Chronological
24 Pan gymero gŵr wraig, a’i phriodi; yna oni chaiff hi ffafr yn ei olwg ef, o achos iddo gael rhyw aflendid ynddi; ysgrifenned iddi lythyr ysgar, a rhodded yn ei llaw hi, a gollynged hi ymaith o’i dŷ. 2 Pan elo hi allan o’i dŷ ef, a myned ymaith, a bod yn eiddo gŵr arall: 3 Os ei gŵr diwethaf a’i casâ hi, ac a ysgrifenna lythyr ysgar iddi, ac a’i rhydd yn ei llaw hi, ac a’i gollwng hi o’i dŷ; neu os bydd marw y gŵr diwethaf a’i cymerodd hi yn wraig iddo: 4 Ni ddichon ei phriod cyntaf, yr hwn a’i gollyngodd hi ymaith, ei chymryd hi drachefn i fod yn wraig iddo, wedi iddi ymhalogi: canys ffieidd‐dra yw hwn o flaen yr Arglwydd; ac na wna i’r wlad bechu, yr hon a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti yn etifeddiaeth.
5 Pan gymero gŵr wraig newydd, nac eled i ryfel, ac na rodder gofal dim arno: caiff fod gartref yn rhydd un flwyddyn, a llawenhau ei wraig a gymerodd.
6 Na chymered neb faen isaf nac uchaf i felin ar wystl: canys y mae yn cymryd bywyd dyn yng ngwystl.
7 Pan gaffer gŵr yn lladrata un o’i frodyr o feibion Israel, ac yn ymelwa arno, neu yn ei werthu; yna lladder y lleidr hwnnw, a thyn di ymaith y drwg o’th fysg.
8 Gwylia ym mhla y gwahanglwyf, ar ddyfal gadw, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgo yr offeiriaid y Lefiaid i chwi: edrychwch am wneuthur megis y gorchmynnais wrthynt hwy. 9 Cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Miriam ar y ffordd, wedi eich dyfod allan o’r Aifft.
10 Pan fenthycieth i’th gymydog fenthyg dim, na ddos i’w dŷ ef i gymryd ei wystl ef. 11 Allan y sefi; a dyged y gŵr y benthyciaist iddo y gwystl allan atat ti. 12 Ac os gŵr tlawd fydd efe, na chwsg â’i wystl gyda thi. 13 Gan ddadroddi dyro ei wystl iddo pan fachludo yr haul, fel y gorweddo yn ei wisg, ac y’th fendithio di: a bydd hyn i ti yn gyfiawnder o flaen yr Arglwydd dy Dduw.
14 Na orthryma was cyflog tlawd ac anghenus, o’th frodyr, neu o’th ddieithr-ddyn a fyddo yn dy dir o fewn dy byrth di: 15 Yn ei ddydd y rhoddi iddo ei gyflog; ac na fachluded yr haul arno: canys tlawd yw, ac â hyn y mae yn cynnal ei einioes: fel na lefo ar yr Arglwydd yn dy erbyn, a bod pechod ynot. 16 Na rodder i farwolaeth dadau dros blant, ac na rodder plant i farw dros dadau: pob un a roddir i farwolaeth am ei bechod ei hun.
17 Na ŵyra farn y dieithr na’r amddifad ac na chymer ar wystloraeth wisg y weddw. 18 Ond meddwl mai caethwas fuost yn yr Aifft, a’th waredu o’r Arglwydd dy Dduw oddi yno: am hynny yr wyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
19 Pan fedych dy gynhaeaf yn dy faes, ac anghofio ysgub yn y maes, na ddychwel i’w chymryd: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bendithio yr Arglwydd dy Dduw di yn holl waith dy ddwylo. 20 Pan ysgydwych dy olewydden, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 21 Pan gesglych rawnwin dy winllan, na loffa ar dy ôl: bydded i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw. 22 Meddwl hefyd mai caethwas fuost yn nhir yr Aifft: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti wneuthur y peth hyn.
25 Pan fyddo ymrafael rhwng dynion, a dyfod i farn i’w barnu; yna cyfiawnhânt y cyfiawn, a chondemniant y beius. 2 Ac o bydd y mab drygionus i’w guro, pared y barnwr iddo orwedd, a phared ei guro ef ger ei fron, yn ôl ei ddryganiaeth, dan rifedi. 3 Deugain gwialennod a rydd iddo, ac na chwaneged: rhag os chwanega, a’i guro ef â llawer gwialennod uwchlaw hyn, a dirmygu dy frawd yn dy olwg.
