Chronological
41 Ac yn y seithfed mis daeth Ismael mab Nethaneia mab Elisama o’r had brenhinol, a phendefigion y brenin, sef dengwr gydag ef, at Gedaleia mab Ahicam i Mispa: a hwy a fwytasant yno fara ynghyd ym Mispa. 2 Ac Ismael mab Nethaneia a gyfododd, efe a’r dengwr oedd gydag ef, ac a drawsant Gedaleia mab Ahicam mab Saffan â’r cleddyf, ac a’i lladdasant ef, yr hwn a osodasai brenin Babilon yn llywydd ar y wlad. 3 Ismael hefyd a laddodd yr holl Iddewon oedd gydag ef, sef gyda Gedaleia, ym Mispa, a’r Caldeaid y rhai a gafwyd yno, y rhyfelwyr. 4 A’r ail ddydd wedi iddo ef ladd Gedaleia, heb neb yn gwybod, 5 Yna y daeth gwŷr o Sichem, o Seilo, ac o Samaria, sef pedwar ugeinwr, wedi eillio eu barfau, a rhwygo eu dillad, ac ymdorri, ag offrymau ac â thus yn eu dwylo, i’w dwyn i dŷ yr Arglwydd. 6 Ac Ismael mab Nethaneia a aeth allan o Mispa i’w cyfarfod hwynt, gan gerdded rhagddo, ac wylo; a phan gyfarfu efe â hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Deuwch at Gedaleia mab Ahicam. 7 A phan ddaethant hwy i ganol y ddinas, yna Ismael mab Nethaneia a’u lladdodd hwynt, ac a’u bwriodd i ganol y pydew, efe a’r gwŷr oedd gydag ef. 8 Ond dengwr a gafwyd yn eu mysg hwynt, y rhai a ddywedasant wrth Ismael, Na ladd ni: oblegid y mae gennym ni drysor yn y maes, o wenith, ac o haidd, ac o olew, ac o fêl. Felly efe a beidiodd, ac ni laddodd hwynt ymysg eu brodyr. 9 A’r pydew i’r hwn y bwriodd Ismael holl gelaneddau y gwŷr a laddasai efe er mwyn Gedaleia, yw yr hwn a wnaethai y brenin Asa, rhag ofn Baasa brenin Israel: hwnnw a ddarfu i Ismael mab Nethaneia ei lenwi â’r rhai a laddasid. 10 Yna Ismael a gaethgludodd holl weddill y bobl y rhai oedd ym Mispa, sef merched y brenin, a’r holl bobl y rhai a adawsid ym Mispa, ar y rhai y gosodasai Nebusaradan pennaeth y milwyr Gedaleia mab Ahicam yn llywydd: ac Ismael mab Nethaneia a’u caethgludodd hwynt, ac a ymadawodd i fyned drosodd at feibion Ammon.
11 Ond pan glybu Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yr holl ddrwg a wnaethai Ismael mab Nethaneia; 12 Yna hwy a gymerasant eu holl wŷr, ac a aethant i ymladd ag Ismael mab Nethaneia, ac a’i cawsant ef wrth y dyfroedd mawrion y rhai sydd yn Gibeon. 13 A phan welodd yr holl bobl, y rhai oedd gydag Ismael, Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, yna hwy a lawenychasant. 14 Felly yr holl bobl, y rhai a gaethgludasai Ismael ymaith o Mispa, a droesant ac a ddychwelasant, ac a aethant at Johanan mab Carea. 15 Ond Ismael mab Nethaneia a ddihangodd, ynghyd ag wythnyn, oddi gan Johanan, ac a aeth at feibion Ammon. 16 Yna Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, a gymerasant holl weddill y bobl, y rhai a ddygasai efe yn eu hôl oddi ar Ismael mab Nethaneia, o Mispa, (wedi iddo ef ladd Gedaleia mab Ahicam,) sef cedyrn ryfelwyr, a’r gwragedd, a’r plant, a’r ystafellyddion, y rhai a ddygasai efe o Gibeon. 17 A hwy a aethant oddi yno, ac a eisteddasant yn nhrigfa Chimham, yn agos at Bethlehem, i fyned i’r Aifft, 18 Rhag y Caldeaid: oherwydd eu bod yn eu hofni hwynt, am i Ismael mab Nethaneia ladd Gedaleia mab Ahicam, yr hwn a roddasai brenin Babilon yn llywydd yn y wlad.
