Chronological
35 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd, yn nyddiau Jehoiacim mab Joseia brenhin Jwda, gan ddywedyd, 2 Dos di i dŷ y Rechabiaid, a llefara wrthynt, a phâr iddynt ddyfod i dŷ yr Arglwydd, i un o’r ystafelloedd, a dod iddynt win i’w yfed. 3 Yna myfi a gymerais Jaasaneia, mab Jeremeia, mab Habasineia, a’i frodyr, a’i holl feibion, a holl deulu y Rechabiaid; 4 A mi a’u dygais hwynt i dŷ yr Arglwydd, i ystafell meibion Hanan mab Igdaleia, gŵr i Dduw, yr hon oedd wrth ystafell y tywysogion, yr hon sydd goruwch ystafell Maaseia mab Salum, ceidwad y drws. 5 A mi a roddais gerbron meibion tŷ y Rechabiaid ffiolau yn llawn o win, a chwpanau, a mi a ddywedais wrthynt, Yfwch win. 6 Ond hwy a ddywedasant, Nid yfwn ni ddim gwin: oherwydd Jonadab mab Rechab ein tad a roddodd i ni orchymyn, gan ddywedyd, Nac yfwch win, na chwychwi na’ch plant, yn dragywydd: 7 Na adeiledwch dŷ, ac na heuwch had, ac na phlennwch winllan, ac na fydded gennych chwi: ond mewn pebyll y preswyliwch eich holl ddyddiau: fel y byddoch chwi fyw ddyddiau lawer ar wyneb y ddaear, lle yr ydych yn ddieithriaid. 8 A nyni a wrandawsom ar lais Jonadab mab Rechab ein tad, am bob peth a orchmynnodd efe i ni; nad yfem ni win ein holl ddyddiau, nyni, ein gwragedd, ein meibion, a’n merched; 9 Ac nad adeiladem i ni dai i’w preswylio; ac nid oes gennym na gwinllan, na maes, na had: 10 Eithr trigo a wnaethom mewn pebyll, a gwrando, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd Jonadab ein tad i ni. 11 Ond pan ddaeth Nebuchodonosor brenin Babilon i fyny i’r wlad, nyni a ddywedasom, Deuwch, ac awn i Jerwsalem, rhag llu y Caldeaid, a rhag llu yr Asyriaid: ac yn Jerwsalem yr ydym ni yn preswylio.
12 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 13 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Dos, a dywed wrth wŷr Jwda, ac wrth breswylwyr Jerwsalem, Oni chymerwch chwi addysg i wrando ar fy ngeiriau? medd yr Arglwydd. 14 Geiriau Jonadab mab Rechab, y rhai a orchmynnodd efe i’w feibion, nad yfent win, a gyflawnwyd: canys nid yfant hwy win hyd y dydd hwn; ond hwy a wrandawant ar orchymyn eu tad: a minnau a ddywedais wrthych chwi, gan godi yn fore, a llefaru; ond ni wrandawsoch arnaf. 15 Myfi a anfonais hefyd atoch chwi fy holl weision y proffwydi, gan godi yn fore, ac anfon, gan ddywedyd, Dychwelwch yn awr bawb oddi wrth ei ffordd ddrwg, a gwellhewch eich gweithredoedd, ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu hwynt; a chwi a drigwch yn y wlad yr hon a roddais i chwi ac i’ch tadau: ond ni ogwyddasoch eich clustiau, ac ni wrandawsoch arnaf. 16 Gan i feibion Jonadab mab Rechab gyflawni gorchymyn eu tad, yr hwn a orchmynnodd efe iddynt; ond y bobl yma ni wrandawsant arnaf fi: 17 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Wele fi yn dwyn ar Jwda, ac ar holl drigolion Jerwsalem, yr holl ddrwg a leferais yn eu herbyn: oherwydd i mi ddywedyd wrthynt, ond ni wrandawsant; a galw arnynt, ond nid atebasant.
