Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Deuteronomium 32-34

32 Gwrandewch, y nefoedd, a llefaraf; a chlywed y ddaear eiriau fy ngenau. Fy athrawiaeth a ddefnynna fel glaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlithlaw ar irwellt, ac fel cawodydd ar laswellt. Canys enw yr Arglwydd a gyhoeddaf fi: rhoddwch fawredd i’n Duw ni. Efe yw y Graig; perffaith yw ei weithred; canys ei holl ffyrdd ydynt farn: Duw gwirionedd, a heb anwiredd, cyfiawn ac uniawn yw efe. Y genhedlaeth ŵyrog a throfaus a ymlygrodd yn ei erbyn trwy eu bai, heb fod yn blant iddo ef. Ai hyn a delwch i’r Arglwydd, bobl ynfyd ac angall? onid efe yw dy dad a’th brynwr? onid efe a’th wnaeth, ac a’th sicrhaodd?

Cofia y dyddiau gynt; ystyriwch flynyddoedd cenhedlaeth a chenhedlaeth: gofyn i’th dad, ac efe a fynega i ti; i’th henuriaid, a hwy a ddywedant wrthyt. Pan gyfrannodd y Goruchaf etifeddiaeth y cenhedloedd, pan neilltuodd efe feibion Adda, y gosododd efe derfynau y bobloedd yn ôl rhifedi meibion Israel. Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef. 10 Efe a’i cafodd ef mewn tir anial, ac mewn diffeithwch gwag erchyll:arweinioddef o amgylch, a pharodd iddo ddeall, a chadwodd ef fel cannwyll ei lygad. 11 Fel y cyfyd eryr ei nyth, y castella dros ei gywion, y lleda ei esgyll, y cymer hwynt, ac a’u dwg ar ei adenydd; 12 Felly yr Arglwydd yn unig a’i harweiniodd yntau, ac nid oedd duw dieithr gydag ef. 13 Gwnaeth iddo farchogaeth ar uchelder y ddaear, a bwyta cnwd y maes, a sugno mêl o’r graig, ac olew o’r graig gallestr; 14 Ymenyn gwartheg, a llaeth defaid, ynghyd â braster ŵyn, a hyrddod o rywogaeth Basan, a bychod, ynghyd â braster grawn gwenith, a phurwaed grawnwin a yfaist.

