Chronological
3 Yna y troesom, ac yr esgynasom ar hyd ffordd Basan; ac Og brenin Basan a ddaeth allan i’n cyfarfod ni, efe a’i holl bobl, i ryfel, i Edrei. 2 A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Nac ofna ef: oblegid yn dy law di y rhoddaf ef, a’i holl bobl, a’i wlad; a thi a wnei iddo fel y gwnaethost i Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon. 3 Felly yr Arglwydd ein Duw a roddes hefyd yn ein llaw ni Og brenin Basan, a’i holl bobl; ac ni a’i trawsom ef, hyd na adawyd iddo un yng ngweddill: 4 Ac a enillasom ei holl ddinasoedd ef yr amser hwnnw, fel nad oedd ddinas nas dygasom oddi arnynt; trigain dinas, holl wlad Argob, brenhiniaeth Og o fewn Basan. 5 Yr holl ddinasoedd hyn oedd gedyrn o furiau uchel, pyrth, a barrau, heblaw dinasoedd heb furiau lawer iawn. 6 A difrodasom hwynt, fel y gwnaethom i Sehon brenin Hesbon, gan ddifrodi o bob dinas y gwŷr, y gwragedd, a’r plant. 7 Ond yr holl anifeiliaid ac ysbail y dinasoedd a ysglyfaethasom i ni ein hunain. 8 A ni a gymerasom yr amser hwnnw o law dau frenin yr Amoriaid y wlad o’r tu yma i’r Iorddonen, o afon Arnon hyd fynydd Hermon; 9 (Y Sidoniaid a alwant Hermon yn Sirion, a’r Amoriaid a’i galwant Senir;) 10 Holl ddinasoedd y gwastad, a holl Gilead, a holl Basan hyd Selcha ac Edrei, dinasoedd brenhiniaeth Og o fewn Basan. 11 Oblegid Og brenin Basan yn unig a adawsid o weddill y cewri: wele, ei wely ef oedd wely haearn: onid yw hwnnw yn Rabbath meibion Ammon? naw cufydd oedd ei hyd, a phedwar cufydd ei led, wrth gufydd gŵr. 12 A’r wlad hon a berchenogasom ni yr amser hwnnw, o Aroer yr hon sydd wrth afon Arnon, a hanner mynydd Gilead, a’i ddinasoedd ef a roddais i’r Reubeniaid ac i’r Gadiaid. 13 A’r gweddill o Gilead, a holl Basan, sef brenhiniaeth Og, a roddais i hanner llwyth Manasse; sef holl wlad Argob, a holl Basan, yr hon a elwid Gwlad y cewri. 14 Jair mab Manasse a gymerth holl wlad Argob, hyd fro Gesuri, a Maachathi; ac a’u galwodd hwynt ar ei enw ei hun, Basan Hafoth‐Jair, hyd y dydd hwn. 15 Ac i Machir y rhoddais i Gilead. 16 Ac i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, y rhoddais o Gilead hyd afon Arnon, hanner yr afon a’r terfyn, a hyd yr afon Jabboc, terfyn meibion Ammon: 17 Hefyd y rhos, a’r Iorddonen, a’r terfyn o Cinnereth, hyd fôr y rhos, sef y môr heli, dan Asdoth‐Pisga, tua’r dwyrain.
18 Gorchmynnais hefyd i chwi yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Yr Arglwydd eich Duw a roddes i chwi y wlad hon i’w meddiannu: ewch drosodd yn arfog o flaen eich brodyr meibion Israel, pob rhai pybyr ohonoch. 19 Yn unig eich gwragedd, a’ch plant, a’ch anifeiliaid, (gwn fod llawer o anifeiliaid i chwi,) a drigant yn eich dinasoedd a roddais i chwi. 20 Hyd pan wnelo’r Arglwydd i’ch brodyr orffwyso fel chwithau, a meddiannu ohonynt hwythau y wlad y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei rhoddi iddynt dros yr Iorddonen: yna dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth a roddais i chwi.
21 Gorchmynnais hefyd i Josua yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Dy lygaid di a welsant yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw i’r ddau frenin hyn: felly y gwna’r Arglwydd i’r holl deyrnasoedd yr ydwyt ti yn myned drosodd atynt. 22 Nac ofnwch hwynt: oblegid yr Arglwydd eich Duw, efe a ymladd drosoch chwi. 23 Ac erfyniais ar yr Arglwydd yr amser hwnnw, gan ddywedyd, 24 O Arglwydd Dduw, tydi a ddechreuaist ddangos i’th was dy fawredd, a’th law gadarn; oblegid pa Dduw sydd yn y nefoedd, neu ar y ddaear, yr hwn a weithreda yn ôl dy weithredoedd a’th nerthoedd di? 25 Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus. 26 Ond yr Arglwydd a ddigiasai wrthyf o’ch plegid chwi, ac ni wrandawodd arnaf: ond dywedyd a wnaeth yr Arglwydd wrthyf, Digon yw hynny i ti; na chwanega lefaru wrthyf mwy am y peth hyn. 27 Dos i fyny i ben Pisga, a dyrchafa dy lygaid tua’r gorllewin, a’r gogledd, a’r deau a’r dwyrain, ac edrych arni â’th lygaid: oblegid ni chei di fyned dros yr Iorddonen hon. 28 Gorchymyn hefyd i Josua, a nertha a chadarnha ef: oblegid efe a â drosodd o flaen y bobl yma, ac efe a ran iddynt yn etifeddiaeth y wlad yr hon a weli di. 29 Felly aros a wnaethom yn y dyffryn gyferbyn â Beth‐peor.
