Chronological
28 Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr Arglwydd dy Dduw a’th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear. 2 A’r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a’th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw. 3 Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes. 4 Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. 5 Bendigedig fydd dy gawell a’th does di. 6 Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan. 7 Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i’th erbyn yn lladdedig o’th flaen di: trwy un ffordd y deuant i’th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o’th flaen. 8 Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a’th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti. 9 Yr Arglwydd a’th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef. 10 A holl bobloedd y ddaear a welant fod yn dy alw di ar enw yr Arglwydd, ac a ofnant rhagot. 11 A’r Arglwydd a’th lwydda di mewn daioni, yn ffrwyth dy fru, ac yn ffrwyth dy anifeiliaid, ac yn ffrwyth dy ddaear, yn y tir a dyngodd yr Arglwydd i’th dadau ar ei roddi i ti. 12 Yr Arglwydd a egyr ei drysor daionus i ti, sef y nefoedd, i roddi glaw i’th dir di yn ei amser, ac i fendigo holl waith dy law: a thi a roddi echwyn i genhedloedd lawer, ac ni cheisi echwyn. 13 A’r Arglwydd a’th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i’w cadw, ac i’w gwneuthur; 14 Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i’r tu deau neu i’r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt.
15 A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a’i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y’th oddiweddant. 16 Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes. 17 Melltigedig fydd dy gawell a’th does di. 18 Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid. 19 Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan. 20 Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a’th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y’m gwrthodaist i. 21 Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. 22 Yr Arglwydd a’th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a’th ddilynant nes dy ddifetha. 23 Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a’r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn. 24 Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o’r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni’th ddinistrier. 25 Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o’u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear. 26 A’th gelain a fydd fwyd i holl ehediaid y nefoedd, ac i anifeiliaid y ddaear; ac ni bydd a’u tarfo. 27 Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd yr Aifft, ac â chlwyf y marchogion, ac â chrach, ac ag ysfa; o’r rhai ni ellir dy iacháu. 28 Yr Arglwydd a’th dery di ag ynfydrwydd, ac â dallineb, ac â syndod calon. 29 Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a’th waredo. 30 Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth. 31 Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i’th elynion, ac ni bydd i ti achubydd. 32 Dy feibion a’th ferched a roddir i bobl eraill, a’th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law. 33 Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser: 34 A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 35 Yr Arglwydd a’th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun. 36 Yr Arglwydd a’th ddwg di, a’th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na’th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen. 37 A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt. 38 Had lawer a ddygi allan i’r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a’i hysa. 39 Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a’u bwyty. 40 Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni’th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla. 41 Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed. 42 Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust. 43 Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel. 44 Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon. 45 A’r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a’th erlidiant, ac a’th oddiweddant, hyd oni’th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti. 46 A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth. 47 Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim: 48 Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi. 49 Yr Arglwydd a ddwg i’th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith; 50 Cenedl wyneb‐galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i’r llanc. 