Chronological
1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. 2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? 4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd. 5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? 6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! 7 Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. 8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? 9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. 11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: 14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 15 Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.
17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 18 Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.
Salm Asaff.
82 Duw sydd yn sefyll yng nghynulleidfa y galluog: ymhlith y duwiau y barn efe. 2 Pa hyd y bernwch ar gam? ac y derbyniwch wyneb y rhai annuwiol? Sela. 3 Bernwch y tlawd a’r amddifad: cyfiawnhewch y cystuddiedig a’r rheidus. 4 Gwaredwch y tlawd a’r anghenus: achubwch hwynt o law y rhai annuwiol. 5 Ni wyddant, ac ni ddeallant; mewn tywyllwch y rhodiant: holl sylfaenau y ddaear a symudwyd o’u lle. 6 Myfi a ddywedais, Duwiau ydych chwi; a meibion y Goruchaf ydych chwi oll. 7 Eithr byddwch feirw fel dynion, ac fel un o’r tywysogion y syrthiwch. 8 Cyfod, O Dduw, barna y ddaear: canys ti a etifeddi yr holl genhedloedd.
Cân neu Salm Asaff.
83 O Dduw, na ostega: na thaw, ac na fydd lonydd, O Dduw. 2 Canys wele, dy elynion sydd yn terfysgu; a’th gaseion yn cyfodi eu pennau. 3 Ymgyfrinachasant yn ddichellgar yn erbyn dy bobl, ac ymgyngorasant yn erbyn dy rai dirgel di. 4 Dywedasant, Deuwch, a difethwn hwynt fel na byddont yn genedl; ac na chofier enw Israel mwyach. 5 Canys ymgyngorasant yn unfryd; ac ymwnaethant i’th erbyn; 6 Pebyll Edom, a’r Ismaeliaid; y Moabiaid, a’r Hagariaid; 7 Gebal, ac Ammon, ac Amalec; y Philistiaid, gyda phreswylwyr Tyrus. 8 Assur hefyd a ymgyplysodd â hwynt: buant fraich i blant Lot. Sela. 9 Gwna di iddynt fel i Midian; megis i Sisera, megis i Jabin, wrth afon Cison: 10 Yn Endor y difethwyd hwynt: aethant yn dail i’r ddaear. 11 Gwna eu pendefigion fel Oreb, ac fel Seeb; a’u holl dywysogion fel Seba, ac fel Salmunna: 12 Y rhai a ddywedasant, Cymerwn i ni gyfanheddau Duw i’w meddiannu. 13 Gosod hwynt, O fy Nuw, fel olwyn; fel sofl o flaen y gwynt. 14 Fel y llysg tân goed, ac fel y goddeithia fflam fynyddoedd; 15 Felly erlid di hwynt â’th dymestl, a dychryna hwynt â’th gorwynt. 16 Llanw eu hwynebau â gwarth; fel y ceisiont dy enw, O Arglwydd. 17 Cywilyddier a thralloder hwynt yn dragywydd; ie, gwaradwydder a difether hwynt: 18 Fel y gwypont mai tydi, yr hwn yn unig wyt JEHOFAH wrth dy enw, wyt Oruchaf ar yr holl ddaear.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.