15 A’r uniawn a aeth yn fras, ac a wingodd; braseaist, tewychaist, pwyntiaist: yna efe a wrthododd Dduw, yr hwn a’i gwnaeth, ac a ddiystyrodd Graig ei iachawdwriaeth. 16 A dieithr dduwiau y gyrasant eiddigedd arno; â ffieidd‐dra y digiasant ef. 17 Aberthasant i gythreuliaid, nid i Dduw; i dduwiau nid adwaenent, i rai newydd diweddar, y rhai nid ofnodd eich tadau. 18 Y Graig a’th genhedlodd a anghofiaist ti, a’r Duw a’th luniodd a ollyngaist ti dros gof. 19 Yna y gwelodd yr Arglwydd, ac a’u ffieiddiodd hwynt; oherwydd ei ddigio gan ei feibion, a’i ferched. 20 Ac efe a ddywedodd, Cuddiaf fy wyneb oddi wrthynt, edrychaf beth fydd eu diwedd hwynt: canys cenhedlaeth drofaus ydynt hwy, meibion heb ffyddlondeb ynddynt. 21 Hwy a yrasant eiddigedd arnaf â’r peth nid oedd Dduw; digiasant fi â’u hoferedd: minnau a yrraf eiddigedd arnynt hwythau â’r rhai nid ydynt bobl; â chenedl ynfyd y digiaf hwynt. 22 Canys tân a gyneuwyd yn fy nig, ac a lysg hyd uffern isod, ac a ddifa y tir a’i gynnyrch, ac a wna i sylfeini’r mynyddoedd ffaglu. 23 Casglaf ddrygau arnynt; treuliaf fy saethau arnynt. 24 Llosgedig fyddant gan newyn, ac wedi eu bwyta gan wres poeth, a chwerw ddinistr: anfonaf hefyd arnynt ddannedd bwystfilod, ynghyd â gwenwyn seirff y llwch. 25 Y cleddyf oddi allan, a dychryn oddi fewn, a ddifetha y gŵr ieuanc a’r wyry hefyd, y plentyn sugno ynghyd â’r gŵr briglwyd. 26 Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion; 27 Oni bai i mi ofni dig y gelyn, rhag i’w gwrthwynebwyr ymddwyn yn ddieithr a rhag dywedyd ohonynt, Ein llaw uchel ni, ac nid yr Arglwydd, a wnaeth hyn oll. 28 Canys cenedl heb gyngor ydynt hwy, ac heb ddeall ynddynt. 29 O na baent ddoethion, na ddeallent hyn, nad ystyrient eu diwedd! 30 Pa fodd yr ymlidiai un fil, ac y gyrrai dau ddengmil i ffoi, onid am werthu o’u Craig hwynt, a chau o’r Arglwydd arnynt? 31 Canys nid fel ein Craig ni y mae eu craig hwynt; a bydded ein gelynion yn farnwyr. 32 Canys o winwydden Sodom, ac o feysydd Gomorra, y mae eu gwinwydden hwynt: eu grawnwin hwynt sydd rawnwin bustlaidd; grawnsypiau chwerwon sydd iddynt. 33 Gwenwyn dreigiau yw eu gwin hwynt, a chreulon wenwyn asbiaid. 34 Onid yw hyn yng nghudd gyda myfi, wedi ei selio ymysg fy nhrysorau? 35 I mi y perthyn dial, a thalu’r pwyth; mewn pryd y llithr eu troed hwynt: canys agos yw dydd eu trychineb, a phrysuro y mae yr hyn a baratowyd iddynt. 36 Canys yr Arglwydd a farna ei bobl, ac a edifarha am ei weision; pan welo ymado o’u nerth, ac nad oes na gwarchaeëdig, na gweddilledig. 37 Ac efe a ddywed, Pa le y mae eu duwiau hwynt, a’r graig yr ymddiriedasant ynddi, 38 Y rhai a fwytasant fraster eu haberthau, ac a yfasant win eu diod‐offrwm? codant a chynorthwyant chwi, a byddant loches i chwi. 39 Gwelwch bellach mai myfi, myfi yw efe; ac nad oes duw ond myfi: myfi sydd yn lladd, ac yn bywhau; myfi a archollaf, ac mi a feddyginiaethaf: ac ni bydd a achubo o’m llaw. 40 Canys codaf fy llaw i’r nefoedd, a dywedaf, Mi a fyddaf fyw byth. 41 Os hogaf fy nghleddyf disglair, ac ymaflyd o’m llaw mewn barn; dychwelaf ddial ar fy ngelynion, a thalaf y pwyth i’m caseion. 42 Meddwaf fy saethau â gwaed, (a’m cleddyf a fwyty gig,) â gwaed y lladdedig a’r caeth, o ddechrau dial ar y gelyn. 43 Y cenhedloedd, llawenhewch gyda’i bobl ef: canys efe a ddial waed ei weision, ac a ddychwel ddial ar ei elynion, ac a drugarha wrth ei dir a’i bobl ei hun.

44 A daeth Moses ac a lefarodd holl eiriau y gân hon lle y clybu’r bobl, efe a Josua mab Nun. 45 A darfu i Moses lefaru yr holl eiriau hyn wrth holl Israel: 46 A dywedodd wrthynt, Meddyliwch yn eich calonnau am yr holl eiriau yr ydwyf yn eu tystiolaethu wrthych heddiw; y rhai a orchmynnwch i’ch plant, i edrych am wneuthur holl eiriau y gyfraith hon. 47 Canys nid gair ofer yw hwn i chwi: oherwydd eich einioes chwi yw efe; a thrwy y gair hwn yr estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydych yn myned iddo dros yr Iorddonen i’w feddiannu.

48 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses yng nghorff y dydd hwnnw, gan ddywedyd, 49 Esgyn i’r mynydd Abarim hwn, sef mynydd Nebo, yr hwn sydd yn nhir Moab, ar gyfer Jericho; ac edrych ar wlad Canaan, yr hon yr ydwyf fi yn ei rhoddi i feibion Israel yn etifeddiaeth. 50 A bydd farw yn y mynydd yr esgynni iddo, a chasgler di at dy bobl, megis y bu farw Aaron dy frawd ym mynydd Hor, ac y casglwyd ef at ei bobl: 51 Oherwydd gwrthryfelasoch i’m herbyn ymysg meibion Israel, wrth ddyfroedd cynnen Cades, yn anialwch Sin; oblegid ni’m sancteiddiasoch ymhlith meibion Israel. 52 Canys y wlad a gei di ei gweled ar dy gyfer; ond yno nid ei, i’r tir yr ydwyf fi yn ei roddi i feibion Israel.