42 Felly holl dywysogion y llu, a Johanan mab Carea, a Jesaneia mab Hosaia, a’r holl bobl, o fychan hyd fawr, a nesasant, 2 Ac a ddywedasant wrth Jeremeia y proffwyd, Atolwg, gwrando ein deisyfiad ni, a gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd dy Dduw, sef dros yr holl weddill hyn; (canys nyni a adawyd o lawer yn ychydig, fel y mae dy lygaid yn ein gweled ni;) 3 Fel y dangoso yr Arglwydd dy Dduw i ni y ffordd y mae i ni rodio ynddi, a’r peth a wnelom. 4 Yna Jeremeia y proffwyd a ddywedodd wrthynt, Myfi a’ch clywais chwi; wele, mi a weddïaf ar yr Arglwydd eich Duw yn ôl eich geiriau chwi, a pheth bynnag a ddywedo yr Arglwydd amdanoch, myfi a’i mynegaf i chwi: nid ataliaf ddim oddi wrthych. 5 A hwy a ddywedasant wrth Jeremeia, Yr Arglwydd fyddo dyst cywir a ffyddlon rhyngom ni, onis gwnawn yn ôl pob gair a anfono yr Arglwydd dy Dduw gyda thi atom ni. 6 Os da neu os drwg fydd, ar lais yr Arglwydd ein Duw, yr hwn yr ydym ni yn dy anfon ato, y gwrandawn ni; fel y byddo da i ni, pan wrandawom ar lais yr Arglwydd ein Duw.
7 Ac ymhen y deng niwrnod y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia. 8 Yna efe a alwodd ar Johanan mab Carea, ac ar holl dywysogion y llu y rhai oedd gydag ef, ac ar yr holl bobl o fychan hyd fawr, 9 Ac a ddywedodd wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, yr hwn yr anfonasoch fi ato i roddi i lawr eich gweddïau ger ei fron ef; 10 Os trigwch chwi yn wastad yn y wlad hon, myfi a’ch adeiladaf chwi, ac nis tynnaf i lawr, myfi a’ch plannaf chwi, ac nis diwreiddiaf: oblegid y mae yn edifar gennyf am y drwg a wneuthum i chwi. 11 Nac ofnwch rhag brenin Babilon, yr hwn y mae arnoch ei ofn; nac ofnwch ef, medd yr Arglwydd: canys myfi a fyddaf gyda chwi i’ch achub, ac i’ch gwaredu chwi o’i law ef. 12 A mi a roddaf i chwi drugaredd, fel y trugarhao efe wrthych, ac y dygo chwi drachefn i’ch gwlad eich hun.
13 Ond os dywedwch, Ni thrigwn ni yn y wlad hon, heb wrando ar lais yr Arglwydd eich Duw, 14 Gan ddywedyd, Nage: ond i wlad yr Aifft yr awn ni, lle ni welwn ryfel, ac ni chlywn sain utgorn, ac ni bydd arnom newyn bara, ac yno y trigwn ni: 15 Am hynny, O gweddill Jwda, gwrandewch yn awr air yr Arglwydd Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Os chwi gan osod a osodwch eich wynebau i fyned i’r Aifft, ac a ewch i ymdeithio yno, 16 Yna y bydd i’r cleddyf, yr hwn yr ydych yn ei ofni, eich goddiwes chwi yno yn nhir yr Aifft; a’r newyn yr hwn yr ydych yn gofalu rhagddo, a’ch dilyn chwi yn yr Aifft; ac yno y byddwch feirw. 17 Felly y bydd i’r holl wŷr a osodasant eu hwynebau i fyned i’r Aifft, i aros yno, hwy a leddir â’r cleddyf, â newyn, ac â haint: ac ni bydd un ohonynt yng ngweddill, neu yn ddihangol, gan y dialedd a ddygaf fi arnynt. 18 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Megis y tywalltwyd fy llid a’m digofaint ar breswylwyr Jerwsalem; felly y tywelltir fy nigofaint arnoch chwithau, pan ddeloch i’r Aifft: a chwi a fyddwch yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth, ac ni chewch weled y lle hwn mwyach.
