Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 28-30

28 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Gorchymyn i feibion Israel, a dywed wrthynt, Gwyliwch am offrymu i mi fy offrwm, a’m bara i’m hebyrth tanllyd, o arogl peraidd yn eu tymor. A dywed wrthynt, Dyma yr aberth tanllyd a offrymwch i’r Arglwydd. Dau oen blwyddiaid perffaith‐gwbl, bob dydd, yn boethoffrwm gwastadol. Un oen a offrymi di y bore, a’r oen arall a offrymi di yn yr hwyr; A degfed ran effa o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy bedwaredd ran hin o olew coethedig. Dyma y poethoffrwm gwastadol a wnaed ym mynydd Sinai, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. A’i ddiod‐offrwm fydd bedwaredd ran hin gyda phob oen: pâr dywallt y ddiod gref yn ddiod‐offrwm i’r Arglwydd, yn y cysegr. Yr ail oen a offrymi yn yr hwyr: megis bwyd‐offrwm y bore, a’i ddiod‐offrwm yr offrymi ef, yn aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd.

Ac ar y dydd Saboth, dau oen blwyddiaid, perffaith‐gwbl, a dwy ddegfed ran o beilliaid yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, a’i ddiod‐offrwm. 10 Dyma boethoffrwm pob Saboth, heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i ddiod‐offrwm.

11 Ac ar ddechrau eich misoedd yr offrymwch, yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid,perffaith‐gwbl 12 A thair degfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob bustach; a dwy ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob hwrdd; 13 A phob yn ddegfed ran o beilliaid, yn fwyd‐offrwm, wedi ei gymysgu trwy olew, gyda phob oen, yn offrwm poeth o arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd. 14 A’u diod‐offrwm fydd hanner hin gyda bustach, a thrydedd ran hin gyda hwrdd, a phedwaredd ran hin o win gydag oen. Dyma boethoffrwm mis yn ei fis, trwy fisoedd y flwyddyn. 15 Ac un bwch geifr fydd yn bech‐aberthi’r Arglwydd: heblaw y gwastadol boethoffrwm yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm.

16 Ac yn y mis cyntaf, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis, y bydd Pasg yr Arglwydd. 17 Ac ar y pymthegfed dydd o’r mis hwn y bydd yr ŵyl: saith niwrnod y bwyteir bara croyw. 18 Ar y dydd cyntaf y bydd cymanfa sanctaidd: na wnewch ddim caethwaith ynddo. 19 Ond offrymwch yn aberth tanllyd, ac yn boethoffrwm i’r Arglwydd, ddau o fustych ieuainc, ac un hwrdd, a saith oen blwyddiaid: byddant gennych yn berffaith‐gwbl. 20 Eu bwyd‐offrwm hefyd fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew: tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd, a offrymwch chwi; 21 Bob yn ddegfed ran yr offrymwch gyda phob oen, o’r saith oen: 22 Ac un bwch yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch. 23 Heblaw poethoffrwm y bore, yr hwn sydd boethoffrwm gwastadol, yr offrymwch hyn. 24 Fel hyn yr offrymwch ar bob dydd o’r saith niwrnod, fwyd‐aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd: heblaw y poethoffrwm gwastadol yr offrymir ef, a’i ddiod‐offrwm. 25 Ac ar y seithfed dydd cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch.

26 Ac ar ddydd eich blaenffrwythau, pan offrymoch fwyd‐offrwm newydd i’r Arglwydd, wedi eich wythnosau,cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch. 27 Ond offrymwch ddau fustach ieuainc un hwrdd, a saith oen blwyddiaid, yn boethoffrwm, o arogl peraidd i’r Arglwydd. 28 A bydded eu bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd; 29 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 30 Un bwch geifr, i wneuthur cymod drosoch. 31 Heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, yr offrymwch hyn, (byddant gennych yn berffaith‐gwbl,) ynghyd â’u diod‐offrwm.

29 Ac yn y seithfed mis, ar y dydd cyntaf o’r mis, y bydd i chwi gymanfa sanctaidd; dim caethwaith nis gwnewch: dydd i ganu utgyrn fydd efe i chwi. Ac offrymwch offrwm poeth yn arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach ieuanc, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid perffaith‐gwbl: A’u bwyd‐offrwm o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; Ac un ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: Ac un bwch geifr yn bech‐aberth, i wneuthur cymod drosoch: Heblaw poethoffrwm y mis, a’i fwyd‐offrwm, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm hwynt, wrth eu defod hwynt, yn arogl peraidd, yn aberth tanllyd i’r Arglwydd.

Ac ar y degfed dydd o’r seithfed mis hwn cymanfa sanctaidd fydd i chwi: yna cystuddiwch eich eneidiau: dim gwaith nis gwnewch ynddo. Ond offrymwch boethoffrwm i’r Arglwydd, yn arogl peraidd, un bustach ieuanc, un hwrdd, saith oen blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl gennych. A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew, tair degfed ran gyda bustach, a dwy ddegfed ran gyda hwrdd; 10 Bob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r saith oen: 11 Un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw pech‐aberth y cymod, a’r poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’u diod‐offrymau.

