Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Numeri 31-32

31 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, Dial feibion Israel ar y Midianiaid: wedi hynny ti a gesglir at dy bobl. A llefarodd Moses wrth y bobl, gan ddywedyd, Arfogwch ohonoch wŷr i’r rhyfel, ac ânt yn erbyn Midian, i roddi dial yr Arglwydd ar Midian. Mil o bob llwyth, o holl lwythau Israel, a anfonwch i’r rhyfel. A rhoddasant o filoedd Israel fil o bob llwyth, sef deuddeng mil, o rai wedi eu harfogi i’r rhyfel. Ac anfonodd Moses hwynt i’r rhyfel, mil o bob llwyth: hwynt a Phinees mab Eleasar yr offeiriad, a anfonodd efe i’r rhyfel, â dodrefn y cysegr, a’r utgyrn i utganu yn ei law. A hwy a ryfelasant yn erbyn Midian, megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses; ac a laddasant bob gwryw. Brenhinoedd Midian hefyd a laddasant hwy, gyda’u lladdedigion eraill: sef Efi, a Recem, a Sur, a Hur, a Reba, pum brenin Midian: Balaam hefyd mab Beor a laddasant hwy â’r cleddyf. Meibion Israel a ddaliasant hefyd yn garcharorion wragedd Midian, a’u plant; ac a ysbeiliasant eu holl anifeiliaid hwynt, a’u holl dda hwynt, a’u holl olud hwynt. 10 Eu holl ddinasoedd hefyd trwy eu trigfannau, a’u holl dyrau, a losgasant â thân. 11 A chymerasant yr holl ysbail, a’r holl gaffaeliad, o ddyn ac o anifail. 12 Ac a ddygasant at Moses, ac at Eleasar yr offeiriad, ac at gynulleidfa meibion Israel, y carcharorion, a’r caffaeliad, a’r ysbail, i’r gwersyll, yn rhosydd Moab, y rhai ydynt wrth yr Iorddonen, ar gyfer Jericho.

13 Yna Moses ac Eleasar yr offeiriad, a holl benaduriaid y gynulleidfa, a aethant i’w cyfarfod hwynt o’r tu allan i’r gwersyll 14 A digiodd Moses wrth swyddogion y fyddin, capteiniaid y miloedd, a chapteiniaid y cannoedd, y rhai a ddaethant o frwydr y rhyfel. 15 A dywedodd Moses wrthynt, A adawsoch chwi bob benyw yn fyw? 16 Wele, hwynt, trwy air Balaam, a barasant i feibion Israel wneuthur camwedd yn erbyn yr Arglwydd yn achos Peor; a bu pla yng nghynulleidfa yr Arglwydd. 17 Am hynny lleddwch yn awr bob gwryw o blentyn; a lleddwch bob benyw a fu iddi a wnaeth â gŵr, trwy orwedd gydag ef. 18 A phob plentyn o’r benywaid y rhai ni bu iddynt a wnaethant â gŵr, cedwch yn fyw i chwi. 19 Ac arhoswch chwithau o’r tu allan i’r gwersyll saith niwrnod: pob un a laddodd ddyn, a phob un a gyffyrddodd wrth laddedig, ymlanhewch y trydydd dydd, a’r seithfed dydd, chwi a’ch carcharorion. 20 Pob gwisg hefyd, a phob dodrefnyn croen, a phob gwaith o flew geifr, a phob llestr pren, a lanhewch chwi.

21 A dywedodd Eleasar yr offeiriad wrth y rhyfelwyr y rhai a aethant i’r rhyfel, Dyma ddeddf y gyfraith a orchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses: 22 Yn unig yr aur, a’r arian, y pres, yr haearn, yr alcam, a’r plwm; 23 Pob dim a ddioddefo dân, a dynnwch trwy’r tân, a glân fydd; ac eto efe a lanheir â’r dwfr neilltuaeth: a’r hyn oll ni ddioddefo dân, tynnwch trwy y dwfr yn unig. 24 A golchwch eich gwisgoedd ar y seithfed dydd, a glân fyddwch; ac wedi hynny deuwch i’r gwersyll.