33 Adyma’r fendith â’r hon y bendithiodd Moses gŵr Duw feibion Israel, cyn ei farwolaeth. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a ddaeth allan o Sinai, ac a gododd o Seir iddynt; ymlewyrchodd o fynydd Paran, ac efe a ddaeth gyda myrddiwn o saint, a thanllyd gyfraith o’i ddeheulaw iddynt. Caru y mae efe y bobl: ei holl saint ydynt yn dy law: a hwy a ymlynasant wrth dy draed; pob un a dderbyn o’th eiriau. Moses a orchmynnodd gyfraith i ni, yn etifeddiaeth i gynulleidfa Jacob. Ac efe oedd frenin yn Israel, pan ymgasglodd pennau y bobl ynghyd â llwythau Israel.

Bydded fyw Reuben, ac na fydded farw, ac na bydded ei ddynion ychydig o rifedi.

Bydded hyn hefyd i Jwda. Ac efe a ddywedodd, Clyw, O Arglwydd, lais Jwda, ac at ei bobl dwg ef: digon fyddo iddo ei ddwylo ei hun, a bydd gymorth rhag ei elynion.

Ac am Lefi y dywedodd, Bydded dy Thummim a’th Urim i’th ŵr sanctaidd yr hwn a brofaist ym Massa, ac a gynhennaist ag ef wrth ddyfroedd Meriba; Yr hwn a ddywedodd am ei dad ac am ei fam, Ni welais ef; a’i frodyr nis adnabu, ac nid adnabu ei blant ei hun: canys cadwasant dy eiriau, a chynaliasant dy gyfamod. 10 Dysgant dy farnedigaethau i Jacob, a’th gyfraith i Israel: gosodant arogldarth ger dy fron, a llosg‐aberth ar dy allor. 11 Bendithia, O Arglwydd, ei olud ef, a bydd fodlon i waith ei ddwylo ef: archolla lwynau y rhai a godant i’w erbyn, a’i gaseion, fel na chodont.

12 Am Benjamin y dywedodd efe, Anwylyd yr Arglwydd a drig mewn diogelwch gydag ef; yr hwn fydd yn cysgodi drosto ar hyd y dydd, ac yn aros rhwng ei ysgwyddau ef.

13 Ac am Joseff y dywedodd efe, Ei dir ef fydd wedi ei fendigo gan yr Arglwydd, â hyfrydwch y nefoedd, â gwlith, ac â dyfnder yn gorwedd isod; 14 Hefyd â hyfrydwch cynnyrch yr haul, ac â hyfrydwch aeddfetffrwyth y lleuadau, 15 Ac â hyfrydwch pen mynyddoedd y dwyrain, ac â hyfrydwch bryniau tragwyddoldeb, 16 Ac â hyfrydwch y ddaear, ac â’i chyflawnder, ac ag ewyllys da preswylydd y berth; delo bendith ar ben Joseff, ac ar gorun yr hwn a neilltuwyd oddi wrth ei frodyr. 17 Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf‐anedig ei ych, a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Effraim, ie, dyma filoedd Manasse.

18 Ac am Sabulon y dywedodd efe, Ymlawenycha, Sabulon, yn dy fynediad allan; a thi, Issachar, yn dy bebyll. 19 Galwant bobloedd i’r mynydd; yna yr aberthant ebyrth cyfiawnder: canys cyfoeth y moroedd a sugnant, a chuddiedig drysorau y tywod.

20 Ac am Gad y dywedodd efe, Bendigedig yw ehangydd Gad: megis llew y mae efe yn aros, fel y rhwygo efe yr ysgwyddog a’r pen. 21 Edrychodd amdano ei hun yn y dechreuad: canys yno, yn rhan y cyfreithwr, y gosodwyd ef: efe a ddaeth gyda phenaethiaid y bobl; gwnaeth efe gyfiawnder yr Arglwydd, a’i farnedigaethau gydag Israel.

22 Am Dan hefyd y dywedodd, Dan yn genau llew a neidia o Basan.

23 Ac am Nafftali y dywedodd, O Nafftali, llawn o hawddgarwch, a chyflawn o fendith yr Arglwydd: meddianna di y gorllewin a’r deau.

24 Ac am Aser y dywedodd, Bendithier Aser â phlant: bydded gymeradwy gan ei frodyr: ac efe a wlych ei droed mewn olew. 25 Haearn a phres fydd dan dy esgid di; a megis dy ddyddiau, y bydd dy nerth.

