Chronological
16 A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 2 Ha fab dyn, gwna i Jerwsalem adnabod ei ffieidd‐dra, 3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw wrth Jerwsalem; Dy drigfa a’th enedigaeth sydd o wlad Canaan: dy dad oedd Amoriad, a’th fam yn Hittees. 4 Ac am dy enedigaeth, ar y dydd y’th anwyd ni thorrwyd dy fogail, ac mewn dwfr ni’th olchwyd i’th feddalhau: ni’th gyweiriwyd chwaith â halen, ac ni’th rwymwyd â rhwymyn. 5 Ni thosturiodd llygad wrthyt, i wneuthur i ti un o hyn, i dosturio wrthyt; ond ar wyneb y maes y’th daflwyd, i ffieiddio dy einioes, ar y dydd y’th aned.
6 A phan dramwyais heibio i ti, a’th weled yn ymdrybaeddu yn dy waed, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw; ie, dywedais wrthyt yn dy waed, Bydd fyw. 7 Yn fyrddiwn y’th wneuthum fel gwellt y maes, a thi a gynyddaist ac a aethost yn fawr, ac a ddaethost i harddwch godidog: dy fronnau a chwyddasant, a’th wallt a dyfodd, a thi yn llom ac yn noeth o’r blaen. 8 Pan euthum heibio i ti, ac edrych arnat, wele dy amser yn amser serchowgrwydd: yna lledais fy adain drosot, a chuddiais dy noethni: tyngais hefyd i ti, ac euthum mewn cyfamod â thi, medd yr Arglwydd Dduw, a thi a aethost yn eiddof fi. 9 Yna mi a’th olchais â dwfr; ie, golchais dy waed oddi wrthyt, ac irais di ag olew. 10 Mi a’th wisgais hefyd â gwaith edau a nodwydd, rhoddais i ti hefyd esgidiau o groen daearfoch, a gwregysais di â lliain main, a gorchuddiais di â sidan. 11 Mi a’th herddais hefyd â harddwch, a rhoddais freichledau am dy ddwylo, a chadwyn am dy wddf. 12 Rhoddais hefyd dlws ar dy dalcen, a thlysau wrth dy glustiau, a choron hardd am dy ben. 13 Felly y’th harddwyd ag aur ac arian; a’th wisg oedd liain main, a sidan, a gwaith edau a nodwydd; peilliaid, a mêl, ac olew a fwyteit: teg hefyd odiaeth oeddit, a ffynnaist yn frenhiniaeth. 14 Aeth allan hefyd i ti enw ymysg y cenhedloedd, am dy degwch: canys cyflawn oedd gan fy harddwch yr hwn a osodaswn arnat, medd yr Arglwydd Dduw.
15 Ond ti a ymddiriedaist i’th degwch, a phuteiniaist oherwydd dy enw, a thywelltaist dy buteindra ar bob cyniweirydd; eiddo ef ydoedd. 16 Cymeraist hefyd o’th ddillad, a gwnaethost i ti uchelfeydd brithion, a phuteiniaist arnynt: y fath ni ddaw, ac ni bydd felly. 17 A chymeraist offer dy harddwch o’m haur ac o’m harian i, y rhai a roddaswn i ti, a gwnaethost i ti ddelwau gwŷr, a phuteiniaist gyda hwynt. 18 Cymeraist hefyd dy wisgoedd o waith edau a nodwydd, ac a’u gwisgaist hwynt: fy olew hefyd a’m harogl‐darth a roddaist o’u blaen hwynt. 19 Felly fy mwyd yr hwn a roddaswn i ti, yn beilliaid, ac yn olew, ac yn fêl, â’r rhai y’th borthaswn di; rhoddaist hynny hefyd o’u blaen hwynt yn arogl peraidd: fel hyn y bu, medd yr Arglwydd Dduw. 20 Cymeraist hefyd dy feibion a’th ferched, y rhai a blantasit i mi; y rhai hyn a aberthaist iddynt i’w bwyta. Ai bychan hyn o’th buteindra di, 21 Ladd ohonot fy mhlant, a’u rhoddi hwynt i’w tynnu trwy y tân iddynt? 