4 Bellach gan hynny, O Israel, gwrando ar y deddfau ac ar y barnedigaethau yr ydwyf yn eu dysgu i chwi i’w gwneuthur; fel y byddoch byw, ac yr eloch, ac y meddiannoch y wlad y mae Arglwydd Dduw eich tadau yn ei rhoddi i chwi. 2 Na chwanegwch at y gair yr ydwyf yn ei orchymyn i chwi, ac na leihewch ddim ohono ef, gan gadw gorchmynion yr Arglwydd eich Duw, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi. 3 Eich llygaid chwi oedd yn gweled yr hyn a wnaeth yr Arglwydd am Baal‐peor; oblegid pob gŵr a’r a aeth ar ôl Baal‐peor, yr Arglwydd dy Dduw a’i difethodd ef o’th blith di. 4 Ond chwi y rhai oeddech yn glynu wrth yr Arglwydd eich Duw, byw ydych heddiw oll. 5 Wele, dysgais i chwi ddeddfau a barnedigaethau, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd fy Nuw i mi; i wneuthur ohonoch felly, yn y wlad yr ydych ar fyned i mewn iddi i’w meddiannu. 6 Cedwch gan hynny, a gwnewch hwynt: oblegid hyn yw eich doethineb, a’ch deall chwi, yng ngolwg y bobloedd, y rhai a glywant yr holl ddeddfau hyn, ac a ddywedant, Yn ddiau pobl ddoeth a deallus yw y genedl fawr hon. 7 Oblegid pa genedl mor fawr, yr hon y mae Duw iddi yn nesáu ati, fel yr Arglwydd ein Duw ni, ym mhob dim a’r y galwom arno? 8 A pha genedl mor fawr, yr hon y mae iddi ddeddfau a barnedigaethau cyfiawn, megis yr holl gyfraith hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi heddiw ger eich bron chwi? 9 Ond gochel arnat, a chadw dy enaid yn ddyfal, rhag anghofio ohonot y pethau a welodd dy lygaid, a chilio ohonynt allan o’th galon di holl ddyddiau dy einioes; ond hysbysa hwynt i’th feibion, ac i feibion dy feibion: 10 Sef y dydd y sefaist gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, pan ddywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cynnull i mi y bobl, fel y gwnelwyf iddynt glywed fy ngeiriau, y rhai a ddysgant i’m hofni i, yr holl ddyddiau y byddont fyw ar y ddaear, ac y dysgont hwynt i’w meibion. 11 A nesasoch, a safasoch dan y mynydd a’r mynydd oedd yn llosgi gan dân hyd entrych awyr, yn dywyllwch, a chwmwl, a thywyllwch dudew. 12 A’r Arglwydd a lefarodd wrthych o ganol y tân, a chwi a glywsoch lais y geiriau, ac nid oeddech yn gweled llun dim, ond llais. 13 Ac efe a fynegodd i chwi ei gyfamod a orchmynnodd efe i chwi i’w wneuthur, sef y dengair; ac a’u hysgrifennodd hwynt ar ddwy lech faen.
14 A’r Arglwydd a orchmynnodd i mi yr amser hwnnw ddysgu i chwi ddeddfau a barnedigaethau, i wneuthur ohonoch hwynt yn y wlad yr ydych chwi yn myned iddi i’w meddiannu. 15 Gwyliwch gan hynny yn ddyfal ar eich eneidiau, (oblegid ni welsoch ddim llun yn y dydd y llefarodd yr Arglwydd wrthych yn Horeb, o ganol y tân,) 16 Rhag ymlygru ohonoch, a gwneuthur i chwi ddelw gerfiedig, cyffelybrwydd un ddelw, llun gwryw neu fenyw, 17 Llun un anifail a’r sydd ar y ddaear, llun un aderyn asgellog a eheda yn yr awyr, 18 Llun un ymlusgiad ar y ddaear, llun un pysgodyn a’r y sydd yn y dyfroedd dan y ddaear; 19 Hefyd rhag dyrchafu ohonot dy lygaid tua’r nefoedd, a gweled yr haul, a’r lleuad, a’r sêr, sef holl lu y nefoedd, a’th yrru di i ymgrymu iddynt, a gwasanaethu ohonot hwynt, y rhai a rannodd yr Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd dan yr holl nefoedd. 20 Ond yr Arglwydd a’ch cymerodd chwi, ac a’ch dug chwi allan o’r pair haearn, o’r Aifft, i fod iddo ef yn bobl, yn etifeddiaeth; fel y gwelir y dydd hwn. 21 A’r Arglwydd a ddigiodd wrthyf am eich geiriau chwi, ac a dyngodd nad awn i dros yr Iorddonen, ac na chawn fyned i mewn i’r wlad dda, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti yn etifeddiaeth. 22 Oblegid byddaf farw yn y wlad hon; ni chaf fi fyned dros yr Iorddonen: ond chwychwi a ewch drosodd, ac a feddiennwch y wlad dda honno. 23 Ymgedwch arnoch rhag anghofio cyfamod yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a amododd efe â chwi, a gwneuthur ohonoch i chwi ddelw gerfiedig, llun dim oll a waharddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 24 Oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd dân ysol, a Duw eiddigus.
