Chronological
15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda. 2 Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. 3 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef: 4 Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.
5 A’r Arglwydd a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilltu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad. 6 A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 7 Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
8 Yn y drydedd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda, y teyrnasodd Sachareia mab Jeroboam ar Israel yn Samaria chwe mis. 9 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, megis y gwnaethai ei dadau: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 10 A Salum mab Jabes a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef gerbron y bobl, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 11 A’r rhan arall o hanes Sachareia, wele, y mae yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel. 12 Dyma air yr Arglwydd, yr hwn a lefarasai efe wrth Jehu, gan ddywedyd, Meibion y bedwaredd genhedlaeth i ti a eisteddant ar orseddfa Israel. Ac felly y bu.
13 Salum mab Jabes a ddechreuodd deyrnasu yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Usseia, brenin Jwda, a mis cyfan y teyrnasodd efe yn Samaria. 14 Canys Menahem mab Gadi a aeth i fyny o Tirsa, ac a ddaeth i Samaria, ac a drawodd Salum mab Jabes yn Samaria, ac a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 15 A’r rhan arall o hanes Salum, a’i fradwriaeth ef yr hon a fradfwriadodd efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
16 Yna Menahem a drawodd Tiffsa, a’r rhai oll oedd ynddi, a’i therfynau, o Tirsa: oherwydd nad agorasant iddo ef, am hynny y trawodd efe hi; a’i holl wragedd beichiogion a rwygodd efe. 17 Yn y bedwaredd flwyddyn ar bymtheg ar hugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Menahem mab Gadi ar Israel, a deng mlynedd y teyrnasodd efe yn Samaria. 18 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe yn ei holl ddyddiau oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 19 A Phul brenin Asyria a ddaeth yn erbyn y wlad; a Menahem a roddodd i Pul fil o dalentau arian, fel y byddai ei law gydag ef, i sicrhau y frenhiniaeth yn ei law ef. 20 A Menahem a gododd yr arian ar Israel, sef ar yr holl rai cedyrn o allu, ar bob un ddeg sicl a deugain o arian, i’w rhoddi i frenin Asyria; felly brenin Asyria a ddychwelodd, ac nid arhosodd yno yn y wlad.
21 A’r rhan arall o hanes Menahem, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel? 22 A Menahem a hunodd gyda’i dadau; a Phecaheia ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
23 Yn y ddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Pecaheia mab Menahem ar Israel yn Samaria, a dwy flynedd y teyrnasodd efe. 24 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd: ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 25 A Pheca mab Remaleia ei dywysog ef a fradfwriadodd yn ei erbyn ef, ac a’i trawodd ef yn Samaria, yn llys y brenin, gydag Argob, ac Arie, a chydag ef ddeng ŵr a deugain o feibion y Gileadiaid: ac efe a’i lladdodd ef, ac a deyrnasodd yn ei le ef. 26 A’r rhan arall o hanes Pecaheia, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
27 Yn y ddeuddegfed flwyddyn a deugain i Asareia brenin Jwda y teyrnasodd Peca mab Remaleia ar Israel yn Samaria, ac ugain mlynedd y teyrnasodd efe. 28 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd, ni throdd efe oddi wrth bechodau Jeroboam mab Nebat, yr hwn a wnaeth i Israel bechu. 29 Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglath‐pileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel‐beth‐maacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a’u caethgludodd hwynt i Asyria. 30 A Hosea mab Ela a fradfwriadodd fradwriaeth yn erbyn Peca mab Remaleia, ac a’i trawodd ef, ac a’i lladdodd, ac a deyrnasodd yn ei le ef, yn yr ugeinfed flwyddyn i Jotham mab Usseia. 31 A’r rhan arall o hanes Peca, a’r hyn oll a wnaeth efe, wele hwynt yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Israel.
32 Yn yr ail flwyddyn i Peca mab Remaleia brenin Israel y dechreuodd Jotham mab Usseia brenin Jwda deyrnasu. 33 Mab pum mlwydd ar hugain oedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, ac un flwydd ar bymtheg y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jerwsa, merch Sadoc. 34 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd; yn ôl yr hyn oll a’r a wnaethai Usseia ei dad y gwnaeth efe.
35 Er hynny ni thynnwyd ymaith yr uchelfeydd; y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd. Efe a adeiladodd y porth uchaf i dŷ yr Arglwydd.
