Chronological
21 Os ceir un wedi ei ladd o fewn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w etifeddu, yn gorwedd yn y maes, heb wybod pwy a’i lladdodd; 2 Yna aed dy henuriaid a’th farnwyr allan, a mesurant hyd y dinasoedd sydd o amgylch i’r lladdedig. 3 A bydded i’r ddinas nesaf at y lladdedig, sef henuriaid y ddinas honno, gymryd anner o’r gwartheg, yr hon ni weithiwyd â hi, ac ni thynnodd dan iau. 4 A dyged henuriaid y ddinas honno yr anner i ddyffryn garw, yr hwn ni lafuriwyd, ac ni heuwyd ynddo; ac yno torfynyglant yr anner yn y dyffryn. 5 A nesaed yr offeiriaid, meibion Lefi, (oherwydd yr Arglwydd dy Dduw a’u hetholodd hwynt i weini iddo ef, ac i fendigo yn enw yr Arglwydd,) ac wrth eu barn hwynt y terfynir pob ymryson a phob pla. 6 A holl henuriaid y ddinas honno, y rhai a fyddo nesaf at y lladdedig, a olchant eu dwylo uwchben yr anner a dorfynyglwyd yn y dyffryn. 7 A hwy a atebant ac a ddywedant, Ni thywalltodd ein dwylo ni y gwaed hwn, ac nis gwelodd ein llygaid. 8 Trugarha wrth dy bobl Israel, y rhai a waredaist, O Arglwydd, ac na ddyro waed gwirion yn erbyn dy bobl Israel. A maddeuir y gwaed iddynt hwy. 9 Felly y tynni ymaith affaith y gwaed gwirion o’th fysg, os ti a wnei yr uniawnder yng ngolwg yr Arglwydd.
10 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt yn dy law di, a chaethgludo ohonot gaethglud ohonynt; 11 A gweled ohonot yn y gaethglud wraig brydweddol, a’i bod wrth dy fodd, i’w chymryd i ti yn wraig: 12 Yna dwg hi i fewn dy dŷ, ac eillied hi ei phen, a thorred ei hewinedd; 13 A diosged ddillad ei chaethiwed oddi amdani, a thriged yn dy dŷ di, ac wyled am ei thad a’i mam fis o ddyddiau: ac wedi hynny yr ei di ati, ac y byddi ŵr iddi, a hithau fydd wraig i ti. 14 Ac oni bydd hi wrth dy fodd; yna gollwng hi yn ôl ei hewyllys ei hun, a chan werthu na werth hi er arian; na chais elw ohoni, am i ti ei darostwng hi.
15 Pan fyddo i ŵr ddwy wraig, un yn gu, ac un yn gas; a phlanta o’r gu a’r gas feibion iddo ef, a bod y mab cyntaf‐anedig o’r un gas: 16 Yna bydded, yn y dydd y rhanno efe ei etifeddiaeth rhwng ei feibion y rhai fyddant iddo, na ddichon efe wneuthur yn gyntaf‐anedig fab y gu o flaen mab y gas, yr hwn sydd gyntaf‐anedig; 17 Ond mab y gas yr hwn sydd gyntaf‐anedig a gydnebydd efe, gan roddi iddo ef y ddeuparth o’r hyn oll a gaffer yn eiddo ef: o achos hwn yw dechreuad ei nerth ef; iddo y bydd braint y cyntaf‐anedig.
18 Ond o bydd i ŵr fab cyndyn ac anufudd, heb wrando ar lais ei dad, neu ar lais ei fam; a phan geryddant ef, ni wrendy arnynt: 19 Yna ei dad a’i fam a ymaflant ynddo, ac a’i dygant at henuriaid ei ddinas, ac i borth ei drigfan; 20 A dywedant wrth henuriaid ei ddinas ef, Ein mab hwn sydd gyndyn ac anufudd, heb wrando ar ein llais; glwth a meddwyn yw efe. 21 Yna holl ddynion ei ddinas a’i llabyddiant ef â meini, fel y byddo farw: felly y tynni ymaith y drwg o’th fysg; a holl Israel a glywant, ac a ofnant.