25 Pan genhedlych feibion, ac wyrion, a hir drigo ohonoch yn y wlad, ac ymlygru ohonoch, a gwneuthur ohonoch ddelw gerfiedig, llun dim, a gwneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw i’w ddigio ef; 26 Galw yr ydwyf yn dystion yn eich erbyn chwi heddiw y nefoedd a’r ddaear, gan ddarfod y derfydd amdanoch yn fuan oddi ar y tir yr ydych yn myned dros yr Iorddonen iddo i’w feddiannu: nid estynnwch ddyddiau ynddo, ond gan ddifetha y’ch difethir. 27 A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ymhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ymysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi atynt: 28 Ac yno y gwasanaethwch dduwiau o waith dwylo dyn, sef pren a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni fwytânt ac nid aroglant. 29 Os oddi yno y ceisi yr Arglwydd dy Dduw, ti a’i cei ef, os ceisi ef â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 30 Pan gyfyngo arnat, a digwyddo yr holl bethau hyn i ti, yn y dyddiau diwethaf, os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef: 31 (Oherwydd yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw trugarog;) ni edy efe di, ac ni’th ddifetha, ac nid anghofia gyfamod dy dadau, yr hwn a dyngodd efe wrthynt. 32 Canys ymofyn yn awr am y dyddiau gynt, a fu o’th flaen di, o’r dydd y creodd Duw ddyn ar y ddaear, ac o’r naill gwr i’r nefoedd hyd y cwr arall i’r nefoedd, a fu megis y mawrbeth hwn, neu a glybuwyd ei gyffelyb ef: 33 A glybu pobl lais Duw yn llefaru o ganol y tân, fel y clywaist ti, a byw? 34 A brofodd un Duw ddyfod i gymryd iddo genedl o ganol cenedl, trwy brofedigaethau, trwy arwyddion, a thrwy ryfeddodau, a thrwy ryfel, a thrwy law gadarn, a thrwy fraich estynedig, a thrwy ofn mawr, fel yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd eich Duw eroch chwi yn yr Aifft yng ngŵydd dy lygaid? 35 Gwnaethpwyd i ti weled hynny, i wybod mai yr Arglwydd sydd Dduw, nad oes neb arall ond efe. 36 O’r nefoedd y parodd i ti glywed ei lais, i’th hyfforddi di; ac ar y ddaear y parodd i ti weled ei dân mawr, a thi a glywaist o ganol y tân ei eiriau ef. 37 Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hôl; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aifft: 38 I yrru cenhedloedd mwy a chryfach na thi ymaith o’th flaen di, i’th ddwyn di i mewn, i roddi i ti eu gwlad hwynt yn etifeddiaeth, fel heddiw. 39 Gwybydd gan hynny heddiw, ac ystyria yn dy galon, mai yr Arglwydd sydd Dduw yn y nefoedd oddi arnodd, ac ar y ddaear oddi tanodd; ac nid neb arall. 40 Cadw dithau ei ddeddfau ef, a’i orchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; fel y byddo yn dda i ti, ac i’th feibion ar dy ôl di, fel yr estynnech ddyddiau ar y ddaear, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti byth.
41 Yna Moses a neilltuodd dair dinas o’r tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 42 I gael o’r llofrudd ffoi yno, yr hwn a laddai ei gymydog yn amryfus, ac efe heb ei gasáu o’r blaen; fel y gallai ffoi i un o’r dinasoedd hynny, a byw: 43 Sef Beser yn yr anialwch, yng ngwastatir y Reubeniaid; a Ramoth yn Gilead y Gadiaid; a Golan o fewn Basan y Manassiaid.
44 A dyma’r gyfraith o osododd Moses o flaen meibion Israel; 45 Dyma ’r tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a lefarodd Moses wrth feibion Israel, gwedi eu dyfod allan o’r Aifft: 46 Tu yma i’r Iorddonen, yn y dyffryn ar gyfer Beth‐peor, yng ngwlad Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, yr hwn a drawsai Moses a meibion Israel, wedi eu dyfod allan o’r Aifft: 47 Ac a berchenogasant ei wlad ef, a gwlad Og brenin Basan, dau o frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd tu yma i’r Iorddonen, tua chodiad haul; 48 O Aroer, yr hon oedd ar lan afon Arnon, hyd fynydd Seion, hwn yw Hermon; 49 A’r holl ros tu hwnt i’r Iorddonen tua’r dwyrain, a hyd at fôr y rhos, dan Asdoth‐Pisga.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.