Chronological
1 Baich Ninefe. Llyfr gweledigaeth Nahum yr Elcosiad. 2 Duw sydd eiddigus, a’r Arglwydd sydd yn dial; yr Arglwydd sydd yn dial, ac yn berchen llid: dial yr Arglwydd ar ei wrthwynebwyr, a dal dig y mae efe i’w elynion. 3 Yr Arglwydd sydd hwyrfrydig i ddig, a mawr ei rym, ac ni ddieuoga yr anwir: yr Arglwydd sydd a’i lwybr yn y corwynt ac yn y rhyferthwy, a’r cymylau yw llwch ei draed ef. 4 Efe a gerydda y môr, ac a’i sych; yr holl afonydd a ddihysbydda efe: llesgaodd Basan a Charmel, a llesgaodd blodeuyn Libanus. 5 Y mynyddoedd a grynant rhagddo, a’r bryniau a doddant, a’r ddaear a lysg gan ei olwg, a’r byd hefyd a chwbl ag a drigant ynddo. 6 Pwy a saif o flaen ei lid ef? a phwy a gyfyd yng nghynddaredd ei ddigofaint ef? ei lid a dywelltir fel tân, a’r creigiau a fwrir i lawr ganddo. 7 Daionus yw yr Arglwydd, amddiffynfa yn nydd blinder; ac efe a edwyn y rhai a ymddiriedant ynddo. 8 A llifeiriant yn myned trosodd y gwna efe dranc ar ei lle hi, a thywyllwch a erlid ei elynion ef. 9 Beth a ddychmygwch yn erbyn yr Arglwydd? efe a wna dranc; ni chyfyd blinder ddwywaith. 10 Canys tra yr ymddrysont fel drain, a thra meddwont fel meddwon, ysir hwynt fel sofl wedi llawn wywo. 11 Ohonot y daeth allan a ddychmyga ddrwg yn erbyn yr Arglwydd: cynghorwr drygionus. 12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Pe byddent heddychol, ac felly yn aml, eto fel hyn y torrir hwynt i lawr, pan elo efe heibio. Er i mi dy flino, ni’th flinaf mwyach. 13 Canys yr awron y torraf ei iau ef oddi arnat, drylliaf dy rwymau. 14 Yr Arglwydd hefyd a orchmynnodd o’th blegid, na heuer o’th enw mwyach: torraf o dŷ dy dduwiau y gerfiedig a’r dawdd ddelw: gwnaf dy fedd; canys gwael ydwyt. 15 Wele ar y mynyddoedd draed yr efengylwr, cyhoeddwr heddwch: cadw di, O Jwda, dy wyliau, tâl dy addunedau: canys nid â y drygionus trwot mwy; cwbl dorrwyd ef ymaith.
2 Daeth y chwalwr i fyny o flaen dy wyneb: cadw yr amddiffynfa, gwylia y ffordd, nertha dy lwynau, cadarnha dy nerth yn fawr. 2 Canys dychwelodd yr Arglwydd ardderchowgrwydd Jacob, fel ardderchowgrwydd Israel: canys y dihysbyddwyr a’u dihysbyddodd hwynt, ac a lygrasant eu cangau gwinwydd. 3 Tarian ei wŷr grymus a liwiwyd yn goch, ei wŷr o ryfel a wisgwyd ag ysgarlad; y cerbydau fyddant gyda lampau tanllyd y dydd y byddo ei arlwy, a’r ffynidwydd a ysgydwir yn aruthrol. 4 Y cerbydau a gynddeiriogant yn yr heolydd, trawant wrth ei gilydd yn y priffyrdd: eu gwelediad fydd fel fflamau, ac fel mellt y saethant. 5 Efe a gyfrif ei weision gwychion; tramgwyddant wrth gerdded; prysurant at ei chaer hi, a’r amddiffyn a baratoir. 6 Pyrth y dwfr a agorir, a’r palas a ymddetyd. 7 A Hussab a gaethgludir, dygir hi i fyny, a’i morynion yn ei harwain megis â llais colomennod, yn curo ar eu dwyfronnau. 8 A Ninefe sydd er ys dyddiau fel llyn o ddwfr: ond hwy a ffoant. Sefwch, sefwch, meddant; ac ni bydd a edrycho yn ôl. 9 Ysglyfaethwch arian, ysglyfaethwch aur; canys nid oes diben ar yr ystôr, a’r gogoniant o bob dodrefn dymunol. 10 Gwag, a gorwag, ac anrheithiedig yw hi, a’r galon yn toddi, a’r gliniau yn taro ynghyd, ac anhwyl ar bob lwynau, a’u hwynebau oll a gasglant barddu. 11 Pa le y mae trigfa y llewod, a phorfa cenawon y llewod? lle y rhodiai y llew, sef yr hen lew, a’r cenau llew, ac nid oedd a’u tarfai? 12 Y llew a ysglyfaethodd ddigon i’w genawon, ac a dagodd i’w lewesau, ac a lanwodd ag ysglyfaeth ei ffau, a’i loches ag ysbail. 13 Wele fi yn dy erbyn, medd Arglwydd y lluoedd; a mi a losgaf ei cherbydau yn y mwg, a’r cleddyf a ddifa dy lewod ieuainc; a thorraf ymaith o’r ddaear dy ysglyfaeth, ac ni chlywir mwy lais dy genhadau.
