Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 51-52

51 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Wele, myfi a godaf wynt dinistriol yn erbyn Babilon, ac yn erbyn y rhai sydd yn trigo yng nghanol y rhai a godant yn fy erbyn i; A mi a anfonaf i Babilon nithwyr, a hwy a’i nithiant hi, ac a wacânt ei thir hi; oherwydd hwy a fyddant yn ei herbyn hi o amgylch ar ddydd blinder. Yn erbyn yr hwn a anelo, aneled y saethydd ei fwa, ac yn erbyn yr hwn sydd yn ymddyrchafu yn ei lurig; nac arbedwch ei gwŷr ieuainc, difrodwch ei holl lu hi. Felly y rhai lladdedig a syrthiant yng ngwlad y Caldeaid, a’r rhai a drywanwyd yn ei heolydd hi. Canys Israel ni adawyd, na Jwda, gan ei Dduw, gan Arglwydd y lluoedd: er bod eu gwlad hwynt yn llawn o gamwedd yn erbyn Sanct yr Israel. Ffowch o ganol Babilon, ac achubwch bawb ei enaid ei hun: na adewch eich difetha yn ei hanwiredd hi: oblegid amser dial yw hwn i’r Arglwydd; efe a dâl y pwyth iddi hi. Ffiol aur oedd Babilon yn llaw yr Arglwydd, yn meddwi pob gwlad: yr holl genhedloedd a yfasant o’i gwin hi; am hynny y cenhedloedd a ynfydasant. Yn ddisymwth y syrthiodd Babilon, ac y drylliwyd hi: udwch drosti, cymerwch driagl i’w dolur hi, i edrych a iachâ hi. Nyni a iachasom Babilon, ond nid aeth hi yn iach: gadewch hi, ac awn bawb i’w wlad: canys ei barn a gyrraedd i’r nefoedd, ac a ddyrchafwyd hyd yr wybrau. 10 Yr Arglwydd a ddug allan ein cyfiawnder ni: deuwch, a thraethwn yn Seion waith yr Arglwydd ein Duw. 11 Gloywch y saethau; cesglwch y tarianau: yr Arglwydd a gyfododd ysbryd brenhinoedd Media: oblegid y mae ei fwriad ef yn erbyn Babilon, i’w dinistrio hi; canys dial yr Arglwydd yw hyn, dial ei deml ef. 12 Dyrchefwch faner ar furiau Babilon; cadarnhewch yr wyliadwriaeth; gosodwch i fyny y gwylwyr; darperwch y cynllwynwyr; canys yr Arglwydd a fwriadodd, ac efe a wnaeth hefyd yr hyn a lefarodd yn erbyn trigolion Babilon. 13 Tydi yr hon ydwyt yn aros ar ddyfroedd lawer, yn aml dy drysorau, dy ddiwedd di a ddaeth, sef mesur dy gybydd‐dod. 14 Arglwydd y lluoedd a dyngodd iddo ei hun, gan ddywedyd, Diau y’th lanwaf â dynion megis â lindys; a hwy a ganant floddest i’th erbyn. 15 Efe a wnaeth y ddaear trwy ei nerth, ac a sicrhaodd y byd trwy ei ddoethineb, ac a daenodd y nefoedd trwy ei ddeall. 16 Pan roddo efe ei lef, y mae twrf dyfroedd yn y nefoedd, ac y mae efe yn codi y niwloedd o eithaf y ddaear: ac efe sydd yn gwneuthur y mellt gyda’r glaw, ac yn dwyn y gwynt allan o’i drysorau. 17 Ynfyd yw pob dyn o wybodaeth; gwaradwyddwyd pob toddydd gan y ddelw gerfiedig: canys celwyddog yw ei ddelw dawdd, ac nid oes chwythad ynddynt. 18 Oferedd ydynt, gwaith cyfeiliorni: yn amser eu hymweliad y difethir hwynt. 