Chronological
17 Nac abertha i’r Arglwydd dy Dduw ych neu ddafad y byddo arno anaf, neu ddim gwrthuni: canys casbeth yr Arglwydd dy Dduw yw hynny.
2 Pan gaffer yn dy blith di, o fewn un o’th byrth y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti, ŵr neu wraig a wnaeth ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw, gan droseddu ei gyfamod ef, 3 Ac a aeth ac a wasanaethodd dduwiau dieithr, ac a ymgrymodd iddynt, i’r haul, neu i’r lleuad, neu i holl lu y nefoedd, yr hyn ni orchmynnais; 4 Pan ddangoser i ti, a chlywed ohonot, yna cais yn dda: ac wele, os gwirionedd yw, a bod yn sicr wneuthur y ffieidd‐dra hyn yn Israel; 5 Yna dwg allan y gŵr hwnnw, neu y wraig honno, a wnaethant y peth drygionus hyn, i’th byrth, sef y gŵr neu y wraig, a llabyddia hwynt â meini, fel y byddont feirw. 6 Wrth dystiolaeth dau o dystion, neu dri o dystion, y rhoddir i farwolaeth yr hwn a fyddo marw: na rodder ef i farwolaeth wrth dystiolaeth un tyst. 7 Llaw y tystion a fydd arno yn gyntaf i’w farwolaethu ef, a llaw yr holl bobl wedi hynny: a thi a dynni ymaith y drwg o’th blith.
8 Os bydd peth mewn barn yn rhy galed i ti, rhwng gwaed a gwaed, rhwng hawl a hawl, neu rhwng pla a phla, mewn pethau ymrafaelus o fewn dy byrth; yna cyfod, a dos i fyny i’r lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: 9 A dos at yr offeiriaid y Lefiaid, ac at y barnwr a fyddo yn y dyddiau hynny, ac ymofyn; a hwy a ddangosant i ti reol y farnedigaeth. 10 A gwna yn ôl rheol y gair a ddangosant i ti, o’r lle hwnnw a ddewiso yr Arglwydd; ac edrych am wneuthur yn ôl yr hyn oll a ddysgant i ti. 11 Yn ôl rheol y gyfraith a ddysgont i ti, ac yn ôl y farn a ddywedont i ti, y gwnei: na chilia oddi wrth y peth a ddangosont i ti, i’r tu deau nac i’r tu aswy. 12 A’r gŵr a wnêl mewn rhyfyg, heb wrando ar yr offeiriad sydd yn sefyll yno i wasanaethu yr Arglwydd dy Dduw, neu ar y barnwr; yna rhodder i farwolaeth y gŵr hwnnw: a thyn ymaith y drwg o Israel. 13 A’r holl bobl a glywant, ac a ofnant; ac ni ryfygant mwy.
14 Pan ddelych i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, a’i feddiannu, a thrigo ynddo, os dywedi, Gosodaf arnaf frenin, megis yr holl genhedloedd sydd o’m hamgylch: 15 Gan osod gosod arnat yn frenin yr hwn a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: o blith dy frodyr y gosodi arnat frenin; ni elli roddi arnat ŵr dieithr yr hwn nid yw frawd i ti. 16 Ond nac amlhaed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aifft i amlhau meirch; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy. 17 Ac nac amlhaed iddo wragedd, fel na ŵyro ei galon; ac nac amlhaed arian ac aur lawer iddo. 18 A phan eisteddo ar deyrngadair ei frenhiniaeth, ysgrifenned iddo gopi o’r gyfraith hon mewn llyfr, allan o’r hwn sydd gerbron yr offeiriaid y Lefiaid. 19 A bydded gydag ef, a darllened arno holl ddyddiau ei fywyd: fel y dysgo ofni yr Arglwydd ei Dduw, i gadw holl eiriau y gyfraith hon, a’r deddfau hyn, i’w gwneuthur hwynt: 20 Fel na ddyrchafo ei galon uwchlaw ei frodyr, ac na chilio oddi wrth y gorchymyn, i’r tu deau nac i’r tu aswy: fel yr estynno ddyddiau yn ei frenhiniaeth efe a’i feibion yng nghanol Israel.
18 Ni bydd i’r offeiriaid, i’r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a’i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy. 2 Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3 A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i’r offeiriad yr ysgwyddog a’r ddwy ên, a’r boten. 4 Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a’th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef. 5 Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o’th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a’i feibion yn dragywydd.
