Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 5-7

A Moses a alwodd holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Clyw, O Israel, y deddfau a’r barnedigaethau yr ydwyf yn eu llefaru lle y clywoch heddiw; fel y byddo i chwi eu dysgu, a’u cadw, a’u gwneuthur. Yr Arglwydd ein Duw a wnaeth gyfamod â ni yn Horeb. Nid â’n tadau ni y gwnaeth yr Arglwydd y cyfamod hwn, ond â nyni; nyni, y rhai ydym yn fyw bob un yma heddiw. Wyneb yn wyneb yr ymddiddanodd yr Arglwydd â chwi yn y mynydd, o ganol y tân, (Myfi oeddwn yr amser hwnnw yn sefyll rhwng yr Arglwydd a chwi, i fynegi i chwi air yr Arglwydd: canys ofni a wnaethoch rhag y tân, ac nid esgynnech i’r mynydd,) gan ddywedyd,

Yr Arglwydd dy Dduw ydwyf fi, yr hwn a’th ddug allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed. Na fydded i ti dduwiau eraill ger fy mron i. Na wna i ti ddelw gerfiedig, na llun dim a’r y sydd yn y nefoedd oddi uchod, nac a’r y sydd yn y ddaear oddi isod, nac a’r y sydd yn y dyfroedd oddi tan y ddaear: Nac ymgryma iddynt, ac na wasanaetha hwynt: oblegid myfi yr Arglwydd dy Dduw ydwyf Dduw eiddigus, yn ymweled ag anwiredd y tadau ar y plant, hyd y drydedd a’r bedwaredd genhedlaeth o’r rhai a’m casânt; 10 Ac yn gwneuthur trugaredd i filoedd o’r rhai a’m carant, ac a gadwant fy ngorchmynion. 11 Na chymer enw yr Arglwydd dy Dduw yn ofer: canys nid dieuog gan yr Arglwydd yr hwn a gymero ei enw ef yn ofer. 12 Cadw y dydd Saboth i’w sancteiddio ef, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 13 Chwe diwrnod y gweithi, ac y gwnei dy holl waith: 14 Ond y seithfed dydd yw Saboth yr Arglwydd dy Dduw: na wna ynddo ddim gwaith, tydi, na’th fab, na’th ferch, na’th was, na’th forwyn, na’th ych, na’th asyn, nac yr un o’th anifeiliaid, na’th ddieithr-ddyn yr hwn fyddo o fewn dy byrth; fel y gorffwyso dy was a’th forwyn, fel ti dy hun. 15 A chofia mai gwas a fuost ti yng ngwlad yr Aifft, a’th ddwyn o’r Arglwydd dy Dduw allan oddi yno â llaw gadarn, ac â braich estynedig: am hynny y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti gadw dydd y Saboth.

16 Anrhydedda dy dad a’th fam, fel y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti; fel yr estynner dy ddyddiau, ac fel y byddo yn dda i ti ar y ddaear yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti. 17 Na ladd. 18 Ac na wna odineb. 19 Ac na ladrata. 20 Ac na ddwg gam dystiolaeth yn erbyn dy gymydog. 21 Ac na chwennych wraig dy gymydog ac na chwennych dŷ dy gymydog, na’i faes, na’i was, na’i forwyn, na’i ych, na’i asyn, na dim a’r y sydd eiddo dy gymydog.

