Chronological
30 A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fendith a’r felltith, y rhai a roddais o’th flaen, ac atgofio ohonot hwynt ymysg yr holl genhedloedd y rhai y’th yrrodd yr Arglwydd dy Dduw di atynt; 2 A dychwelyd ohonot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, yn ôl yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, ti a’th blant, â’th holl galon, ac â’th holl enaid: 3 Yna y dychwel yr Arglwydd dy Dduw dy gaethiwed, ac y cymer drugaredd arnat, ac y try, ac a’th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y’th wasgaro yr Arglwydd dy Dduw di. 4 Pe y’th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y’th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y’th gymerai. 5 A’r Arglwydd dy Dduw a’th ddwg i’r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a’i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a’th wna yn amlach na’th dadau. 6 A’r Arglwydd dy Dduw a enwaeda dy galon, a chalon dy had, i garu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, er mwyn cael ohonot fyw. 7 A’r Arglwydd dy Dduw a rydd yr holl felltithion hyn ar dy elynion, ac ar dy gaseion, y rhai a’th erlidiant di. 8 Tithau a ddychweli, ac a wrandewi ar lais yr Arglwydd, ac a wnei ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw. 9 A’r Arglwydd dy Dduw a wna i ti lwyddo yn holl waith dy law, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy dir, er daioni: canys try yr Arglwydd i lawenychu ynot, i wneuthur daioni i ti, fel y llawenychodd yn dy dadau; 10 Os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion ef a’i ddeddfau y rhai sydd ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon; os dychweli at yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid.
11 Oherwydd y gorchymyn yma, yr ydwyf yn ei orchymyn i ti heddiw, nid yw guddiedig oddi wrthyt, ac nid yw bell. 12 Nid yn y nefoedd y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a ddring drosom i’r nefoedd, ac a’i dwg i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 13 Ac nid o’r tu hwnt i’r môr y mae, i ddywedyd ohonot, Pwy a dramwya drosom ni i’r tu hwnt i’r môr, ac a’i dwg ef i ni, fel y clywom, ac y gwnelom ef? 14 Canys y gair sydd agos iawn atat, yn dy enau, ac yn dy galon, i’w wneuthur ef.
15 Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni: 16 Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 17 Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt; 18 Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi. 19 Galw yr wyf yn dyst i’th erbyn heddiw y nefoedd a’r ddaear, roddi ohonof o’th flaen di einioes ac angau, fendith a melltith: dewis dithau yr einioes, fel y byddych fyw, ti a’th had; 20 I garu ohonot yr Arglwydd dy Dduw, a gwrando ar ei lais ef, a glynu wrtho, (canys efe yw dy einioes di, ac estyniad dy ddyddiau,) fel y trigych yn y tir a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei roddi iddynt.
31 A Moses a aeth ac a lefarodd y geiriau hyn wrth holl Israel; 2 Ac a ddywedodd wrthynt, Mab chwe ugain mlynedd ydwyf fi heddiw; ni allaf mwy fyned allan, a dyfod i mewn: yr Arglwydd hefyd a ddywedodd wrthyf, Ni chei fyned dros yr Iorddonen hon. 3 Yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned drosodd o’th flaen di; efe a ddinistria’r cenhedloedd hyn o’th flaen, a thi a’u meddienni hwynt: Josua hefyd, efe a â drosodd o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. 4 A’r Arglwydd a wna iddynt fel y gwnaeth i Sehon ac i Og, brenhinoedd yr Amoriaid, ac i’w tir hwynt, y rhai a ddinistriodd efe. 5 A rhydd yr Arglwydd hwynt o’ch blaen chwi; gwnewch chwithau iddynt hwy yn ôl yr holl orchmynion a orchmynnais i chwi. 6 Ymgryfhewch, ac ymnerthwch; nac ofnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt: canys yr Arglwydd dy Dduw sydd yn myned gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd.
7 A Moses a alwodd ar Josua, ac a ddywedodd wrtho yng ngolwg holl Israel, Ymgadarnha, ac ymnertha: canys ti a ei gyda’r bobl yma i’r tir a dyngodd yr Arglwydd wrth eu tadau hwynt ar ei roddi iddynt; a thi a’i rhenni yn etifeddiaeth iddynt. 8 A’r Arglwydd hefyd sydd yn myned o’th flaen di; efe a fydd gyda thi; ni’th edy, ac ni’th wrthyd: nac ofna, ac na lwfrha.