25 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 26 Cymer nifer yr ysbail a gaed, o ddyn ac o anifail, ti ac Eleasar yr offeiriad, a phennau‐cenedl y gynulleidfa: 27 A rhanna’r caffaeliad yn ddwy ran; rhwng y rhyfelwyr a aethant i’r filwriaeth, a’r holl gynulleidfa. 28 A chyfod deyrnged i’r Arglwydd gan y rhyfelwyr y rhai a aethant allan i’r filwriaeth; un enaid o bob pum cant o’r dynion, ac o’r eidionau, ac o’r asynnod, ac o’r defaid. 29 Cymerwch hyn o’u hanner hwynt, a dyro i Eleasar yr offeiriad, yn ddyrchafael‐offrwm yr Arglwydd. 30 Ac o hanner meibion Israel y cymeri un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, o’r eidionau, o’r asynnod, ac o’r defaid, ac o bob anifail, a dod hwynt i’r Lefiaid, y rhai ydynt yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd. 31 A gwnaeth Moses ac Eleasar yr offeiriad megis y gorchmynnodd yr Arglwydd wrth Moses. 32 A’r caffaeliad, sef gweddill yr ysbail yr hon a ddygasai pobl y filwriaeth, oedd chwe chan mil a phymtheg a thrigain o filoedd o ddefaid, 33 A deuddeg a thrigain mil o eidionau, 34 Ac un fil a thrigain o asynnod, 35 Ac o ddynion, o fenywaid ni buasai iddynt a wnaethant â gŵr, trwy orwedd gydag ef, ddeuddeng mil ar hugain o eneidiau. 36 A’r hanner, sef rhan y rhai a aethant i’r rhyfel, oedd, o rifedi defaid, dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 37 A theyrnged yr Arglwydd o’r defaid oedd chwe chant a phymtheg a thrigain. 38 A’r eidionau oedd un fil ar bymtheg ar hugain; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg a thrigain. 39 A’r asynnod oedd ddeng mil ar hugain a phum cant; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd un a thrigain. 40 A’r dynion oedd un fil ar bymtheg; a’u teyrnged i’r Arglwydd oedd ddeuddeg enaid ar hugain. 41 A Moses a roddodd deyrnged offrwm dyrchafael yr Arglwydd i Eleasar yr offeiriad, megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses. 42 Ac o ran meibion Israel, yr hon a ranasai Moses oddi wrth y milwyr, 43 Sef rhan y gynulleidfa o’r defaid, oedd dri chan mil a dwy ar bymtheg ar hugain o filoedd, a phum cant; 44 Ac o’r eidionau, un fil ar bymtheg ar hugain; 45 Ac o’r asynnod, deng mil ar hugain a phum cant; 46 Ac o’r dynion, un fil ar bymtheg. 47 Ie, cymerodd Moses o hanner meibion Israel, un rhan o bob deg a deugain, o’r dynion, ac o’r anifeiliaid, ac a’u rhoddes hwynt i’r Lefiaid oedd yn cadw cadwraeth tabernacl yr Arglwydd; megis y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

48 A’r swyddogion, y rhai oedd ar filoedd y llu, a ddaethant at Moses, sef capteiniaid y miloedd a chapteiniaid y cannoedd: 49 A dywedasant wrth Moses, Dy weision a gymerasant nifer y gwŷr o ryfel a roddaist dan ein dwylo ni; ac nid oes ŵr yn eisiau ohonom. 50 Am hynny yr ydym yn offrymu offrwm i’r Arglwydd, pob un yr hyn a gafodd, yn offerynnau aur, yn gadwynau, yn freichledau, yn fodrwyau, yn glustlysau, ac yn dorchau, i wneuthur cymod dros ein heneidiau gerbron yr Arglwydd. 51 A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur ganddynt, y dodrefn gweithgar oll. 52 Ac yr ydoedd holl aur yr offrwm dyrchafael, yr hwn a offrymasant i’r Arglwydd, oddi wrth gapteiniaid y miloedd, ac oddi wrth gapteiniaid y cannoedd, yn un fil ar bymtheg saith gant a deg a deugain o siclau. 53 (Ysbeiliasai y gwŷr o ryfel bob un iddo ei hun.) 54 A chymerodd Moses ac Eleasar yr offeiriad yr aur gan gapteiniaid y miloedd a’r cannoedd, ac a’i dygasant i babell y cyfarfod, yn goffadwriaeth dros feibion Israel gerbron yr Arglwydd.