4 Na chae safn ych tra fyddo yn dyrnu.
5 Os brodyr a drigant ynghyd, a marw un ohonynt, ac heb blentyn iddo; na phrioded gwraig y marw ŵr dieithr oddi allan: aed ei chyfathrachwr ati, a chymered hi yn wraig iddo, a gwnaed iddi ran cyfathrachwr. 6 A bydded i’r cyntaf‐anedig a ymddygo hi sefyll ar enw ei frawd a fu farw; fel na ddileer ei enw ef allan o Israel. 7 Ac oni bydd bodlon y gŵr i gymryd ei gyfathrachwraig; yna aed ei gyfathrachwraig i fyny i’r porth at yr henuriaid, a dyweded, Gwrthododd fy nghyfathrachwr godi i’w frawd enw yn Israel: ni fyn efe wneuthur rhan cyfathrachwr â mi. 8 Yna galwed henuriaid ei ddinas amdano ef, ac ymddiddanant ag ef: o saif efe, a dywedyd, Nid wyf fi fodlon i’w chymryd hi; 9 Yna nesaed ei gyfathrachwraig ato ef yng ngŵydd yr henuriaid, a datoded ei esgid ef oddi am ei droed, a phoered yn ei wyneb ef; ac atebed, a dyweded, Felly y gwneir i’r gŵr nid adeilado dŷ ei frawd. 10 A gelwir ei enw ef yn Israel, Tŷ yr hwn y datodwyd ei esgid.
11 Os ymryson dynion ynghyd, sef gŵr â’i frawd, a nesáu gwraig y naill i achub ei gŵr o law ei drawydd, ac estyn ei llaw ac ymaflyd yn ei ddirgeloedd ef; 12 Tor ymaith ei llaw hi: nac arbeded dy lygad hi.
13 Na fydded gennyt yn dy god amryw bwys, mawr a bychan. 14 Na fydded gennyt yn dy dŷ amryw fesur, mawr a bychan. 15 Bydded gennyt garreg uniawn a chyfiawn; bydded gennyt effa uniawn a chyfiawn: fel yr estynner dy ddyddiau ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 16 Canys ffiaidd gan yr Arglwydd dy Dduw bob un a wnelo hyn, sef pawb a’r a wnêl anghyfiawnder.
17 Cofia yr hyn a wnaeth Amalec i ti ar y ffordd, pan ddaethoch allan o’r Aifft: 18 Yr hwn a’th gyfarfu ar y ffordd, ac a laddodd y rhai olaf ohonot, yr holl weiniaid o’th ôl di, a thi yn lluddedig, ac yn ddiffygiol; ac nid ofnodd efe Dduw. 19 Am hynny bydded, pan roddo yr Arglwydd dy Dduw i ti lonyddwch oddi wrth dy holl elynion oddi amgylch, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth i’w feddiannu, dynnu ohonot ymaith goffadwriaeth Amalec oddi tan y nefoedd: nac anghofia hyn.
26 Aphan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth, a’i feddiannu, a phreswylio ynddo; 2 Yna cymer o bob blaenffrwyth y ddaear, yr hwn a ddygi o’th dir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a gosod mewn cawell, a dos i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o’i enw ef ynddo: 3 A dos at yr offeiriad a fydd yn y dyddiau hynny, a dywed wrtho, Yr ydwyf fi yn cyfaddef heddiw i’r Arglwydd dy Dduw, fy nyfod i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth ein tadau ar ei roddi i ni. 4 A chymered yr offeiriad y cawell o’th law di, a gosoded ef o flaen allor yr Arglwydd dy Dduw: 5 A llefara dithau, a dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod amdano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynnodd i’r Aifft, ac a ymdeithiodd yno ag ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml. 6 A’r Eifftiaid a’n drygodd ni, a chystuddiasant ni, a rhoddasant arnom gaethiwed caled. 7 A phan waeddasom ar Arglwydd Dduw ein tadau, clybu yr Arglwydd ein llais ni, a gwelodd ein cystudd, a’n llafur, a’n gorthrymder. 8 A’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr, ac ag arwyddion, ac â rhyfeddodau. 9 Ac efe a’n dug ni i’r lle hwn, ac a roes i ni y tir hwn; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl. 10 Ac yn awr, wele, mi a ddygais flaenffrwyth y tir a roddaist i mi, O Arglwydd: a gosod ef gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ac addola gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 11 Ymlawenycha hefyd ym mhob daioni a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, ac i’th deulu, tydi, a’r Lefiad, a’r dieithr a fyddo yn dy fysg.
12 Pan ddarffo i ti ddegymu holl ddegwm dy gnwd, yn y drydedd flwyddyn sef blwyddyn y degwm; yna y rhoddi i’r Lefiad, i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw; fel y bwytaont yn dy byrth di, ac y digoner hwynt. 13 A dywed gerbron yr Arglwydd dy Dduw, Dygais y peth cysegredig allan o’m tŷ, ac a’i rhoddais ef i’r Lefiad, ac i’r dieithr, i’r amddifad, ac i’r weddw, yn ôl dy holl orchmynion a orchmynnaist i mi: ni throseddais ddim o’th orchmynion ac nis anghofiais. 14 Ni fwyteais ohono yn fy ngalar, ac ni ddygais ymaith ohono i aflendid, ac ni roddais ohono dros y marw: gwrandewais ar lais yr Arglwydd fy Nuw; gwneuthum yn ôl yr hyn oll a orchmynnaist i mi. 15 Edrych o drigle dy sancteiddrwydd, sef o’r nefoedd, a bendithia dy bobl Israel, a’r tir a roddaist i ni, megis y tyngaist wrth ein tadau; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.