19 O gweddill Jwda, yr Arglwydd a ddywedodd amdanoch, Nac ewch i’r Aifft: gwybyddwch yn hysbys i mi eich rhybuddio chwi heddiw. 20 Canys rhagrithiasoch yn eich calonnau, wrth fy anfon i at yr Arglwydd eich Duw, gan ddywedyd, Gweddïa drosom ni ar yr Arglwydd ein Duw, a mynega i ni yn ôl yr hyn oll a ddywedo yr Arglwydd ein Duw, a nyni a’i gwnawn. 21 A mi a’i mynegais i chwi heddiw, ond ni wrandawsoch ar lais yr Arglwydd eich Duw, nac ar ddim oll a’r y danfonodd efe fi atoch o’i blegid. 22 Ac yn awr gwybyddwch yn hysbys, mai trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint, y byddwch chwi feirw yn y lle yr ydych yn ewyllysio myned i ymdeithio ynddo.
43 A phan ddarfu i Jeremeia lefaru wrth yr holl bobl holl eiriau yr Arglwydd eu Duw, am y rhai yr anfonasai yr Arglwydd eu Duw ef atynt, sef yr holl eiriau hyn: 2 Yna y llefarodd Asareia mab Hosaia, a Johanan mab Carea, a’r holl ddynion beilchion, gan ddywedyd wrth Jeremeia, Celwydd yr wyt ti yn ei ddywedyd; ni anfonodd yr Arglwydd ein Duw ni mohonot ti i ddywedyd, Nac ewch i’r Aifft i ymdeithio yno. 3 Eithr Baruch mab Nereia a’th anogodd di i’n herbyn ni, i gael ein rhoddi ni yn llaw y Caldeaid, i’n lladd, ac i’n caethgludo i Babilon. 4 Ond ni wrandawodd Johanan mab Carea, na holl dywysogion y llu, na’r holl bobl, ar lais yr Arglwydd, i drigo yn nhir Jwda: 5 Eithr Johanan mab Carea, a holl dywysogion y llu, a ddygasant ymaith holl weddill Jwda, y rhai a ddychwelasant oddi wrth yr holl genhedloedd lle y gyrasid hwynt, i aros yng ngwlad Jwda; 6 Yn wŷr, a gwragedd, a phlant, a merched y brenin, a phob enaid a’r a adawsai Nebusaradan pennaeth y milwyr gyda Gedaleia mab Ahicam mab Saffan, y proffwyd Jeremeia hefyd, a Baruch mab Nereia. 7 Felly hwy a ddaethant i wlad yr Aifft: canys ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd; fel hyn y daethant i Tapanhes.
8 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia yn Tapanhes, gan ddywedyd, 9 Cymer yn dy law gerrig mawrion, a chuddia hwynt yn y clai yn yr odyn briddfaen, yr hon sydd yn nrws tŷ Pharo, yn Tapanhes, yng ngolwg gwŷr Jwda; 10 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, mi a anfonaf, ac a gymeraf Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, ac a osodaf ei frenhinfainc ef ar y cerrig hyn y rhai a guddiais, ac efe a daena ei frenhinol babell arnynt. 11 A phan ddelo, efe a dery wlad yr Aifft; y rhai sydd i angau, ag angau; a’r rhai sydd i gaethiwed, â chaethiwed; a’r rhai sydd i’r cleddyf, â’r cleddyf. 12 A mi a gyneuaf dân yn nhai duwiau yr Aifft, ac efe a’u llysg hwynt, ac a’u caethgluda hwynt; ac efe a ymwisg â gwlad yr Aifft fel y gwisg bugail ei ddillad: ac efe a â allan oddi yno mewn heddwch. 13 Ac efe a dyr ddelwau tŷ yr haul, yr hwn sydd yng ngwlad yr Aifft; ac efe a lysg dai duwiau yr Aifft â thân.