18 A Jeremeia a ddywedodd wrth dylwyth y Rechabiaid, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Oherwydd i chwi wrando ar orchymyn Jonadab eich tad, a chadw ei holl orchmynion ef, a gwneuthur yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd efe i chwi: 19 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Ni phalla i Jonadab mab Rechab ŵr i sefyll ger fy mron i yn dragywydd.
36 Ac yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 2 Cymer i ti blyg llyfr, ac ysgrifenna ynddo yr holl eiriau a leferais i wrthyt yn erbyn Israel, ac yn erbyn Jwda, ac yn erbyn yr holl genhedloedd, o’r dydd y lleferais i wrthyt ti, er dyddiau Joseia hyd y dydd hwn. 3 Fe allai pan glywo tŷ Jwda yr holl ddrwg yr ydwyf fi yn amcanu ei wneuthur iddynt, y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus, fel y maddeuwyf eu hanwiredd a’u pechod. 4 Yna Jeremeia a alwodd Baruch mab Nereia; a Baruch a ysgrifennodd o enau Jeremeia holl eiriau yr Arglwydd, y rhai a lefarasai efe wrtho, mewn plyg llyfr. 5 A Jeremeia a orchmynnodd i Baruch, gan ddywedyd, Caewyd arnaf fi, ni allaf fi fyned i dŷ yr Arglwydd. 6 Am hynny dos di, a darllen o’r llyfr a ysgrifennaist o’m genau, eiriau yr Arglwydd, lle y clywo y bobl, yn nhŷ yr Arglwydd, ar y dydd ympryd; a lle y clywo holl Jwda hefyd, y rhai a ddelont o’u dinasoedd, y darlleni di hwynt. 7 Fe allai y daw eu gweddi hwynt gerbron yr Arglwydd, ac y dychwelant bob un o’i ffordd ddrygionus: canys mawr yw y llid a’r digofaint a draethodd yr Arglwydd yn erbyn y bobl hyn. 8 Felly Baruch mab Nereia a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Jeremeia y proffwyd iddo, gan ddarllen o’r llyfr eiriau yr Arglwydd yn nhŷ yr Arglwydd. 9 Ac yn y bumed flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, ar y nawfed mis, y cyhoeddasant ympryd gerbron yr Arglwydd, i’r holl bobl yn Jerwsalem, ac i’r holl bobl a ddaethent o ddinasoedd Jwda i Jerwsalem. 10 Yna Baruch a ddarllenodd o’r llyfr eiriau Jeremeia, yn nhŷ yr Arglwydd, yn ystafell Gemareia mab Saffan yr ysgrifennydd, yn y cyntedd uchaf, wrth ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd, lle y clybu yr holl bobl.
11 Pan glybu Michaia mab Gemareia, mab Saffan, holl eiriau yr Arglwydd allan o’r llyfr, 12 Yna efe a aeth i waered i dŷ y brenin i ystafell yr ysgrifennydd: ac wele, yr holl dywysogion oedd yno yn eistedd; sef Elisama yr ysgrifennydd, a Delaia mab Semaia, ac Elnathan mab Achbor, a Gemareia mab Saffan, a Sedeceia mab Hananeia, a’r holl dywysogion. 13 A Michaia a fynegodd iddynt yr holl eiriau a glywsai efe pan ddarllenasai Baruch y llyfr lle y clybu y bobl. 14 Yna yr holl dywysogion a anfonasant Jehudi mab Nethaneia, mab Selemeia, mab Cusi, at Baruch, gan ddywedyd, Cymer yn dy law y llyfr y darllenaist allan ohono lle y clybu y bobl, a thyred. Felly Baruch mab Nereia a gymerodd y llyfr yn ei law, ac a ddaeth atynt. 15 A hwy a ddywedasant wrtho, Eistedd yn awr, a darllen ef lle y clywom ni. Felly Baruch a’i darllenodd lle y clywsant hwy. 16 A phan glywsant yr holl eiriau, hwy a ofnasant bawb gyda’i gilydd; a hwy a ddywedasant wrth Baruch, Gan fynegi mynegwn yr holl eiriau hyn i’r brenin. 17 A hwy a ofynasant i Baruch, gan ddywedyd, Mynega i ni yn awr, Pa fodd yr ysgrifennaist ti yr holl eiriau hyn o’i enau ef? 18 Yna Baruch a ddywedodd wrthynt, Efe a draethodd yr holl eiriau hyn wrthyf fi â’i enau, a minnau a’u hysgrifennais hwynt yn y llyfr ag inc. 19 Yna y tywysogion a ddywedasant wrth Baruch, Dos ac ymguddia, ti a Jeremeia; ac na wyped neb pa le y byddoch chwi.