19 Nid fel y rhai hyn, eithr Lluniwr y cwbl oll, yw rhan Jacob; ac Israel yw gwialen ei etifeddiaeth ef: Arglwydd y lluoedd yw ei enw ef. 20 Ti wyt forthwyl i mi, ac arfau rhyfel: canys â thi y drylliaf y cenhedloedd, ac â thi y dinistriaf deyrnasoedd; 21 A thi hefyd y gwasgaraf y march a’r marchwr; ac â thi y drylliaf y cerbyd a’i farchog; 22 A thi y drylliaf fi ŵr a gwraig; ac â thi y drylliaf hen ac ieuanc; ac â thi y drylliaf y gŵr ieuanc a’r forwyn; 23 A thi hefyd y drylliaf fi y bugail a’i braidd; ac â thi y drylliaf yr arddwr a’i iau ychen; ac â thi y drylliaf y tywysogion a’r penaethiaid. 24 A mi a dalaf i Babilon, ac i holl breswylwyr Caldea, eu holl ddrwg a wnaethant yn Seion, yn eich golwg chwi, medd yr Arglwydd. 25 Wele fi i’th erbyn di, O fynydd dinistriol, yr hwn wyt yn dinistrio yr holl ddaear, medd yr Arglwydd; a myfi a estynnaf fy llaw arnat, ac a’th dreiglaf di i lawr o’r creigiau, ac a’th wnaf di yn fynydd llosg. 26 Ac ni chymerant ohonot faen congl, na sylfaen; ond diffeithwch tragwyddol a fyddi di, medd yr Arglwydd. 27 Dyrchefwch faner yn y tir; lleisiwch utgorn ymysg y cenhedloedd; darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi; gelwch ynghyd deyrnasoedd Ararat, Minni, ac Aschenas, yn ei herbyn hi; gosodwch dywysog yn ei herbyn hi; gwnewch i feirch ddyfod i fyny cyn amled â’r lindys blewog. 28 Darperwch y cenhedloedd yn ei herbyn hi, gyda brenhinoedd Media, a’i thywysogion, a’i holl benaethiaid, a holl wlad ei lywodraeth ef. 29 Y ddaear hefyd a gryna ac a ofidia; oblegid fe gyflawnir bwriadau yr Arglwydd yn erbyn Babilon, i wneuthur gwlad Babilon yn anghyfannedd heb drigiannol ynddi. 30 Cedyrn Babilon a beidiasant ag ymladd, ac y maent hwy yn aros o fewn eu hamddiffynfeydd: pallodd eu nerth hwynt; aethant yn wrageddos: ei hanheddau hi a losgwyd, a’i barrau a dorrwyd. 31 Rhedegwr a red i gyfarfod â rhedegwr, a chennad i gyfarfod â chennad, i fynegi i frenin Babilon oresgyn ei ddinas ef o’i chwr, 32 Ac ennill y rhydau, a llosgi ohonynt y cyrs â thân, a synnu ar y rhyfelwyr. 33 Canys fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Merch Babilon sydd fel llawr dyrnu; amser ei dyrnu hi a ddaeth: ac ar fyrder y daw amser cynhaeaf iddi. 34 Nebuchodonosor brenin Babilon a’m hysodd, ac a’m hysigodd i; efe a’m gwnaeth fel llestr gwag; efe a’m llyncodd fel draig, ac a lanwodd ei fol o’m danteithion; efe a’m bwriodd i allan. 35 Y cam a wnaed i mi ac i’m cnawd, a ddelo ar Babilon, medd preswylferch Seion; a’m gwaed i ar drigolion Caldea, medd Jerwsalem. 36 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, myfi a ddadleuaf dy ddadl di, ac a ddialaf drosot ti; a mi a ddihysbyddaf ei môr hi, ac a sychaf ei ffynhonnau hi. 37 A bydd Babilon yn garneddau, yn drigfa dreigiau, yn syndra, ac yn chwibaniad, heb breswylydd. 38 Cydruant fel llewod; bloeddiant fel cenawon llewod. 