44 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia, am yr holl Iddewon y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, ac yn preswylio ym Migdol, ac yn Tapanhes, ac yn Noff, ac yng ngwlad Pathros, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Chwi a welsoch yr holl ddrwg a ddygais i ar Jerwsalem, ac ar holl ddinasoedd Jwda; ac wele hwy heddiw yn anghyfannedd, ac heb breswylydd ynddynt: 3 O achos eu drygioni yr hwn a wnaethant i’m digio i, gan fyned i arogldarthu, ac i wasanaethu duwiau dieithr, y rhai nid adwaenent, na hwy, na chwithau, na’ch tadau. 4 Er i mi anfon atoch fy holl weision y proffwydi, gan foregodi, ac anfon, i ddywedyd, Na wnewch, atolwg, y ffieiddbeth hyn, yr hwn sydd gas gennyf fi: 5 Eto ni wrandawsant, ac ni ogwyddasant eu clust, i ddychwelyd oddi wrth eu drygioni, fel nad arogldarthent i dduwiau dieithr. 6 Am hynny y tywalltwyd fy llid a’m digofaint, ac y llosgodd efe yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem; ac y maent hwy yn anghyfannedd, ac yn ddiffeithwch, fel y gwelir heddiw. 7 Ac yn awr fel hyn y dywed Arglwydd Dduw y lluoedd, Duw Israel; Paham y gwnewch y mawr ddrwg hwn yn erbyn eich eneidiau, i dorri ymaith oddi wrthych ŵr a gwraig, plentyn, a’r hwn sydd yn sugno, allan o Jwda, fel na adawer i chwi weddill? 8 Gan fy nigio i â gweithredoedd eich dwylo, gan arogldarthu i dduwiau dieithr yng ngwlad yr Aifft, yr hon yr aethoch i aros ynddi, i’ch difetha eich hunain, ac i fod yn felltith ac yn warth ymysg holl genhedloedd y ddaear. 9 A anghofiasoch chwi ddrygioni eich tadau, a drygioni brenhinoedd Jwda, a drygioni eu gwragedd hwynt, a’ch drygioni eich hunain, a drygioni eich gwragedd, y rhai a wnaethant hwy yng ngwlad Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem? 10 Nid ydynt wedi ymostwng hyd y dydd hwn, ac nid ofnasant, ni rodiasant chwaith yn fy nghyfraith, nac yn fy neddfau, y rhai a roddais i o’ch blaen chwi, ac o flaen eich tadau. 11 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Wele, myfi a osodaf fy wyneb yn eich erbyn chwi er niwed, ac i ddifetha holl Jwda. 12 A mi a gymeraf weddill Jwda, y rhai a osodasant eu hwynebau i fyned i wlad yr Aifft i aros yno, a hwy a ddifethir oll; yng ngwlad yr Aifft y syrthiant: trwy y cleddyf a thrwy newyn y difethir hwynt: o fychan hyd fawr, trwy y cleddyf a thrwy newyn y byddant feirw: a hwy a fyddant yn felltith, ac yn syndod, ac yn rheg, ac yn warth. 13 Canys myfi a ymwelaf â thrigolion gwlad yr Aifft, fel yr ymwelais â Jerwsalem, â chleddyf, â newyn, ac â haint: 14 Fel na byddo un a ddihango, nac a adawer o weddill Jwda, y rhai a aethant i ymdeithio yno i wlad yr Aifft, i ddychwelyd i wlad Jwda, yr hon y mae eu hewyllys ar ddychwelyd i aros ynddi; canys ni ddychwel ond y rhai a ddihangant.
15 Yna yr holl wŷr y rhai a wyddent i’w gwragedd arogldarthu i dduwiau dieithr, a’r holl wragedd y rhai oedd yn sefyll yno, cynulleidfa fawr, yr holl bobl y rhai oedd yn trigo yng ngwlad yr Aifft, yn Pathros, a atebasant Jeremeia, gan ddywedyd, 16 Am y gair a leferaist ti wrthym ni yn enw yr Arglwydd, ni wrandawn ni arnat. 17 Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogldarthu i frenhines y nefoedd, a thywallt iddi hi ddiodydd‐offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhinoedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. 18 Ond er pan beidiasom ag arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac â thywallt diod‐offrwm iddi hi, bu arnom eisiau pob dim: trwy gleddyf hefyd a thrwy newyn y darfuom ni. 19 A phan oeddem ni yn arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac yn tywallt diod‐offrwm iddi; ai heb ein gwŷr y gwnaethom ni iddi hi deisennau i’w haddoli hi, ac y tywalltasom ddiod‐offrwm iddi?