22 Ac yn dy holl ffieidd‐dra a’th buteindra ni chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, pan oeddit lom a noeth, a’th fod yn ymdrybaeddu yn dy waed. 23 A bu ar ôl dy holl ddrygioni, (Gwae, gwae i ti! medd yr Arglwydd Dduw,) 24 Adeiladu ohonot i ti uchelfa, a gwneuthur i ti uchelfa ym mhob heol. 25 Ym mhen pob ffordd yr adeiledaist dy uchelfa, a gwnaethost dy degwch yn ffiaidd, ac a ledaist dy draed i bob cyniweirydd, ac amlheaist dy buteindra. 26 Puteiniaist hefyd gyda meibion yr Aifft dy gymdogion, mawr eu cnawd; ac a amlheaist dy buteindra, i’m digio i. 27 Am hynny wele, estynnais fy llaw arnat, a phrinheais dy ran, a rhoddais di wrth ewyllys dy gaseion, merched y Philistiaid, y rhai sydd gywilydd ganddynt dy ffordd ysgeler. 28 Puteiniaist hefyd gyda meibion Assur, o eisiau cael dy ddigon; a hefyd wedi puteinio gyda hwynt, ni’th ddigonwyd. 29 Amlheaist hefyd dy buteindra yng ngwlad Canaan hyd Caldea; ac eto ni’th ddigonwyd â hyn. 30 Mor llesg yw dy galon, medd yr Arglwydd Dduw, gan i ti wneuthur hyn oll, sef gwaith puteinwraig yn llywodraethu! 31 Pan adeiledaist dy uchelfa ym mhen pob ffordd, ac y gwnaethost dy uchelfa ym mhob heol; ac nid oeddit fel putain, gan dy fod yn dirmygu gwobr; 32 Ond fel gwraig a dorrai ei phriodas, ac a gymerai ddieithriaid yn lle ei gŵr. 33 I bob putain y rhoddant wobr; ond tydi a roddi dy wobr i’th holl gariadau, ac a’u gobrwyi hwynt i ddyfod atat oddi amgylch i’th buteindra. 34 Ac ynot ti y mae y gwrthwyneb i wragedd eraill yn dy buteindra, gan na phuteiniodd neb ar dy ôl di: canys lle y rhoddi wobr, ac na roddir gwobr i ti, yna yr wyt yn y gwrthwyneb.
35 Gan hynny, O butain, clyw air yr Arglwydd: 36 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am dywallt dy frynti, a datguddio dy noethni trwy dy buteindra gyda’th gariadau, a chyda holl eilunod dy ffieidd‐dra, a thrwy waed dy feibion y rhai a roddaist iddynt; 37 Am hynny wele fi yn casglu dy holl gariadau gyda’r rhai yr ymddigrifaist, a’r rhai oll a geraist, gyda’r rhai oll a gaseaist; ie, casglaf hwynt i’th erbyn oddi amgylch, ac a ddinoethaf dy noethni iddynt, fel y gwelont dy holl noethni. 38 Barnaf di hefyd â barnedigaethau puteiniaid, a’r rhai a dywalltant waed; a rhoddaf i ti waed mewn llidiowgrwydd ac eiddigedd. 39 Ie, rhoddaf di yn eu dwylo hwynt, a hwy a ddinistriant dy uchelfa, ac a fwriant i lawr dy uchel leoedd: diosgant di hefyd o’th ddillad, a chymerant ddodrefn dy harddwch, ac a’th adawant yn llom ac yn noeth. 40 Dygant hefyd dyrfa i’th erbyn, ac a’th labyddiant â meini, ac â’u cleddyfau y’th drywanant. 41 Llosgant hefyd dy dai â thân, a gwnânt arnat farnedigaethau yng ngolwg gwragedd lawer: a mi a wnaf i ti beidio â phuteinio, a hefyd ni roddi wobr mwy. 42 Felly y llonyddaf fy llid i’th erbyn, a symud fy eiddigedd oddi wrthyt; mi a lonyddaf hefyd, ac ni ddigiaf mwy. 43 Am na chofiaist ddyddiau dy ieuenctid, ond anogaist fi i lid yn hyn oll; am hynny wele, myfi a roddaf dy ffordd ar dy ben, medd yr Arglwydd Dduw: fel na wnelych yr ysgelerder hyn am ben dy holl ffieidd‐dra.