22 Y geiriau hyn a lefarodd yr Arglwydd wrth eich holl gynulleidfa yn y mynydd, o ganol y tân, y cwmwl, a’r tywyllwch, â llais uchel; ac ni chwanegodd ddim; ond ysgrifennodd hwynt ar ddwy lech o gerrig, ac a’u rhoddes ataf fi. 23 A darfu, wedi clywed ohonoch y llais o ganol y tywyllwch, (a’r mynydd yn llosgi gan dân,) yna nesasoch ataf, sef holl benaethiaid eich llwythau, a’ch henuriaid chwi; 24 Ac a ddywedasoch, Wele, yr Arglwydd ein Duw a ddangosodd i ni ei ogoniant, a’i fawredd; a’i lais ef a glywsom ni o ganol y tân: heddiw y gwelsom lefaru o Dduw wrth ddyn, a byw ohono. 25 Weithian gan hynny paham y byddwn feirw? oblegid y tân mawr hwn a’n difa ni: canys os nyni a chwanegwn glywed llais yr Arglwydd ein Duw mwyach, marw a wnawn. 26 Oblegid pa gnawd oll sydd, yr hwn a glybu lais y Duw byw yn llefaru o ganol y tân, fel nyni, ac a fu fyw? 27 Nesâ di, a chlyw yr hyn oll a ddywed yr Arglwydd ein Duw; a llefara di wrthym ni yr hyn oll a lefaro yr Arglwydd ein Duw wrthyt ti: a nyni a wrandawn, ac a wnawn hynny. 28 A’r Arglwydd a glybu lais eich geiriau chwi, pan lefarasoch wrthyf; a dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Clywais lais geiriau y bobl hyn, y rhai a lefarasant wrthyt: da y dywedasant yr hyn oll a ddywedasant. 29 O na byddai gyfryw galon ynddynt, i’m hofni i, ac i gadw fy holl orchmynion bob amser; fel y byddai da iddynt ac i’w plant yn dragwyddol! 30 Dos, dywed wrthynt, Dychwelwch i’ch pebyll. 31 Ond saf di yma gyda myfi; a mi a ddywedaf wrthyt yr holl orchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau a ddysgi di iddynt, ac a wnânt hwythau yn y wlad yr wyf fi ar ei rhoddi iddynt i’w pherchenogi 32 Edrychwch gan hynny am wneuthur fel y gorchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi: na chiliwch i’r tu deau nac i’r tu aswy. 33 Cerddwch yn yr holl ffyrdd a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw i chwi; fel y byddoch fyw, ac y byddo yn dda i chwi, ac yr estynnoch ddyddiau yn y wlad yr hon a feddiennwch.

Adyma ’r gorchmynion, y deddfau, a’r barnedigaethau a orchmynnodd yr Arglwydd eich Duw eu dysgu i chwi; fel y gwneloch hwynt yn y wlad yr ydych yn myned iddi i’w meddiannu: Fel yr ofnech yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw ei holl ddeddfau, a’i orchmynion ef, y rhai yr wyf fi yn eu gorchymyn i ti; ti, a’th fab, a mab dy fab, holl ddyddiau dy einioes: ac fel yr estynner dy ddyddiau.

Clyw gan hynny, O Israel, ac edrych am eu gwneuthur hwynt; fel y byddo yn ddaionus i ti, ac fel y cynyddoch yn ddirfawr, fel yr addawodd Arglwydd Dduw dy dadau i ti, mewn gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. Clyw, O Israel; yr Arglwydd ein Duw ni sydd un Arglwydd. Câr di gan hynny yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, ac â’th holl nerth. A bydded y geiriau hyn, yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, yn dy galon. A hysbysa hwynt i’th blant; a chrybwyll amdanynt pan eisteddych yn dy dŷ, a phan gerddych ar y ffordd, a phan orweddych i lawr, a phan gyfodych i fyny. A rhwym hwynt yn arwydd ar dy law; byddant yn rhactalau rhwng dy lygaid. Ysgrifenna hwynt hefyd ar byst dy dŷ, ac ar dy byrth. 10 Ac fe a dderfydd, wedi i’r Arglwydd dy Dduw dy ddwyn di i’r wlad, (yr hon y tyngodd efe wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob, ar ei rhoddi i ti,) i ddinasoedd mawrion a theg y rhai nid adeiledaist, 11 A thai llawnion o bob daioni y rhai nis llenwaist, a phydewau cloddiedig y rhai nis cloddiaist, i winllannoedd ac olewyddlannau y rhai nis plennaist, wedi i ti fwyta, a’th ddigoni; 12 Yna cadw arnat, rhag anghofio ohonot yr Arglwydd, yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed. 13 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi, ac i’w enw ef y tyngi. 14 Na cherddwch ar ôl duwiau dieithr, o dduwiau y bobloedd sydd o’ch amgylch chwi: 15 (Oblegid Duw eiddigus yw yr Arglwydd dy Dduw yn dy fysg di,) rhag i lid yr Arglwydd dy Dduw ennyn yn dy erbyn, a’th ddifetha di oddi ar wyneb y ddaear.

