Chronological
1 Y baich a welodd y proffwyd Habacuc. 2 Pa hyd, Arglwydd, y gwaeddaf, ac nis gwrandewi! y bloeddiaf arnat rhag trais, ac nid achubi! 3 Paham y gwnei i mi weled anwiredd, ac y peri i mi edrych ar flinder? anrhaith a thrais sydd o’m blaen i; ac y mae a gyfyd ddadl ac ymryson. 4 Am hynny yr oedir cyfraith, ac nid â barn allan byth: am fod y drygionus yn amgylchu y cyfiawn; am hynny cam farn a â allan.
5 Gwelwch ymysg y cenhedloedd, ac edrychwch, rhyfeddwch yn aruthrol: canys gweithredaf weithred yn eich dyddiau, ni choeliwch er ei mynegi i chwi. 6 Canys wele fi yn codi y Caldeaid, cenedl chwerw a phrysur, yr hon a rodia ar hyd lled y tir, i feddiannu cyfanheddoedd nid yw eiddynt. 7 Y maent i’w hofni ac i’w harswydo: ohonynt eu hun y daw allan eu barn a’u rhagoriaeth. 8 A’u meirch sydd fuanach na’r llewpardiaid, a llymach ydynt na bleiddiau yr hwyr: eu marchogion hefyd a ymdaenant, a’u marchogion a ddeuant o bell; ehedant fel eryr yn prysuro at fwyd. 9 Hwy a ddeuant oll i dreisio; ar gyfer eu hwyneb y bydd gwynt y dwyrain, a hwy a gasglant gaethion fel y tywod. 10 A hwy a watwarant frenhinoedd, a thywysogion a fyddant watwargerdd iddynt: hwy a watwarant yr holl gestyll, ac a gasglant lwch, ac a’i goresgynnant. 11 Yna y newidia ei feddwl, ac yr â trosodd, ac a drosedda, gan ddiolch am ei rym yma i’w dduw ei hun.
12 Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O Arglwydd fy Nuw, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O Arglwydd, ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u sicrheaist, O Dduw, i gosbedigaeth. 13 Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? 14 Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? 15 Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. 16 Am hynny yr aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. 17 A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?
2 Safaf ar fy nisgwylfa, ac ymsefydlaf ar y tŵr, a gwyliaf, i edrych beth a ddywed efe wrthyf, a pha beth a atebaf pan y’m cerydder. 2 A’r Arglwydd a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. 3 Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. 4 Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd.
5 A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd. 6 Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew! 7 Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant, ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt? 8 Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi.
9 Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg! 10 Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid. 11 Oherwydd y garreg a lefa o’r mur, a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed.
12 Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd! 13 Wele, onid oddi wrth Arglwydd y lluoedd y mae, bod i’r bobl ymflino yn y tân, ac i’r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd? 14 Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr Arglwydd, fel y toa y dyfroedd y môr.
15 Gwae a roddo ddiod i’w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt! 16 Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr Arglwydd atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant. 17 Canys trais Libanus a’th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a’u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi.
18 Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig, ddarfod i’w lluniwr ei cherfio; i’r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion? 19 Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o’i fewn. 20 Ond yr Arglwydd sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.
3 Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. 2 Clywais, O Arglwydd, dy air, ac ofnais: O Arglwydd, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. 3 Duw a ddaeth o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl. 4 A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder. 5 Aeth yr haint o’i flaen ef, ac aeth marwor tanllyd allan wrth ei draed ef. 6 Safodd, a mesurodd y ddaear; edrychodd, a gwasgarodd y cenhedloedd: y mynyddoedd tragwyddol hefyd a ddrylliwyd, a’r bryniau oesol a grymasant: llwybrau tragwyddol sydd iddo. 7 Dan gystudd y gwelais wersyllau Cuwsan: crynodd llenni tir Midian. 8 A sorrodd yr Arglwydd wrth yr afonydd? ai wrth yr afonydd y mae dy ddig? ai wrth y môr y mae dy ddigofaint, gan i ti farchogaeth ar dy feirch, ac ar gerbydau dy iachawdwriaeth? 9 Llwyr noethwyd dy fwa, yn ôl llwon y llwythau, sef dy air di. Sela. Holltaist y ddaear ag afonydd. 10 Y mynyddoedd a’th welsant, ac a grynasant; y llifeiriant dwfr a aeth heibio; y dyfnder a wnaeth dwrf; cyfododd hefyd ei ddwylo yn uchel. 11 Yr haul a’r lleuad a safodd yn eu preswylfa; wrth oleuad dy saethau yr aethant, ac wrth lewyrch dy waywffon ddisglair. 12 Mewn llid y cerddaist y ddaear, a dyrnaist y cenhedloedd mewn dicter. 13 Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. 14 Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. 15 Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. 16 Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd.
17 Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: 18 Eto mi a lawenychaf yn yr Arglwydd; byddaf hyfryd yn Nuw fy iachawdwriaeth. 19 Yr Arglwydd Dduw yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.