39 Yn eu gwres hwynt y gosodaf wleddoedd iddynt, a mi a’u meddwaf hwynt, fel y llawenychont, ac y cysgont hun dragwyddol, ac na ddeffrônt, medd yr Arglwydd. 40 Myfi a’u dygaf hwynt i waered fel ŵyn i’r lladdfa, fel hyrddod a bychod. 41 Pa fodd y goresgynnwyd Sesach! pa fodd yr enillwyd gogoniant yr holl ddaear! pa fodd yr aeth Babilon yn syndod ymysg y cenhedloedd! 42 Y môr a ddaeth i fyny ar Babilon: hi a orchuddiwyd ag amlder ei donnau ef. 43 Ei dinasoedd hi a aethant yn anghyfannedd, yn grastir, ac yn ddiffeithwch; gwlad ni thrig un gŵr ynddi, ac ni thramwya mab dyn trwyddi. 44 A mi a ymwelaf â Bel yn Babilon, a mi a dynnaf o’i safn ef yr hyn a lyncodd; a’r cenhedloedd ni ddylifant ato mwyach; ie, mur Babilon a syrth. 45 Deuwch allan o’i chanol, O fy mhobl, ac achubwch bob un ei enaid rhag llid digofaint yr Arglwydd, 46 A rhag llwfrhau eich calonnau, ac ofni rhag y chwedl a glywir yn y wlad: a’r naill flwyddyn y daw chwedl newydd, ac ar ôl hynny chwedl newydd y flwyddyn arall; a thrais yn y wlad, llywodraethwr yn erbyn llywodraethwr. 47 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod yr ymwelwyf â delwau Babilon; a’i holl wlad hi a waradwyddir, a’i holl rai lladdedig hi a syrthiant yn ei chanol. 48 Yna y nefoedd a’r ddaear, a’r hyn oll sydd ynddynt, a ganant oherwydd Babilon: oblegid o’r gogledd y daw yr anrheithwyr ati, medd yr Arglwydd. 49 Fel y gwnaeth Babilon i’r rhai lladdedig o Israel syrthio, felly yn Babilon y syrth lladdedigion yr holl ddaear. 50 Y rhai a ddianghasoch gan y cleddyf, ewch ymaith; na sefwch: cofiwch yr Arglwydd o bell, a deued Jerwsalem yn eich cof chwi. 51 Gwaradwyddwyd ni, am i ni glywed cabledd: gwarth a orchuddiodd ein hwynebau; canys daeth estroniaid i gysegroedd tŷ yr Arglwydd. 52 Am hynny wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan ymwelwyf fi â’i delwau hi; a thrwy ei holl wlad hi yr archolledig a riddfan. 53 Er i Babilon ddyrchafu i’r nefoedd, ac er iddi gadarnhau ei hamddiffynfa yn uchel; eto anrheithwyr a ddaw ati oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd. 54 Sain gwaedd a glywir o Babilon, a dinistr mawr o wlad y Caldeaid. 55 Oherwydd yr Arglwydd a anrheithiodd Babilon, ac a ddinistriodd y mawrair allan ohoni hi, er rhuo o’i thonnau fel dyfroedd lawer, a rhoddi twrf eu llef hwynt. 56 Canys yr anrheithiwr a ddaeth yn ei herbyn hi, sef yn erbyn Babilon, a’i chedyrn hi a ddaliwyd; eu bwa a dorrwyd: canys Arglwydd Dduw y gwobr a obrwya yn sicr. 57 A myfi a feddwaf ei thywysogion hi, a’i doethion, ei phenaethiaid, a’i swyddogion, a’i chedyrn: a hwy a gysgant hun dragwyddol, ac ni ddeffroant, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd. 58 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Gan ddryllio y dryllir llydain furiau Babilon, a’i huchel byrth a losgir â thân; a’r bobl a ymboenant mewn oferedd, a’r cenhedloedd mewn tân, a hwy a ddiffygiant.

