Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 8-10

Edrychwch am wneuthur pob gorchymyn yr wyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw; fel y byddoch fyw, ac y cynyddoch ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y wlad a addawodd yr Arglwydd wrth eich tadau trwy lw. A chofia yr holl ffordd yr arweiniodd yr Arglwydd dy Dduw di ynddi y deugain mlynedd hyn, trwy’r anialwch, er mwyn dy gystuddio di, gan dy brofi, i wybod yr hyn oedd yn dy galon, a gedwit ti ei orchmynion ef, ai nas cedwit. Ac efe a’th ddarostyngodd, ac a oddefodd i ti newynu, ac a’th fwydodd â manna, yr hwn nid adwaenit, ac nid adwaenai dy dadau; fel y gwnâi efe i ti wybod nad trwy fara yn unig y bydd byw dyn, ond trwy bob gair a’r sydd yn dyfod allan o enau yr Arglwydd y bydd byw dyn. Dy ddillad ni heneiddiodd amdanat, a’th droed ni chwyddodd, y deugain mlynedd hyn. Cydnebydd dithau yn dy galon, fod yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddysgu di, fel y dysg gŵr ei fab ei hun. A chadw orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd, ac i’w ofni ef. Oblegid y mae yr Arglwydd dy Dduw yn dy ddwyn i mewn i wlad dda, i wlad afonydd dyfroedd, ffynhonnau, a dyfnderau yn tarddu allan yn y dyffryn, ac yn y mynydd; Gwlad gwenith, a haidd, a gwinwydd, a ffigyswydd, a phomgranadwydd; gwlad olew olewydden, a mêl; Gwlad yr hon y bwytei fara ynddi heb brinder, ac ni bydd eisiau dim arnat ynddi; gwlad yr hon y mae ei cherrig yn haearn, ac o’i mynyddoedd y cloddi bres. 10 Pan fwyteych, a’th ddigoni; yna y bendithi yr Arglwydd dy Dduw am y wlad dda a roddes efe i ti. 11 Cadw arnat rhag anghofio yr Arglwydd dy Dduw, heb gadw ei orchmynion a’i farnedigaethau, a’i ddeddfau ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw: 12 Rhag wedi i ti fwyta, a’th ddigoni, ac adeiladu tai teg, a thrigo ynddynt; 13 A lluosogi o’th wartheg a’th ddefaid di, ac amlhau o arian ac aur gennyt, ac amlhau o’r hyn oll y sydd gennyt: 14 Yna ymddyrchafu o’th galon, ac anghofio ohonot yr Arglwydd dy Dduw, (yr hwn a’th ddug allan o wlad yr Aifft, o dŷ y caethiwed; 15 Yr hwn a’th dywysodd di trwy yr anialwch mawr ac ofnadwy, lle yr ydoedd seirff tanllyd, ac ysgorpionau, a syched lle nid oedd dwfr; yr hwn a ddygodd i ti ddwfr allan o’r graig gallestr; 16 Yr hwn a’th fwydodd di yn yr anialwch â manna, yr hwn nid adwaenai dy dadau, er dy ddarostwng, ac er dy brofi di, i wneuthur daioni i ti yn dy ddiwedd,) 17 A dywedyd ohonot yn dy galon, Fy nerth fy hun, a chryfder fy llaw a barodd i mi y cyfoeth hwn. 18 Ond cofia yr Arglwydd dy Dduw: oblegid efe yw yr hwn sydd yn rhoddi nerth i ti i beri cyfoeth, fel y cadarnhao efe ei gyfamod, yr hwn a dyngodd efe wrth dy dadau, fel y mae y dydd hwn. 19 Ac os gan anghofio yr anghofi yr Arglwydd dy Dduw, a dilyn duwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt, ac ymgrymu iddynt; yr ydwyf fi yn tystiolaethu yn eich erbyn chwi heddiw, gan ddifetha y’ch difethir. 20 Fel y cenhedloedd y rhai y mae yr Arglwydd ar eu difetha o’ch blaen chwi, felly y difethir chwithau; am na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw.

Gwrando, Israel: Yr wyt ti yn myned heddiw dros yr Iorddonen hon, i fyned i mewn i berchenogi cenhedloedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mwy a chryfach na thi, dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd; Pobl fawr ac uchel, meibion Anac, y rhai a adnabuost, ac y clywaist ti ddywedyd amdanynt, Pwy a saif o flaen meibion Anac? Gwybydd gan hynny heddiw, fod yr Arglwydd dy Dduw yn myned trosodd o’th flaen di yn dân ysol: efe a’u difetha hwynt, ac efe a’u darostwng hwynt o’th flaen di: felly y gyrri hwynt ymaith, ac y difethi hwynt yn fuan, megis y llefarodd yr Arglwydd wrthyt. Na ddywed yn dy galon, wedi gyrru o’r Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, gan ddywedyd, Am fy nghyfiawnder y dygodd yr Arglwydd fi i feddiannu’r tir hwn: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn, y gyrrodd yr Arglwydd hwynt allan o’th flaen di. Nid am dy gyfiawnder di, nac am uniondeb dy galon, yr wyt ti yn myned i feddiannu eu tir hwynt: ond am annuwioldeb y cenhedloedd hyn y bwrw yr Arglwydd dy Dduw hwynt allan o’th flaen di, ac er cyflawni’r gair a dyngodd yr Arglwydd wrth dy dadau, wrth Abraham, wrth Isaac, ac wrth Jacob. Gwybydd dithau, nad am dy gyfiawnder dy hun y rhoddes yr Arglwydd i ti y tir daionus hwn i’w feddiannu: canys pobl wargaled ydych.