9 A Moses a ysgrifennodd y gyfraith hon, ac a’i rhoddes at yr offeiriaid meibion Lefi, y rhai a ddygent arch cyfamod yr Arglwydd, ac at holl henuriaid Israel. 10 A Moses a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Yn ôl pob saith mlynedd, ar yr amser nodedig, ar flwyddyn y gollyngdod, ar ŵyl y pebyll, 11 Pan ddelo holl Israel i ymddangos gerbron yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; y darlleni y gyfraith hon o flaen holl Israel, lle y clywant. 12 Cynnull y bobl ynghyd, y gwŷr, y gwragedd, a’r plant, a’r dieithrddyn a fyddo o fewn dy byrth; fel y gwrandawont, ac fel y dysgont, ac yr ofnont yr Arglwydd eich Duw, ac yr edrychont am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon; 13 Ac y byddo i’w plant, y rhai ni wybuant ddim, glywed a dysgu ofni yr Arglwydd eich Duw, yr holl ddyddiau y byddoch fyw yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.
14 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, nesaodd y dyddiau i ti i farw: galw Josua, a sefwch gerbron ym mhabell y cyfarfod, fel y rhoddwyf orchmynion iddo ef. Yna yr aeth Moses a Josua, ac a safasant gerbron ym mhabell y cyfarfod. 15 A’r Arglwydd a ymddangosodd yn y babell mewn colofn gwmwl: a’r golofn gwmwl a safodd ar ddrws y babell.
16 A dywedodd yr Arglwydd wrth Moses, Wele, ti a orweddi gyda’th dadau; a’r bobl yma a gyfyd, ac a buteiniant ar ôl duwiau dieithriaid y tir y maent yn myned i mewn iddo, ac a’m gwrthyd i, ac a dyr fy nghyfamod a wneuthum ag ef. 17 A’m dig a ennyn yn eu herbyn y dydd hwnnw; a mi a’u gwrthodaf hwynt, ac a guddiaf fy wyneb oddi wrthynt; a bwyteir ef, a drygau lawer a chyfyngderau a ddigwyddant iddo ef; a’r dydd hwnnw y dywed efe, Onid am nad yw yr Arglwydd yn fy mysg y digwyddodd y drwg hwn i mi? 18 Canys myfi gan guddio a guddiaf fy wyneb y dydd hwnnw, am yr holl ddrygioni a wnaeth efe, pan drodd at dduwiau dieithr. 19 Ysgrifennwch yr awr hon gan hynny i chwi y gân hon: dysg hi hefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt; fel y byddo y gân hon yn dyst i mi yn erbyn meibion Israel. 20 Canys dygaf ef i dir yn llifeirio o laeth a mêl, yr hwn a addewais trwy lw i’w dadau ef; fel y bwytao, ac y digoner, ac yr elo yn fras: ond efe a dry at dduwiau dieithr, ac a’u gwasanaetha hwynt, ac a’m dirmyga i, ac a ddiddyma fy nghyfamod. 21 Yna, pan ddigwyddo iddo ddrygau lawer a chyfyngderau, y bydd i’r gân hon dystiolaethu yn dyst yn ei wyneb ef: canys nid anghofir hi o enau ei had ef: oherwydd mi a adwaen ei fwriad y mae efe yn ei amcanu heddiw, cyn dwyn ohonof fi ef i’r tir a addewais trwy lw.
22 A Moses a ysgrifennodd y gân hon ar y dydd hwnnw, ac a’i dysgodd hi i feibion Israel. 23 Efe a orchmynnodd hefyd i Josua fab Nun, ac a ddywedodd, Ymgryfha, ac ymnertha: canys ti a arweini feibion Israel i’r tir a addewais iddynt trwy lw: a mi a fyddaf gyda thi.
24 A phan ddarfu i Moses ysgrifennu geiriau y gyfraith hon ar lyfr, hyd eu diwedd hwynt; 25 Yna y gorchmynnodd Moses i’r Lefiaid y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, gan ddywedyd, 26 Cymerwch lyfr y gyfraith hon, a gosodwch ef ar ystlys arch cyfamod yr Arglwydd eich Duw; fel y byddo yno yn dyst i’th erbyn. 27 Canys mi a adwaen dy wrthnysigrwydd, a’th wargaledrwydd: wele, a myfi eto yn fyw gyda chwi heddiw,gwrthryfelgar yn erbyn yr Arglwydd fuoch; a pha faint mwy y byddwch wedi fy marw? 28 Cesglwch ataf holl henuriaid eich llwythau, a’ch swyddogion: fel y llefarwyf y geiriau hyn lle y clywont hwy, ac y cymerwyf y nefoedd a’r ddaear yn dystion yn eu herbyn hwy. 29 Canys mi a wn, wedi fy marw, gan lygru yr ymlygrwch, ac y ciliwch o’r ffordd a orchmynnais i chwi; ac y digwydda i chwi ddrwg yn y dyddiau diwethaf; am y gwnewch ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, i’w ddigio ef â gweithredoedd eich dwylo. 30 A llefarodd Moses lle y clybu holl gynulleidfa Israel eiriau y gân hon, hyd eu diwedd hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.