3 Gwae ddinas y gwaed! llawn celwydd ac ysbail ydyw i gyd, a’r ysglyfaeth heb ymado. 2 Bydd sŵn y ffrewyll, a sŵn cynnwrf olwynion, a’r march yn prancio, a’r cerbyd yn neidio. 3 Y marchog sydd yn codi ei gleddyf gloyw, a’i ddisglair waywffon; lliaws o laddedigion, ac aneirif o gelanedd; a heb ddiwedd ar y cyrff: tripiant wrth eu cyrff hwynt: 4 Oherwydd aml buteindra y butain deg, meistres swynion, yr hon a werth genhedloedd trwy ei phuteindra, a theuluoedd trwy ei swynion. 5 Wele fi i’th erbyn, medd Arglwydd y lluoedd, a datguddiaf dy odre ar dy wyneb, a gwnaf i genhedloedd weled dy noethni, ac i deyrnasoedd dy warth. 6 A thaflaf ffiaidd bethau arnat, a gwnaf di yn wael, a gosodaf di yn ddrych. 7 A bydd i bawb a’th welo ffoi oddi wrthyt, a dywedyd, Anrheithiwyd Ninefe, pwy a gwyna iddi? O ba le y ceisiaf ddiddanwyr i ti? 8 Ai gwell ydwyt na No dylwythog, yr hon a osodir rhwng yr afonydd, ac a amgylchir â dyfroedd, i’r hon y mae y môr yn rhagfur, a’i mur o’r môr? 9 Ethiopia oedd ei chadernid, a’r Aifft, ac aneirif: Put a Lubim oedd yn gynhorthwy i ti. 10 Er hynny hi a dducpwyd ymaith, hi a gaethgludwyd; a’i phlant bychain a ddrylliwyd ym mhen pob heol; ac am ei phendefigion y bwriasant goelbrennau, a’i holl wŷr mawr a rwymwyd mewn gefynnau. 11 Tithau hefyd a feddwi; byddi guddiedig; ceisi hefyd gadernid rhag y gelyn. 12 Dy holl amddiffynfeydd fyddant fel ffigyswydd a’u blaenffrwyth arnynt: os ysgydwir hwynt, syrthiant yn safn y bwytawr. 13 Wele dy bobl yn wragedd yn dy ganol di: pyrth dy dir a agorir i’th elynion; tân a ysodd dy farrau. 14 Tyn i ti ddwfr i’r gwarchae, cadarnha dy amddiffynfeydd; dos i’r dom, sathr y clai, cryfha yr odyn briddfaen. 15 Yno y tân a’th ddifa, y cleddyf a’th dyr ymaith, efe a’th ysa di fel pryf y rhwd; ymluosoga fel pryf y rhwd, ymluosoga fel y ceiliog rhedyn. 16 Amlheaist dy farchnadwyr rhagor sêr y nefoedd: difwynodd pryf y rhwd, ac ehedodd ymaith. 17 Dy rai coronog sydd fel y locustiaid, a’th dywysogion fel y ceiliogod rhedyn mawr, y rhai a wersyllant yn y caeau ar y dydd oerfelog, ond pan gyfodo yr haul, hwy a ehedant ymaith, ac ni adwaenir eu man lle y maent. 18 Dy fugeiliaid, brenin Asyria, a hepiant; a’th bendefigion a orweddant; gwasgerir dy bobl ar y mynyddoedd, ac ni bydd a’u casglo. 19 Ni thynnir dy archoll ynghyd, clwyfus yw dy weli; pawb a glywo sôn amdanat a gurant eu dwylo arnat; oherwydd pwy nid aeth dy ddrygioni drosto bob amser?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.