Meddwl, ac nac anghofia pa fodd y digiaist yr Arglwydd dy Dduw yn yr anialwch: o’r dydd y daethost allan o dir yr Aifft, hyd eich dyfod i’r lle hwn, gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd. Yn Horeb hefyd y digiasoch yr Arglwydd; a digiodd yr Arglwyddwrthych i’ch difetha. Pan euthum i fyny i’r mynydd i gymryd y llechau meini, sef llechau y cyfamod, yr hwn a wnaeth yr Arglwydd â chwi; yna yr arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos: bara ni fwyteais, a dwfr nid yfais. 10 A rhoddes yr Arglwydd ataf y ddwy lech faen, wedi eu hysgrifennu â bys Duw; ac arnynt yr oedd yn ôl yr holl eiriau a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, ar ddydd y gymanfa. 11 A bu, ymhen y deugain niwrnod a’r deugain nos, roddi o’r Arglwydd ataf y ddwy lech faen; sef llechau y cyfamod. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos oddi yma i waered yn fuan: canys ymlygrodd dy bobl, y rhai a ddygaist allan o’r Aifft: ciliasant yn ebrwydd o’r ffordd a orchmynnais iddynt; gwnaethant iddynt eu hun ddelw dawdd. 13 A llefarodd yr Arglwydd wrthyf, gan ddywedyd, Gwelais y bobl hyn; ac wele, pobl wargaled ydynt. 14 Paid â mi, a mi a’u distrywiaf hwynt, ac a ddileaf eu henw hwynt oddi tan y nefoedd; ac a’th wnaf di yn genedl gryfach, ac amlach na hwynt‐hwy. 15 A mi a ddychwelais, ac a ddeuthum i waered o’r mynydd, a’r mynydd ydoedd yn llosgi gan dân; a dwy lech y cyfamod oedd yn fy nwylo. 16 Edrychais hefyd; ac wele, pechasech yn erbyn yr Arglwydd eich Duw: gwnaethech i chwi lo tawdd: ciliasech yn fuan o’r ffordd a orchmynasai yr Arglwydd i chwi. 17 A mi a ymeflais yn y ddwy lech, ac a’u teflais hwynt o’m dwylo, ac a’u torrais hwynt o flaen eich llygaid. 18 A syrthiais gerbron yr Arglwydd, fel y waith gyntaf, ddeugain niwrnod a deugain nos; ni fwyteais fara, ac nid yfais ddwfr: oherwydd eich holl bechodau chwi y rhai a bechasech, gan wneuthur drygioni yng ngolwg yr Arglwydd i’w ddigio ef. 19 (Canys ofnais rhag y soriant a’r dig, trwy y rhai y digiodd yr Arglwydd wrthych, i’ch dinistrio chwi.) Eto gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith honno hefyd. 20 Wrth Aaron hefyd y digiodd yr Arglwydd yn fawr, i’w ddifetha ef: a mi a weddïais hefyd dros Aaron y waith honno. 21 Eich pechod chwi hefyd yr hwn a wnaethoch, sef y llo, a gymerais, ac a’i llosgais yn tân; curais ef hefyd, gan ei falurio yn dda, nes ei falu yn llwch: a bwriais ei lwch ef i’r afon oedd yn disgyn o’r mynydd. 22 O fewn Tabera hefyd, ac o fewn Massa, ac o fewn Beddau’r blys, yr oeddech yn digio’r Arglwydd. 23 A phan anfonodd yr Arglwydd chwi o Cades‐Barnea, gan ddywedyd, Ewch i fyny, a meddiennwch y tir yr hwn a roddais i chwi, yr anufuddhasoch i air yr Arglwydd eich Duw: ni chredasoch hefyd iddo, ac ni wrandawsoch ar ei lais ef. 24 Gwrthryfelgar fuoch yn erbyn yr Arglwydd er y dydd yr adnabûm chwi. 25 A mi a syrthiais gerbron yr Arglwydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y syrthiaswn o’r blaen; am ddywedyd o’r Arglwydd y difethai chwi. 26 Gweddïais hefyd ar yr Arglwydd, a dywedais, Arglwydd Dduw, na ddifetha dy bobl, a’th etifeddiaeth a waredaist yn dy fawredd, yr hwn a ddygaist allan o’r Aifft â llaw gref. 27 Cofia dy weision, Abraham, Isaac, a Jacob; nac edrych ar galedrwydd y bobl hyn, nac ar eu drygioni, nac ar eu pechod: 28 Rhag dywedyd o’r wlad y dygaist ni allan ohoni, O eisiau gallu o’r Arglwydd eu dwyn hwynt i’r tir a addawsai efe iddynt, ac o’i gas arnynt, y dug efe hwynt allan, i’w lladd yn yr anialwch. 29 Eto dy bobl di a’th etifeddiaeth ydynt hwy, y rhai a ddygaist allan yn dy fawr nerth, ac â’th estynedig fraich.