16 Y dydd hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn gorchymyn i ti wneuthur y deddfau hyn a’r barnedigaethau: cadw dithau a gwna hwynt â’th holl galon, ac â’th holl enaid. 17 Cymeraist yr Arglwydd heddiw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchmynion, a’i farnedigaethau, ac i wrando ar ei lais ef. 18 Cymerodd yr Arglwydd dithau heddiw i fod yn bobl briodol iddo ef, megis y llefarodd wrthyt, ac i gadw ohonot ei holl orchmynion: 19 Ac i’th wneuthur yn uchel goruwch yr holl genhedloedd a wnaeth efe, mewn clod, ac mewn enw, ac mewn gogoniant; ac i fod ohonot yn bobl sanctaidd i’r Arglwydd dy Dduw, megis y llefarodd efe.
27 Yna y gorchmynnodd Moses, gyda henuriaid Israel, i’r bobl, gan ddywedyd Cedwch yr holl orchmynion yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw. 2 A bydded, yn y dydd yr elych dros yr Iorddonen i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, osod ohonot i ti gerrig mawrion, a chalcha hwynt â chalch. 3 Ac ysgrifenna arnynt holl eiriau y gyfraith hon, pan elych drosodd, i fyned i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, sef tir yn llifeirio o laeth a mêl; megis ag y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthyt. 4 A phan eloch dros yr Iorddonen, gosodwch y cerrig hyn, yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, ym mynydd Ebal, a chalcha hwynt â chalch. 5 Ac adeilada yno allor i’r Arglwydd dy Dduw, sef allor gerrig: na chyfod arnynt arf haearn. 6 A cherrig cyfain yr adeiledi allor yr Arglwydd dy Dduw; ac offryma arni boethoffrymau i’r Arglwydd dy Dduw. 7 Offryma hefyd hedd‐aberthau, a bwyta yno, a llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw. 8 Ac ysgrifenna ar y cerrig holl eiriau y gyfraith hon, yn eglur iawn.
9 A llefarodd Moses a’r offeiriaid y Lefiaid wrth holl Israel, gan ddywedyd, Gwrando a chlyw, O Israel: Y dydd hwn y’th wnaethpwyd yn bobl i’r Arglwydd dy Dduw. 10 Gwrando gan hynny ar lais yr Arglwydd dy Dduw, a gwna ei orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw.
11 A gorchmynnodd Moses i’r bobl y dydd hwnnw, gan ddywedyd. 12 Y rhai hyn a safant i fendithio y bobl ar fynydd Garisim, wedi eich myned dros yr Iorddonen: Simeon, a Lefi, a Jwda, ac Issachar, a Joseff, a Benjamin. 13 A’r rhai hyn a safant i felltithio ar fynydd Ebal: Reuben, Gad, ac Aser, a Sabulon, Dan, a Nafftali.
14 A’r Lefiaid a lefarant, ac a ddywedant wrth bob gŵr o Israel â llef uchel, 15 Melltigedig yw y gŵr a wnêl ddelw gerfiedig neu doddedig, sef ffieidd‐dra gan yr Arglwydd, gwaith dwylo crefftwr, ac a’i gosodo mewn lle dirgel. A’r holl bobl a atebant ac a ddywedant, Amen. 16 Melltigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen. 17 Melltigedig yw yr hwn a symudo derfyn ei gymydog. A dyweded yr holl bobl, Amen. 18 Melltigedig yw yr hwn a baro i’r dall gyfeiliorni allan o’r ffordd. A dyweded yr holl bobl, Amen. 19 Melltigedig yw yr hwn a ŵyro farn y dieithr, yr amddifad, a’r weddw. A dyweded yr holl bobl, Amen. 20 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda gwraig ei dad; oherwydd datguddiodd odre ei dad. A dyweded yr holl bobl, Amen. 21 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gydag un anifail. A dyweded yr holl bobl, Amen. 22 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwaer, merch ei dad, neu ferch ei fam ef. A dyweded yr holl bobl, Amen. 23 Melltigedig yw yr hwn a orweddo gyda’i chwegr. A dyweded yr holl bobl, Amen. 24 Melltigedig yw yr hwn a drawo ei gymydog yn ddirgel. A dyweded yr holl bobl, Amen. 25 Melltigedig yw yr hwn a gymero wobr, er dieneidio gwaed gwirion. A dyweded yr holl bobl, Amen. 26 Melltigedig yw yr hwn ni pharhao yng ngeiriau y gyfraith hon, gan eu gwneuthur hwynt. A dyweded yr holl bobl, Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.