16 Na themtiwch yr Arglwydd eich Duw, fel y temtiasoch ef ym Massa. 17 Gan gadw cedwch orchmynion yr Arglwydd eich Duw, a’i dystiolaethau, a’i ddeddfau, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 18 A gwna yr hyn sydd uniawn a daionus yng ngolwg yr Arglwydd: fel y byddo da i ti, a myned ohonot i mewn, a pherchenogi’r wlad dda, yr hon trwy lw a addawodd yr Arglwydd i’th dadau di; 19 Gan yrru ymaith dy holl elynion o’th flaen, fel y llefarodd yr Arglwydd. 20 Pan ofynno dy fab i ti wedi hyn, gan ddywedyd, Beth yw y tystiolaethau, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i chwi? 21 Yna dywed wrth dy fab, Ni a fuom gaethweision i Pharo yn yr Aifft; a’r Arglwydd a’n dug ni allan o’r Aifft â llaw gadarn. 22 Rhoddes yr Arglwydd hefyd arwyddion a rhyfeddodau mawrion a niweidiol, ar yr Aifft, ar Pharo a’i holl dŷ, yn ein golwg ni; 23 Ac a’n dug ni allan oddi yno, fel y dygai efe nyni i mewn, i roddi i ni y wlad yr hon trwy lw a addawsai efe i’n tadau ni. 24 A’r Arglwydd a orchmynnodd i ni wneuthur yr holl ddeddfau hyn, i ofni yr Arglwydd ein Duw, er daioni i ni yr holl ddyddiau; fel y cadwai efe nyni yn fyw, megis y mae y dydd hwn. 25 A chyfiawnder a fydd i ni, os ymgadwn i wneuthur y gorchmynion hyn oll, o flaen yr Arglwydd ein Duw, fel y gorchmynnodd efe i ni.

Pan y’th ddygo yr Arglwydd dy Dduw i mewn i’r wlad yr ydwyt ti yn myned iddi i’w meddiannu, a gyrru ohono ymaith genhedloedd lawer o’th flaen di, yr Hethiaid, a’r Girgasiaid, a’r Amoriaid, a’r Canaaneaid, a’r Pheresiaid, a’r Hefiaid, a’r Jebusiaid, saith o genhedloedd lluosocach a chryfach na thydi; A rhoddi o’r Arglwydd dy Dduw hwynt o’th flaen di, a tharo ohonot ti hwynt: gan ddifrodi difroda hwynt; na wna gyfamod â hwynt, ac na thrugarha wrthynt. Nac ymgyfathracha chwaith â hwynt: na ddod dy ferch i’w fab ef, ac na chymer ei ferch ef i’th fab dithau. Canys efe a dry dy fab di oddi ar fy ôl i, fel y gwasanaethont dduwiau dieithr: felly yr ennyn llid yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, ac a’th ddifetha di yn ebrwydd Ond fel hyn y gwnewch iddynt: Dinistriwch eu hallorau, a thorrwch eu colofnau hwynt; cwympwch hefyd eu llwynau, a llosgwch eu delwau cerfiedig hwy yn y tân. Canys pobl sanctaidd ydwyt ti i’r Arglwydd dy Dduw: yr Arglwydd dy Dduw a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ei hun, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear. Nid am eich bod yn lluosocach na’r holl bobloedd, yr hoffodd yr Arglwydd chwi, ac y’ch dewisodd; oherwydd yr oeddech chwi yn anamlaf o’r holl bobloedd Ond oherwydd caru o’r Arglwydd chwi, ac er mwyn cadw ohono ef y llw a dyngodd efe wrth eich tadau, y dug yr Arglwydd chwi allan â llaw gadarn, ac a’ch gwaredodd o dŷ y caethiwed, o law Pharo brenin yr Aifft. Gwybydd gan hynny mai yr Arglwydd dy Dduw sydd Dduw, sef y Duw ffyddlon, yn cadw cyfamod a thrugaredd â’r rhai a’i carant ef, ac a gadwant ei orchmynion, hyd fil o genedlaethau; 10 Ac yn talu’r pwyth i’w gas, yn ei wyneb gan ei ddifetha ef: nid oeda efe i’w gas; yn ei wyneb y tâl efe iddo. 11 Cadw gan hynny y gorchmynion, a’r deddfau, a’r barnedigaethau, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w gwneuthur.

