Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 13-15

13 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, yn erbyn proffwydi Israel, y rhai sydd yn proffwydo, a dywed wrth y rhai a broffwydant o’u calon eu hun, Gwrandewch air yr Arglwydd. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y proffwydi ynfyd, y rhai a rodiant yn ôl eu hysbryd eu hun, ac heb weled dim. Dy broffwydi, Israel, ydynt fel llwynogod yn yr anialwch. Ni safasoch yn yr adwyau, ac ni chaeasoch y cae i dŷ Israel, i sefyll yn y rhyfel ar ddydd yr Arglwydd. Gwagedd a gau ddewiniaeth a welsant, y rhai a ddywedant, Dywedodd yr Arglwydd; a’r Arglwydd heb eu hanfon hwynt: a pharasant i eraill ddisgwyl am gyflawni y gair. Onid ofer weledigaeth a welsoch, a gau ddewiniaeth a draethasoch, pan ddywedasoch, Yr Arglwydd a ddywedodd; a minnau heb ddywedyd? Am hynny, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Am lefaru ohonoch wagedd, a gweled ohonoch gelwydd; am hynny wele fi i’ch erbyn, medd yr Arglwydd Dduw. A bydd fy llaw yn erbyn y proffwydi sydd yn gweled gwagedd, ac yn dewinio celwydd; yng nghyfrinach fy mhobl ni byddant, ac o fewn ysgrifen tŷ Israel nid ysgrifennir hwynt, i dir Israel hefyd ni ddeuant; a gwybyddwch mai myfi yw yr Arglwydd Dduw.

10 O achos, ie, o achos hudo ohonynt fy mhobl, gan ddywedyd, Heddwch; ac nid oedd heddwch; un a adeiladai bared, ac wele eraill yn ei briddo â chlai heb ei dymheru. 11 Dywed wrth y rhai a’i priddant â phridd rhydd, y syrth efe: canys curlaw a fydd, a chwithau gerrig cenllysg a syrthiwch; a gwynt tymhestlog a’i rhwyga. 12 Wele, pan syrthio y pared, oni ddywedir wrthych, Mae y clai â’r hwn y priddasoch ef? 13 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, Minnau a’i rhwygaf â gwynt tymhestlog yn fy llid; a churlaw fydd yn fy nig, a cherrig cenllysg yn fy llidiowgrwydd, i’w ddifetha. 14 Felly y bwriaf i lawr y pared a briddasoch â phridd heb ei dymheru, ac a’i tynnaf hyd lawr, fel y dinoether ei sylfaen, ac efe a syrth, a chwithau a ddifethir yn ei ganol ef; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 15 Fel hyn y gorffennaf fy llid ar y pared, ac ar y rhai a’i priddasant â phridd heb dymheru; a dywedaf wrthych, Y pared nid yw, na’r rhai a’i priddasant: 16 Sef proffwydi Israel, y rhai a broffwydant am Jerwsalem, ac a welant iddi weledigaethau heddwch, ac nid oes heddwch, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Tithau fab dyn, gosod dy wyneb yn erbyn merched dy bobl, y rhai a broffwydant o’u calon eu hun; a phroffwyda yn eu herbyn hwynt, 18 A dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwae y gwniadyddesau clustogau dan holl benelinoedd fy mhobl, a’r rhai a weithiant foledau am ben pob corffolaeth, i hela eneidiau. Ai eneidiau fy mhobl a heliwch chwi, ac a gedwch chwi yn fyw yr eneidiau a ddêl atoch? 19 Ac a halogwch chwi fi ymysg fy mhobl er dyrneidiau o haidd, ac am dameidiau o fara, i ladd yr eneidiau ni ddylent farw, a chadw yn fyw yr eneidiau ni ddylent fyw, gan ddywedyd ohonoch gelwydd wrth fy mhobl, y rhai a wrandawent gelwydd? 20 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn eich clustogau chwi, â’r rhai yr ydych yno yn hela eneidiau, i beri iddynt ehedeg, a rhwygaf hwynt oddi wrth eich breichiau; a gollyngaf yr eneidiau, sef yr eneidiau yr ydych yn eu hela, i beri iddynt ehedeg. 21 Rhwygaf hefyd eich moledau chwi, a gwaredaf fy mhobl o’ch llaw, ac ni byddant mwy yn eich llaw chwi yn helfa; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 22 Am dristáu calon y cyfiawn trwy gelwydd, a minnau heb ei ofidio ef; ac am gadarnhau dwylo yr annuwiol, fel na ddychwelai o’i ffordd ddrygionus, trwy addo iddo einioes; 23 Oherwydd hynny ni welwch wagedd, ac ni ddewiniwch ddewiniaeth mwy; canys gwaredaf fy mhobl o’ch llaw chwi; a chewch wybod mai myfi yw yr Arglwydd.

14 Yna y daeth ataf wŷr o henuriaid Israel, ac a eisteddasant o’m blaen. A daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Y gwŷr hyn, O fab dyn, a ddyrchafasant eu heilunod yn eu calonnau, ac a roddasant dramgwydd eu hanwiredd ar gyfer eu hwynebau: gan ymofyn a ymofyn y cyfryw â myfi? Am hynny ymddiddan â hwynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pob un o dŷ Israel, yr hwn a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddaw at y proffwyd; myfi yr Arglwydd a atebaf yr hwn a ddelo yn ôl amlder ei eilunod, I ddal tŷ Israel yn eu calonnau, am iddynt ymddieithrio oddi wrthyf oll trwy eu heilunod.