10 Yr amser hwnnw y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Nadd i ti ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; a thyred i fyny ataf fi i’r mynydd, a gwna i ti arch bren. A mi a ysgrifennaf ar y llechau y geiriau oedd ar y llechau cyntaf, y rhai a dorraist; a gosod dithau hwynt yn yr arch. Yna gwneuthum arch o goed Sittim; ac a neddais ddwy lech faen, fel y rhai cyntaf; ac a euthum i fyny i’r mynydd, a’r ddwy lech yn fy llaw. Ac efe a ysgrifennodd ar y llechau, fel yr ysgrifen gyntaf, y dengair, a lefarodd yr Arglwydd wrthych yn y mynydd, o ganol y tân, yn nydd y gymanfa: a rhoddes yr Arglwydd hwynt ataf fi. Yna y dychwelais ac y deuthum i waered o’r mynydd, ac a osodais y llechau yn yr arch, yr hon a wnaethwn, ac yno y maent; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd i mi.

A meibion Israel a aethant o Beeroth meibion Jacan i Mosera: yno y bu farw Aaron, ac efe a gladdwyd yno; ac Eleasar ei fab a offeiriadodd yn ei le ef. Oddi yno yr aethant i Gudgoda; ac o Gudgoda i Jotbath, tir afonydd dyfroedd

Yr amser hwnnw y neilltuodd yr Arglwydd lwyth Lefi, i ddwyn arch cyfamod yr Arglwydd, i sefyll gerbron yr Arglwydd, i’w wasanaethu ef, ac i fendigo yn ei enw ef, hyd y dydd hwn. Am hynny ni bydd rhan i Lefi, nac etifeddiaeth gyda’i frodyr: yr Arglwydd yw ei etifeddiaeth ef; megis y dywedodd yr Arglwydd dy Dduw wrtho ef. 10 A mi a arhoais yn y mynydd ddeugain niwrnod a deugain nos, fel y dyddiau cyntaf: a gwrandawodd yr Arglwydd arnaf y waith hon hefyd; ni ewyllysiodd yr Arglwydd dy ddifetha di. 11 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Cyfod, dos i’th daith o flaen y bobl; fel yr elont i mewn ac y meddiannont y tir, yr hwn a dyngais wrth eu tadau ar ei roddi iddynt.

12 Ac yr awr hon, Israel, beth y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ofyn gennyt, ond ofni yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei holl ffyrdd, a’i garu ef, a gwasanaethu yr Arglwydd dy Dduw â’th holl galon, ac â’th holl enaid, 13 Cadw gorchmynion yr Arglwydd, a’i ddeddfau, y rhai yr wyf yn eu gorchymyn i ti y dydd hwn, er daioni i ti? 14 Wele, y nefoedd, a nefoedd y nefoedd, ydynt eiddo yr Arglwydd dy Dduw, y ddaear hefyd a’r hyn oll sydd ynddi. 15 Yn unig ar dy dadau di y rhoddes yr Arglwydd ei serch, gan eu hoffi hwynt; ac efe a wnaeth ddewis o’u had ar eu hôl hwynt, sef ohonoch chwi, o flaen yr holl bobloedd, megis heddiw y gwelir. 16 Enwaedwch chwithau ddienwaediad eich calon, ac na chaledwch eich gwar mwyach. 17 Canys yr Arglwydd eich Duw chwi yw Duw y duwiau, ac Arglwydd yr arglwyddi, Duw mawr, cadarn, ac ofnadwy yr hwn ni dderbyn wyneb, ac ni chymer wobr. 18 Yr hwn a farna’r amddifad a’r weddw; ac y sydd yn hoffi’r dieithr, gan roddi iddo fwyd a dillad. 19 Hoffwch chwithau y dieithr: canys dieithriaid fuoch yn nhir yr Aifft. 20 Yr Arglwydd dy Dduw a ofni, ac ef a wasanaethi: wrtho ef hefyd y glyni, ac i’w enw ef y tyngi. 21 Efe yw dy fawl, ac efe yw dy Dduw yr hwn a wnaeth i ti y mawrion a’r ofnadwy bethau hyn, y rhai a welodd dy lygaid. 22 Dy dadau a aethant i waered i’r Aifft yn ddeg enaid a thrigain; ac yr awr hon yr Arglwydd dy Dduw a’th wnaeth di fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.