12 A bydd, o achos gwrando ohonoch ar y barnedigaethau hyn, a’u cadw, a’u gwneuthur hwynt; y ceidw yr Arglwydd dy Duw â thi y cyfamod, a’r drugaredd, a addawodd efe trwy lw i’th dadau di: 13 Ac a’th gâr, ac a’th fendithia, ac a’th amlha di; ac a fendiga ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir di, dy ŷd, a’th win, a’th olew, a chynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid, yn y tir y tyngodd efe wrth dy dadau, ar ei roddi i ti. 14 Bendigedig fyddi uwchlaw yr holl bobloedd: ni bydd yn dy blith di un gwryw nac un fenyw yn anffrwythlon, nac ymhlith dy anifeiliaid di. 15 Hefyd yr Arglwydd a dynn oddi wrthyt ti bob gwendid, ac ni esyd arnat ti yr un o glefydau drwg yr Aifft, y rhai a adwaenost: ond ar dy holl gaseion di y rhydd efe hwynt. 16 Difetha gan hynny yr holl bobloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti: nac arbeded dy lygad hwynt, ac na wasanaetha eu duwiau hwynt; oblegid magl i ti a fyddai hynny. 17 Os dywedi yn dy galon, Lluosocach yw y cenhedloedd hyn na myfi; pa ddelw y gallaf eu gyrru hwynt ymaith? 18 Nac ofna rhagddynt: gan gofio cofia yr hyn a wnaeth yr Arglwydd dy Dduw i Pharo, ac i’r holl Aifft: 19 Y profedigaethau mawrion y rhai a welodd dy lygaid, a’r arwyddion, a’r rhyfeddodau, a’r llaw gadarn, a’r braich estynedig, â’r rhai y’th ddug yr Arglwydd dy Dduw allan: felly y gwna’r Arglwydd dy Dduw i’r holl bobloedd yr wyt ti yn eu hofni. 20 A’r Arglwydd dy Dduw hefyd a ddenfyn gacwn yn eu plith hwynt, hyd oni ddarfyddo am y rhai gweddill, a’r rhai a ymguddiant rhagot ti. 21 Nac ofna rhagddynt: oblegid yr Arglwydd dy Dduw sydd yn dy ganol di, yn Dduw mawr, ac ofnadwy. 22 A’r Arglwydd dy Dduw a yrr ymaith y cenhedloedd hynny o’th flaen di, bob ychydig ac ychydig: ni elli eu difetha hwynt ar unwaith, rhag myned o fwystfilod y maes yn amlach na thydi. 23 Ond yr Arglwydd dy Dduw a’u rhydd hwynt o’th flaen di, ac a’u cystuddia hwynt â chystudd dirfawr, nes eu difetha hwynt; 24 Ac a rydd eu brenhinoedd hwynt yn dy law di, a thi a ddifethi eu henw hwynt oddi tan y nefoedd: ni saif gŵr yn dy wyneb di, nes difetha ohonot ti hwynt. 25 Llosg ddelwau cerfiedig eu duwiau hwynt yn tân: na chwennych na’r arian na’r aur a fyddo arnynt, i’w cymryd i ti; rhag dy faglu ag ef: oblegid ffieidd‐dra i’r Arglwydd dy Dduw ydyw. 26 Na ddwg dithau ffieidd‐dra i’th dŷ, fel y byddech ysgymunbeth megis yntau: gan ddirmygu dirmyga ef, a chan ffieiddio ffieiddia ef: oblegid ysgymunbeth yw efe.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.