32 Ac yr ydoedd anifeiliaid lawer i feibion Reuben, a llawer iawn i feibion Gad: a gwelsant dir Jaser, a thir Gilead; ac wele y lle yn lle da i anifeiliaid. A meibion Gad a meibion Reuben a ddaethant, ac a ddywedasant wrth Moses, ac wrth Eleasar yr offeiriad, ac wrth benaduriaid y gynulleidfa, gan ddywedyd, Atoroth, a Dibon, a Jaser, a Nimra, a Hesbon, ac Eleale, a Sebam, a Nebo, a Beon, Sef y tir a drawodd yr Arglwydd o flaen cynulleidfa Israel, tir i anifeiliaid yw efe; ac y mae i’th weision anifeiliaid. A dywedasant, Os cawsom ffafr yn dy olwg, rhodder y tir hwn i’th weision yn feddiant: na phâr i ni fyned dros yr Iorddonen.

A dywedodd Moses wrth feibion Gad, ac wrth feibion Reuben, A â eich brodyr i’r rhyfel, ac a eisteddwch chwithau yma? A phaham y digalonnwch feibion Israel rhag myned trosodd i’r tir a roddodd yr Arglwydd iddynt? Felly y gwnaeth eich tadau, pan anfonais hwynt o Cades‐Barnea i edrych y tir. Canys aethant i fyny hyd ddyffryn Escol, a gwelsant y tir; a digalonasant feibion Israel rhag myned i’r tir a roddasai yr Arglwydd iddynt. 10 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd y dydd hwnnw; ac efe a dyngodd, gan ddywedyd, 11 Diau na chaiff yr un o’r dynion a ddaethant i fyny o’r Aifft, o fab ugain mlwydd ac uchod, weled y tir a addewais trwy lw i Abraham, i Isaac, ac i Jacob: am na chyflawnasant wneuthur ar fy ôl i: 12 Ond Caleb mab Jeffunne y Cenesiad, a Josua mab Nun; canys cyflawnasant wneuthur ar ôl yr Arglwydd. 13 Ac enynnodd dicllonedd yr Arglwydd yn erbyn Israel; a gwnaeth iddynt grwydro yn yr anialwch ddeugain mlynedd, nes darfod yr holl oes a wnaethai ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd. 14 Ac wele, chwi a godasoch yn lle eich tadau, yn gynnyrch dynion pechadurus, i chwanegu ar angerdd llid yr Arglwydd wrth Israel. 15 Os dychwelwch oddi ar ei ôl ef; yna efe a ad y bobl eto yn yr anialwch, a chwi a ddinistriwch yr holl bobl hyn.

16 A hwy a ddaethant ato ef, ac a ddywedasant, Corlannau defaid a adeiladwn ni yma i’n hanifeiliaid, a dinasoedd i’n plant. 17 A ni a ymarfogwn yn fuan o flaen meibion Israel, hyd oni ddygom hwynt i’w lle eu hun; a’n plant a arhosant yn y dinasoedd caerog, rhag trigolion y tir. 18 Ni ddychwelwn ni i’n tai, nes i feibion Israel berchenogi bob un ei etifeddiaeth. 19 Hefyd nid etifeddwn ni gyda hwynt o’r tu hwnt i’r Iorddonen, ac oddi yno allan; am ddyfod ein hetifeddiaeth i ni o’r tu yma i’r Iorddonen, tua’r dwyrain.