20 Yna Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, wrth y gwŷr, ac wrth y gwragedd, ac wrth yr holl bobl a’i hatebasant ef felly, gan ddywedyd, 21 Oni chofiodd yr Arglwydd yr arogldarth a arogldarthasoch chwi yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, chwychwi a’ch tadau, eich brenhinoedd a’ch tywysogion, a phobl y wlad? ac oni ddaeth yn ei feddwl ef? 22 Fel na allai yr Arglwydd gyd‐ddwyn yn hwy, o achos drygioni eich gweithredoedd, a chan y ffiaidd bethau a wnaethech: am hynny yr aeth eich tir yn anghyfannedd, ac yn syndod, ac yn felltith, heb breswylydd, megis y gwelir y dydd hwn. 23 Oherwydd i chwi arogldarthu, ac am i chwi bechu yn erbyn yr Arglwydd, ac na wrandawsoch ar lais yr Arglwydd, ac na rodiasoch yn ei gyfraith ef, nac yn ei ddeddfau, nac yn ei dystiolaethau; am hynny y digwyddodd i chwi yr aflwydd hwn fel y gwelir heddiw. 24 A Jeremeia a ddywedodd wrth yr holl bobl, ac wrth yr holl wragedd, Gwrandewch air yr Arglwydd, holl Jwda y rhai ydych yng ngwlad yr Aifft. 25 Fel hyn y llefarodd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, gan ddywedyd, Chwychwi a’ch gwragedd a lefarasoch â’ch genau, ac a gyflawnasoch â’ch dwylo, gan ddywedyd, Gan dalu ni a dalwn ein haddunedau y rhai a addunasom, am arogldarthu i frenhines y nefoedd, ac am dywallt diod‐offrwm iddi; llwyr y cwblhewch eich addunedau, a llwyr y telwch yr hyn a addunedasoch. 26 Am hynny gwrandewch air yr Arglwydd, holl Jwda y rhai sydd yn aros yng ngwlad yr Aifft; Wele, myfi a dyngais i’m henw mawr, medd yr Arglwydd, na elwir fy enw i mwyach, o fewn holl wlad yr Aifft yng ngenau un gŵr o Jwda, gan ddywedyd, Byw yw yr Arglwydd Dduw. 27 Wele, mi a wyliaf arnynt hwy er niwed, ac nid er daioni: a holl wŷr Jwda, y rhai sydd yng ngwlad yr Aifft, a ddifethir â’r cleddyf, ac â newyn, hyd oni ddarfyddont. 28 A’r rhai a ddihangant gan y cleddyf, ac a ddychwelant o wlad yr Aifft i wlad Jwda, fyddant ychydig o nifer: a holl weddill Jwda, y rhai a aethant i wlad yr Aifft i aros yno, a gânt wybod gair pwy a saif, ai yr eiddof fi, ai yr eiddynt hwy.
29 A hyn fydd yn arwydd i chwi, medd yr Arglwydd, sef yr ymwelaf â chwi yn y lle hwn, fel y gwypoch y saif fy ngeiriau i’ch erbyn chwi er niwed. 30 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a roddaf Pharo‐hoffra brenin yr Aifft yn llaw ei elynion, ac yn llaw y rhai sydd yn ceisio ei einioes ef, fel y rhoddais i Sedeceia brenin Jwda yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon ei elyn, a’r hwn oedd yn ceisio ei einioes.
45 Y gair yr hwn a lefarodd Jeremeia y proffwyd wrth Baruch mab Nereia, pan ysgrifenasai efe y geiriau hyn o enau Jeremeia mewn llyfr, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyt ti, Baruch; 3 Tydi a ddywedaist, Gwae fi yn awr! canys yr Arglwydd a chwanegodd dristwch ar fy ngofid; myfi a ddiffygiais yn fy ochain, ac nid wyf yn cael gorffwystra.
4 Fel hyn y dywedi wrtho ef, Yr Arglwydd a ddywed fel hyn; Wele, myfi a ddistrywiaf yr hyn a adeiledais, a mi a ddiwreiddiaf yr hyn a blennais, nid amgen yr holl wlad hon. 5 Ac a geisi di fawredd i ti dy hun? Na chais: canys wele, myfi a ddygaf ddrwg ar bob cnawd, medd yr Arglwydd: ond mi a roddaf i ti dy einioes yn ysglyfaeth ym mha le bynnag yr elych di.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.