12 Ac ar y pymthegfed dydd o’r seithfed mis, cymanfa sanctaidd fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch; eithr cedwch ŵyl i’r Arglwydd saith niwrnod. 13 Ac offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; tri ar ddeg o fustych ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid: byddant berffaith‐gwbl. 14 A’u bwyd‐offrwm fydd o beilliaid wedi ei gymysgu trwy olew; tair degfed ran gyda phob bustach, o’r tri bustach ar ddeg; dwy ddegfed ran gyda phob hwrdd, o’r ddau hwrdd; 15 A phob yn ddegfed ran gyda phob oen, o’r pedwar oen ar ddeg: 16 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

17 Ac ar yr ail ddydd yr offrymwch ddeuddeng mustach ieuainc, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 18 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 19 Ac un bwch geifr, yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm a’u diod‐offrymau.

20 Ac ar y trydydd dydd, un bustach ar ddeg, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 21 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 22 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

23 Ac ar y pedwerydd dydd, deng mustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl: 24 Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 25 Ac un bwch geifr yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

26 Ac ar y pumed dydd, naw bustach, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 27 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod; 28 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, a’i fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

29 Ac ar y chweched dydd, wyth o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 30 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 31 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

32 Ac ar y seithfed dydd, saith o fustych, dau hwrdd, pedwar ar ddeg o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 33 A’u bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustych, gyda’r hyrddod, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth eu defod: 34 Ac un bwch yn bech‐aberth; heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm.

35 Ar yr wythfed dydd, uchel ŵyl fydd i chwi: dim caethwaith nis gwnewch ynddo. 36 Ond offrymwch offrwm poeth, aberth tanllyd, o arogl peraidd i’r Arglwydd; un bustach, un hwrdd, saith o ŵyn blwyddiaid, perffaith‐gwbl. 37 Eu bwyd‐offrwm, a’u diod‐offrwm, gyda’r bustach, a chyda’r hwrdd, a chyda’r ŵyn, fydd yn ôl eu rhifedi, wrth y ddefod: 38 Ac un bwch yn bech‐aberth: heblaw y poethoffrwm gwastadol, ei fwyd‐offrwm, a’i ddiod‐offrwm. 39 Hyn a wnewch i’r Arglwydd ar eich gwyliau; heblaw eich addunedau, a’ch offrymau gwirfodd, gyda’ch offrymau poeth, a’ch offrymau bwyd, a’ch offrymau diod, a’ch offrymau hedd. 40 A dywedodd Moses wrth feibion Israel yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

30 A llefarodd Moses wrth benaethiaid llwythau meibion Israel, gan ddywedyd, Dyma’r peth a orchmynnodd yr Arglwydd. Os adduneda gŵr adduned i’r Arglwydd, neu dyngu llw, gan rwymo rhwymedigaeth ar ei enaid ei hun; na haloged ei air: gwnaed yn ôl yr hyn oll a ddêl allan o’i enau. Ac os adduneda benyw adduned i’r Arglwydd, a’i rhwymo ei hun â rhwymedigaeth yn nhŷ ei thad, yn ei hieuenctid; A chlywed o’i thad ei hadduned, a’i rhwymedigaeth yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid, a thewi o’i thad wrthi: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwymedigaeth a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. Ond os ei thad a bair iddi dorri, ar y dydd y clywo efe; o’i holl addunedau, a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, ni saif un: a maddau yr Arglwydd iddi, o achos mai ei thad a barodd iddi dorri. Ac os hi oedd yn eiddo gŵr, pan addunedodd, neu pan lefarodd o’i gwefusau beth a rwymo ei henaid hi; A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi y dydd y clywo: yna safed ei haddunedau; a’i rhwymedigaethau y rhai a rwymodd hi ar ei henaid, a safant. Ond os ei gŵr, ar y dydd y clywo, a bair iddi dorri; efe a ddiddyma ei hadduned yr hwn fydd arni, a thraethiad ei gwefusau yr hwn a rwymodd hi ar ei henaid: a’r Arglwydd a faddau iddi. Ond adduned y weddw, a’r ysgaredig, yr hyn oll a rwymo hi ar ei henaid, a saif arni. 10 Ond os yn nhŷ ei gŵr yr addunedodd, neu y rhwymodd hi rwymedigaeth ar ei henaid trwy lw; 11 A chlywed o’i gŵr, a thewi wrthi, heb beri iddi dorri: yna safed ei holl addunedau; a phob rhwym a rwymodd hi ar ei henaid, a saif. 12 Ond os ei gŵr gan ddiddymu a’u diddyma hwynt y dydd y clywo; ni saif dim a ddaeth allan o’i gwefusau, o’i haddunedau, ac o rwymedigaeth ei henaid: ei gŵr a’u diddymodd hwynt; a’r Arglwydd a faddau iddi. 13 Pob adduned, a phob rhwymedigaeth llw i gystuddio’r enaid, ei gŵr a’i cadarnha, a’i gŵr a’i diddyma. 14 Ac os ei gŵr gan dewi a dau wrthi o ddydd i ddydd; yna y cadarnhaodd efe ei holl addunedau, neu ei holl rwymedigaethau y rhai oedd arni: cadarnhaodd hwynt, pan dawodd wrthi, y dydd y clybu efe hwynt. 15 Ac os efe gan ddiddymu a’u diddyma hwynt wedi iddo glywed; yna efe a ddwg ei hanwiredd hi. 16 Dyma y deddfau a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses, rhwng gŵr a’i wraig, a rhwng tad a’i ferch, yn ei hieuenctid yn nhŷ ei thad.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.