Am hynny dywed wrth dŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Trowch, a dychwelwch oddi wrth eich eilunod, a throwch eich wynebau oddi wrth eich holl ffieidd‐dra. Canys pob un o dŷ Israel, ac o’r dieithr a ymdeithio o fewn Israel, a ymneilltuo oddi ar fy ôl i, ac a ddyrchafo ei eilunod yn ei galon, ac a osodo dramgwydd ei anwiredd ar gyfer ei wyneb, ac a ddêl at broffwyd i ymofyn â myfi trwyddo ef; myfi yr Arglwydd a atebaf iddo trwof fy hun. Gosodaf hefyd fy wyneb yn erbyn y gŵr hwnny: a gwnaf ef yn arwydd ac yn ddihareb, a thorraf ef ymaith o fysg fy mhobl; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd. Ac os twyllir y proffwyd pan lefaro air, myfi yr Arglwydd a dwyllodd y proffwyd hwnnw; a mi a estynnaf hefyd fy llaw arno ef, ac a’i difethaf o fysg fy mhobl Israel. 10 A hwy a ddygant eu hanwiredd: un fath fydd anwiredd yr ymofynnydd ag anwiredd y proffwyd: 11 Fel na chyfeiliorno tŷ Israel mwy oddi ar fy ôl, ac na haloger hwy mwy â’u holl droseddau; ond bod ohonynt i mi yn bobl, a minnau iddynt hwy yn Dduw, medd yr Arglwydd Dduw.

12 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf drachefn, gan ddywedyd, 13 Ha fab dyn, pan becho gwlad i’m herbyn trwy wneuthur camwedd, yna yr estynnaf fy llaw arni, a thorraf ffon ei bara hi, ac anfonaf arni newyn, ac a dorraf ymaith ohoni ddyn ac anifail. 14 Pe byddai yn ei chanol y triwyr hyn, Noa, Daniel, a Job, hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a achubent eu henaid eu hun yn unig, medd yr Arglwydd Dduw.

15 Os bwystfil niweidiol a yrraf trwy y wlad, a’i difa o hwnnw, fel y byddo yn anghyfannedd, heb gyniweirydd rhag ofn y bwystfil: 16 Pe byddai y triwyr hyn yn ei chanol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na meibion na merched; hwynt‐hwy yn unig a waredid, a’r tir a fyddai yn anghyfannedd.

17 Neu os cleddyf a ddygaf ar y tir hwnnw, a dywedyd ohonof, Cyniwair, gleddyf, trwy y tir; fel y torrwyf ymaith ohono ddyn ac anifail: 18 A’r triwyr hyn yn ei ganol, fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni achubent na meibion na merched, ond hwynt‐hwy yn unig a achubid.

19 Neu os haint a anfonaf i’r wlad honno, a thywallt ohonof fy llid arni mewn gwaed, gan dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail; 20 A Noa, Daniel, a Job, yn ei chanol hi; fel mai byw fi, medd yr Arglwydd Dduw, ni waredent na mab na merch; hwynt‐hwy yn eu cyfiawnder a waredent eu heneidiau eu hun yn unig. 21 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Pa faint mwy, pan anfonwyf fy mhedair drygfarn, cleddyf, a newyn, a bwystfil niweidiol, a haint, ar Jerwsalem, i dorri ymaith ohoni ddyn ac anifail?

22 Eto wele, bydd ynddi weddill dihangol, y rhai a ddygir allan, yn feibion a merched: wele hwynt yn dyfod allan atoch, a chewch weled eu ffyrdd hwynt a’u gweithredoedd; fel yr ymgysuroch oherwydd yr adfyd a ddygais ar Jerwsalem, sef yr hyn oll a ddygais arni. 23 Ie, cysurant chwi, pan weloch eu ffordd a’u gweithredoedd: a chewch wybod nad heb achos y gwneuthum yr hyn oll a wneuthum i’w herbyn hi, medd yr Arglwydd Dduw.

15 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, beth yw coed y winwydden fwy na phob coed arall, neu gainc yr hon sydd ymysg prennau y coed? A gymerir ohoni goed i wneuthur gwaith? a gymerant ohoni hoel i grogi un offeryn arni? Wele, yn ymborth i’r tân y rhoddir hi; difaodd y tân ei deuben hi, ei chanol a olosgwyd: a wasanaetha hi mewn gwaith? Wele, pan oedd gyfan, nid oedd gymwys i ddim gwaith: pa faint llai, gan ei difa o dân a’i golosgi, y bydd hi eto gymwys i waith?

Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Megis pren y winwydden ymysg prennau y coed, yr hon a roddais yn ymborth i’r tân, felly y rhoddaf drigolion Jerwsalem. A gosodaf fy wyneb yn eu herbyn hwynt: o’r naill dân y deuant allan, a thân arall a’u difa hwynt; fel y gwypoch mai myfi yw yr Arglwydd, pan osodwyf fy wyneb i’w herbyn hwynt. Gwnaf hefyd y wlad yn anrhaith, am wneuthur ohonynt gamwedd, medd yr Arglwydd Dduw.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.