20 A dywedodd Moses wrthynt, Os gwnewch y peth hyn, os ymarfogwch i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, 21 Os â pob un ohonoch dros yr Iorddonen yn arfog o flaen yr Arglwydd, nes iddo yrru ymaith ei elynion o’i flaen, 22 A darostwng y wlad o flaen yr Arglwydd; yna wedi hynny y cewch ddychwelyd ac y byddwch dieuog gerbron yr Arglwydd, a cherbron Israel; a bydd y tir hwn yn etifeddiaeth i chwi o flaen yr Arglwydd. 23 Ond os chwi ni wna fel hyn; wele, pechu yr ydych yn erbyn yr Arglwydd: a gwybyddwch y goddiwedda eich pechod chwi. 24 Adeiledwch i chwi ddinasoedd i’ch plant, a chorlannau i’ch defaid; a gwnewch yr hyn a ddaeth allan o’ch genau. 25 A llefarodd meibion Gad a meibion Reuben wrth Moses, gan ddywedyd, Dy weision a wnânt megis y mae fy arglwydd yn gorchymyn. 26 Ein plant, ein gwragedd, ein hanifeiliaid a’n holl ysgrubliaid, fyddant yma yn ninasoedd Gilead. 27 A’th weision a ânt drosodd o flaen yr Arglwydd i’r rhyfel, pob un yn arfog i’r filwriaeth, megis y mae fy arglwydd yn llefaru. 28 A gorchmynnodd Moses i Eleasar yr offeiriad, ac i Josua mab Nun, ac i bennau‐cenedl llwythau meibion Israel, o’u plegid hwynt: 29 A dywedodd Moses wrthynt, Os meibion Gad a meibion Reuben a ânt dros yr Iorddonen gyda chwi, pob un yn arfog i’r rhyfel o flaen yr Arglwydd, a darostwng y wlad o’ch blaen; yna rhoddwch iddynt wlad Gilead yn berchenogaeth: 30 Ac onid ânt drosodd gyda chwi yn arfogion, cymerant eu hetifeddiaeth yn eich mysg chwi yng ngwlad Canaan. 31 A meibion Gad a meibion Reuben a atebasant, gan ddywedyd, Fel y llefarodd yr Arglwydd wrth dy weision, felly y gwnawn ni. 32 Nyni a awn drosodd i dir Canaan yn arfogion o flaen yr Arglwydd, fel y byddo meddiant ein hetifeddiaeth o’r tu yma i’r Iorddonen gennym ni. 33 A rhoddodd Moses iddynt, sef i feibion Gad, ac i feibion Reuben, ac i hanner llwyth Manasse mab Joseff, frenhiniaeth Sehon brenin yr Amoriaid, a brenhiniaeth Og brenin Basan, y wlad a’i dinasoedd ar hyd y terfynau, sef dinasoedd y wlad oddi amgylch.

34 A meibion Gad a adeiladasant Dibon, ac Ataroth, ac Aroer, 35 Ac Atroth, Soffan, a Jaaser, a Jogbea, 36 A Beth‐nimra, a Beth‐haran,dinasoedd caerog; a chorlannau defaid. 37 A meibion Reuben a adeiladasant Hesbon, Eleale, a Chiriathaim; 38 Nebo hefyd, a Baal‐meon, (wedi troi eu henwau,) a Sibma: ac a enwasant enwau ar y dinasoedd a adeiladasant. 39 A meibion Machir mab Manasse a aethant i Gilead, ac a’i henillasant hi, ac a yrasant ymaith yr Amoriaid oedd ynddi. 40 A rhoddodd Moses Gilead i Machir mab Manasse; ac efe a drigodd ynddi. 41 Ac aeth Jair mab Manasse, ac a enillodd eu pentrefydd hwynt, ac a’u galwodd hwynt Hafoth‐Jair. 42 Ac aeth Noba, ac a enillodd Cenath a’i phentrefydd, ac a’i galwodd ar ei enw ei hun, Noba.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.