59 Y gair yr hwn a orchmynnodd Jeremeia y proffwyd i Seraia mab Nereia, mab Maaseia, pan oedd efe yn myned gyda Sedeceia brenin Jwda i Babilon, yn y bedwaredd flwyddyn o’i deyrnasiad ef. A Seraia oedd dywysog llonydd. 60 Felly Jeremeia a ysgrifennodd yr holl aflwydd oedd ar ddyfod yn erbyn Babilon, mewn un llyfr; sef yr holl eiriau a ysgrifennwyd yn erbyn Babilon. 61 A Jeremeia a ddywedodd wrth Seraia, Pan ddelych i Babilon, a gweled, a darllen yr holl eiriau hyn; 62 Yna dywed, O Arglwydd, ti a leferaist yn erbyn y lle hwn, am ei ddinistrio, fel na byddai ynddo breswylydd, na dyn nac anifail, eithr ei fod yn anghyfannedd tragwyddol. 63 A phan ddarfyddo i ti ddarllen y llyfr hwn, rhwym faen wrtho, a bwrw ef i ganol Ewffrates: 64 A dywed, Fel hyn y soddir Babilon, ac ni chyfyd hi, gan y drwg a ddygaf fi arni: a hwy a ddiffygiant. Hyd hyn y mae geiriau Jeremeia.

52 Mab un flwydd ar hugain oedd Sedeceia pan ddechreuodd efe deyrnasu; ac un flynedd ar ddeg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Hamutal, merch Jeremeia o Libna. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Jehoiacim. Oherwydd gan ddigofaint yr Arglwydd y bu, yn Jerwsalem ac yn Jwda, hyd oni fwriodd efe hwynt allan o’i olwg, wrthryfela o Sedeceia yn erbyn brenin Babilon.

Ac yn y nawfed flwyddyn o’i deyrnasiad ef, yn y degfed mis, ar y degfed dydd o’r mis, y daeth Nebuchodonosor brenin Babilon, efe a’i holl lu, yn erbyn Jerwsalem, ac a wersyllasant yn ei herbyn hi, ac a adeiladasant gyferbyn â hi amddiffynfa o amgylch ogylch. Felly y ddinas a fu yng ngwarchae hyd yr unfed flwyddyn ar ddeg i’r brenin Sedeceia. Yn y pedwerydd mis, yn y nawfed dydd o’r mis, y newyn a drymhaodd yn y ddinas, fel nad oedd bara i bobl y wlad. Yna y torrwyd y ddinas; a’r holl ryfelwyr a ffoesant, ac a aethant allan o’r ddinas liw nos, ar hyd ffordd y porth rhwng y ddau fur, yr hwn oedd wrth ardd y brenin, (a’r Caldeaid oedd wrth y ddinas o amgylch,) a hwy a aethant ar hyd ffordd y rhos.

Ond llu y Caldeaid a ymlidiasant ar ôl y brenin, ac a oddiweddasant Sedeceia yn rhosydd Jericho, a’i holl lu ef a wasgarwyd oddi wrtho. Yna hwy a ddaliasant y brenin, ac a’i dygasant ef at frenin Babilon i Ribla yng ngwlad Hamath; ac efe a roddodd farn arno ef. 10 A brenin Babilon a laddodd feibion Sedeceia yng ngŵydd ei lygaid ef: efe a laddodd hefyd holl dywysogion Jwda yn Ribla. 11 Yna efe a dynnodd lygaid Sedeceia, ac a’i rhwymodd ef â chadwyni: a brenin Babilon a’i harweiniodd ef i Babilon, ac a’i rhoddodd ef mewn carchardy hyd ddydd ei farwolaeth.