22 Ac o bydd mewn gŵr bechod yn haeddu barnedigaeth angau, a’i farwolaethu a chrogi ohonot ef wrth bren; 23 Na thriged ei gelain dros nos wrth y pren, ond gan gladdu ti a’i cleddi ef o fewn y dydd hwnnw: oherwydd melltith Dduw sydd i’r hwn a grogir: ac na haloga dy dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth.
22 Ni chei weled eidion dy frawd neu ei ddafad yn cyfeiliorni, ac ymguddio oddi wrthynt: gan ddwyn dwg hwynt drachefn i’th frawd. 2 Ac oni bydd dy frawd yn gyfagos atat, neu onid adwaenost ef; yna dwg hwnnw i fewn dy dŷ, a bydded gyda thi, hyd pan ymofynno dy frawd amdano; yna dyro ef yn ei ôl iddo ef. 3 Ac felly y gwnei i’w asyn ef, ac felly y gwnei i’w ddillad ef, ac felly y gwnei i bob collbeth i’th frawd, yr hwn a gyll oddi wrtho ef, a thithau yn ei gael: ni elli ymguddio.
4 Ni chei weled asyn dy frawd neu ei ych yn gorwedd ar y ffordd, ac ymguddio oddi wrthynt; ond gan godi cyfod hwynt gydag ef.
5 Na fydded dilledyn gŵr am wraig, ac na wisged gŵr ddillad gwraig:oherwydd ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bawb a’r a wnêl hyn.
6 Pan ddamweinio nyth aderyn i’th olwg ar dy ffordd, mewn un pren, neu ar y ddaear, â chywion, neu ag wyau ynddo, a’r fam yn eistedd ar y cywion, neu ar yr wyau; na chymer y fam gyda’r cywion. 7 Gan ollwng ti a ollyngi y fam, a’r cywion a gymeri i ti; fel y byddo daioni i ti, ac yr estynnech dy ddyddiau.
8 Pan adeiledych dŷ newydd, yna y gwnei ganllawiau o amgylch i’th nen; fel na osodych waed ar dy dŷ, pan syrthio neb oddi arno.
9 Na heua dy winllan ag amryw had; rhag i ti halogi cynnyrch yr had a heuech, a chnwd y winllan.
10 Nac ardd ag ych ac ag asyn ynghyd.
11 Na wisg ddilledyn o amryw ddefnydd, megis o wlân a llin ynghyd.
12 Plethau a weithi i ti ar bedwar cwr dy wisg yr ymwisgych â hi.
13 O chymer gŵr wraig, ac wedi myned ati, ei chasáu; 14 A gosod yn ei herbyn anair, a rhoddi allan enw drwg iddi, a dywedyd, Y wraig hon a gymerais; a phan euthum ati, ni chefais ynddi forwyndod: 15 Yna cymered tad y llances a’i mam, a dygant arwyddion morwyndod y llances at henuriaid y ddinas i’r porth. 16 A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i’r gŵr hwn yn wraig, a’i chasáu y mae efe. 17 Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas. 18 A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a’i cosbant ef. 19 A hwy a’i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a’u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau. 20 Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances: 21 Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a’i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o’th fysg.
22 O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda’r wraig, a’r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.
23 O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi; 24 Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a’u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a’r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o’th fysg.
25 Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a’i threisio o’r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig. 26 Ond i’r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a’i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn: 27 Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.
28 O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a’u dala hwynt: 29 Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.
30 Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.