26 Nid oes megis Duw Israel, yr hwn sydd yn marchogaeth y nefoedd yn gymorth i ti, a’r wybrennau yn ei fawredd. 27 Dy noddfa yw Duw tragwyddol, ac oddi tanodd y mae y breichiau tragwyddol efe a wthia dy elyn o’th flaen, ac a ddywed, Difetha ef. 28 Israel hefyd a drig ei hun yn ddiogel; ffynnon Jacob a fydd mewn tir ŷd a gwin; ei nefoedd hefyd a ddifera wlith. 29 Gwynfydedig wyt, O Israel; pwy sydd megis ti, O bobl gadwedig gan yr Arglwydd, tarian dy gynhorthwy, yr hwn hefyd yw cleddyf dy ardderchowgrwydd! a’th elynion a ymostyngant i ti, a thi a sethri ar eu huchel leoedd hwynt.

34 A Moses a esgynnodd o rosydd Moab, i fynydd Nebo, i ben Pisga, yr hwn sydd ar gyfer Jericho: a’r Arglwydd a ddangosodd iddo holl wlad Gilead, hyd Dan, A holl Nafftali, a thir Effraim a Manasse, a holl dir Jwda, hyd y môr eithaf, Y deau hefyd, a gwastadedd dyffryn Jericho, a dinas y palmwydd, hyd Soar. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Dyma’r tir a fynegais i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, gan ddywedyd, I’th had di y rhoddaf ef; perais i ti ei weled â’th lygaid, ond nid ei di drosodd yno.

A Moses gwas yr Arglwydd a fu farw yno, yn nhir Moab, yn ôl gair yr Arglwydd. Ac efe a’i claddodd ef mewn glyn yn nhir Moab, gyferbyn â Beth‐peor: ac nid edwyn neb ei fedd ef hyd y dydd hwn.

A Moses ydoedd fab ugain mlwydd a chant pan fu efe farw: ni thywyllasai ei lygad, ac ni chiliasai ei ireidd‐dra ef.

A meibion Israel a wylasant am Moses yn rhosydd Moab ddeng niwrnod ar hugain: a chyflawnwyd dyddiau wylofain galar am Moses.

A Josua mab Nun oedd gyflawn o ysbryd doethineb; oherwydd Moses a roddasai ei ddwylo arno: a meibion Israel a wrandawsant arno, ac a wnaethant fel y gorchmynasai yr Arglwydd wrth Moses.

10 Ac ni chododd proffwyd eto yn Israel megis Moses, yr hwn a adnabu yr Arglwydd wyneb yn wyneb; 11 Ym mhob rhyw arwyddion a rhyfeddodau y rhai yr anfonodd yr Arglwydd ef i’w gwneuthur yn nhir yr Aifft, ar Pharo, ac ar ei holl weision, ac ar ei holl dir ef, 12 Ac yn yr holl law gadarn, ac yn yr holl ofn mawr, y rhai a wnaeth Moses yng ngolwg holl Israel.

Salmau 91

91 Yr hwn sydd yn trigo yn nirgelwch y Goruchaf, a erys yng nghysgod yr Hollalluog. Dywedaf am yr Arglwydd, Fy noddfa a’m hamddiffynfa ydyw: fy Nuw; ynddo yr ymddiriedaf. Canys efe a’th wareda di o fagl yr heliwr, ac oddi wrth haint echryslon. A’i asgell y cysgoda efe trosot, a than ei adenydd y byddi ddiogel: ei wirionedd fydd darian ac astalch i ti. Nid ofni rhag dychryn nos; na rhag y saeth a ehedo y dydd: Na rhag yr haint a rodio yn y tywyllwch; na rhag y dinistr a ddinistrio ganol dydd. Wrth dy ystlys y cwymp mil, a deng mil wrth dy ddeheulaw: ond ni ddaw yn agos atat ti. Yn unig ti a ganfyddi â’th lygaid, ac a weli dâl y rhai annuwiol. Am i ti wneuthur yr Arglwydd fy noddfa, sef y Goruchaf, yn breswylfa i ti; 10 Ni ddigwydd i ti niwed, ac ni ddaw pla yn agos i’th babell. 11 Canys efe a orchymyn i’w angylion amdanat ti, dy gadw yn dy holl ffyrdd. 12 Ar eu dwylo y’th ddygant rhag taro dy droed wrth garreg. 13 Ar y llew a’r asb y cerddi: y cenau llew a’r ddraig a fethri. 14 Am iddo roddi ei serch arnaf, am hynny y gwaredaf ef: dyrchafaf ef, am iddo adnabod fy enw. 15 Efe a eilw arnaf, a mi a’i gwrandawaf: mewn ing y byddaf fi gydag ef, y gwaredaf, ac y gogoneddaf ef. 16 Digonaf ef â hir ddyddiau; a dangosaf iddo fy iachawdwriaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.