51 A hi a fwyty ffrwyth dy anifeiliaid, a ffrwyth dy ddaear, hyd oni’th ddinistrier: yr hon ni ad i ti ŷd, gwin, nac olew, cynnydd dy wartheg, na diadellau dy ddefaid, hyd oni’th ddifetho di. 52 A hi a warchae arnat ti yn dy holl byrth, hyd oni syrthio dy uchel a’th gedyrn gaerau, y rhai yr ydwyt yn ymddiried ynddynt, trwy dy holl dir: hi a warchae hefyd arnat yn dy holl byrth, o fewn dy holl dir yr hwn a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 53 Ffrwyth dy fru, sef cig dy feibion a’th ferched, y rhai a roddodd yr Arglwydd dy Dduw i ti, a fwytei yn y gwarchae, ac yn y cyfyngdra a ddwg dy elyn arnat. 54 Y gŵr tyner yn dy blith, a’r moethus iawn, a greulona ei lygad wrth ei frawd, ac wrth wraig ei fynwes, ac wrth weddill ei feibion y rhai a weddillodd efe: 55 Rhag rhoddi i un ohonynt o gig ei feibion, y rhai a fwyty efe; o eisiau gado iddo ddim yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy holl byrth. 56 Y wraig dyner a’r foethus yn dy fysg, yr hon ni phrofodd osod gwadn ei throed ar y ddaear, gan fwythau a thynerwch, a greulona ei llygad wrth ŵr ei mynwes, ac wrth ei mab, ac wrth ei merch, 57 Ac wrth ei phlentyn a ddaw allan o’i chorff, a’i meibion y rhai a blanta hi: canys hi a’u bwyty hwynt yn ddirgel, pan ballo pob dim arall yn y gwarchae ac yn y cyfyngdra, â’r hwn y cyfynga dy elyn arnat o fewn dy byrth. 58 Oni chedwi ar wneuthur holl eiriau y gyfraith hon, y rhai sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn, gan ofni yr enw gogoneddus ac ofnadwy hwn, YR ARGLWYDD DY DDUW; 59 Yna y gwna yr Arglwydd dy blâu di yn rhyfedd, a phlâu dy had; sef plâu mawrion a pharhaus, a chlefydau drwg a pharhaus. 60 Ac efe a ddwg arnat holl glefydau yr Aifft, y rhai yr ofnaist rhagddynt; a glynant wrthyt. 61 Ie, pob clefyd, a phob pla, yr hwn nid yw ysgrifenedig yn llyfr y gyfraith hon, a ddwg yr Arglwydd arnat, hyd oni’th ddinistrier. 62 Felly chwi a adewir yn ychydig bobl, lle yr oeddech fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd oherwydd na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw. 63 A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhau; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinistrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu. 64 A’r Arglwydd a’th wasgar di ymhlith yr holl bobloedd, o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: a thi a wasanaethi yno dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti na’th dadau; sef pren a maen. 65 Ac ymhlith y cenhedloedd hyn ni orffwysi, ac ni bydd gorffwystra i wadn dy droed: canys yr Arglwydd a rydd i ti yno galon ofnus, a darfodedigaeth llygaid, a thristwch meddwl. 66 A’th einioes a fydd ynghrog gyferbyn â thi; a thi a ofni nos a dydd, ac ni byddi sicr o’th einioes. 67 Y bore y dywedi, O na ddeuai yr hwyr! ac yn yr hwyr y dywedi, O na ddeuai y bore! o achos ofn dy galon gan yr hwn yr ofni, a rhag gweledigaeth dy lygaid yr hon a welych. 68 A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aifft, mewn llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaethweision ac yn gaethforynion, ac ni bydd a’ch pryno.
29 Dyma eiriau y cyfamod a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses ei wneuthur â meibion Israel, yn nhir Moab, heblaw y cyfamod a amododd efe â hwynt yn Horeb.
2 A Moses a alwodd ar holl Israel, ac a ddywedodd wrthynt, Chwi a welsoch yr hyn oll a wnaeth yr Arglwydd o flaen eich llygaid chwi yn nhir yr Aifft, i Pharo, ac i’w holl weision, ac i’w holl dir; 3 Y profedigaethau mawrion a welodd eich llygaid, yr arwyddion a’r rhyfeddodau mawrion hynny: 4 Ond ni roddodd yr Arglwydd i chwi galon i wybod, na llygaid i weled, na chlustiau i glywed, hyd y dydd hwn. 5 Arweiniais chwi hefyd yn yr anialwch ddeugain mlynedd: ni heneiddiodd eich dillad amdanoch, ac ni heneiddiodd dy esgid am dy droed. 6 Bara ni fwytasoch, a gwin neu ddiod gref nid yfasoch: fel y gwybyddech mai myfi yw yr Arglwydd eich Duw chwi. 7 A daethoch hyd y lle hwn: yna daeth allan Sehon brenin Hesbon, ac Og brenin Basan, i’n cyfarfod mewn rhyfel; a ni a’u lladdasom hwynt: 8 Ac a ddygasom eu tir hwynt, ac a’i rhoesom yn etifeddiaeth i’r Reubeniaid, ac i’r Gadiaid, ac i hanner llwyth Manasse. 9 Cedwch gan hynny eiriau y cyfamod hwn, a gwnewch hwynt: fel y llwyddoch ym mhob peth a wneloch.