20 A hwy a aethant at y brenin i’r cyntedd, (ond hwy a gadwasant y llyfr yn ystafell Elisama yr ysgrifennydd,) ac a fynegasant yr holl eiriau lle y clybu y brenin. 21 A’r brenin a anfonodd Jehudi i gyrchu y llyfr. Ac efe a’i dug ef o ystafell Elisama yr ysgrifennydd. A Jehudi a’i darllenodd lle y clybu y brenin, a lle y clybu yr holl dywysogion oedd yn sefyll yn ymyl y brenin. 22 A’r brenin oedd yn eistedd yn y gaeafdy, yn y nawfed mis; a thân wedi ei gynnau ger ei fron. 23 A phan ddarllenasai Jehudi dair dalen neu bedair, yna efe a’i torrodd â chyllell ysgrifennydd, ac a’i bwriodd i’r tân oedd yn yr aelwyd, nes darfod o’r holl lyfr gan y tân oedd ar yr aelwyd. 24 Eto nid ofnasant, ac ni rwygasant eu dillad, na’r brenin, nac yr un o’i weision y rhai a glywsant yr holl eiriau hyn. 25 Eto Elnathan, a Delaia, a Gemareia, a ymbiliasant â’r brenin na losgai efe y llyfr; ond ni wrandawai efe arnynt. 26 Ond y brenin a orchmynnodd i Jerahmeel mab Hammelech, a Seraia mab Asriel, a Selemeia mab Abdiel, ddala Baruch yr ysgrifennydd, a Jeremeia y proffwyd: ond yr Arglwydd a’u cuddiodd hwynt.
27 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, (wedi i’r brenin losgi y llyfr, a’r geiriau a ysgrifenasai Baruch o enau Jeremeia,) gan ddywedyd, 28 Cymer i ti eto lyfr arall, ac ysgrifenna arno yr holl eiriau cyntaf y rhai oedd yn y llyfr cyntaf, yr hwn a losgodd Jehoiacim brenin Jwda: 29 A dywed wrth Jehoiacim brenin Jwda, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Ti a losgaist y llyfr hwn, gan ddywedyd, Paham yr ysgrifennaist ynddo, gan ddywedyd, Diau y daw brenin Babilon, ac a anrheithia y wlad hon; ac efe a wna i ddyn ac i anifail ddarfod ohoni? 30 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd am Jehoiacim brenin Jwda; Ni bydd iddo ef a eisteddo ar frenhinfainc Dafydd: a’i gelain ef a fwrir allan i wres y dydd, ac i rew y nos. 31 A mi a ymwelaf ag ef, ac â’i had, ac â’i weision, am eu hanwiredd; a mi a ddygaf arnynt hwy, ac ar drigolion Jerwsalem, ac ar wŷr Jwda, yr holl ddrwg a leferais i’w herbyn, ond ni wrandawsant.
32 Yna Jeremeia a gymerth lyfr arall, ac a’i rhoddodd at Baruch mab Nereia yr ysgrifennydd; ac efe a ysgrifennodd ynddo o enau Jeremeia holl eiriau y llyfr a losgasai Jehoiacim brenin Jwda yn tân: a chwanegwyd atynt eto eiriau lawer fel hwythau.