44 Wele, pob diarhebydd a ddiarheba amdanat, gan ddywedyd, Fel y fam y mae y ferch. 45 Merch dy fam, yr hon a ffieiddiodd ei gŵr a’i meibion, ydwyt ti; a chwaer dy chwiorydd ydwyt, y rhai a ffieiddiasant eu gwŷr a’u meibion: eich mam oedd Hittees, a’ch tad yn Amoriad. 46 A’th chwaer hynaf yw Samaria, hi a’i merched yn trigo ar dy law aswy a’th chwaer ieuangach na thi, yr hon sydd yn trigo ar dy law ddeau, yw Sodom a’i merched. 47 Eto ni rodiaist yn eu ffyrdd hwynt, ac nid yn ôl eu ffieidd‐dra hwynt y gwnaethost: megis petai hynny ychydig bach, ymlygraist yn fwy na hwy yn dy holl ffyrdd. 48 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni wnaeth Sodom dy chwaer, na hi na’i merched, fel y gwnaethost ti a’th ferched. 49 Wele, hyn oedd anwiredd dy chwaer Sodom, Balchder, digonedd bara, ac amlder o seguryd oedd ynddi ac yn ei merched, ac ni chryfhaodd hi law yr anghenog a’r tlawd. 50 A hwy a ymddyrchafasant, ac a wnaethant ffieidd‐dra o’m blaen i: am hynny y symudais hwynt, fel y gwelais yn dda. 51 Samaria hefyd ni phechodd fel hanner dy bechod di; ond tydi a amlheaist dy ffieidd‐dra yn fwy na hwynt, ac a gyfiawnheaist dy chwiorydd yn dy holl ffieidd‐dra a wnaethost. 52 Tithau yr hon a fernaist ar dy chwiorydd, dwg dy waradwydd am dy bechodau y rhai a wnaethost yn ffieiddiach na hwynt: cyfiawnach ydynt na thi: cywilyddia dithau, a dwg dy waradwydd, gan gyfiawnhau ohonot dy chwiorydd. 53 Pan ddychwelwyf eu caethiwed hwynt, caethiwed Sodom a’i merched, a chaethiwed Samaria a’i merched, yna y dychwelaf gaethiwed dy gaethion dithau a’th ferched yn eu canol hwynt: 54 Fel y dygech dy warth, ac y’th waradwydder, am yr hyn oll a wnaethost, gan gysuro ohonot hwynt. 55 Pan ddychwelo dy chwiorydd, Sodom a’i merched, i’w hen gyflwr, a phan ddychwelo Samaria a’i merched i’w hen gyflwr, yna tithau a’th ferched a ddychwelwch i’ch hen gyflwr. 56 Canys nid oedd mo’r sôn am Sodom dy chwaer yn dy enau yn nydd dy falchder, 57 Cyn datguddio dy ddrygioni, megis yn amser dy waradwydd gan ferched Syria, a’r holl rai o’i hamgylch, merched y Philistiaid, y rhai a’th ddiystyrant o bob parth. 58 Dy ysgelerder, a’th ffieidd‐dra hefyd, ti a’u dygaist hwynt, medd yr Arglwydd. 59 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Felly y gwnaf â thi fel y gwnaethost, yr hon a ddiystyraist lw, i ddiddymu’r cyfamod.
60 Eto mi a gofiaf fy nghyfamod â thi yn nyddiau dy ieuenctid, ac a sicrhaf i ti gyfamod tragwyddol. 61 Yna y cofi dy ffyrdd, ac y cywilyddi, pan dderbyniech dy chwiorydd hŷn na thi, gyda’r rhai ieuangach na thi: a rhoddaf hwynt yn ferched i ti, a hynny nid wrth dy amod di. 62 A mi a sicrhaf fy nghyfamod â thi; a chei wybod mai myfi yw yr Arglwydd: 63 Fel y cofiech di, ac y cywilyddiech, ac na byddo i ti mwy agoryd safn gan dy waradwydd, pan ddyhudder fi tuag atat, am yr hyn oll a wnaethost, medd yr Arglwydd Dduw.