10 Yr ydych chwi oll yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd eich Duw; penaethiaid eich llwythau, eich henuriaid, a’ch swyddogion, a holl wŷr Israel, 11 Eich plant, eich gwragedd, a’th ddieithrddyn yr hwn sydd o fewn dy wersyll, o gymynydd dy goed hyd wehynnydd dy ddwfr: 12 I fyned ohonot dan gyfamod yr Arglwydd dy Dduw, a than ei gynghrair ef, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei wneuthur â thi heddiw: 13 I’th sicrhau heddiw yn bobl iddo ei hun, ac i fod ohono yntau yn Dduw i ti, megis y llefarodd wrthyt, ac fel y tyngodd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. 14 Ac nid â chwi yn unig yr ydwyf fi yn gwneuthur y cyfamod hwn, a’r cynghrair yma; 15 Ond â’r hwn sydd yma gyda ni yn sefyll heddiw gerbron yr Arglwydd ein Duw, ac â’r hwn nid yw yma gyda ni heddiw: 16 (Canys chwi a wyddoch y modd y trigasom ni yn nhir yr Aifft, a’r modd y daethom trwy ganol y cenhedloedd y rhai y daethoch trwyddynt; 17 A chwi a welsoch eu ffieidd‐dra hwynt a’u heilun‐dduwiau, pren a maen, arian ac aur, y rhai oedd yn eu mysg hwynt:) 18 Rhag bod yn eich mysg ŵr, neu wraig, neu deulu, neu lwyth, yr hwn y try ei galon heddiw oddi wrth yr Arglwydd ein Duw, i fyned i wasanaethu duwiau y cenhedloedd hyn; rhag bod yn eich mysg wreiddyn yn dwyn gwenwyn a wermod: 19 A bod, pan glywo efe eiriau y felltith hon, ymfendithio ohono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio yng nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched: 20 Ni fyn yr Arglwydd faddau iddo; canys yna y myga dicllonedd yr Arglwydd a’i eiddigedd yn erbyn y gŵr hwnnw, a’r holl felltithion sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn a orwedd arno ef, a’r Arglwydd a ddilea ei enw ef oddi tan y nefoedd. 21 A’r Arglwydd a’i neilltua ef oddi wrth holl lwythau Israel, i gael drwg, yn ôl holl felltithion y cyfamod a ysgrifennwyd yn llyfr y gyfraith hon. 22 A dywed y genhedlaeth a ddaw ar ôl, sef eich plant chwi, y rhai a godant ar eich ôl chwi, a’r dieithr yr hwn a ddaw o wlad bell, pan welont blâu y wlad hon, a’i chlefydau, trwy y rhai y mae yr Arglwydd yn ei chlwyfo hi; 23 A’i thir wedi ei losgi oll gan frwmstan a halen, na heuir ef, ac na flaendardda, ac na ddaw i fyny un llysieuyn ynddo fel dinistr Sodom a Gomorra, Adma a Seboim, y rhai a ddinistriodd yr Arglwydd yn ei lid a’i ddigofaint: 24 Ie, yr holl genhedloedd a ddywedant Paham y gwnaeth yr Arglwydd fel hyn i’r tir hwn? pa ddicter yw y digofaint mawr hwn? 25 Yna y dywedir, Am wrthod ohonynt gyfamod Arglwydd Dduw eu tadau, yr hwn a amododd efe â hwynt pan ddug efe hwynt allan o dir yr Aifft. 26 Canys aethant a gwasanaethasant dduwiau dieithr, ac ymgrymasant iddynt; sef duwiau nid adwaenent hwy, ac ni roddasai efe iddynt. 27 Am hynny yr enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn y wlad hon, i ddwyn arni bob melltith a’r y sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn. 28 A’r Arglwydd a’u dinistriodd hwynt o’u tir mewn digofaint, ac mewn dicter, ac mewn llid mawr, ac a’u gyrrodd hwynt i wlad arall, megis y gwelir heddiw. 29 Y dirgeledigaethau sydd eiddo yr Arglwydd ein Duw, a’r pethau amlwg a roddwyd i ni, ac i’n plant hyd byth; fel y gwnelom holl eiriau y gyfraith hon.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.