Chronological
37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r Arglwydd ei orchymyn? 38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? 39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? 40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41 Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44 Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45 Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52 Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.
55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62 Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63 Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.
64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.
4 Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol. 2 Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo’r crochenydd! 3 Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i’w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch. 4 Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt. 5 Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd. 6 Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni. 7 Purach oedd ei Nasareaid hi na’r eira, gwynnach oeddynt na’r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na’r cwrel, a’u trwsiad oedd o saffir. 8 Duach yw yr olwg arnynt na’r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn; gwywodd, aeth yn debyg i bren. 9 Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na’r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes. 10 Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl. 11 Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi. 12 Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a’r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.
13 Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o’i mewn hi; 14 Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â’u dillad hwynt. 15 Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach. 16 Soriant yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr. 17 Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub. 18 Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni. 19 Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch. 20 Anadl ein ffroenau, eneiniog yr Arglwydd, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.
21 Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.
22 Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â’th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.
5 Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd. 2 Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid. 3 Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon. 4 Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth. 5 Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni. 6 Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara. 7 Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt. 8 Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt. 9 Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch. 10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost. 11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda. 12 Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr. 13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed. 14 Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd. 15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom! 17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd. 20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau? 21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 22 Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.