37 A’r brenin Sedeceia mab Joseia a deyrnasodd yn lle Coneia mab Jehoiacim, yr hwn a wnaeth Nebuchodonosor brenin Babilon yn frenin yng ngwlad Jwda. 2 Ond ni wrandawodd efe, na’i weision na phobl y tir, ar eiriau yr Arglwydd, y rhai a draethodd efe trwy law Jeremeia y proffwyd. 3 A’r brenin Sedeceia a anfonodd Jehucal mab Selemeia, a Seffaneia mab Maaseia yr offeiriad, at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Gweddïa, atolwg, drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw. 4 A Jeremeia oedd yn myned i mewn ac allan ymysg y bobl: canys ni roddasent hwy ef eto yn y carchardy. 5 A llu Pharo a ddaethai allan o’r Aifft: a phan glybu y Caldeaid oedd yn gwarchae ar Jerwsalem sôn amdanynt, hwy a aethant ymaith oddi wrth Jerwsalem.
6 Yna gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, 7 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel; Fel hyn y dywedwch chwi wrth frenin Jwda, yr hwn a’ch anfonodd chwi ataf fi i ymofyn â mi; Wele, llu Pharo, yr hwn a ddaeth allan yn gynhorthwy i chwi, a ddychwel i’w wlad ei hun, i’r Aifft. 8 A’r Caldeaid a ddychwelant, ac a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, ac a’i henillant, ac a’i llosgant â thân. 9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Na thwyllwch eich hunain, gan ddywedyd, Diau yr â y Caldeaid oddi wrthym ni: oblegid nid ânt hwy. 10 Canys pe trawech chwi holl lu y Caldeaid y rhai sydd yn rhyfela i’ch erbyn; fel na weddillid ohonynt ond gwŷr archolledig, eto hwy a gyfodent bob un yn ei babell, ac a losgent y ddinas hon â thân.
11 A phan aeth llu y Caldeaid ymaith oddi wrth Jerwsalem, rhag llu Pharo, 12 Yna Jeremeia a aeth allan o Jerwsalem, i fyned i wlad Benjamin, i ymlithro oddi yno yng nghanol y bobl. 13 A phan oedd efe ym mhorth Benjamin, yr oedd yno ben‐swyddog, a’i enw ef oedd Ireia, mab Selemeia, mab Hananeia; ac efe a ddaliodd Jeremeia y proffwyd, gan ddywedyd, Cilio at y Caldeaid yr wyt ti. 14 Yna y dywedodd Jeremeia, Nid gwir; nid ydwyf fi yn cilio at y Caldeaid. Ond ni wrandawai efe arno: felly Ireia a ymaflodd yn Jeremeia, ac a’i dygodd ef at y tywysogion. 15 Am hynny y tywysogion a ddigiasant wrth Jeremeia, ac a’i trawsant, ac a’i rhoddasant yn y carchardy yn nhŷ Jonathan yr ysgrifennydd: oherwydd hwnnw a wnaethent hwy yn garchardy.
16 Pan ddaeth Jeremeia i’r daeardy, ac i’r cabanau, ac wedi i Jeremeia aros yno ddyddiau lawer; 17 Yna y brenin Sedeceia a anfonodd, ac a’i cymerodd ef allan: a’r brenin a ofynnodd iddo yn gyfrinachol yn ei dŷ ei hun, ac a ddywedodd, A oes gair oddi wrth yr Arglwydd? A dywedodd Jeremeia, Oes; canys tydi (eb efe) a roddir yn llaw brenin Babilon. 18 Jeremeia hefyd a ddywedodd wrth y brenin Sedeceia, Pa bechod a wneuthum i i’th erbyn di, neu yn erbyn dy weision, neu yn erbyn y bobl hyn, pan y’m rhoddasoch yn y carchardy? 19 Pa le y mae eich proffwydi a broffwydasant i chwi, gan ddywedyd, Ni ddaw brenin Babilon i’ch erbyn, nac yn erbyn y wlad hon? 20 Ac yn awr gwrando, atolwg, O fy arglwydd frenin: atolwg, deued fy ngweddi ger dy fron; fel na pharech i mi ddychwelyd i dŷ Jonathan yr ysgrifennydd, rhag fy marw yno. 21 Yna y brenin Sedeceia a orchmynnodd iddynt hwy roddi Jeremeia yng nghyntedd y carchardy, a rhoddi iddo ef deisen o fara beunydd o heol y pobyddion, nes darfod yr holl fara yn y ddinas. Felly Jeremeia a arhosodd yng nghyntedd y carchardy.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.