r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i’w duwiau: canys eu meibion hefyd a’u merched a losgasant yn tân i’w duwiau. 32 Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega ato, ac na thyn oddi wrtho.
13 Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod, 2 A dyfod i ben o’r arwydd, neu’r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt; 3 Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru’r Arglwydd eich Duw â’ch holl galon, ac â’ch holl enaid. 4 Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a’i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch. 5 A’r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i’ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a’ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a’ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i’th wthio di allan o’r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg.
6 Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a’th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na’th dadau; 7 Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o’ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i’r tir hyd gwr arall y tir: 8 Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno: 9 Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i’w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny. 10 A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a’th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 11 A holl Israel a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur y fath beth drygionus â hyn yn dy blith.
12 Pan glywech am un o’th ddinasoedd y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti i drigo ynddynt, gan ddywedyd, 13 Aeth dynion, meibion y fall, allan o’th blith, a gyrasant drigolion eu dinas, gan ddywedyd, Awn, gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuoch; 14 Yna ymofyn, a chwilia, a chais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn dy fysg; 15 Gan daro taro drigolion y ddinas honno â min y cleddyf; difroda hi, a’r rhai oll a fyddant ynddi, a’i hanifeiliaid hefyd, â min y cleddyf. 16 A’i holl ysbail hi a gesgli i ganol ei heol hi, ac a losgi’r ddinas a’i holl ysbail hi yn gwbl, i’r Arglwydd dy Dduw, â thân: felly bydded yn garnedd byth; nac adeilader hi mwy. 17 Ac na lyned wrth dy law di ddim o’r diofryd‐beth: fel y dychwelo yr Arglwydd oddi wrth angerdd ei ddig, ac y rhoddo i ti drugaredd, ac y tosturio wrthyt, ac y’th amlhao, megis y tyngodd wrth dy dadau: 18 Pan wrandawech ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, gan wneuthur yr hyn sydd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.