17 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 2 Mab dyn, traetha ddychymyg, a diarheba ddihareb wrth dŷ Israel, 3 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Eryr mawr, mawr ei adenydd, hir ei asgell, llawn plu, yr hwn oedd iddo amryw liwiau, a ddaeth i Libanus, ac a gymerth frigyn uchaf y gedrwydden. 4 Torrodd frig ei blagur hi, ac a’i dug i dir marsiandïaeth: yn ninas marchnadyddion y gosododd efe ef. 5 A chymerth o had y tir, ac a’i bwriodd mewn maes ffrwythlon; efe a’i gosododd ef wrth ddyfroedd lawer, ac a’i plannodd fel helygen. 6 Ac efe a dyfodd, ac a aeth yn winwydden wasgarog, isel o dwf, a’i changau yn troi ato ef; a’i gwraidd oedd dano ef: felly yr aeth yn winwydden, ac y dug geinciau, ac y bwriodd frig. 7 Yr oedd hefyd ryw eryr mawr, mawr ei esgyll, ac â llawer o blu: ac wele y winwydden hon yn plygu ei gwraidd tuag ato ef, ac yn bwrw ei cheinciau tuag ato, i’w dyfrhau ar hyd rhigolau ei phlaniad. 8 Mewn maes da wrth ddyfroedd lawer y planasid hi, i fwrw brig, ac i ddwyn ffrwyth, fel y byddai yn winwydden hardd‐deg. 9 Dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: A lwydda hi? oni thyn efe ei gwraidd hi? ac oni thyr efe ei ffrwyth hi, fel y gwywo? sych holl ddail ei brig, ac nid trwy fraich mawr, na thrwy bobl lawer, i’w thynnu hi o’i gwraidd. 10 Ie, wele, wedi ei phlannu, a lwydda hi? gan wywo oni wywa, pan gyffyrddo gwynt y dwyrain â hi? yn rhigolau ei thwf y gwywa.
11 Daeth hefyd air yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 12 Dywed yr awr hon wrth y tŷ gwrthryfelgar, Oni wyddoch beth yw hyn? dywed, Wele, daeth brenin Babilon i Jerwsalem, ac efe a gymerodd ei brenin hi, a’i thywysogion, ac a’u dug hwynt gydag ef i Babilon: 13 Ac a gymerodd o’r had brenhinol, ac a wnaeth ag ef gyfamod, ac a’i dug ef dan lw; cymerodd hefyd gedyrn y wlad: 14 Fel y byddai y deyrnas yn isel, heb ymddyrchafu, eithr sefyll ohoni trwy gadw ei gyfamod ef. 15 Ond gwrthryfelodd i’w erbyn, gan anfon ei genhadau i’r Aifft, fel y rhoddid iddo feirch, a phobl lawer. A lwydda efe? a ddianc yr hwn a wnelo hyn? neu a ddiddyma efe y cyfamod, ac a waredir ef? 16 Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, yng nghartref y brenin yr hwn a’i gwnaeth ef yn frenin, yr hwn y diystyrodd efe ei lw, a’r hwn y diddymodd efe ei gyfamod, gydag ef y bydd efe farw yng nghanol Babilon. 17 Ac ni wna Pharo â’i lu mawr, ac â’i fintai luosog, ddim gydag ef mewn rhyfel, wrth godi clawdd, ac wrth adeiladu cestyll, i dorri ymaith lawer einioes. 18 Gan ddiystyru ohono y llw, gan ddiddymu y cynghrair, (canys wele, efe a roddasai ei law,) a gwneuthur ohono hynny oll, ni ddianc. 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Fel mai byw fi, fy llw yr hwn a ddiystyrodd efe, a’m cyfamod yr hwn a ddiddymodd efe, hwnnw a roddaf fi ar ei ben ef. 20 Canys taenaf fy rhwyd arno, ac efe a ddelir yn fy rhwyd, a dygaf ef i Babilon, ac yno yr ymddadleuaf ag ef am ei gamwedd a wnaeth i’m herbyn. 21 A’i holl ffoaduriaid ynghyd â’i holl fyddinoedd a syrthiant gan y cleddyf, a’r gweddill a wasgerir gyda phob gwynt; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a’i lleferais.
22 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Mi a gymeraf hefyd frig y gedrwydden uchel, ac a’i gosodaf: o frig ei blagur y torraf un tyner, a mi a’i plannaf ar fynydd uchel a dyrchafedig. 23 Ar fynydd uchelder Israel y plannaf ef: ac efe a fwrw frig, ac a ddwg ffrwyth, ac a fydd yn gedrwydden hardd‐deg: a phob aderyn o bob rhyw asgell a drig dani; dan gysgod ei changhennau y trigant. 24 A holl brennau y maes a gânt wybod mai myfi yr Arglwydd a ostyngais y pren uchel, ac a ddyrchefais y pren isel; a sychais y pren ir, ac a ireiddiais y pren crin: myfi yr Arglwydd a’i lleferais, ac a’i gwneuthum.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.