12 Ac yn y pumed mis, ar y degfed dydd o’r mis, (hon oedd y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg i’r brenin Nebuchodonosor brenin Babilon,) y daeth Nebusaradan pennaeth y milwyr, yr hwn a safai gerbron brenin Babilon, i Jerwsalem; 13 Ac efe a losgodd dŷ yr Arglwydd, a thŷ y brenin; a holl dai Jerwsalem, a phob tŷ mawr, a losgodd efe â thân. 14 A holl lu y Caldeaid y rhai oedd gyda phennaeth y milwyr, a ddrylliasant holl furiau Jerwsalem o amgylch. 15 Yna Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd rai o’r bobl wael, a’r gweddill o’r bobl a adawsid yn y ddinas, a’r ffoaduriaid a giliasent at frenin Babilon, a’r gweddill o’r bobl. 16 Ond Nebusaradan pennaeth y milwyr a adawodd rai o dlodion y wlad yn winllanwyr ac yn arddwyr. 17 A’r Caldeaid a ddrylliasant y colofnau pres y rhai oedd yn nhŷ yr Arglwydd, a’r ystolion, a’r môr pres yr hwn oedd yn nhŷ yr Arglwydd; a hwy a ddygasant eu holl bres hwynt i Babilon. 18 A hwy a ddygasant ymaith y crochanau, a’r rhawiau, a’r saltringau, a’r cawgiau, a’r thuserau, a’r holl lestri pres, y rhai yr oeddid yn gwasanaethu â hwynt. 19 A’r ffiolau, a’r pedyll tân, a’r cawgiau, a’r crochanau, a’r canwyllbrennau, a’r thuserau, a’r cwpanau, y rhai oedd o aur yn aur, a’r rhai oedd o arian yn arian, a gymerodd pennaeth y milwyr ymaith. 20 Y ddwy golofn, un môr, a deuddeg o ychen pres, y rhai oedd dan yr ystolion, y rhai a wnaethai y brenin Solomon, yn nhŷ yr Arglwydd: nid oedd pwys ar bres yr holl lestri hyn. 21 Ac am y colofnau, deunaw cufydd oedd uchder un golofn, a llinyn o ddeuddeg cufydd oedd yn ei hamgylchu: a’i thewder yn bedair modfedd; ac yn gau yr oedd. 22 A chnap pres oedd arni, a phum cufydd oedd uchder un cnap; a rhwydwaith a phomgranadau ar y cnap o amgylch, yn bres i gyd: ac fel hyn yr oedd yr ail golofn a’i phomgranadau. 23 A’r pomgranadau oeddynt, onid pedwar, cant ar ystlys: yr holl bomgranadau ar y rhwydwaith o amgylch oedd gant.

24 A phennaeth y milwyr a gymerodd Seraia yr archoffeiriad, a Seffaneia yr ail offeiriad, a’r tri oedd yn cadw y drws. 25 Ac efe a gymerodd o’r ddinas ystafellydd, yr hwn oedd swyddog ar y rhyfelwyr; a seithwyr o weision pennaf y brenin, y rhai a gafwyd yn y ddinas; a phen-ysgrifennydd y llu, yr hwn a fyddai yn byddino pobl y wlad; a thri ugeinwr o bobl y wlad, y rhai a gafwyd yng nghanol y ddinas. 26 A Nebusaradan pennaeth y milwyr a gymerodd y rhai hyn, ac a aeth â hwynt i Ribla, at frenin Babilon. 27 A brenin Babilon a’u trawodd hwynt, ac a’u lladdodd hwynt yn Ribla, yng ngwlad Hamath. Fel hyn y caethgludwyd Jwda o’i wlad ei hun. 28 Dyma y bobl a gaethgludodd Nebuchodonosor yn y seithfed flwyddyn, tair mil a thri ar hugain o Iddewon. 29 Yn y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor efe a gaethgludodd o Jerwsalem wyth gant a deuddeg ar hugain o ddynion. 30 Yn y drydedd flwyddyn ar hugain i Nebuchodonosor, Nebusaradan pennaeth y milwyr a gaethgludodd saith gant a phump a deugain o Iddewon: yr holl ddynion hyn oedd bedair mil a chwe chant.

31 Ac yn y ddwyfed flwyddyn ar bymtheg ar hugain wedi caethgludo Jehoiachin brenin Jwda, yn y deuddegfed mis, ar y pumed dydd ar hugain o’r mis, Efil‐merodach brenin Babilon, yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad, a ddyrchafodd ben Jehoiachin brenin Jwda, ac a’i dug ef allan o’r carchardy; 32 Ac a ddywedodd yn deg wrtho, ac a osododd ei frenhinfainc ef uwchlaw gorseddfeinciau y brenhinoedd, y rhai oedd gydag ef yn Babilon. 33 Ac efe a newidiodd ei garcharwisg ef: ac efe a fwytaodd fara ger ei fron ef yn wastad, holl ddyddiau ei einioes. 34 Ac am ei luniaeth ef, lluniaeth gwastadol a roddwyd iddo gan frenin Babilon, dogn dydd yn ei ddydd, hyd ddydd ei farwolaeth, holl ddyddiau ei einioes.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.