6 A phan ddelo Lefiad o un o’th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i’r lle a ddewiso yr Arglwydd; 7 Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd. 8 Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9 Pan elych di i’r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra’r cenhedloedd hynny. 10 Na chaffer ynot a wnelo i’w fab, neu i’w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol, 11 Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â’r meirw: 12 Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o’th flaen di. 13 Bydd berffaith gyda’r Arglwydd dy Dduw. 14 Canys y cenhedloedd hyn, y rhai a feddienni di, a wrandawsant ar blanedyddion, ac ar ddewiniaid: ond amdanat ti, nid felly y caniataodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.
15 Yr Arglwydd dy Dduw a gyfyd i ti, o’th blith dy hun, o’th frodyr dy hun, Broffwyd megis finnau; arno ef y gwrandewch 16 Yn ôl yr hyn oll a geisiaist gan yr Arglwydd dy Dduw yn Horeb, yn nydd y gymanfa, gan ddywedyd, Na chlywyf mwyach lais yr Arglwydd fy Nuw, ac na welwyf y tân mawr hwn mwyach, rhag fy marw. 17 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y dywedasant yr hyn a ddywedasant 18 Codaf Broffwyd iddynt o fysg eu brodyr, fel tithau, a rhoddaf fy ngeiriau yn ei enau ef; ac efe a lefara wrthynt yr hyn oll a orchmynnwyf iddo. 19 A phwy bynnag ni wrandawo ar fy ngeiriau, y rhai a lefara efe yn fy enw, myfi a’i gofynnaf ganddo. 20 Y proffwyd hefyd, yr hwn a ryfyga lefaru yn fy enw air ni orchmynnais iddo ei lefaru, neu yr hwn a lefaro yn enw duwiau dieithr; rhodder y proffwyd hwnnw i farwolaeth. 21 Ac os dywedi yn dy galon, Pa fodd yr adnabyddwn y gair ni lefarodd yr Arglwydd? 22 Yr hyn a lefaro’r proffwyd hwnnw yn enw yr Arglwydd, a’r gair heb fod, ac heb ddyfod i ben, hwnnw yw y gair ni lefarodd yr Arglwydd; y proffwyd a’i llefarodd mewn rhyfyg: nac ofna ef.
19 Pan dorro yr Arglwydd dy Dduw ymaith y cenhedloedd y mae yr Arglwydd dy Dduw yn rhoddi eu tir i ti, a’i feddiannu ohonot ti, a phreswylio yn eu dinasoedd ac yn eu tai; 2 Neilltua i ti dair dinas yng nghanol dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu. 3 Paratoa ffordd i ti, a thraeana derfyn dy dir, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw yn etifeddiaeth i ti, fel y byddo i bob llofrudd ffoi yno.
4 Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef o’r blaen; 5 Megis pan elo un gyda’i gymydog i’r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â’r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o’r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o’r dinasoedd hyn, a byw: 6 Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a’i galon yn llidiog, a’i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a’i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o’r blaen. 7 Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti. 8 A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau; 9 Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn: 10 Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i’th erbyn.
11 Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a’i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o’r dinasoedd hyn: 12 Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw. 13 Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
14 Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o’r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i’w feddiannu.
15 Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o’r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
16 Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef; 17 Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a’r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny. 18 Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd; 19 Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i’w frawd: a thyn ymaith y drwg o’th fysg. 20 A’r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith. 21 Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.
20 Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a’th ddug di i fyny o dir yr Aifft. 2 A bydd, pan nesaoch i’r frwydr, yna ddyfod o’r offeiriad, a llefaru wrth y bobl, 3 A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i’r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt. 4 Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â’ch gelynion trosoch chwi, ac i’ch achub chwi.
5 A’r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef. 6 A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi. 7 A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i’w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi. 8 Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i’w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau. 9 A bydded, pan ddarffo i’r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.
10 Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch. 11 A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i’r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a’th wasanaethu. 12 Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi. 13 Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf. 14 Yn unig y benywaid, a’r plant, a’r anifeiliaid, a phob dim a’r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 15 Felly y gwnei i’r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn. 16 Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw: 17 Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a’r Amoriaid, y Canaaneaid, a’r Pheresiaid, yr Hefiaid, a’r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti. 18 Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i’w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.
19 Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i’w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i’w gosod yn y gwarchglawdd. 20 Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.