Chronological
14 Plant ydych chwi i’r Arglwydd eich Duw: na thorrwch mohonoch eich hunain, ac na wnewch foelni rhwng eich llygaid, dros y marw. 2 Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
3 Na fwyta ddim ffiaidd. 4 Dyma’r anifeiliaid a fwytewch: eidion, llwdn dafad, a llwdn gafr, 5 Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwyllt, a’r unicorn, a’r ych gwyllt, a’r afr wyllt. 6 A phob anifail yn hollti’r ewin, ac yn fforchogi hollt y ddwy ewin, ac yn cnoi cil, ymysg yr anifeiliaid; hwnnw a fwytewch. 7 Ond hyn ni fwytewch, o’r rhai a gnoant y cil, neu a holltant yr ewin yn fforchog: y camel, a’r ysgyfarnog, a’r gwningen: er bod y rhai hyn yn cnoi eu cil, am nad ydynt yn fforchogi’r ewin, aflan ydynt i chwi. 8 Yr hwch hefyd, er ei bod yn fforchogi’r ewin, ac heb gnoi cil, aflan yw i chwi: na fwytewch o’u cig hwynt, ac na chyffyrddwch â’u burgyn hwynt.
9 Hyn a fwytewch o’r hyn oll sydd yn y dyfroedd: yr hyn oll sydd iddo esgyll a chen a fwytewch. 10 A’r hyn oll nid oes iddo esgyll a chen, ni fwytewch: aflan yw i chwi.
11 Pob aderyn glân a fwytewch. 12 A dyma’r rhai ni fwytewch ohonynt yr eryr, a’r wyddwalch, a’r fôr‐wennol, 13 A’r bod, a’r barcud, a’r fwltur yn ei rhyw, 14 A phob cigfran yn ei rhyw, 15 A chyw yr estrys, a’r frân nos, a’r gog, a’r hebog yn ei ryw, 16 Aderyn y cyrff, a’r dylluan, a’r gogfran, 17 A’r pelican, a’r biogen, a’r fulfran, 18 A’r ciconia, a’r crŷr yn ei ryw, a’r gornchwigl, a’r ystlum. 19 A phob ymlusgiad asgellog sydd aflan i chwi: na fwytaer hwynt. 20 Pob ehediad glân a fwytewch.
21 Na fwytewch ddim a fo marw ei hun: dod ef i’r dieithr fyddo yn dy byrth, a bwytaed ef; neu gwerth ef i’r dieithr: canys pobl sanctaidd ydwyt i’r Arglwydd dy Dduw. Na ferwa fyn yn llaeth ei fam. 22 Gan ddegymu degyma holl gynnyrch dy had, sef ffrwyth dy faes, bob blwyddyn. 23 A bwyta gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe i drigo o’i enw ef ynddo, ddegwm dy ŷd, dy win, a’th olew, a chyntaf‐anedig dy wartheg, a’th ddefaid; fel y dysgech ofni yr Arglwydd dy Dduw bob amser. 24 A phan fyddo y ffordd ry hir i ti, fel na ellych ei ddwyn ef, neu os y lle fydd ymhell oddi wrthyt, yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i osod ei enw ynddo, pan y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw: 25 Yna dod ei werth yn arian; a rhwym yr arian yn dy law, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 26 A dod yr arian am yr hyn oll a chwenycho dy galon; am wartheg, neu am ddefaid, neu am win, neu am ddiod gref, neu am yr hyn oll a ddymuno dy galon: a bwyta yno gerbron yr Arglwydd dy Dduw, a llawenycha di, a’th deulu. 27 A’r Lefiad yr hwn fyddo yn dy byrth, na wrthod ef: am nad oes iddo na rhan nac etifeddiaeth gyda thi.
28 Ymhen tair blynedd y dygi allan holl ddegwm dy gnwd y flwyddyn honno: a dyro ef i gadw o fewn dy byrth. 29 A’r Lefiad, (am nad oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda thi,) a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fydd yn dy byrth di, a ddeuant, ac a fwytânt, ac a ddigonir; fel y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw ym mhob gwaith a wnelych â’th law.
15 Ymhen pob saith mlynedd gwna ollyngdod. 2 A dyma wedd y gollyngdod. Gollynged pob echwynnwr i’w gymydog yn rhydd ei echwyn a echwynnodd efe: na fynned hynny drachefn gan ei gymydog, neu ei frawd; canys cyhoeddwyd gollyngdod yr Arglwydd. 3 Ti a elli fynnu drachefn gan y dieithr; ond gollynged dy law yn rhydd yr hyn sydd i ti gyda’th frawd: 4 Megis na byddo ohonot ti gardotyn: canys yr Arglwydd gan fendithio a’th fendithia di, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu; 5 Yn unig os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur yr holl orchmynion yma, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw. 6 Canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia, megis y llefarodd wrthyt, fel y benthyciech i genhedloedd lawer, ac na fenthyciech di ganddynt; ti hefyd a arglwyddiaethi ar genhedloedd lawer, ac nid arglwyddiaethant hwy arnat ti.
7 Os bydd yn dy fysg di un o’th frodyr yn dlawd o fewn un o’th byrth, yn dy dir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na chaleda dy galon, ac na chae dy law oddi wrth dy frawd tlawd: 8 Ond gan agoryd agor dy law iddo, a chan fenthycio benthycia ddigon i’w angen ef, yr hyn fyddo arno ei eisiau. 9 Gwylia arnat, rhag bod yn dy galon ddrwg feddwl i ddywedyd, Agos yw’r seithfed flwyddyn, blwyddyn y gollyngdod a bod dy lygad yn ddrwg yn erbyn dy frawd tlawd, rhag rhoddi iddo, a llefain ohono ef ar yr Arglwydd rhagot, a’i fod yn bechod i ti. 10 Gan roddi dod iddo, ac na fydded drwg gan dy galon pan roddych iddo: canys o achos y peth hyn y’th fendithia yr Arglwydd dy Dduw yn dy holl waith, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno. 11 Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i’th frawd, i’th anghenus ac i’th dlawd, yn dy dir.
12 Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a’th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt. 13 A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag: 14 Gan lwytho llwytha ef o’th braidd, ac o’th ysgubor, ac o’th winwryf: o’r hyn y’th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo. 15 A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw. 16 Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a’th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi: 17 Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i’th forwyn. 18 Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a’r Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.
19 Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o’th wartheg, neu o’th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i’r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid. 20 Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a’th deulu. 21 Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i’r Arglwydd dy Dduw. 22 O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a’r glân ynghyd a’i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw. 23 Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.
16 Cadw y mis Abib, a chadw Basg i’r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o’r Aifft, o hyd nos. 2 Abertha dithau yn Basg i’r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef yno. 3 Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes. 4 Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o’r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf. 5 Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o’th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: 6 Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o’r Aifft. 7 Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a’r bore y dychweli, ac yr ei i’th babellau. 8 Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9 Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo’r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo’r saith wythnos. 10 A chadw ŵyl yr wythnosau i’r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw. 11 A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo. 12 Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13 Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a’th win. 14 A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a’th fab, a’th ferch, a’th was, a’th forwyn, a’r Lefiad, a’r dieithr, a’r amddifad, a’r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth. 15 Saith niwrnod y cedwi ŵyl i’r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a’th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16 Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw. 17 Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.
18 Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn. 19 Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn. 20 Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.
21 Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti. 22 Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.