23 Na ddeued neb wedi ysigo ei eirin, na disbaidd, i gynulleidfa yr Arglwydd. 2 Na ddeued basterdyn i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth iddo hefyd ni chaiff ddyfod i gynulleidfa yr Arglwydd. 3 Na ddeled Ammoniad na Moabiad i gynulleidfa yr Arglwydd; y ddegfed genhedlaeth hefyd ohonynt na ddeued i gynulleidfa yr Arglwydd byth: 4 Oblegid ni chyfarfuant â chwi â bara ac â dwfr yn y ffordd, wrth eich dyfod o’r Aifft; ac o achos cyflogi ohonynt i’th erbyn Balaam mab Beor o Pethor ym Mesopotamia, i’th felltithio di. 5 Eto yr Arglwydd dy Dduw ni fynnodd wrando ar Balaam: ond trodd yr Arglwydd dy Dduw y felltith yn fendith i ti; canys hoffodd yr Arglwydd dy Dduw dydi. 6 Na chais eu heddwch hwynt, na’u daioni hwynt, dy holl ddyddiau byth.
7 Na ffieiddia Edomiad; canys dy frawd yw: na ffieiddia Eifftiad; oherwydd dieithr fuost yn ei wlad ef. 8 Deued ohonynt i gynulleidfa yr Arglwydd y drydedd genhedlaeth o’r meibion a genhedlir iddynt.
9 Pan êl y llu allan yn erbyn dy elynion yna ymgadw rhag pob peth drwg.
10 O bydd un ohonot heb fod yn lân, oherwydd damwain nos; eled allan o’r gwersyll; na ddeued o fewn y gwersyll. 11 Ac ym min yr hwyr ymolched mewn dwfr: yna wedi machludo’r haul, deued i fewn y gwersyll.
12 A bydded lle i ti o’r tu allan i’r gwersyll; ac yno yr ei di allan. 13 A bydded gennyt rawffon ymysg dy arfau; a bydded pan eisteddych allan, gloddio ohonot â hi, a thro a chuddia yr hyn a ddaeth oddi wrthyt. 14 Oherwydd bod yr Arglwydd dy Dduw yn rhodio ymhlith dy wersyllau, i’th waredu, ac i roddi dy elynion o’th flaen di; am hynny bydded dy wersyllau yn sanctaidd; fel na welo ynot ti ddim brynti, a throi oddi wrthyt.
15 Na ddyro at ei feistr was a ddihangodd atat oddi wrth ei feistr. 16 Gyda thi y trig yn dy fysg, yn y fan a ddewiso, yn un o’th byrth di, lle byddo da ganddo; ac na chystuddia ef.
17 Na fydded putain o ferched Israel, ac na fydded puteiniwr o feibion Israel. 18 Na ddwg wobr putain, na gwerth ci, i dŷ yr Arglwydd dy Dduw, mewn un adduned: canys y maent ill dau yn ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw.
19 Na chymer ocraeth gan dy frawd; ocraeth arian, ocraeth bwyd, ocraeth dim y cymerir ocraeth amdano. 20 Gan estron y cymeri ocraeth; ond na chymer ocraeth gan dy frawd: fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di ym mhob peth y rhoddych dy law arno, yn y tir yr ydwyt yn myned iddo i’w feddiannu
21 Pan addunedych adduned i’r Arglwydd dy Dduw, nac oeda ei thalu: canys yr Arglwydd dy Dduw gan ofyn a’i gofyn gennyt; a byddai yn bechod ynot. 22 Ond os peidi ag addunedu, ni bydd pechod ynot. 23 Cadw a gwna yr hyn a ddaeth allan o’th wefusau; megis yr addunedaist i’r Arglwydd dy Dduw offrwm gwirfodd, yr hwn a draethaist â’th enau.
24 Pan ddelych i winllan dy gymydog, yna bwyta o rawnwin dy wala, wrth dy feddwl; ond na ddod yn dy lestr yr un. 25 Pan ddelych i ŷd dy gymydog, yna y cei dynnu y tywysennau â’th law; ond ni chei osod cryman yn ŷd dy gymydog.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.