36 A’r rhan arall o hanes Jotham, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? 37 Yn y dyddiau hynny y dechreuodd yr Arglwydd anfon yn erbyn Jwda, Resin brenin Syria, a Pheca mab Remaleia. 38 A Jotham a hunodd gyda’i dadau, ac a gladdwyd gyda’i dadau yn ninas Dafydd ei dad, ac Ahas ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
26 Yna holl bobl Jwda a gymerasant Usseia, ac yntau yn fab un flwydd ar bymtheg, ac a’i hurddasant ef yn frenin yn lle Amaseia ei dad. 2 Efe a adeiladodd Eloth, ac a’i dug hi drachefn i Jwda, ar ôl huno o’r brenin gyda’i dadau. 3 Mab un flwydd ar bymtheg oedd Usseia pan ddechreuodd efe deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem: ac enw ei fam ef oedd Jecholeia o Jerwsalem. 4 Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef. 5 Ac efe a ymgeisiodd â Duw yn nyddiau Sechareia, yr hwn oedd ganddo ddeall yng ngweledigaethau Duw: a’r dyddiau y ceisiodd efe yr Arglwydd, Duw a’i llwyddodd ef. 6 Ac efe a aeth allan, ac a ryfelodd yn erbyn y Philistiaid, ac a dorrodd i lawr fur Gath, a mur Jabne, a mur Asdod, ac a adeiladodd ddinasoedd yn Asdod, ac ymysg y Philistiaid. 7 A Duw a’i cynorthwyodd ef yn erbyn y Philistiaid, ac yn erbyn yr Arabiaid, y rhai oedd yn trigo yn Gur-baal, a’r Mehuniaid. 8 A’r Ammoniaid a roesant roddion i Usseia: a’i enw ef a aeth hyd y mynediad i’r Aifft; oherwydd efe a ymgryfhaodd yn ddirfawr. 9 Hefyd Usseia a adeiladodd dyrau yn Jerwsalem wrth borth y gongl, ac wrth borth y glyn, ac wrth droad y mur, ac a’u cadarnhaodd hwynt. 10 Ac efe a adeiladodd dyrau yn yr anialwch, ac a gloddiodd bydewau lawer; oblegid yr oedd ganddo lawer o anifeiliaid, yn y dyffryndir ac yn y gwastadedd: a llafurwyr a gwinllanwyr yn y mynyddoedd, ac yn Carmel: canys hoff oedd ganddo goledd y ddaear. 11 Ac yr oedd gan Usseia lu o ryfelwyr, yn myned allan yn fyddinoedd, yn ôl nifer eu cyfrif hwynt, trwy law Jeiel yr ysgrifennydd, a Maaseia y llywydd, dan law Hananeia, un o dywysogion y brenin. 12 Holl nifer pennau-cenedl y rhai cedyrn o nerth oedd ddwy fil a chwe chant. 13 A than eu llaw hwynt yr oedd llu grymus, tri chan mil a saith mil a phum cant, yn rhyfela â chryfder nerthol, i gynorthwyo’r brenin yr erbyn y gelyn. 14 Ac Usseia a ddarparodd iddynt, sef i’r holl lu, darianau, a gwaywffyn, a helmau, a llurigau, a bwâu, a thaflau i daflu cerrig. 15 Ac efe a wnaeth yn Jerwsalem offer trwy gelfyddyd y rhai cywraint, i fod ar y tyrau ac ar y conglau, i ergydio saethau a cherrig mawrion: a’i enw ef a aeth ymhell, canys yn rhyfedd y cynorthwywyd ef, nes ei gadarnhau.
16 Ond pan aeth yn gryf, ei galon a ddyrchafwyd i’w ddinistr ei hun; canys efe a droseddodd yn erbyn yr Arglwydd ei Dduw: ac efe a aeth i mewn i deml yr Arglwydd i arogldarthu ar allor yr arogl-darth. 17 Ac Asareia yr offeiriad a aeth i mewn ar ei ôl ef, a chydag ef bedwar ugain o offeiriaid yr Arglwydd, yn feibion grymus: 18 A hwy a safasant yn erbyn Usseia y brenin, ac a ddywedasant wrtho, Ni pherthyn i ti, Usseia, arogldarthu i’r Arglwydd, ond i’r offeiriaid meibion Aaron, y rhai a gysegrwyd i arogldarthu: dos allan o’r cysegr; canys ti a droseddaist, ac ni bydd hyn i ti yn ogoniant oddi wrth yr Arglwydd Dduw. 19 Yna y llidiodd Usseia, a’r arogl-darth i arogldarthu oedd yn ei law ef: a thra yr ydoedd efe yn llidiog yn erbyn yr offeiriaid, gwahanglwyf a gyfododd yn ei dalcen ef, yng ngŵydd yr offeiriaid yn nhŷ yr Arglwydd, gerllaw allor yr arogl-darth. 20 Ac edrychodd Asareia yr archoffeiriad a’r holl offeiriaid arno ef, ac wele, yr oedd efe yn wahanglwyfus yn ei dalcen, a gwnaethant iddo frysio oddi yno: ac yntau hefyd a frysiodd i fyned allan, oherwydd i’r Arglwydd ei daro ef. 21 Ac Usseia y brenin a fu wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac a drigodd yn wahanglwyfus mewn tŷ neilltuol; canys efe a dorasid ymaith o dŷ yr Arglwydd: a Jotham ei fab ef oedd ar dŷ y brenin, yn barnu pobl y wlad.
22 A’r rhan arall o weithredoedd cyntaf a diwethaf Usseia, a ysgrifennodd Eseia y proffwyd mab Amos. 23 Felly Usseia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau ym maes beddrod y brenhinoedd; canys dywedasant, Gwahanglwyfus ydyw efe. A Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.